Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

-.. Cyfarfod Misol Liverpool.

[No title]

-:0:-FFOLINEB MAWR.

---Nadion o'r Sdlnas-

CWlIl GerddoroS y Palas Crisial.

--- 0 --Nodion o'r Rhos.

Arfer a Ghamarfer Elusenau.

Dyffryn Clwyd.

--0--Samuel Smith, A.S., yn…

News
Cite
Share

--0-- Samuel Smith, A.S., yn pwyso'r Pab. DDYDD Mercher, wrth osod ceryg sylfaen addoldy newydd i'r Wesleyaid yn Dyserth, traddodwyd araith gan Mr Samuel Smith, A S. Cyfeiriodd at lythyr y Pab o Rufain, gan draethu arno fel y can- lyn :—Mae ein rhyddid gwladol a chrefyddol, ein gwahanfodaeth cryf, a'n mawredd c'nedlaethol wedi gwreiddio yn y Diwygiad Protestanaidd ac os oedd dysgeidiaeth yr offeiriad i gael goruchaf- iaeth ar grefydd Crist, yn sicr gwelid dirywiad yn mhobpeth wnelai ein gwlad yn fawr. Yr oedd Ileferydd hanes yn ddigamsyniol ar y pwynt hwn ac eto ceid difrawder peryglus yn ein dyddiau ni oedd yn peri arswyd ynddo. Gwneid hawliau afresymol gan y Pab presenol, ac ni allai ei olynwyr eu diddymu. Pe y Babaeth yn meddu yr un gallu ag yn y Canol Oesau, byddai iddi ail godi yr erledigaethau, llofruddio brenhinoedd, ac esgym- uno teyrnasoedd. Nid oedd dim o erchyllderau y gorphenol wedi eu condemnio gan y Pab presenol. Bu rhai yn eistedd ar orsedd y Babaeth yn Rhufain oeddynt yn warthrudd ar wareiddiad. Eto ceid yr offeiriaid yn hdni mai hwy oeddynt gynrychiolwyr Crist ar y ddaear eu bod yn dal allweldau teyrnas nefoedd ac y gallent fwrw i'r tywyllwch eithaf y dynion sancteiddiaf feiddient wadu eu bawl. Os am wybod beth oedd ofnadwyaeth Rhufain, dar- llener hanes y Waldensiaid. Lie byddai Rhufain yn oruchaf, gwaherddid y Beibl i ffiniau'r wlad. Crefydd aml-liwiog oedd eiddo'r Pab. Ni amheuai grefyddolder dwys y rhai aeth drosodd at y Pab- yddion yn ystod yr haner canr;f diweddaf, ond crefyddolder yn cymeryd ei hud-arwain gan ofer- goeledd ydoedd. Dyn ardderchocaf y ganrif hon oedd wedi ymnno a'r Pab oedd John Henry New. man. Ni allai neb amheu cywiideb ei prgyhoedd- iadau, ond prudd oedd gweled fel yr aberthai ei farn bersonol gan blygu i hawliau ei grefvdd new- ydd. Am dymhor, gwrthododd yr athrawiaeth o anffaeledigrwydd y Pab, ond yn y diwedd, der- byniodd y cvfeiliornad yn wylaidd. Y ffaith am dani oedd mai cyfundrefn v Babaeth oedd yr ym- gais fwyaf llwyddianus yn hanes y byd i dwyllo galluoedd y meddwl dynol dan yr enw ffydd ceid hi yn diorseddu rhrswm yn yr enw o grefydd, Hedaenai ofergoeledd gwisgni holl rssusau y bywyd Cristionogol arweddau newyddion elai edifeirwch yn benyd, sSl vn wallgofrwydd, ffydd yn hygoel- edd sancteiddrwydd yn feudwyaeth a gwedd- newid y bywyd pur, melus, nad yw o'ribvd hwn," yn drlefodaeth cul. V gallu a gadwai'r gyfundrefn yn fyw oedd ofn y tu allan i'r Eglwys Btbvddol nid oedd iachawdwriaeth. Gorweddai nerth Rhuf- ain mewn anmharch i air Duw.

--0--Y Cynhauaf yn Mhrydain.

Advertising