Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1858 OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H • E • WILLIAMS. 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large andamaH Houses To Let in various parts of the city and uburba. Houses bought and sold. Mortgages arranged, &o. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and-Shop Property carefully and ec- nomically managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged s-nd Insurances effected.(F nr"- HENRY JONES, 5STATE. & MORTGAGE AGENT, 11 J, EVERT Oft ROAD, LIVERPOOL. Rents Soliecled. Mortgages Arranged. TELEPHONE NO. 1779. The Liverpooi land Company, Limited. TO BUILDERS, &e.—TO be Sold, Freehold and 999 years' Leasehold LAN L>, in lots to suit purchasers,In Garston, Kirfcdale, Walton, Bootie, and Seatorth. Liberal advances will be made to Builders, Property letting well in all the lor:alities,-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works— TAYLOR STREET, and -402 ft 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges. Cast Iron Gates, and Bailings; Hot Water, Green Houses, and Sanitary *'»^eer* Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Saops &e., Bakers Oven Stocks, Confectioners Ovens, Chaffers, Boxes, ? Ire Bars, &c. all sizes of Gate Runners, &c. CYRN CYRN 11 CYRN111 MAE BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi esrnwythad ar unwaith i GYRN poenus, ac yn eu symud yn hollol mewn ychydig ddyddiay. Symuda hefyd DDEFAID ar y dwylaw a'r bysedd, tyn ymaith enyniad a gwres o BUNIONS gan eu gwneud yn iach a diboen. Gwerthir mewn potelau 7!e a Is. lie. yr un. Danfonwch am botel—mae'n feddygin- iaeth anffaeledig. GASTROCYNE BENSON EVANS, Yr unig feddyginiaeth effeithiol i Ddiffyg Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-galon, Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o gymer- adwyon i'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. lie. a 2s. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dinbyoh. R. WHITTINGTON, Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience), 45, BYROM STREET LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. I Gymry I dewch at Gymro. CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS £ 20,00O 000 AGENTS addas ychwanegol yn eisiau—Kmofyner a J. W. JONES, Prudential Offiice Caernarfo Messrs GRIFFITHS & OAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. ■ Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery, M antles.. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing, burs. —AND— Millinery. n all these Departments wil be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & 393,' Scotland Road. F XnuiHoiTTROMCHiTia -\7 for the-Young and Old, THINK of the thousands of Children who suffer every year with "Bronchitis without receiving permanent re!i»f. is-ncwithst-vnding many remedies given them, their systems are still weak, and every sp^ll of had weather brings anxiety to the parents. la all damp climates such as this country is subject to, people are inclined to Colds, Coughs, and Affection of the Throat and Lungs. The climate taxes those who are strong, while the weak suffer. I TUDOR WILLIAMS' BALSAM OF HONEY is made of Pure Welsh Honey and the Finest Vegetable Preparations. In no other form is to be found the perfect combination of this valuable Nutritive and Curative Remedy. ARGEST SALE OF ANY COUGH MEDICINE IN THE WORLD. QVEHWHELMING TESTIMONY. IT IS MORE THAN GOLD TO ME. My wife desires me to convey her best wishes for the success of your TUDOR WILLIAMS' BAL- SAM OF HONEY. It has been of great benefit to our little ones, who suffered from Bronchitis and Coughs during the last two most inclement winters. It gives them instant relief. Further, our medical attendant, Dr. Jones, quite concurs in the frequent use of the Balsam when occasions require.—Yours faithfully, JOHN WALTEK MORGAN, Brynheulog House, Hirwain. Sold by all Chemists and Stores in Is, ltd., 2s. 9d., and 4a. 6d. bottles. Sample bottles sent (post paid) for Is. 3d., 3s., and 5s., from the Inventor— 0 ifjpUDOR V^7 I L L [ A M S MEDICAL HALL, ABERDARE. PAPAYAN NHiTEAMSHI P COMMAS. LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMEIS Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports, taking the following two routes alternately (1) MALTA, SYR A, SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at sev-ral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and St ain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPË, BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding, Superior accommodation. Lofty Vi ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess c?rri0, Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modelftte fares for single and return tickets, and no extra charge for liring on board during ships'atay at Ports. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this tine v ill find it most ea joy able and interesting For further panics a rs, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, LWrpoo I LLINELL Y WHITE STAh JmK ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK via QlJEENSTOWN, BC B DYDD MERCHER:— ADRIATIC Gorphenaf 15 GERMANIC Gorphenaf 22 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeitkwyr A arwydda y ciudir yn yr Ail Gaban ar y ford&ith P;is y cludiad ydyw L7 5s i Z10 yn ol :yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y, Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cyrilur, s threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni ohelr gwell cyfleusdra i fordeithwyr. Am fanylion, ymofyner R. Owen, Ship & ID surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a R. Roberts, Bethesda; Owen E Parry, rnasnachydd llechi, Dolwyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefni R. G oberts ,Rock Cottage, OrJigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. J. Williams Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew G oldie, 217, High Street, Bangor; R. 0 Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu âg ISMAY IMRIE &Co., 34, Leade nhal Street, Llundain, E.G., 8i Water Street, Lerpwl. UHAS. R. HALL, GENERAL L-ETTEBI CUTTER & ENGRAVER 53 PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C.
-"-_---__---. Y Brawdlysoevtd…
Y Brawdlysoevtd Chwarterol. ARFON. CYNALIWYD y frawdlys hon yn Nghaernarfon ddydd laki, Mr J. E. Greaves yn llywyddu. Nid "edd un achos i ddod gerbron, ac amlygodd y ilywydd fawr laweoydd weled y fath sefyllfa loidhaol ar b-;thau yn y sir.—-Derbyniwyd lythyr odiiwrth Capten Wynn Griffith, Llan- fair, yn daigan awydd i ymdciiswyddo o fod yn is-gadeirydd y frawdlys oherwydd afiechyd. A in! vgwyd g -fid am hyn, a derbyniwyd yr ymddiswyddiad. MALDWYN. Yn y Drenewydd y cynaliwyd y frawdlys bon ddydd Ian, dan lywyddiaeth Mr A. C. Hum- phreys Ovren. A.S. Nid oedd and dau achos i j ddod gerbr-n. Richard Webster a gyhnddwyd o ddarnguddio < 3s. Ni phrofwyd yn euog, a gollyngwyd ef yn rhydd. ? John Pmitb, Wolverhampton, a gyhuddwyd o gael geffv). gwerth 20p trwy dwyll ac hefyd g,asoo gwerth 40p, a dwy hwyaden gwerth 6s 6c. Ni chaed ef yn euog. MON. Cynaliwyd y frawdlys hon yn Beaumaris ddydd Mercher, Syr R. Williams Bulkeley yn llyw- y idu. Hysbyswyd nad oedd un achos i ddod gerbron, ac anrhegwyd y llywydd a. phar o fenyg atwynion.—Tyngwyd y rhai canlynol felynadon: Syr Thomas Neave, Llysdulas MriO.E. Jones, Tynrheol T. Fanning Evans, Amlwch Thos. Owen, Rhudclgaer a W. R. Jones, Caergybi. FFLINT. Yn y Wyddgrug ddydd Iau, Mr P.P. Pennant yn llywyddu. Tyngwyd Mr W. L. P. Storey, Rhyl, fel ynad newydd. Dau acbos oedd i ddod gerbron, sef cyhuddiad o ladrad y erbyn W. A. Anclersnn, gwawl-arlunydd. Ni euog- farnwyd ef.—John Parry a gyhuddid o dy- dorisid. Addefodd ei euogrwydd, ac anfonwyd ef i garchar am chwe mis gyda llafur caled. DINBYCH. Yn Rhuthyn ddydd Oxwener, Capten Griffith- Boscawen yn y gadair. C. H. Booth, llafurwr, a anfonwyd i garcbar am s dth m;s gyda llafur caled am ladrata ceffyl a ffrwyn o Abergele yn mis Ebrill. James French, glowr, a gyhuddwyd o ladrata oriawr yn Gwersyllt. Caed ef yn euog, ac anfonwyd ef i garchar am chwe mis gyda llafur caled. John Evans, Llanrwst, a anfonwyd i garchar am ddeofis gyda llafur caled am ymosod ar ei wraig.
Nodion o'r Sdinas.
Nodion o'r Sdinas. [Gan CWILSYN]. Ac wele ysbryd prophwydo ddaeth arnaf bythefnos yn ol--yr wythnos hon gwelais gyflawni'r broph- wydoliaeth, a'tn calon lawenycha vnof. Yn yr Wyl Genedlaethol yn Llandudno, nid oedd talentau mioioo v Tvl-erswy yn gudd, a than goron llwydd a Ilawryf anrhydedd y dychwelasant i'r ddinas. -0- Celfvddyd roes fri ar Mr Edward Denman. Megys mewn hlynyddau gynt, efe oedd gywreinisf am h-rd,,iu pren a lliwiau, a thrwy fedr y lluw a phryd- ferthwch ei chwaeth, 'e gurodd lu o gewri, Cymro da, ac aelod blaenllaw yn eglwys Annibynol Grove Street, yw Mr Denrnan, er fod ei enw yn lled- awgrymu nad yw yn asgwrn o'n hasgwrn ni. —o— Yr arluniwr ieusrac talentog Mr Tim Evans, Pen- bedw, a. enillodd y wobr a'r clod hefyd am ddarlun, a rhoed gair uchel iddo gan y beirniad. Cymro o Ddyffryn Conwy yw efe, ac aelod o eglwys Anni- bynol Clifton Road. Enillodd o'r blaen yn yr wyl gcnedlaethol, ac y mae'n meddu talent ddiamhenol yn y gelf gywrain o arlunio. Nid gwr un dalent ydyw obwaith, oblegyd y mae yn gerddor cymer- adwy a'i Iwydd presenol yn rhoi mawr foddhad i'w lu cyfeillion. -0- Fis Awst diwedrlaf, mewn Eisteddfod yn Nghor- wen, dywedodd Mr David Jenkins, wrth ddyfarnu'r wobr i Mr Halton Morris am unawd, fod ei ddat, ganiad ef yn deilwng o'r Eisteddfod Genedlaethol. Ddydd Gwener gwiriwyd y sylw, oblegyd allan o 50, barnwyd y Cymro ieuanc per ei laisyn fuddugol. Er wedi ei fagu yn y ddinas hon, medr siarad yr hen i»ith gystal a phobl Mon; ac y mae llawenydd ei gydgenedl yn fawr weled un o honom ni'' yn dringo grisiau llwydd mor gyflym ac anrhydeddus. Clod iddo, ac yn mlaen yr elo. —o— Ond dydd y fuddugoliaeth fawr oedd dydd Iau. Daeth Cymru, Lloegr, a Llanrwst i gystadleuaeth y corau merched. 0 dawelwch Dyffryn Clwyd, o weitbfeydd Cwm Rhondda, o ferw'r Brifddinas anfonwyd rhianod i gymeryd rhan yn yr ornestj ond cor Mega,nMon oBenbedw, gerllaw Llynlleifiad] oedd fuddugol, a htvy yn yr wyl fawr oedd yn rhoi bn ar em bro. Ni ddygwyd eu coron, a'u clod ni ymadawodd, bu raid i Dde a Gogledd, Gwent a Morganwg, Arfon a Chlwyd, ? Llundain, ymostwng iddynt. Vn fy mywyd ni chlywais bereiddiach canu nag yn y gystadleuaeth galed hon. Ni ddy- munwn j gan y gwynfyd fod yn Ilawer melusach. Bendith arnoch, Megan, ac ar eich rhianod del am guro llu o gorau'n lion, a chadw anrhydedd Cymry glanau'r Merswy i fynu. —o— Methiant fu v cais i gael Eisteddfod 1898 i'r ddinas. Pobl Ffestiniog oedd drech na ni, ac yn wir yr oeddynt drech na llawer heblaw pobl Ler- pwl yn yr wyl eleni. Cawn ninau'r Eisteddfod yma yn 1900, a bydd yn gycbwyn ardderchog i' hen sefydliad ddod yma af ddechreu canrif arall Boed lwvdd iddi yn Stiniog-mae'n siwr n fydd hi ddim yn sych yno beth bynag, ac hwyrach mai nid anmhriodol fyddai rhoddi Y DiluW" vn destyn y gadair a Gwlawlen yn destyn yr englyn mewn He y ceir y naill bron wastad ac nas gellir byth wneud heb y llall. Gwnaeth Lerpwl gais egniol am dani, ac er yn aflwyddianus ni bydd i'n brwdfrydedd leihau wrth ddisgwyl, ond yn hytrach enill nerth. —o— Mae cryn wahaniaeth rhwng Jonathan y Beibl a Jonathan Ffestiniog. Cariad, mwyneidd-dra a brawdgarwch, oedd nodweddion y cyntaf-nid yw'r ail wedi ci waddoli mor gyfoethog &'r rhinweddau hyn. Wrth gefnogi cais Ffestiniog ddydd Iau, dywedodd mai cyfle i Saeson wneud gwawd ohonom fel cenedl oedd cynal Eisteddfod mewn tref yn Lloegr.' Felly wir, Jonathan. Wn i ddim pa un ai anwybodaeth o Saeson, ai diffyg cydnabyddiaeth Eisteddfodau mewn trefi Seis- nig, neu ragfarn cul a gwrthun, a barodd i chwi roddi lleferydd i'r fath ensyniad. Hyn a wn, mai ychydig iawn o bobl eich gwlad eich hun oedd yn cydsynio a chwi na fuasai neb doeth a phwyllog yn dweyd y fath ffiloreg, ac fod yr hyn a draeth- wyd genych yn anwiredd noeth, Nid oes well Cymry yn unman nag yn Lerpwl, ac y mae cryn lawer o bobl 'Stiniog yn eu plith cynelir Eistedd- fodau yma yn fiynyddol-cyrddau teilwng o wlad- garwcti Cymreig, lie yr anrhydeddir Hen, can, ac awen; mynychir hwy gan dorfeydd o Saeson, rhoddant gefnogaeth sylweddol i ni, cydweithred- ant yn galonog, a mynych y maent wedi datgan cymeradwyaeth ac edmygedd o'n nodweddion fel cenedl. I Cyfle i wneud gwawd ohonom yn wir Mi fydd eich cenedl chwi eich hunan yn gwneud gwawd o'ch ensyniad chwi, ac nid rhyfedd i lu oedd yn gwrando arnoch lefain am i chwi dynu'r geiriau yn ol. Ni ddylai eich brwdfrydedd dros eich pentref dan y Moelwyn fod yn achos i chwi dramgwyddo cymaint a gwneud amryfusedd mor fawr. Jonathan, os ydych yn foneddwr ac yn anrhydeddu y gwir, tynwch yr enllib yn ol. Os na wnewch, bydd llu yn meddwl mai'r ysbryd drwg a fiinai Saul gynt, ac nid mwyneidd dra dymunol Jonathan sy'n llywio eich geiriau ar adegau neill- duol. Ail-agorwyd addoldy David Street y Sul diwedd- af ar ol cael ei harddu. Gweinyddwyd gan y Parch John Williams, Princes Road W. E. Prytherch, Abertawe a William Jones, y gweinidog. Fel arfer yn David Street, caed cynulliadau lluosog ac yr oedd y genadwri yn rymus. Nis gwn pwy fu'n prydferthu y cysegr hwn, ond amIwg yw fod gwaith rhagorol wedi ei wneud arno. --0- Dylaswn fod wedi cofuodi yr wythnos ddiweddaf am y ddarlith draddododd Cyoonfardd yn nghapel Kensington, nos Lun, Mehefin 29ain. Darlith fendigedig mewn gwirionedd ydoedd,' medd un lienor craff y mae genyf yr ymddiried llwyraf yn ei farn. Hyawdledd pobl eraill,' oedd ei destyn, a chyda, hyawdledd teilwng ohono ei hun y traethodd y bardd bregethwr o wlad yr Ianci arno. Yr oedd gwen a deigryn yn nghil y llygad bob yn ail. Tor- odd y Ilywydd ei gyhoeddiad, ond yr oedd Pedrog yn brese ol, ac y mae ef wedi hen arfer llanw cadeiriau gydag urddas, a gwnaeth hyny y noson hon. Yr oedd y capel yn 11awu, a llu o weinidogion yn bresenol. Dagenyfddeall hyn-hwyrach fod arnynt hwy fwy o angen dysgu bod yn hyawdl na neb arall, a hyderaf-iddynt dderbyn gwersi yn y ddarlith fydd yn fuddiol iddynt eu hunain, ac yn neillduol felly i'w cynulliadau. Hir y cofir am gwrdd preg, thu a darlith Cynonfardd yn Kensing- ton-nid yn ami y caed eu gwell. -:0:-
Coleg Duwinyddol y Bala.
Coleg Duwinyddol y Bala. CYNALIWYD cyfarfod blynyddol y coleg hwn ddydd lau, dan lywyddiaeth Mr J. R. Davies, Treborth. —Pasiwyd penderfyniad yn datgan boddhad am adferiad iechyd y Pritathraw Edwards, a'i fod yn abl i lywyddu ei holl ddosbarthiadau yn ystod y tymhor diweddaf. Cyfiwyuwyd yr adroddiad gan y Praff Ellis Edwards, yn hysbysu fod 31 o fyfyr- wyr yn y coleg, a bod y Proff Gracie wedi cydsyn- io i aros yn athraw am un tymhor eto. Wele restr o'r myfyrwyr gwobrwyedig Trydydd flwyddyn: 1, D. S. Dakin T. W. Reese; Thomas Evans 4, John Thomas 5, J. H.Owen. Ail flwyddyn 1, J. Tudno Williams, B. A. 2, J. Gerlan Williams, B.Sc. 3, R. Morris, M.A. 4, R. Roberts; 5, E. Edwards; 6, J.Henry Davies 7, J. O. Williams 8, Edward Edwards; 9, A. T. Roberta 10, R. W. Jones 11, J. O. Jones 12, W. C. Williams 13, R. R. Hughes. Blwyddyn laf 1, Owen Ellis 2, E. W. Roberts 3, A. T. Jones 4, T. 0. Jones 5, John Evans 6, R. E. Joues 7, O. R. Owen: 8, J. Williams 9, W. C. Jones 10, E. P. Hughes; 11, R. O. Hughes 12, W. J. Roberts. Enillwyd yr ysgoloriaethau fel y canlyn 3ydd flwyddyn, ysgoloriaeth Pierce, 50p, D. S. Dakin rhodd teilyngdod o lOp yr un i T. W. Reese, T. Evans, J. Thomas, a J. H. Owen. Ail flwyddyn ysgoloriaeth Pierce, 50p, J. Tudno Williams ys- goloriaeth Roberts lOp, J. Gerlan Williams ys. goloriaeth R. Thomas, 5p, Richard Morris rhodd teilyngdod a lOp yr un i J. G. Williams, R.Morris, E. Edwards, J. H. Daviee, J. 0. Williams, E. Williams, A. T. Roberts, a 5p I R. W. Jones. Blwyddyn laf ysgoloriaeth Pierce, 50p, Owen Ellis; ysgoloriaeth J. R. Jones, lOp, E. W. Ro- berts; gwobr y coleg, 5p, A. T. Jones; ysgolor. iaeth Enoch Lewis, lOp, R. E. Jones rhodd teil- yngdod o lOp yr un i E A. Roberts, A. T. Jones, T. O. Jones, J. Evans, R. E. Jones, O. R. Owen, J. Williams, a 5p i W. C. Jones. Dyfarnwvd y wobr yn yr arholiad bugeiliol i R. Morris. Tra- ddodwyd yr anerchiad blynyddol i'r myfyrwyr gan y Parch Dr W. C. Roberts, New York. Arholwyd yr ysgol ragbaratoawl gan y Parch J. O. Thomas, M.A., Aberdyfi, a John Owen, M.A., Gerlan.
Meirion Feddw!
Meirion Feddw! DDYDD Mercher, cynaliwyc1 cyfarfod o Gydbwyll- gor Heddlu Sir Feirionydd yn Nolgellau, dan lyw- yddiaeth Dr Edward Jones. Darllenodd y Prif- gwnstabl ei adroddiad, yn dangos fod 52 wedi eu heuogbrofi am feddwdod yn ystod y chwarter di- weddaf, tnJ, nad oedd ond 28 yn y chwarter cyf- atebol y flwyddyn gynt. Ymddengys fod y cyn- ydd yn mhob rhan o'r sir, ac fod cryn lawer o yfed ar y Sul. Hysbyswyd fod elybiau wedi eu ffurfio yn Ffestiniog, a chan eu bod wedi eu sefydlu yn ol y gyfraith nid oedd gan yr heddgeidwaid allu o gwbl i'w darostwng. Datganwyd hyder y byddai i'r Pwyllgor Trwyddedol wneud ymchwiliad trwy- adl i'r achos gyda'r amcan o wella pethau. Syn meddwl fod sir y sasiynau a'r morwynion glan, fu'n cadw ei chymeriad mor wyn, yn dirywio mewn moes a sobrwydd.
:0:---YFWYR TE—DALIWCH SYLW.
:0: YFWYR TE—DALIWCH SYLW. Llwyddiant mwyaf tarawiadol y dyddiau diweddar yw Te Kardomah." Mae'r gymysgfa yn gyfryw fel y cyfunir bias Te yr hen amser gyda melusder y te a dyfir yn Cachar, Sylhet, Darjeeling, a Ceylon, acheir ei fod yn cynyrchxx cwpanaid o De o'r mwyaf blasus. Gwerthir gan Grocers ac eraill yn mhob man, neu yn y "Kardomah" Exhibition Cafe, 52a, Church-street, 46 a 48, Chxirch-street, a 131, London-road. Hefyd yn Nghaerdydd, Abertawe, Llundain, a Paris.