Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE. ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o 10s. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Oollard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c., &c HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEUON, &c. (Goreu'r Iaith, Dr. Parry, &c. Gwlad y Delyn [J. Henry], cyfaddas i bob llais. Is I Dyddiau Gynt Soprano neu Tenor Dr. Parry. Is Gwlad y Canu Is Pwy fel fy Mam T. Antos Jones, R.A.,IL Is 0 Rwy'n Coflo (Sweet Memories) Tenor Is Ein Hanwyl Wlad Baritone Is Hoff Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano neu Tenor Is All the above sung with immense success by Ben Davies, David Hughes, Mary .Thomas, R.A.M. Blodwen y Ddol, &c., &c. Yr oil yn y ddau Nodiant. D. R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL, F CONCERT AGNTS, &C- Eto ar y Blaen. "ERW ERI No TE A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. LONDON. fl GLASLYN HOUSE, ?•: EVANS' | TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N.W. Y mwyaf canolog i bob rhan o Lundain. Yn agos i Station Euston (L. & N. W. Ry.). Dwy fynyd o gerdded o Stations St, Pancras (Midland Ry), neu King's Cross (G.N. Ry). Deg mynyd o dren o Paddington (G.W. Ry.) gyiia'r Metropolitan Ry. i Station Gower Street, yna ymofyner am Euston Square. D. EVANS, Perchenog. I important to Advertisers. Y CYMRO Price One Penny. Every Thursday. A Weekly Newspaper read in every Welsh house- hold in Liverpool, Birkenhead, Manchester, &c., ar d circulating extensively throughout North Wales. THE BEST WELSH ADVERTISING MEDIUM FOR PERSONS WANTED. SITUATIONS WANTED. APARTMENTS TO LET. APARTMENTS WANTED. HOUSES TO LET. SERVANTS WANTED. SERVANTS WANTING PLACES. 12 words 6d., every additional 6 words 3d. Three insertions the price of two. Halfpenny Stamps must accompany order. TRADE ADVERTISEMENTS. PROFESSIONAL ADVERTISEMENTS. 3s. per inch in Column. Office 8, PARADISE STREET, LIVERPOOL. Elfeqau AthroDiaeth Foesol, GAN Y Parch, JOHN JONES, Tuebrook, Y maeychydig gopial1 o'r llyfr uchod ar law ac i'w cael am SWLLT yr un, o Swyddfa'r Cymro, 8, Paradise Street. RICHARD E. EVANS, HOUSE AND ESTATE AGENT, la, Preston Street (Opposite Police Vourts), LIVERPOOl., And 67, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET MORTGAGES EFFECTED. FFODD AIARN SI GAE. [CHESHIRE LINES.] Mae Gwasanaeth Newydd a. Gwell o DRENAU CYFLYM yn rhedeg yn awr i OGLEDD CYMRU a CHYMYDOG- AETHAU y CAMBRIAN. Bydd Lavatory Carriages Dos- barth Cyntaf a Thrvdydd yn gysylltiol a'r Gwib-drenau a redant rhwng MANCEINION ac ABERYSTWYTH (Canol) fel y canlyn Gorsafoedd Dyddilu. a.m. p.m. Manceinion (yr Orsaf Ganol) .cych. 11 30 330 Stockport (Tiviot Dale) 11 15 3 20 Altrincham a Bowdon 11 45 3 45 Knutsford 11 53 3 53 Northwich 12 2 4 2 Hartford » Greenbank 12 S 4 8 Caerlleon (Liverpol Roadj 12 29 4 29 Gwrecsam (Canol) cyr. 1 10 5 10 Croesoswallt 2 3 6 5 TrallWDg 2 33 655 Drenewydd 2a59 740 Aberystwyth 4 35 9 35 Bermo 5 0 Porthmadog 552 Pwllheli 6 25 a m. p.m. Pwllheli cych. 10 10 Porthmadog 10 48 Bermo 12 10 1 45 Aberystwyth 12 5 2bl5 Drenewydd la53 4 20 Trallwng 222 5 5 Croesoswallt. 250 530 Gwrecsam (Canol) cyr. 3 35 615 Caerlleon (Liverpool Road) 4 28 7 8 Hartford a Greeubank 4 50 7 35 Northwick 455 740 Knutsford 55 7 [0 Altrinch&m a Bowdon. 515 759 Stockport (Tiviot Dale) 6 18 8 25 Manceinion (Canol) 5 33 815 a Arwydda fod y tren yn sefyll pan fydd galw am hyny. b Awst 3ydd i Medi 12fed, yn gadael Aberystwyth 2.30 nawn. Am y cysylltiadau a rhwng-orsafoedd a manylion am drenau eraill, gweler taflen amseriad. GOFYNWCH AM DOCYNAU GYDA CHYLCHDAITH REILFFORDD SIR GAER. DAVID MELDRUM, Goruchwyliwr. Gorsaf Ganol, Lerpwl, Grorph., 1896. DALIER SYLWT AIL AGORTAD CWESTTY GW ALIA (GWALIA HOTEL), UPPER WOBURN PLACE, LLUJNDAIN, 0 dan arolygiaeth bersonol yr hen berchenog, a pherchenog presenol GWESTTY GWALIA, FFYNHONAU LLANDRINDOD. Er mwyn yr hen amser gynt," Dymuna'r perchenog hysbysu ei gyfeillion a'i gydnabyddion lluosog (a phawb eraill ag y bydd yr hysbysiad yn fantais iddynt) fod y Ty uchod wedi ei adgyweirio, ei brydferthu, a'i ddodrefnu drwyddo o'r newydd, a chan ei fod yn hyderus y bydd Gwestty Gwalia" yn gartref oddicartref fel cynt, apelia am eu cefnogaeth. Saif mewn man canolog a chyHeus. Y telerau yn rhai anarferol o resymol. Am bob hysbysrwy dd cl v arefol, anfoner at Mr. EDWARD JENKINS, GWALIA HOTEL, Upper Woburn Place, LONDON. OR ANNiDD TEMPERANCE HOTEL and jyi BOARDING HOUSE, TYN-Y-GONGL, ANGLESEY.—Good accommodation, close to Sea, moderate charges.—Apply to Miss HUGHES, Proprietress. T)IOS JONES&- Co. Ltd TIME-TESTED TEAS @ 1/3, 1/7, and 2/- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/- and upwards sen carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON AP P LIOA TION. THOS. JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfonir UN COPI yn ddidraul trwy y Post:— Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6 Telerau Hysbysiadau: Yn ol 31- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6. -0- At Ein Gohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore dydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher.
YR WYL CEM EDLAETHOL.
YR WYL CEM EDLAETHOL. OFNWN na fydd gan Eisteddfod Llandudno ddim byd neillduol i'w ddweyd wrth y dyfodol. Bydd cenadwri ambell Eisteddfod vn treiglo o'r naill oes a chenedlaeth i'r Ilall, gan eu hadgoffa am dani, ac o'r gynysgaeth adawodd ar ei hol-weithiau ar lun awdl orchestol, pryddest odidog, araith ysplenydd, neu draithawd gwerth- fawr. Ond hyd y gellir casglu, ysgafn fydd cynhauaf Llandudno yn yr ystyr yma. A pha fodd amgen ? Gydag eithriad neu ddau, testynau cyfifredin a diawen oedd yr holl restr lenyddol, fel pe buasent yn gyn- yrch meddyliau diffrwyth neu flinedig ac fel iawn am y cyffredinedd hwn, aeth y pwyllgor llenyddol ati i enill eu henwog- rwydd am wreiddioldeb trwy roi'r gadair yn agored i bryddest neu awdl. Credwn mai camgymeriad ydyw gwahanu yr awdl a'r o-adair oddiwrth eu gilydd mae'r ddau bellach yn hen, ac wedi cydfodoli yn hedd- ychol er's oesau, ac yn gweddu'n dda i'w gilydd. Un ar bymtheg oedd nifer yr ym- geiswyr yn Llandudno, tra y rhifai ymgeis- wyr am y gadair yn Nghaernarfon ddwy flynedd yn ol dri ar hugain felly ni fu agoryd y drws i bryddestwyr eleni o un chwanegiad i nifer yr ymgeiswyr, ond yn hytrach fel arall. Tra yn son am y Gadair a'i cheiswyr, ni ddylid annghofio r beirniaid. Daw yr ysfa am fod yn wreiddiol yn v pwyllgor llenyddol i'r golwg yma eto. Yn lie y tri arferol a digonol. -rhaid oedd iddynt hwy gael pump ac yr oedd dau o'r pump hyny heb erioed enill cadair genedlaethol, ac un nad oes sicrwydd ei fod yn fardd o gwbl. Dylasai fod yn Llandudno dri beirniad yn lie pump, a deunaw ymgeisydd yn lie un ar bymtheg. O'r naw ymgeisiodd am y Goron, nid oedd yr un yn deilwng nid codiad y safon, fel y myn rhai, oeddyr achos i'r wobr gael ei hatal, yn hytrach ei gostyngiad i'r fainc feirniadol. Mae eisiau pwyll, profiad, a chydymdeimlad, yn y lie hwnw cystal a'r hyn a elwir dysgeidiaeth. Adran len- yddol Eisteddfod Llandudno oedd y wanaf ynddi o lawer. Nid yw adran Celf a Gwyddon byth bron yn llwyddiant mewn Eisteddfod, ac y mae lie i ofni mai felly i raddau yr yd- oedd yn Llandudno eto. Dichon, os cymer Mr Herkomer y ganghen hon tan ei ofal y bvdd agwedd well arni. Am yr adran gerddorol, diau y dydd gan Walas neu arall o'n gohebwyr cerddorol rhyw sylwadau i'w dweyd. Yn y cyfamser, nid oes modd peidio dwyn tystiolaeth i ganu ysplenydd Mr. Ben Davies nos Tau- yr oedd yn gwefreiddio ac yn gwynfydu'r dorf fawr ar yr un pryd, a chanai Mr Ffrangcon Davies hefyd yn ardderchog. Am y cantoresau nis gellir siarad mor ddi- amwys, a gresyn oedd gadael allan Mrs. Mary Davies a Chymruesau eraill er mwyn rhni lie i'w salach. Dygwyd yr holl weithrediadau mas- nachol ac arianol yn mlaen tan arweiniad gwyr o fedr mewn trafnidiaeth a doeth o gynghor. Yr oedd ganddynt babeil ragorol, a hono wedi ei chodi mewn llanerch dra chyfleus mewn IIJaes gerllaw yr orsaf ar draul o tuag un cant ar ddeg o bunau-tua chwarter yr holl draul. Dyma sy'n llin- dagu'r Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn a gwaeth na'r cwbl nid oes obaith am wared ohono. Nid oes genym ond gobeithio, wedi'r holl bryder a'r llafur, na elwir am help y meichiafon i dalu'r reuliau. An- turiaeth fawr, gefal aruthrol, a thasg digon diddiolch ydyw Eisteddfod Genedlaethol, a digalon tros ben ydyw fod hyn oil ambell waith yn cael ei ddilyn gan ofynion i wneud diffyg arianol i fynu. Dymunem ddiolch i drigolion Llandudno am y modd anrhydeddus y derbyniasant yr hen sefydliad. Yr oedd ganddynt ddigon- edd o gyfleusderau ar gyfer y miloedd ymwelwyr, ac ni chlywsom am yr un ohonynt yn cymeryd mantais ar yr am- gylchiad trwy godi crogbris, fel y gwnaed yn Aberhonddu a manau o gyffelyb faint- ioli Ni chlywsom ychwaith am un achos o feddwdod yn y dref yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac yn hyn yr oedd Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1896 yn dirfawr ragori ar un 1854.
[No title]
MANCEINION-Cynaliodd Annibynwyr Capel Lord Duncan Street, Cross Lane, gyfarfodydd arbenig nos Sadwrn, Sabboth a dydd LIun i urddo Mr Llewelyn Williams o Gole,, Bala- Bangor, yn weinidog ar yr eglwys, cymerwyd rhan yn y cvfarfodydd gan y rhai canlynol. Y Prifathraw Herber Evans, D.D., Bangor Proff J. M. Davies, M.A., Bangor; Parchn T. E. Thomas, Coedpoeth Richard Roberts, Chorlton Road D. John, Booth Street,a D. M. Jenkins, Lerpwl. Unorddau. GOLBORNE.—Cynaliwyd cyfarfod blynyddol y Wesleyaid Sabboth Gorph. 5. Cafwyd gwas- anaeth y Parch. Richard Morgan, Birkenhead, a Mr Heber Chambers, Lerpwl. Yr oedd yr Annibynwyr yn garedig wedi rhoi benthyg eu haddoldy at y cyfarfod. Mae'r cyfeillion wedi pwrcasu tir rhagorol i adeiladu capel newydd ac yn bwriadu dechreu ar y gwaith ar unwaith. Dirwywyd John Roberts, llafurwr, gan ynadon Fflint, ddydd Mercher, i 2p a'r costau neu fis o garchar am greulondeb at ful trwy ei daro yn ei goes a chryman.
--0--ARG FWNG Y CLOWYR.
--0-- ARG FWNG Y CLOWYR. LLAWER cwmwl fu erioed yn duo ffurfafen y glowyr, a gwan yw'r gobaith am ddydd digwmwl yn eu hanes hyd nes y ceir deallt- wriaeth well rhwng Cyfalaf a Llafur. Hir y cofir ymdrech chwerw 1893, pan y daeth hawliau'r naill a buddiant y llall i wrth- darawiad. Y dyddiau hyn eto bygythir argyfwng difrifol, ac os na ddeuir i gytun- deb buan ofnir mai'r canlyniad fydd i'r glowyr sefyll allan." Cyfyd yrannghyd- fod presenol o ddau gynygiad. Gwnaed y cyntaf gan y meistriaid, ac fel atebiad iddo y ffurfiwyd yr ail. Wele hwynt:— CYNYG Y MEISTRIAID. CYNYG Y GLOWYR. Fod y Bwrdd Cyflaf- areddol yn parhau am un flwyddyn o Awst laf, ar yr amodau (1) fod y gweithwyr yn derbyn gostyngiad uniongyrcbol o 10 y cant allan o'r 30 y cant a ganiatawyd yn 01 gi addfa eyflogau 1888; (2) fod y mater i gael ei ail ystyried ddiwedd Gorphenaf 1897. Fod y Bwrdd Cyflaf- areddol i barhau am ddwy flynedd; fod' y cyflogau i aros fel y maent yn awr am y 17 mis nesaf, ac na ofynir am godiad yn ystod y cyfnod hwnw ond yn ystod y saith mis olaf o'r ddwy flynedd fod v gweithwyr at eu rhydd- id i ofyn am gyflogau gwell. Gwelir oddiwrth yr uchod mai yr un achos sydd i'r annghydfod presenol ag arfer mewn masnach weithfaol-cais at ostwng y cyflog ar du'r meistriaid a gwrthwynebiad i dderbyn hyny ar du'r glowyr. Myn y gweithwyr nad yw sefyllfa bresenol y fas- nach lo yn cyfreithloni y cais i ostwng eu henillion a cheir rhai ardaloedd trwy eu cynrvchiolwyr yn galw yn uchel am godi'r cyflogau. Ond ymddengys i ni mai y dymuniad am barhad y Bwrdd Cyflafar- e ldol yw d'adl gryfaf y glowyr ac y mae'r ffaith fod y meistriaid yn awyddus i ddifodi y Bwrdd hwnw yn gwanychu eu cais pres- enol. Amcan Bwrdd o'r fath yw rheol- eiddio masnach ar linellau teg a chyfiawn, a phenderfynu pob annghydfod wrth reol a barn, gan dalu sylw dyledus a rhoddi ystyriaeth fanwl i fuddiant y naill ddosbarth fel y llall. Ac os yw'r meistriaid am ddi- ddymu Bwrdd o'r fath rhaid yw dod i'r casgliad mai dymuniad i reoli masnach fel y mynant eu hunain heb gydnabod y gweith- wyr o gwbl sydd wrth wraidd eu cais Ni ffyna heddwch byth tra dangosir pen- arglwyddiaeth o'r fath. Rhaid i'r meistri gydnabod hawliau'r gweithwyr. Dyma'r rhwymyn undeb gysyllta gyfalaf a llafur ac nis gellir ei hebgor os am gydweithred- iad. Mae arliw o annhegwch yn ffyrnigo ac yn chwerwi ysbryd y glowyr, ac ni ddylid byth ei ddangos. Yn y gynadledd gynaliwyd yn Llundain ddydd Mawrth pan gynrychiolid tri chan mil o lowyr,' penderfynwyd gwrthod cynyg y meistriaid', a dal yn gyndyn a chadarn dros barhad y cyflogau presenol a'r Bwrdd Cyflafareddol. Hyderwn y llwyddir i benderfynu'r an- nghydfod yn fuan, ac ar delerau na fyddo buddiant neb yn cael ei ddiystyru. Yn yr argyfwng presenol, caffed egwyddorion cyfiawnder eu hanrhydeddu, oblegyd arnynt hwy y dibyna llwyddiant masnach a ffyniant gwlad. --0--