Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CWRS Y BYD.

0 F Bermo.

---:0:---J Ein Cenedl yn Manceinion.…

Gchebiaethau.

News
Cite
Share

Gchebiaethau. Y BWYTAWR PECHOD. SYR,—Darllenais eich nodiadau arweiniol ar y pwnc uchod yn Y Cymro am Hydref 31ain, gyda dyddordeb mawr. Gwyddwn fy mod wedi clywed son am y ddefod wrth gasglu llafar gwlad, neu fy mod wedi darllen am dani mewn llenyddiaeth Gymreig. Wedi chwilio a chwalu hen gofnodion llafar gwlad, cefais hyd i nodyn yn cyfeirio ati yn union fel y tybiwn, ac yr wyf yn sicr y bydd o ddyddordeb i chwi ac eraill a ymchwilient i'r hen arferion Cymreig, gael hyd i'r cofnodion hyn gan awdwr Cymreig glan gloyw. "Diodlas" neu Diodies y gelwid hi yn JNghymru. Ceir hanes am dani yn Drych yr Amseroedd, (argraph- iad Trefriw, 1820, sydd yn fy meddiant i). Yn tud. 42 dywed- Ymofynydd.—Galarus meddwl mor anystyriol oedd agwedd ein owlad yn y dyddiau tywyll hyny yn enwedig yn wyneb amgylchiad mor sobr a gweled un o flaen eu llygaid wedi myned drwy borth angeu i'r farn a thragwyddoldeb, a hwythau < eu hunain ar syrthio dros y geulan.-Mae'n gof genyf glywed fy nhaid yn son am rywbeth a elwid iJiodlas neu Diodles. A gaf fi glywed genyeh pa beth oadd hwnw ? Sylivedydd.-Pan ddigwyddai i ryw un farw mewn teulu, byddai rhywun tlawd a ddewisai y tenlu yn cael y ffafr o dderbyn y gardod ddedwydd hono, sef y Ddiodles. Y dull i'w rhoddi i'r tlawd oedd fel hyn anfonai y teulu gwpan at wneuthur- wr yr arch, i'w lliwio yr un Iliw a'r arch dau liw arferid ar eirch y pryd hyny, lliw du ar eirch rhai i wedi bod yn briod, a lliw gwyn ar eirch rhai sengl, a phan ddeuai dydd y claddedigaeth, wedi dodi y corph ar elor, cyflwynai penaeth y ty yr elusen goel-grefyddol i'r tlawd, sef torth fawr o fara da, a darn helaeth o gaws, a dryll arian yn blanedig yn y caws, a llonaid y gwpan liwiedig o gwrw, os byddai, neu o laeth, gan eu hestyn dros y corph i'r tlawd yntau a fendithiai, ac a. weddiai ya ddwys a difrifol gydag enaid y marw. Arferai yr holl deulu, y Sul cyntaf ar ol claddu, fyned ar eu gliniau ar y bedd, pob un i ddweyd ei bader. Ac ni choffasnt am neb o'u teulu na'u perthynasau, wedi eu marw, heb ddywedyd yn ddefosiynol iawn, Nefoedd iddo. Teifl yr hen ddefodau hyn gryn oleuni ar gyftwr gwlad, ac y mae Mr Hartland ac eraiil yn gwneud gwasanaeth mawr drwy eu hymdrechion i gael at eu gwraidd. Fel y gwyddoch, mae cryn amrywiaeth yn nulliau y cerid y ddefod allan, ac y mae cofnodion Robert Jones yn amrywio cryn lawer ar adroddiad Mr Matthew Moggridge, ac ychydig ar Leland. Ymddengys adroddiad awdwr y Drych i mi yn fwy goieu na'r un a ddyfynir genych chwi. Yn Hone's, Year Book, dywedir gan Aubrey The manner was, that when the corpse was brought out of the house and laid on a bier, a loaf of bread was brought out and delivered to the Sin Eater, over the corpse, as also a mazard-bowl, of maple, full of beer, which he was to drink up, and sixpence in money in consideration whereof he took upon himself, ipse facto, all the sins of the defunct, and freed him or her from walking after they were dead. (July 19). Dywed Laurence Howell yn ei History of the Pontificate fod yr arferiad wedi dechreu drwy gamddeongliad o Hosea iv. 8. Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu banwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon." Ni chaniata gofod nac amser i mi ymhelaethu ar y testyn dyddorol hwn. Digon yw dweyd fod rhai o'r hen ddetion hyn yn cylymu a rhwymo ein hanes a bore oes y byd. Y maent oil yn sylfaenedig ar resymau dyfnach nag a gydnabyddir yn gyffredin. Unwaith, ac am oesoedd, yn banes ein cyndadau, y maent wedi bod yn fynegiad gonest, ac yn attegiad grymus i ffydd oedd, os yn llai goleuedig, yn gyfartal, os nad yn rhagorach, mewn symlrwydd a chynes- rwydd i ffydd yr oes oleu hon. Yn y gwylnosau, yn yr arferiad o dori ychydig o wallt y marw, ac yn aberth y blodau ar Sul neillduol, yr byn sydd yn gwaghau'r trefydd ac yn llanw'r claddfeydd yn Neheudir Cymru y blynyddoedd hyn, yr ydym yn canfod yr un seremoniau a "arferid mewn amrywiol ddulliau yn Syria ac Arabia dair fil o flynyddau yn ol. Pwy yn gydnabyddus a'i Feibl a erys wrth Orsedd Beirdd ein Heistedd- fodau heb i adgofion llawer mil o flynyddoedd dd'od i'w feddwl ? Adgofion Gilgal, a'r deu- ddeg careg hyny," adgofion deuddeg careg allor Elias, &c., olion ein hen gyfathracb ynt, lawer ohonynt. Wnieatville, Rhyl. T. SHANKLAND.

Arholiad Cymdeithasfaol y…

Hei/vyddion Cyrnreig,