Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

-.. Cyfarfod Misol Liverpool.

News
Cite
Share

Cyfarfod Misol Liverpool. CVNALIWYD y cyfarfod uchod nos Fercher, Gcr- phenaf Sfed, am chwech o'r gloch. Wedi i'r ysgrifenydd ddarllen cofnodion y ddau Gyfarfod Misol diweddaf, ac iddynt gael eu cadarnhau fel rhai cywr, cafwyd anerchiad gan y Parch Thomas Gray wrth roddi i fynn y gadair ar derfyn ei lyw- yddiaeth am y chwe mis cyntaf o'r flwyddyn. Taflodd allan amryw awgrymiadau buddiol yn nglyn a pherthynas y C.M. a'r eglwysi. Rhoddai bwys ar !(.,d swyddogion pob eglwys yn cydym- gynghori yn bwyllog ar bob mater ddygid gerbron, ac fod y materion hyny yn cael eu rhoddi yndeg ac amserol o flaen yr eglwys er mwyn cael trafodaeth briodol arnynt cyn eu pasio. Gwasgai hefyd ar i'r swyddogion a'r eglwysi wneudegni neillduol i gadw yr ysgol Sul i fynu yn eu mysg, ac i roddi sylw arb-nig j'n pobl ieuainc a n plant, ac i'r achos cenadol trefol o fewn ein terfynau, a hyderai Da byddai i'r eglwysi mawrion ddim annghofio cyn- orthwyo yn deilwcg yr eglwysi Uai eu rhif a'u north. Wedi hyn cyflwynodd ei swydd ac agoriad y strong room i ofal ei olynydd, Mr William Ven- more. Erfyniai ef am hynawsedd a chynorthwy par,od y C.M. am y chwe mis dyfodol. Diolchwyd yn gynes i'r cyn-lywydd am ei ffyddlondeb a'i fedrusrwydd yn cyflawni gwaith ei swydd, a rhoddwyd ei amgrymiadau gwerthfawr yn ngofal pwyllgor y O.M. er mwyn cael sylw pellach arnynt. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a. Mr W. Williams, un o flaenoriaid Anfield Road, a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw o golli gwraig dda, mam ofalus, ac un amlwg yn ei duwioldeb. Gosod wyd ar y Parch G. Ellis, M.A., i anfon atynt. Darllenwyd llythyrau yn dioloh yn garedig i'r C.M. am anfon cofion atynfc pan yn yfed dyfroedd chwerwon Mara oddiwrth y Parch E. J. Evans, Walton, a Mrs Hughes, 15, Williams Street, Prescot. Darllenwyd ilythyr hefyd oddiwrth y Parch J. Eiddon Jones, Llanrug, yn hysbysu fod Cymanfa Ddirwestol Gwynedd i'w chynal yn Llanidloes, ac yn dymuno ar i'r C. M. anfon cynrychiolwyr yno. Cydsyniwyd a'r cais, a nodwyd y Parch E J. Evans a Mr G. Rees i fyned yno. Cenadwriaethau o eglwysi :-0 St. Helens Junc- tion, yn gofyn i'r C.M. nodi qifer o frodyr yn ym- ddiriedolwyr ar y tir y codir capel newydd arno yno. Enwyd y rhai canlynol i gael eu cvmerad- wyo eto :—Parchn J. Peron Jones, St. Helens J, Williams, Princes Road Dr R. O. Morris, Bir- kenhead Mri David Williams, St. Helens; Stephen Davies, David Street; Thos. Parry, Bootle a J. Owen, Seacombe. Cenadwri gyffelyb o Sunderland, sef nodi ymddiriedolwyr ar y capel newydd y maent wedi ei brynu yno. Euwyd y rhai canlynol:—Parchn Dwid Jones, Holt Road E. O. Davies, B.Sc., Garston Mri Wm. Evans, Anfield Road David Davies, David Street; a H. Lloyd, Fitzclarence Street. Dygwyd achos ymgeisydd am y weinidogaeth o David Street yn mlaen sydd newydd gyflawni ei gylch trwy ddosparth deheuol y ddinas. Rhodd-. wyd gair da iddo o bob lie, ac ainlygwyd dymun- iad iddo gael symud yn mlaen. Nodwyd y Parch J. Williams, Princes Road, a Mr Wm. Jones Crosshall Street, i fyned i David Street i ymddy. ddan yn mhellach a'r gwr ieuanc, ac i gael llais yr eglwys ar ei ddyfodol. Trefnwyd i'r arholiad ar vr ymgeiswyr am y weinidogaeth o fewn cylch y C M. i gael ei gynaJ y tro hwn yn David Street, y Parchn W. 0. Jones, B.A., a David Jones i fed yn ofalwyr. Tybir y bydd tri ymgeisydd yn sefyll yr arholiad y tro hwn. Cadarnhawyd ceisiadau am grants i'r eglwysi. a ganlyn o'r Drysorfa Gynorthwyol eleni, sef Walton Park, Rock Ferry, Huyton Quarry a Whiston, a Garston. Dygodd Mr Stephen Davies gynygiad y rhodd- as 3 rybudd ohono yn flaenorol yn miaen ac wedi i amryw draethu eu barn ar y mater, penderfyn- wyd cynal y C.M. o hyn allan ya y capel ac nid yn vr ysgoldy fel arferol, a hyderir v bydd y pre- gethwyr a'r blaenoriaid yn gwasgu yn mlaen mor agos ag y byddo yn bosibl at y llywydd er mwyn buddioldeb a chysur. Cafwyd adrodd'ad o Gymdeithasfa Machynlleth gan y cynrychiolwyr, a mawr obeithir y caiff sefyll- fa yr Ysgol Sul, y Genadaeth Gartrefol, a'r Achos- ion Seisnig v sylw a'r lie a ddylai pob un ohonynt gael yn meddwl ac yn ngweifchrediad holl aelodau endwysig v cylch, a hyny yn ddivmdroi. Galwyd sylw at a,mryw lyfrau, yn arbenig pre- gethau y Parch D. J).mes, Llaneurwg, a Chofiant y Parch Griffith Roberts, Carneddi. Hyderir y cant y Iledaeniad a haeddant. 0: Ddydd Iau, bu'farw boneddwr o'r enw Nelson o

[No title]

-:0:-FFOLINEB MAWR.

---Nadion o'r Sdlnas-

CWlIl GerddoroS y Palas Crisial.

--- 0 --Nodion o'r Rhos.

Arfer a Ghamarfer Elusenau.

Dyffryn Clwyd.

--0--Samuel Smith, A.S., yn…

--0--Y Cynhauaf yn Mhrydain.

Advertising