Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Eisteddfod Genedlaethol Llandudno,

News
Cite
Share

Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, BEIRNIADAETH Y GADAIR (lOin DVFED, ELFED, BERW, J. M. JONES ac ALAFON. Testyn Y TUHWNT I'R LLEN." (Gweler y dechreu yn ein rhifyn diweddaf.) Pryderus.-Y mae yma ddau Pryderus;' o ran hyny y mae yma un ar bymtheg. Y mae hwn yn dechreu gyda'r ilinell Tuhwnt i'r llen.' Pryddest gwmpasog iawn, ac yn cynwys llawer o bethau nad oeddym yn eu disgwyl ar destyn fel hwn. Y mae wedi ei rhanu yn ddeg o bennodau. Wedi yr arweiniad i mewn cawn arluniad o olygfa y tu- hwnt i'r lIen,' ar y dybiaeth fod y byd naturiol y n arlun, gwau n'r byd ysprydol-y ddinas freiniol, ei gorsedd, ei heolydd a'i gogoniant, creadigaeth, llu y nef, seraphiaid, cerubiaid ac angylion, eu hurdd- au a'u gwaith, cwymp yr angylion, yr achos o hyny a'r canlyniadau, y datganiadau o'r Orsedd gyda golwg ar y byd naturiol, gwaith yr Yspryd Glan a gwaith y Mab, ymsou yr angylion yn ngoleuni y datganiadau hyny, ymwelilidau, cyn- adleddau ao anerchiadau, creadigaeth dyn, ei gwymp a'i ragolygon, yr yindrechfa rhwng Ty- wysog y nef a theyrn y fagddu am ddyn a'i hiiiog- aeth, ymweiiadau, cynlluniau, ac ymsoniadau, ymson yr angylion am y cwymp, piham y cymer odd le damcaniaeth fel atebiad, yr Ymgnawdoliad a'i ganlyniadau. Gwelir fod y cynllun mor eang a thragwyddoldeb ei hunan. Fel hyn yr agorir y bryddest- Tuhwnt i'r lien.—Yr anweledig len—yn cuddio gwyn brydferthwch nefol fyd o wydd daearol fyd- fel sanctaidd len y deml gynt, yn cuddio dwyfol wawl y sanctaidd fan o wyddfod dyn-arluniau'r pre- senoldeb hwn—y nef ogoniant mewn ysplander gwyn a'r llewyrch anweledig rhwng deufyd, sy'n cuddio pur ogoniant nefoedd Duw o wydd y meidrol —tanbaid nefol wawl tuhwnt i'r lien, a lethai natur dyn gan ei ddisgleirdeb uthrol. Dyna engraipht deg o arddull y bryddest. Y mae yn hynod unffurf o'r dechreu i'r diwedd, ac am hyny yn flinderus i'w darllen, er ei bod yn goeth ac yn ddigon chwaethus o ran syniadau. Y mae y cynllun yn rhy gwmptsog i grynhoi cyfoeth y testyn i gylch ymarferoL Er fod yr awdwr yn feistr ar allaaolion cerdd, y mae yn llithro ar air yn awr ac eilwaith. Ceir yma, gryn lawer o gym- ysgedd atnserau, fel y dengys y llinellau hyn :— Gwrthryfel oedd ei n6d ymchwyddol ef, A thania'i ysbryd mewn angerddol nwyd Yn erbyn Duw—cynllwynio wna o hyd, A dylanwadau'n ddystaw enyn fflam Yn mhlith ei gyd-angylion oedd a'i nod, Ymwelai a phob un, a'i wenwyn rydd Yn raddol, raddol, ond yn sicr iawn. Y mae y bumed bennod yn hynod o ryddieithol, a theimlir fod y fleithiau yn syml yn yr Ysgrythyrau t llawer mwy o enaint arnynt. Y mae cynadledd- au yr angylion. n rhy amleiriog, yn rhy ddifywyd, ac weithiau yn ddibwynt. Nid oes yma ddigon o hyawdledd i gyfiawnhau eu meithder. Y mae yma ddigon—lawn gormod—o anerchiadau, a theimlir ei brif amcan yn chwyddo hyd y gerdd. Heblaw hyny, y mae llawer o'r bryddest y tu yma i'r lien; a'i feddylgarwch, ond ei fod braidd yn ddof. Nid yw wedi ei drwytho a'r ysbrydoliaeth hwnw sydd yn sicrhau ysbrydoliaeth cerdd. Oobaith.—Awdl-bryddest ydyw hon. Y mae yn goeth ac yn lan, ond yn brin o newydd-deb Nid oes yma ddigon o greu. Y mae dy^hymyg y bardd yn ilvvfr, ac fel pe yn gomedd hedeg yn mhell rhag iddo fethu dychwelyd. Anffawd ddinystriol yw hyny, yn arbenig ar destyn fel hwn. Gellid meddwl fod yma ddarnau wedi eu cyfansoddi ar clestynau eriill-o'r hyn Ileiaf, nid ydynt yn ieuo yn hollol gymharus. Dweyd barn pobl eraill am y tuhwnt i'r lien y mae y bardd i raddau pell, ac nid darlunio golygfeydd a sylweddolir gan ei grebwyll ei bun. Cawn yma gyfeiriad at, Moses, Jacob, Esaiah, Stephan, Paul, a loan yn Patmos,' a chawn farn a phrofiad y rhai hyn ar y pwnc. Gallasai y bardd ganu yn llawer mwy effeithiol pe gollyngasai ei ddychymyg yn rhydd. Egyr y ibryddest gyda rhes o benilhon fel hyn :— 0 lesu! dyro awen gref I deithiwr yn yr anial du, A dysga iddo iaith y nef I draethu dy ogoniant cu, Tuhwnt i'r lien. Mae agoriadau'r byd a ddaw Yn hongian wrth dy wregys Di; 0 agor byrth y dwyrain draw, A thrwy yr adwy arwain fi Tuhwnt i'r lien. Y mae gan y bardd lawer o benillion tyner a thlysion, ond nid yw ei gaeth fesurau yn agos mor glir a'i fesurau rhyddion. Y mae yn dechreu ei drydydd bennod yn sydyn, fel pe yn ail ddechreu ar bryddest newydd, yr hyn sydd yn engraipht arall o'r ieuo aunghydmarus y cyfeiriwyd ato. Y mae yma rai pethau yn ddigon amlwg wedi eu gwthio i fewn o'u hanfodd. Nid yw y bryddest yn gyfanwaith cryno. Teimlir hefyd nad yw y caeth a'r rhydd yn toddi'n hapus i'w gilydd, a chawn yr un syniadau wedi newid gwisg yn y naill a'r Hall. Llen Oleu.-Y mae gan yr awdwr hwn ddeuddeg lIen, ac yn 01 y cynllun a gymerodd gallasai ych- W'megu llawer deuddeg arall. Ni fuasem byth yn disgwyl y fabh blygion o leni ar destyn fel hwn. Wele'r deuddeg lIen :—Lien Natur, Lien Anian, Lien Gwyddoniaeth, Lien Cynydd, Lien Athry- lith, Lien Bywyd Ymarferol, Lien Unigedd, Lien Credoa.eth, Lien fythol oleu y Grefydd Wir, Lien Gwladwriaeth, Lien Cymdeithas, Lien Angau. Nid oedd dim yn galw am y fath grynhoad o leni, ac y mae'r cynllun ar unwaith yn bradychu gwendid yn ngalluoedd creadigol y bardd. Buasai yn hollol bynciol, ac yn eitha.f cyflawn pe cyfyngasai ei hun at y lien olaf yn unig. Ceir yu rhai o'r adranau ddarnau ardderchog, yn cynwys barddoniaeth fyw, ac yn eucanol am bell linell yn gwneud i ni gofio am ambell areith- iwr yn bwrlymu geiriau mawrion fel 'tragwydd. oldebau,' nes peri i'r werin ddall agor ceg mewn syndod. Weie un engraipht :— Tuhwnt i'r lien mewn Jehofaol ddirgel.' ^Yn ei bennod ar Wyddoniaeth, ceir llinellau fel Bydd achos yni'n aros yn dragywydd Tu hwnt i'r llen-tu ol i fru'r Creawdydd. Y_mae rhy w ias annaturiol yn cripio trosom wrth darllen y Ilinell olaf Tu ol i fru'r Creawdydd.' eth am athrawiaeth y llinellau hyn ? Mae r gredo nas gall ei choleddwr ddeall, ¥n un all hebgor i grediniwr arall; r W sy'n coledd, yr hyn nis gall ddirnad -Ueb dderbyn bedydd nefol wawr dadblygiad. Maddeued y bardd i mi am amheu cywirdeb ei syniadau mewn rhai penillion. Y mae llawer o'r adran ar len gwladwriaeth, lie y cyfeirir at gilwg teyrnasoedd Ewrop at y "Dvn Olaf," yn sychlyd ac yn ddiaddurn. Dyma un o'r pethau salaf yn y bryddest, a theimlir nad yw yn gorwedd yn natur- iol o fewn terfynau'r pwnc. Gresyn fod bardd mor alluog a hwn wedi lapio ei feddwl i fynu mewn cynifer o leni. Gwyliedydd.—Pryddest wedi ei rhanu yn ddeg caniad mewn arddull hollol Gymreig. Yn hyn rhagora ar bawb yn y gystadleuaeth. Nid oes yma ddim rhodres na mursendod, nac ond ychydig o swyn a thlysni oad y mae yn gynyrch meddwl cryf, a gesyd y bardd ei syniadau ger ein bron yn hollol ddigaboliad. Y mae eynltun y bryddest ar ffurf cynadledd, ac er fod y cynllun yn hen, teimlir nad yw y mwyaf barddonol ar destyn fel hwn. Amcan y gerdd yw cryfhau ffydd yn Nyn, yu Anian, ac yn Nuw." Y mae yn dechreu braidd yn ddigrif, fel hyn— Tu hwnt i'I lien a ganwn, pe cawn rad I'r awen, gan ein Ner—ein dwyfol Dad. Medd hen gymydog duwiol, gyda gwen, Tad ysgrythyrwr henddull goreu'r fro Ai gwir dy fod eleni Yn chwenyeh eadair bardd, Ond fod amhwystra'r testyn Yn bygwth dy wahardd ?' Atebais Gwir i raddau. Beth yw'th farn Di am y testyn hwn-" Tu hwnt i'r lien ?" Dirgelwch cysegr ynddo deimlaf fi.' Yna y mae yr hen gymydog yn rhoi ei farn ar y testyn, mewn can o saith psnill, ac yn rhoi i'r bardd ddefnyddiau pryddest dros ddwy fil.' Nid yw y bardd yn cerdded yr un tir a phawb, er hyny gallasai gerdded llwybrau mwy unioagyrchol i ganol cyfoeth y pwnc. Dwg i fewn lawer o bethau anmherthynasol, ac nis gallwn yn ein byw weled hawliau Dewi Sant i gymaint o le yn y bryddest. Gallem feddwl fod y bardd yn canu mewn brys, os nad o'i anfodd, Llais Gobaith.-Pryddest ddiodl, yn cynwys llawer o allu, ac yn amlygiad o feddwl cryf a, dysg- edig. Y mae y rhanau blaenaf ohoni yn bur arw, ac arogl gwaed ar lawer tudalen. Y mae yma lawer o ymdrech yn dod i'r golwg, a bwrir y llinellau at eu gilydd drwy nerth braich ac ys gwydd. Dyna;nodwedd y gerdd. Ond y mae yma ergydion cryfion sydd weithiau yn creu ias o ddychryn drwy y darllenydd. Ceir yma lawer o feiddgarwch, megys- Dirgelweh na esbonier fyth yw dyn, A methiant mwya' Duwdod oedd ei greu. Y mae gerwinder y gerdd weithiau yn ymylu ar ddiffyg chwaeth, ac yn deffro teimlad o wrth- wynebi&d cryf yn ei herbyn- Mae'r cymyl duaf yn gorchuddio'r nen, A'r llethol dawch anadlaf ddwed 'eu bod Yn feichiog o frwmstanaidd danllyd wae A mellt yn gwibio'n fyw yn nghroth pob un Fel pe'n dyheu'n aflonydd am eu tymp. Y mae y llinellau hyn yn dod i fewn gydag ymwy- byddiaeth y bardd o fodolaeth vsbryd, ac nis gall chwaeth lednais ddygymod qg afiechyd o'r fath. Y mae llawer iawn o hyn yn y bryddest, a'r gerwin- der ysgytbrog hwn yw y peth mwyaf yn ei herbyn. Wele un enghraipht arall Ar wely anlladrwydd gorweddai 'mam Ni wybum i oedd imi dad mewn bod, Aflendid a anadlwn foreu f'oes; Ac fel pe'n wahanglwyfus glaf o'r cryd, Ymgadwai rhagof fi bob merch oedd bur, Perarogl rhosyn cariad mam i'm ffroen, Ac aeron add fed cryf dynerwch tad I'm nerthu a'm sirioli ni roed im.' Am fwynder nefoedd plentyn gyda'i fam Yn gwenu'n nefol arno, mi nis gwn, Un uffern o drueni oedd fy oes Mor rhwydd oedd cyneu ynof uffern lai. Gellid meddwl gan gymaint o uffern sydd yn y gerdd. mai un o breswylwyr y wlad lom hono sydd yn canu. Hwyrach nad yw hyn yn ddim ond mater o chwaeth, ac y buasii eraill gyda'r un gonestrwydd yn cymeradwyo yr hyn a gondemuir yma. Ond credwn yn sicr nas gall fawr ddaioni ddeilliaw o luehio brwmstan ar draws y darllenydd. Y mae yr holl gyfansoddiad yn hynod o gclfydd- ydol, caled, a dieneiniad. Pryddest freuddwydiol ydyw, ac er fod ynddi amlygiad o feddwl cryf, tueddir ni i ddweyd yn siomedig ar y diwedd, ac wele breuddwyd oedd." Bartimeus.—Tyner a swynol yw nxhvedd y bryddest hon, hcb lawer o nerth, ond o gryn deil- yngdod er hyny. Gwedd Ysgrythyrol sydd ar yr holl gerdd. ac y mae yn cynwys llawer o ymadrodd- ion Beiblaidd--weithiau heb fod yn hollol naturiol. Y mae y darluniad o fewnolion y Demi gynt yn bur ryddieithol, a phrin yr oedd angen i fardd o ddigon o adnoddau aros yn hir yn y cyfeiriad hwn. Nid yw y bryddest yn ddigon o gyfanwaith gor- 'phenedig. Y mae yn ddiffygiol mewn unoliaeth a chyd-ddilyniad syniadau. Y mae y bardd yn def nyddio y lien weithiau mewn cysylltiadau an- mhriodol. Wele engraipht o len y Demi, a cheru- biaid yn aros arni 0 brydferth len, cywreinwaith arddun yw, Y lien agosaf at breswylfa Duw A thyrfa o gerubiaid arni'n fyw Ar eu hadenydd. Buasai yn well genym gael y cerubiaid yn rhywle arall, yn hytrach nag ar y lien. Wele engraipht arall o'r un peth ar ddyfodiad y Messiah— Mae'r lleni'n nghyd fel pe mewn gwewyr byw. Y mae gwewyr' ar leni yn ymddangos i ni yn hollol groes i natur. Nid yw hyn ond peth bychan mewn pryddest faith, ond gweddus yw ei nodi allan wrth basio. Y mae y llinellau a ganlyn yn ein hadgofio o Islwyn, a braidd na thybiwn eu bod yn cynwys y bai a elwir yn rhy debyg Ai adgof yw fy nghan O'r hyn a fu ? Neu brophwydoliaeth lan O'r hyn a ddaw? AJgofion Eden bell,- Neu ber ragolwg ar y Gobaith Gwell ?' Wrth ganu ar Ra.glunia.eth ac amgylehiadau cyf- newidiol bywyd, y mae y bardd yn bur chwareus gyda thermau cynghaneddol, ond y mae yr urddas a'r mawrhydi sydd yn gweddu i'r pwnc yncael ei golli— Ber yw emioes dyn Rhy fer i ddal ond rhan o gerdd y nef, Yr awdl fawreddog ei Ragluniaeth Ef, Berorol awdl! ond nis deall dyn Ei chynghaneddicn yn y tywydd blin Mae'n odli'n ami i gydsain beraidd dlos O'r llinell-wrth ymwylltio yn y nos 0 dan y groes yn swn y storm afrywiog Mae Duw yn cynghaneddu yn 'groes rywiog'; Gwaith dyn drwy'r daith yw dysgu cynghaneddu 'Run fath a Duw-nes dod i orfoleddu Mewn gorthrymderau. Ei linellau Ef, Maent oil mor gywir ag yw deddfau'r nef I Ac os y can efe mewn odlau cudd, Trwy bob ystorm fe'u cenfydd llygad ffydd. Os ber y daith, os cyfyng yw y gell, Daw Duw i'th glust a miwsig rhyddid gwell; O'r byd tu hwnt i'r lien daw it helaethion, Mae Duw yn canu mewn mesurau caethion. Erys yn hir gyda'r cysgodau, ac o haner y gerdd i'r dlwedd, Sylwedd y cysgodau neu yr Iesu yw testyn y gan. Methwn yn glir a gweled fod y bardd ar ganol y llwybr. Y mae yn rhy agos i'r ymylon, a syrth drosodd yn fynych. c.'tua yn felus, a chawn yma rai darnau ardderchog, ond y mae y tu yma i'r "lien" o hyd. Diwedda lawer o'i bennodau yn ddigon ha,pus, gyda phenilliou o hen emynau cyfar- wydd. Vates.—Rhenir y bryddest hon yn dair rhan fel hyn—1, Breuddwyd 2, Y Deffroad 3, Bywyd. Pryddest gyfriniol iawn ydyw, yn llawn breu- ddwydion anhawdd eu deongli. Y mae yu amlwg fod y bardd wedi ymdroi llawer yn ughymdeithas athronwyr, ac mor amtwg a hyny, nad yw wedi cael gweledigaeth glir ar yr hyn a ddysgir ganddynt. Anhawctd deall pwynt y bryddest. Diau fod gan yr awdwr gynllun iddo ei hun, oud y mae yn cadw y darllenydd mewn ty wyllwch, ac y mae y tywyll- wch hwnw yn lladd prydferthwoh y gerdd. Ar- gyhoeddir ni mai nid matnt y meddyl au sydd yn peri eu bod yn aneglur, eitbr diifyg ymgais i'w gosod allan er budd i feidrolion. Nid yw amwysedd yn ogoniant mewn cerdd, ac nid yw tywyilwch mewn can yn dda i ddim and i gnddio gwendid. Y mae yma ddigon o brofiou fod b irdd cryf ger ein bron, ond y mae yn rhaid wrth haul cryfach nag sydd yn llewyrchu ar feddwl y genedl yn bresenol i chwalu'i niwl sydd yn gorwedd ar y bryddest. Nis gallwn lai na gresynu at y fath wastraff- ar feddwl, ac yr ydym yn barod i ofyn, "Iba beth y bu y golled hon ?" Y mae arddull y bardd yn estronol i'r Gymraeg, a'i fydryddiaeth yn hynod o glogyrnog. Y mae fel pe yn amcanu bod yn anystwyth. Nid yw gosod meddwl i gerdded mewn sandal aur, ac esgid bren, yn fwy barddonol nag mewn sandalau unffurf. Felly y mae llawer o'r brydest hon. Hwb, cam, a uaid, a syrthio bob yn ail, yw hanes mwy na haner y llinellau. Gan nad oes dim yn galw am aflerwch fel hyn, ond fod y cenedloedd yn ei arfer, dylid ar bob cyfrif ei gondemio fel gwendid. Y mae yma lawer 0 feiddgarwch, ond ofnwn ei fod weithiau yn ymylu ar gabledd. Fel hyn y gesyd allan unigrwydd Duw:- Gwelaf yr Ysbryd anfeidrol ddoeth Yn gwrido wrth deimlo ei hunan yn noeth Yn gwaeddi uwchben ei feddyliau di ri, Corph barotoaf o'r diwedd i Mi. Y mae yn dilyn Ysbryd Duw yn y greadigaeth, ac yn dweyd pethau rhyfedd iawn Ond os yw'r Ysbryd mewn coed yn byw, Dwed y dystaw-symudiad mai cysgu mae Duw, Rhyw ymdrech am ymwybodolrwydd o hyd, Yw hyawdl fudandod y gwyrddlas fyd Ac mae y llais dystaw-wefreiddiol fel tae Yn sibrwd Nid marw, ond cysgu y mae.' Mi welaf yr Yspryd yn deffio o'i hun, Yn codi o'i drigle i brofi gwin Melus freuddwydion am wynfyd glan— Breuddwydion a ddeuent o'r wig yn gan Beth yw carolau y goedwig fyw Ond hyglyw freuddwydion Ysbryd Duw. Ond rhaid i ni adael y dyfyniadau, er fod genym lawer wrth law. Teimlir nad yw y bardd yn dyfod at ei bwnc yn uniongyrchoi hyd v diwedd, ao er fod rhy w len rhjmgom Rg ef o hyd, nid yw yn codi ei chwr yn ddigon uchel i gael golwg ar ei lwybr. Y mae'r gan a esyd yn ngenau'r angel ar y diwedd yn ofnadwy o frwmstanaidd, ac nis gall- wn mewn un modd ddygymod a'i syniadau. Ceir yn y bryddest lawer o bethau cydrous, ond na ddaliant feirniadaeth. Cynyrch meddwl gwyllt, yn ddibris o swyddogaeth barn. De Profundis.-Pryddest lan, dyner, a swynoI iawn ydyw hon, wodi ei rhanu yn ddau lyfr fel hyn:], Y byd hwn—Bywyd, Cariad, Adfyd. II. Y byd tragwyddol—dros yr Iorcldoncn, Tra gwyddol Wae, Gwynfyd. Y mae y Ilyfr cyntar" yn cael ei wneud i fynu gan mwyaf o delynegion, ac yn nwyn holl nodweddion rhiangsrdd. Y maent mor dyner ac mor brydferth a brialltvr gwanwyn. Anhawdd darllen rhai ohonynt heb golli deigryn. Eto i gyct, methwn weled fod un math o ber-thynas rhwug y llyfr cyntaf a'r pwnc. Y mae'r caneuon ynddynt eu hunain ya rhagorol, ond nid ydynt yn dyfiant naturiol allan o'r testyn hwn. Wele destynau rhai o'r caneuon :-Defffoa-I Anian, Helvntion y Dydd, Swynion yr Hwyr, Ar y Traeth, Anerch i'r Mor, Y Nos, Ceinion Haf, Breuddwydion Serch, Can i Olwen, Dydd Priodas, Trist,wch Hydref, Marwolaeth Olwen, & Nid oes yma un math o len yn y golwg, nac un cysgod o gyfeiriad ati. Darluniadan o fywyd cyffredin, a datganiad o'r hyn a welir ac a glywir bob dydd yw y cwbl. Anhawdd deall amcan y Ilyfr cyntaf, ond yn unig fel gwrthgyferbyniad i'r ail; ac os felly, y mae'r cynllun yn wan a diffygiol. Yn nechreu yr ail lyfr teimlir fod y materol a'r ysbrydol dipyn yn gymysglyrl, ac mae y bardd yn colli llawer o'i naturioldeb a'i swyn. Ceir yma lawer o ymdrech a rhodres geiriol, mewn arddull sydd i raddau yn chwyddedig. Er hyny, y mae yma rai llinellau ar groesi yr afon yn gryfion iawn, ac yn peri i i,san o ddychryn ein meddianu wrth eu darllen. Y mae y desgrifiad o aawn yn erchyli, ac yn dra barddonol. Ond wrth sylwi ar y gwa- hanol gymeriadau a genfydd yno, y mae weithiau yn ymylu ar ddiffyg chwaeth A'r twyllwr ganfyddaf a'i weniaith yn crechwen Fel pe'n ymfalchio mewn twyllo rhyw hoeden, Ymatia am dani a'i freichiau anrasol A phortha yn awchus ei nwydau ani anal, A hithau y butain, 0 olwg echrydus, A welaf yn dilyn ei galwad amveddus. Rhaid i ni gondemnio syniadau fel hyn, er nad ydynt yn newydd i genedloedd eraill. Wedi'r cwbl, llyfr rhagorol yw yr ail, EL theimlir ei fod yn nghalon y pwnc. Bernard. -Pryddest wir dda, rhanau o oni yn neillduol felly-yn gwella ac yn cryfhau i'r di. wedd. Wele'r cynllull Y bardd yn edrych ar y pwnc o cair safle: 1, 0 dywyllwoh nos y gwydd- onydd 2, 0 lewyrch gwawr Datguddiad 0 oleuni dydd Crist. Dechreua fel hyn Meddyliaf, felly'r wyf Ddatguddiad gwawr Y seren hynaf yn goleuo, pan Mae niwl oedranus a chymylau hen- Hynafiaid tystion amser, dros ei gwen Yn to flu gwg. Y mae y bardd yn ymresymwr cryf, a'i bryddest yn gyfoethog o feddwl, a hwnw yn feddwl y tes- tyn. Cawn yma rai darcau ciipyn yn rhyddieithol ac yn oer, er hyny y mae yma lawer o feddwl, ac yn cael ei osod allan yn glir, er budd a mantais i gymdeithas. Addolwr.—Pryddest ddiodl, goeth, ddiwastraff, a ptiur farddonol. Y nu.e'l' cynllun yn eang, manwl, a chryno, ac wedi ei weithio allan yn gan- moladwy iawn. Wedi pennod arweiniol fer ar ddirgelwch natur, Rhagluniaeth, a dyu, cawn chwech o bennodau trefnus, yn nghyda Iluaws mawr o fan adranau, yr hyn sydd yn dangos yn arnlwg fod y bardd ar ei oreu am i ni ddeall yr hyn sydd ganddo mewn llaw. Nid yw yn amcanu darnguddio dim, ac y mae yn hollol rydd o'r cyf- rwysdra hwnw fyn i ni gredu fod niwl a chaddug yn amlygiad o fawredd meddwl. Yn y bennod gyntif, y riiae'n sefyll o flien y I Iten,' yn holi cwestiynau yn ei chylch, ac yn darlunio yn hapus y cysgod ohoni yn y Datril gynt. Yna cawn seiliau y grediniaeth am fyd arall y dyhead am dano, cyffredinolrwydd y grei natur yr enaid gallu- oedd dyn cyfiawnder a gwirionedd Duw, ac ad- gyfodiad Crist. Er fod y materion hyn yn hen, y mae llawer o newydd-deb yn null y bardd o ym- wneud a. hwynt. Yna cawn bennod ar agosrwydd y tuhwnb—dim ond lien' rhyngom dirgelwch y dyfodol, ac elfenau ei ddirgelwch; sefyllfaoedd y tahwnt, yn nghydag elfenau gwae a gwynfyd y preswylwyr. Y mae yma fanylwch mawr-brailid ormod, ac yn profi fod yr awdwr yn dduwinydd yn gystal a bardd. Pryddest ragorol ydyw. Teiml- ir er hyny fod y bardd yn brin ar ei ffigyrau, gan ei fod yn defoyddio yr un rhai yn ami. Y mae'r a.rddull hefyd weithiau i raddau yn bregethwrol. Yn ei gyfeiriad at amrywiaeth tueddiadau y tu- hwnt, megys y pregethwr yn pregethu, yr athronydd yn athronyddu, y cerddor yn canu, y bardd yn barddoni, &c., y mae i raddau yn ystrydebol. Pryderus (2).—Yr hwn sydd yn dechreu gyda'r Ilinell' Yny galon anweledig.' Can brydferth ryfeddol ydyw hon, wedi ei chanu yn naw caniad fel hyn :—Y Gyfricach y Lien Gwasanaeth y Cuddiedig y Dystawrwydd y Cyffyrddiadau y Gyfrinach a'i Llywodraeth yr Angau Byd Ys- brydol y Daith, Dirgelwch bywyd yn ei wa- hanol gysylltiadau, a dylanwad yr anweledig a'r ysbrydol ar y dirgelwch hwnw, sydd gan y birdd. Ni fuasem byth yn disgwyl iddo fyned i'r fath dratferth i odli ei gerdd yn ddyblyg eto y mae'u gwneud hyny yn naturiol a diymdrech, gyda'r eithriad o ambell fagl fel y (,anlyn Ond mae hwn yn gallu siarad! Mudan ynof fi fy hun yw, Syllaf i fy ymwybyddiaeth gymysg, dim ond fel ei hun y w Y dystawrwydd anuherfynol, ynof fi fy hun y ceir if, Syllaf i'w ddyfnderoedd dystaw, gwelaf mai o Dduw y givneir cf; Gweithia Duwdod i dawelwch agos yma dan fy mroni Gwn fod tragwyddoldeb ynof yn fy nghalon yn ymdoni. Arddull Seisnigoidd yw hon, ac y mae yn fwy cydweddol a'r iaith hono nag a, phriod-ddull y Gymraeg. Buasai yn well genym y penill hwn heb yr ymgais sydd ynddo am odlau dyblyg. Y mae y bardd weithiau yn defnyddio y lien yn amwys, ic mewn cysylltiadau anmhriodol, megys 'leucine yw y lIen,' Mae mynwentydd ar y Ilen yn llawn o feddau,' Dod i'r lien i farw,' Y cerub yn ym- deithio ar len o Dduwdod.' Y mae petlaau fel hyn yn disgyn ar glust y darllenydd yn dra chwithig. Y mae yn y bryddest amryw ddi&ygion, ond diff- ygion ydynt ar gyfansoddiad gwir farddonol. Y niae brychau ar yr harl, ond nid yw ei oleuni yn ddim gwaeth o hyny. Y mae yma lawer o swyn, o nerth, ae o gyfoeth, ac er fod yr awdwr yn myned i rai cyfeiria.dau nad oeddym yn ddisgwyl, mae awenyddiaeth mor fyw yn ei esgusodi. Yn awr, rhaid i ni brysuro at y dyfarniad. Tafl- wyd y gystadleuaeth yn y tlwyddynhon yn agored, a chaniatawyd i'r beirdd ganu ar nnrhyw fesur neu fc-surau. Amcan y pwyllgor yn ddiamheu oedd- ac yr oedd yn amcan ardderchog-sicrhau cyfau- soddiad o deilyngdod eithriadol. Ond wedi dar- llen y cyfansoddiadau yn faowl, yr ydym ein pump yn barnu mai camgymeriad wedi'r cwbl oedd can- iatau i feirdd diiywodr&eth y rhyddid gogoneddus hwn. Hyn yw ein profiad unol wedi ymdrybaeddu nos a dydd uwchben y cynyrchion hyn. Y lllitlJ yma doraeth o farddoniaeth a mwy na hyny o wall- gofrwydd. Yr ydym wedi barnu yn hollol anni- bynol ar ein gilydd, ac wedi dewis yr un rhai ic). y goreuon. Ni tu bwrdd o feirniaid erioed yn fwy annibynol. Yr ydym yn gofidio na fuasai yr ua a farnwn yn oreu yn fwy perifaith. Y mae yn y cyfansoddiad hwnw lawer o ddiffygion ac hefyd o farddoniaeth fyw; ac wedi edrych ar bethau yn ol ac yn mlaen, a phwyso a mesur y diffygion a'r rhagoriaethau yn y modd mwyaf manwl, credwn mai Pryderus (2)' yw y goreu, a bod ganddo hawl i eistedd yn Nghadair Farddol Eisteddfod y flwyddyn hon. Ar air a chydwybod. -0-

Ein Cenedl yn Manoeinion.

[No title]

YFWYR TE-DALIWCH SYLW.