Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cwreiohion.

News
Cite
Share

Cwreiohion. If WEDI gwrando darllen am ymweliad 'Prince of Wales a. Machynlleth, cabrddiliai hen yfwr, a hen adgofion hyfryd yn chwareu ar ei wyneb, He yr ydw i yn i gofio fo yn Rhuthyn er's talwm (tafarndy, sydd yn awr yn ariandy), a llawer awr ddiddan ges i yno fo ac y mae o yn Machynlleth, ydi o?' IT Y mae gwr y Cymdy wedi marw, ydi o Y darfodedigaeth aeth a fo, meddai'r meddyg,' ebe un gymydoges. Od iawn ydi hyny,' ebe yr ail,' does dim o'r darfodedigaeth ya y teulu chwaith,' O, tydyw hyny'n ddim ods, atebai y gyntaf, fe fu gwr fy chwaer farw o'r gastric fever, a doedd gyny nhw ddim gaB yn y ty, oherwydd llosgi piraffia yr oedden nhw.' IT Y rhyfeddod fwyaf a welodi dau cyclist y week end o'r blaen ar eu hymweliad a Heallan oedd gweled eglwys heb giochdy, a chlochdy heb eglwys,' a phun ofynasant i un o'r brodorion am eglurhad, yr ateb a gawsant (gan gapelwr mi waa. w) mai. introduction i'r Dadgysylltiad ydoedd.' IT Y ddadl fawr yn Nghyrnru, yn ol y Chester Gour ant, ydyw, p'run ydyw y queen of the water- ing places V Llandudno hawliai yr anrhydedd am rai blynyddl-a; wedi hyny daeth Rhyl i dynu am y dorch am dano, ac yn awr, wrth fod Tywysog wedi ei haurhydeddu a'i bresenoldeb, Aberystwyth a'i hawlia Cynghor y Courant ydyw fod i'r cwes- tiwn gael ei benderfynu yn Ngorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol, ac i'r Archdderwydd ei hurddo yn ol braint a defod. Cynghor da ei waL. Beth mae'r Orsedd dda os nad i setlo cwerylon fel hyn ? IT Yr oedd Cwrs y Byd yn cymhell b&rddoni I fel ffordd effeithiol i orchfygu diffyg cysgu ac fe sylwa Nathan, fel bardd, mai y dull gwarantedig sydd ganddo ef i orchfygu yr anhwylder hwnw ydyw diolch na ddaru o erioed gynyg am wobr mewn eisteddfod Fel pe buasai yn debyg o enill, ynte ? IT Ar ol y cawodydd diweddar yr oedd 4 ffarmwr careful,' chwedl S. R., yn pasio gardd cymydog, yr hon oedd yn chwyn byw, ac fe'i ceryddodd yn speitlyd, Mae yr ardd yn cnydu ar ei chanfed, yn tydi hi, Dafydd Williams?' Swiliodd Dafydd drwyddo, a bu rhyfel dost rhyngddo ef a'r chwyn y nosweithiau dilynol. IT Un smart ei speit oedd Solomon pan welodd ef olygfa gyffclyb, fe ddywedodd wrth y perchenog Dos ¡.\t v morgrngyo, tydi ddiogvn, a chymer ddalen o'i ddyddlyir o.' A dywedodd John Joues yn ddiweddar wrth fyned heibio gardd dyn diog, Y sgerbwd yn y readigaeth ydyw'r diogyn.' IT Wrth bregethu yn nghyfarfod urddiad y Parch Eli Evans yn y Pwllglas, ar y Beibl (oddiar Jeremiah xxxvi., 21-23), dywedai Dr Herber Evans 'Y mae y Beibl wedi bod dan gyllell ac yn nhan yr uwchfeirniaid, ac y mae wedi dyfod alltin o'u dwylaw yn berffaith ddianaf, nid ydynt yn amheu dim ond y kdates. Beth waeth genym ni prun ai ar ddydd Mawrth ai ar ddydd Gwener y daeth y mab afradlon yn ol, os ydyw y ffaith yn aros.' IT Fe chwarddodd y bardd Crygfyiyn nes v lluchiwyd holl fotymau ei wasgod pan ddarllenodd wir y Prif-fardd Pendant yn erbyn y b, d. IT Y mae Crygfyiyn yn gredwr mawr yn mhen- arglwyddiaeth y Prif-fardd Pendant, ac yn dyheu, gan ei fod yn c.tel ei flino gan y crydcymalau, am fyned i'r Arwest nesaf ar Ian Llyn Geirionydd, fel y gallo ofyn i Archoffeiriad Urdd Sefydledig y Bei'dd Cymreig ei daflu i'r llyn.' Wei hai I Yn gweled fod gwyrthiau Ffynon Gwenfrewi yn ami- Ih n, y peth nesaf glywir fydd fod Llyn Geirionydd vedi troi yn Lyn Bethesda.' H Beth ydyw y chwi'en farddol sydd wedi dod dros bregethwrs y Sentara, deydwch ?' -be dyn duwiol iawn o enwad arall, pan glywodd mai y Parch Ben Davies enillodd y gadair yo Llandudno, gan ychwanegu, I Mae nhw'n stydio mwy ar lenwi eu tai a chadeiriau nag eflill eneidiau i'r Gwared- wr.' Hym pan dd gwyddodd i un o weinidogion ei enwad ef enill cadair, yr wyf yn cofio ei fod yn wên o'i dalcen i'w en, ac o glust i glust. IT Yr ydw i'n credu mai y peth cynta ddylai dyn wneud pan y mae yn mynd i ysgrifenu ar ryw bwnc ydyw astudio a bod yn llawn o'i fater,' ebe awdwr ieuanc, pryd y dywedai meddyliwr addfet- ach, Nid ydwyf fi yn credu ff,i,siwn beth; mewn gwirionedd, yr wyf yn crynu gan feddwl y canlvn- iad pe bawn yn cymeryd eich cynghor.' Diar mi, ar beth yr ydych yn gweithio ?' 'Anerchiad ar ddiodydd meddwol, i'w ddarllen o flaen y Gym- deithas Ddirwestol,' atebai yntau. Fe fuasai yno olygfa hefyd. CYFARWYDD.

-0--Mr T. E. Ellis ar y Weinyddiaeth.

———— o ————— GWYLIAU HAF.

[No title]

Ffestiniog.

---(0)---Barddoniaeth.

[No title]

Advertising