Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

CATRIN PRISIARD

Cyhuddiad o Ddynladdiad yn…

Rhodd Cymru ir Dywysoges Mailt.

News
Cite
Share

Rhodd Cymru ir Dywysoges Mailt. MAE'R fodrwy briodasol o aur Cymru a gytiwynir i'r Dywysoges Maud a'r Tywysog Charles o Den- mark gan Gymdeithas yr Orsedd a'r Eisteddfod Genedlaethol, wedi ei gosod mewn blwch hardd o aur ac arian. Mae trlted y blwch wedi eu cerfio, ac ar ffurf colofnau Corinthaidd. Ar un tu oeir argraph yn nodi acblysur cyflwyniad y rhodd yn Gymraeg, ac ar y tu arall yr un geiriau yn Saesneg. Desgrifir y Dywysoges fel Wlallt "-yr enw roed. iddi yn Ngorsedd Caernarf HI yn 1884. Ar lafn o aur arall ceir arwyddlun Cymru a'r geiriau "Calon wrth gaion." Ar y cauad ceir priflythyrenaa enw y priodfab a'r briod«sferch, gyda choronau Den- marc a LIoegr uwch eu pen. Mewn man arall ceir arwyddluniauV Osedd, a'r geiriau "Dan nawdd Duw a'i dangnef." Addurnir y conglau gyda'r Ddraig Goch, a thorchau o ddail derw. Yn y canol ar satin gorphwysa'r fodrwy, a wnaed o aur gloddiwyd yn Nhrawsfynydd a cheir anerch- iad addurnedig ar ffurf llyfr wedi ei rwymo mewn morocco glas.

--0--GWYLIAU HAF.