Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CATRIN PRISIARD

News
Cite
Share

CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PEN. XXIII.- YMADAEL 0 TV FRY. YR oedd yr arwerthiant wedi ei drefnu i gymeiyd lie wythnos o flaen y Nadolig. Cawsent ganiatad i aros gymaint a hyny dros yr amser penodedig idd- ynt ymadael. Llwyddasai Catrin i gael bwthyn oedd yn sefyll yn unig ar odreu y pentref yn union wrth y gamfa arweiniai i'r llwybr dros y gors at Benygors. a boreu dydd yr arwerthia.nt, wedi iddi fyned trwy bob un o'r hen ystafelioedd a wylo ei ffarwel ynddynt, aeth hi a.'i thad yno. Yr oedd yn amIwg fod rhywun wedi bod yno o'u blaen, fodd bynag, ac wedi clu<?o bwrdd ac un neu ddwy o gadeiriau yno, a llosgai tan yn y grat. Yr oedd Martha wedi aros yn Ty Fry i wasanaethu ar y rhai ddeuai i brynu. Diwrnod rhvfedd oedd hwnw i Catrin. Eis- teddai ei thad yn llonydd wrth ochr y tan, yn syllu o hyd i'r un fan. Eisteddai Catrin yr ochr arall yn ceisio dyfalu beth oedd i ddod ohonynt yn y dyfodol. Gwyddai mai arni hi y syrthiai y baich —gwelai mor ddiolwg oedd ei thad i allu gwneud dim. Beth allai hi wneud ? Ni welai ond un cwrs o'i blaen. Yr oedd wedi treulio tair blymedd yn dysgu gwniad waith, a gwelai y byddai raid iddi droi yr addysg hwnw yn elw os oedd modd. Ond yr oedd un rhwystr mawr ar ei ffardd-nid oedd ganddi beiriant at ei gwaith, ac heb hwnw nid oedd ddichon iddi wneud llawer. Yn y prydnawn yr oedd rhywbeth yn tynu Catrin at y ffenestr. Ni allai beidio gwyiio, er fod hyny yn peri poen iddi—y pethau o'r hen ffermdy yn cael eu cludo hsibio. Gwelodd ddwy wraig yn cario llon'd basged o lestri rhyngddynt -yr hen lestri glas a gwyn oedd ar y dresar dderw yn y gegin fawr. Aeth bachgen heibio a hen gad- air freichiau ei thad ar ei ysgwydd. Gwelodd y troliau hefyd, ac yn un ohonynt y corcldwr, ac yna aeth rhai o'r anifeiliaid heibio-y fuwch wen fyddai yn arfer odro ei hun, a'r hen gaseg Bess, ddeuai at adwy y cae ond iddi chwibanu arni. Ni allodd wylio yn hir fodd bynag, gan y darfyddodd y diwr- nod byr ar unwaith, ac nid oedd ond goleuni y tan yn goleuo yno. Nid oedd yno ganwyll, ac yr oedd rhyw deimlad yn rbwystro i'r eneth fyned i geisio rhai i'r siop. Nid oedd yr un o'r ddau wedi profi tamaid ar hyd y dydd yn wir, ni fuasent yn gallu gwneud hyny pe buasai wrth law. Pan oedd y nos wedi llwyr ddisgyn, clywai Catrin guriad ar y drws, no agorwyd et oddiallan C'yh y gallai godi o'i heisteddle. Daeth Martha i mewn a llon'd ei breichiau o bethau o Ty Fry, a dilynwyd hi gan Robin yn cludo ychwaneg. Llanwai llygaid Catrin a dagrau pan welodd yr hwsmon yn gosod cadair siglo ei mam wrth ochr yr aelwyil dlodaidd, ac yna ei chadair bach fyddai yn eistedd arni wrth ochr ei mam pan yn blontyn bychan yn ceisio deall dirgelion gweu hosan. Daeth rhai o'r gweision eraiil a rhagor o ddodrefn nes oedd y bwthyn bron yn Ilawn. Gwnaeth Martha drpfn ar bethau yn fuan, ac yr oedd wedi berwi y tegell a gosod bwyd ar y bwrdd cyn i'r dynion orphen gosod dau wely yn y ddwy lofft fechan uwchben. Trwy holi daeth Catrin i ddeall mai Abednego oedd wedi prynu y rhan fwyaf o'r pethau. Cafodd nad oedd wedi annghofio ei basged fechan fyddai'n dal ei hedeuon a'i nodwyddau. Ni ddywedodd Martha ei bod hi ei hun wedi prynu i mewn y gweddill. ac mai ei harian hi oedd wedi llenwi cwpwrdd pared cegin y bwthyn bychan oedd eu cartref yn awr. Ni cliafodd Tv Fry amser i oeri cyn i denant newydd ddod i mewn, oherwydd cyn pen yr wyth- nos yr oedd tan yn cael ei gyneu yno, ac yr oedd llwyth o ddodrefn wedi dod ar hyd y ffordd dros 7 pora,ac wedi aros wrth yr hen ffermdy ac yr oedd William Jones, Penygors gynt, y tenant newydd. yn cyspu o dan y gronglwyd oedd wedi cysgodi rhai o'r enw Prisiart er's dwy ganrif. Yr oedd hyn yn chwerwder ychwanegol i John Prisiart, ond nid oedd Catrin mor anfoddlon wrth feddwl y byddai i Morris symud o amgylch yr hen d. Tybed y buasai yn cofio am dani yno weithiau— ond ceryddai ei hun am adael i'w meddwl grwydro ato, ac yntau yn meddwl am yr un hono y gwelodd ei Uun yn Mhenygors. Er syndod i lawer, arosodd Robin yn Nhy Fry o hyd fel yr hwsmon, ond yr oedd Martha wedi gwrthod aros yn ei lie er cael cynyg gan William Jones, oherwydd gwyddai yr olaf na chawsai neb i ofalu am y ty mor ddeheuig a Martha, ac yr oedd son am dani yn yr amgylchoedd fel 'llaethreg.' Arosai hi ddim, fodd bynag, ond aeth i fyw ar hyny oedd wedi gvnilo o'i chyflog ar hyd y blyn- yddoedd i'r ty bychan yr oedd wedi bwriadu myn'd iddo gyda Robin cyn i'r digwyddiad anffodus hwnw gymeryd lie oedd wedi eu gwahanu byth. Fel yr elai y dyddiau heibio yr oedd Catrin yn-ddi- baid yn ceisio ystyried pa fodd i gael lluniaeth iddi ei hun a'i thad. Gwelai fod yn rhaid iddi wneud rhywbeth a hyny yn fuan, neu byddai iddynt new- ynu. Yr oedd Martha wedi cynyg eu cynorthwyo a pbeth arian o'i hystor fechan, ond yr oedd ys- pryd annibvnol y teulu yn gryf yn Catrin -ac yn naca iddi gymeryd dim ond yr hyn oedd angen- rheidiol am ychydig amser. Gwnaeth yn hysbys yn y gymydogaeth ei bod yn barod i gymeryd gwaith gwnio i mewn, a chan fod yr unig wniadreg oedd yn byw vn Nglanygors wedi symud oddivno yn ddiweddar, ui fu yn hir cyn cael digon i'w wneud. Ond gan na,d oedd ganddi beiriant gwnio yr oedd yn gorfsd llafurio'n galed, heblaw fod yn rhaid iddi wrthod gwaith trwm, a hwnw oedd y mwyaf proffidiol. Meddyliodd unwaith am gym- eryd benthvg arian gan Martha i brynu un, ond wed'yn beth os na allai dalu iddi. Cafodd gyn- orthwy, fodd bynag, yn annisgwyliadwy ac yn ddirgel. Un noswaith yr oedd cynulliad pur luosog wedi dod yn nghyd i'r efail, a'r pwnc o dan sylw oedd teulu Ty Fry a'u hamgylchiadau. Dangosid cyd- ymdeimlad dwys 'r tad a'r ferch yn y trallod newydd oedd wedi dod i'w cwrdd, er fod beio ar John Prisiart, ond er ei geryddu, eto yr oedd pob un yn teimlo rhyw fath o ddiraddiad wrth feddwl fod yr hen deulu wedi gadael y lie yr oeddynt wedi trigianu ynddo cyhyd. 0 siarad am orphenol eu hanes, trodd yr ymddyddan ar ddyfodol y teulu. • Sut gneith y ddau fyw ys gwn i ? Mae nhw'n deyd na toes gynyn nhw ddim byd wedi adal.' Mi glywiB i fod Catrin am gymeryd gwaith gwnio, ond toes gyni hi ddim myshin, a fedar hi neud fawr heb hono. Mi fasa'n i gneud hi'n symol tasa gini hi un, gin bod Jane Evans wedi myn'd i ffwrdd.' Yr oedd dystawrwydd am rai munydau, ac yna rhoddodd Huw'r Go' besychiad neu ddau,—arwydd ei fod am ddweyd rhywbeth. 4 Be feddyliech chi tasa ni'n medru ceisio myahin iddi hi ? Fasa fo ddim llawer rhyngom ni i gyd.' la, ond wed'yn,' meddai Guto'r Gors, yr hwn fyddai bob amsar yn gweled yr ochr ymarferol parthed ei fod yn fab yr awen, 4 ond wedyn na hi byth i chymyd hi—mae nhw mor indipendant, wyddost.' I Oaddat ti'n meddwl mod i mor wirion a meddwl y basa hi ? Ond peri i'r dyn fyn'd a hi yno a pheidio deyd pwy sy wedi rhoi ordors am dani hi ydi'r ffordd.' Cyffredin iawn eu hamgylchiadau oedd pob un ddeuai i gwmni tan y go', ond ni ddywedodd un ohonynt air yn erbyn y cynllun yma, a rhoddodd pob un yn ol ei allu. Eto, pan gafvvyd y cyfan at eu gilydd, nid oedd yn ddigon, ac yr oeddynb mewn penbleth beth i'w wneud nes i Abednego- yr unig un ag ychydig arian dros ben ei angenion fynychai y lle-dalu y gweddill. Dewiswyd Huw y Go' i fyned i bwrcasu'r peir- iant gan ei fod yn duaU heirns a phethau felly,' er fod yn anhawdd gwybod beth oedd a wnelo'r ddealltwriaeth hono a. dewis peiriant gwnio. Brydnawn Sadwrn aeth Huw i Aberdoldy ar y neges hon, er mawr gywreinrwydd i'w wraig, yr hoa geisiai ganddo ddweyd beth oedd ei neges; ond yr oedd yn ddealledig yn mhlith cwmni'r efail nad oedd neb tuallan i'r cylch i gael gwybod dim am y peth rhag ofn i'r ffaith ddod i glustiau Catrin. Y boreu LSun canlynol safodd cerbyd y cwmni oedd yn gwerthu y peirianau hyn o flaen y bwthyn lie trigai Catrin a'i thad, ac er holl ddywediadaa Catrin na wyddai ddim am y peth, ac fod yn sicr ei fod ya camgymeryd, cludwyd y peiriant i'r gegin. 41 Miss Catrin Prisiart, gynt o ffarrn Ty Fry, y ceis i ordors i ddwad a fo, a chi ydi hono, 'dwi'n duall.' Gadawodd Catrin lonydd iddo am beth amser, yn tybied y deuent i'w nol drachefn wedi gwybod y camgymeriad a wnaettient ond aeth wythnosau heibio, ac yr oed i y peiriant yno o hyd. Yr oedd yr eneth yn cael ei themtio i ddyfod o hyd pan fyddai wedi blino ar bwytho'n ddibaid â'i llaw, ond gallodd wrthsetyll y demtasiwn tan un nos Sadwrn pan oedd ganddi rhyw waith neiilduol eisiau ei orphen, a chan ei bod yn gweled fod hyny yn an- nichonadwy heb gynorthvry, gwnaeth ddefnydd o'r peiriant oedd wrth ei hymyl, ac o hyny allari defn- yddiai hi beunydd, ond nid heb rhyw ychydig o anesmwythder, fel pe buasai yn ymwneud a phethau pobl eraill. (J barhau). -(J-

Gwreichsosi.