Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. Cynhauaf Liadron, MAE gan bob crefft ei thymborau o brysurdeb, a'r wythnosau hyn, pan yw'r dydd yn tynu ei gwt ato a'r nos yn estyn ei mantell, ydyw Cynbauaf Lladron. Mae llawer o son yn y papyrau am eu gwrhydri, eu beiddgarweh, eu medr, a'u lwc hefyd. Fel yr boll broffeswr- iaethaa, mae y gelfyddyd o Ladrata wedi ym- berffeithio ac ymddadblygu llawer y chwarter canrif diweddaf ac eleni, ymddengys fel pe byddai'r urdd ddigywilydd yn myn'd i ragori arni ei hun. Os dealla liadron y dyddiau hyn fod rhywbeth gwerth ei ddwyn yn rhywle, ac os bydd arnynt ei eisiati, maent yn sicr ohono trwy gam neu gymhell. Gallwn lanw tudalen hefo hanes eu castiau y tymhor presenol yn unig. Gwalch cyfrwys iawn oedd hwnw aeth yn ngwisg swyddog y Post i un o is-bostswydd- feydd Llundain i nol sacbaid o lythyrau ychydig fynudau cyn yr amser i'r gwir swyddog gyr- haedd. Fe lwyddodd fe gymerodd y sach, a bernir fod yr arian oedd yn y llythyrau yn werth rhai canoedd o bunau. Yn Birmingham yr oedd crydd wedi cael benthyg cwpan arian- her gwpan yn perthyn i urdd y Bel Droed— wedi cael ei benthyg i'w dangos yn y ffenestr, gan roddi gwystl trwm ar ei dyogelwch. Cauodd y cryddyn ei siop yn ofalus nos Sadwrn ond erbyn boreu Llun, yr oedd twil crwn yn y to a'r gwpan wedi ymadaw. Yn Llundain, yr wyth- nos ddiweddaf, y gwnaed y cast dyhiraf o'rcwbl. Siop arianydd, goleu trwy'r nos, twll yn y shytar i'r heddgeidwad yspio bob tro yr elai heibio fod y safe oedd gyferbyn-yn cynwys gwerth miloedd o bunan o dlysau, perlau &c.— yn ddyogel Iladron yn tori mewn, a chanddynt gyda hwynt lun gwyneb safe wedi ei wneud o bren, gwaith eiliad oedd symud y safe, i ystafell gefn i'w hagor a gwastrodi ei chynwys tra yr oedd yr eilun pren yn gwasanaetbu i gamarwain yr heddgeidwad. Ua engraipht arall, a dyma B'n darfod hefo'r geriach lawflewog. Yr oedd y chwareues Mrs Langtry, cyn cychwyn i'r Cyfandir am ei holidays wedi danfon ei thlysau, gwerth 40,000p, meddir, mewn bocs i ariandy i'w cadw yn ddyogel. Y diwrnod y dychwel- odd, wele genad yn y bore yn cyflwyno llythyr, penawd argraphedig a'r ysgrif i bob ymddangos- iad o wait h Haw y foneddiges gain, ac yn gofyn am y bocs. Rhoddwyd y bocs i'r cenad yn fuan daeth y gwir negesydd i ymofyn y trysor, a ehafwyd mai lleidr oedd y cyntaf. Hyd yn hyn y mae'n mwynhau ffrwyth ei athrylith an- on est. Er's talwm, y Diafol fyddai'n cael y bai gan ein hynafiaid am roi yn mhenau cnafon i gyf- lawni gweithredoedd drwg fel yr uchod. Diafol y Cymry, DDASFTT i chwi sylwi gyraaint gwahaniaeth sydd rhwng Diafol y naill genedl a'r Hall 1 Dyna Ddiafol y Sais fel ei portreadir gan Milton, archangel syrtbiedigydyw, mae'nffawr ac ofnadwy ar lawr yn adfeilioru Diafol y Germaniaid, fel y ceir wedi ei ddarlunio yn "Faust" gan Goethe, 'anghenfil trahaus, brwnt, ffiaidd. Tywysog condemniedig yn mysg tywysogion coll yn berwi a tuchan tan felldith boenus yw'r olwg geir arno gan Dante yr Italiad. Rhyw fath o gnaf dich- ellddrwg, trwstan, gwallgof, a chaenen o ddig- rifwch ar ei weithredoedd yw'r Diafol Cymreig. Yn y Bardd Owsg, mae'n ddigon amlwg mai dangos ei ddawn fel awdwr, a chyfoeth geiriol yr iaith Gymraeg ydyw amcan Ellis Wynne, ac nid ceryddu awdwr pechod, ac enyn casineb yn y darllenydd tuag ato. Ac nis gellir credu fod gan Oronwy Owen fawr o'i ofn, canys yn y Cywydd i Ddiawl o'i waith y mae'n cymeryd cymaint amser i'w ddarlunio a phe buasai yn son ond am dwmpath o eithin. Eb»i :— Od wyt hyll, ys erchyll son, Am danat y mae dynion Yn nghyrau'th iol anghywraint Clustiau mul (clywaist eu maint); Ac ael fel camog olwvn, Hyllaidd anfedrusaidd drwyn, A sgyflfant rheibus gweflfawr, Llawn danedd og miniog mawr Camog o en fel cimwch, Barf a gait fel ped fait fwch, A'th esgyll i'th ddwy ysgwydd, Crefyll c'yd ag esgyll gwydd Palfau'n gigweiniau gwynias. Deg ewin ry gethin gas. Ac felly yn y blaen. Nid yw diafol Goronwy lei y gwelir ond anghenfil cywrain ac afluniaidd, I ag y buasai yr hen frawd Barnura yn rhoi mwy am dano i'w ddangos yn yr America nag a rodd- odd am y Jumbo hwnw. Y mae Hiraethog dipyn yn fwy llawdrwm ar yr Hen Fachgen," canys wrth yr enw ysgafn yna yr adwaenid y "Gwr Drwg," yn mysg 12, ein cydgenedl, er mai bias ofregedd braidd sydd ar si geryddon yntau. Yn awdl ".Job," desgrifir '^atan yn dyfod. i'r addoliad ar ganol y fawlgan a Hylled oedd—hen ellyll dig, Gan barddu'r eigion berwddig Nwydau dig enaid y diawl Ddyrwygent ei fron ddreigiawl; Ei hen genngen a fu Diau agos i'w dagu. Chwyddai hon ei ddwyfron ddig Yn uifernol wyn ffyrnig. Haws iddo ef dyoddef dig Nadau y llyn damnedig Na sain mawl y Dwyfawl Dad A'i ddilyth bur addoliad, A gwyniau diefiig anian, Gwatwarai a gwawdiai'r gan. Yrna eto ni chawn y Gwr Drwg ond fel math o Synhyrfwr mewn addoliad neu yr hyn a eilw'r aeson brawler in church. Rhwng pobpeth, fe elir nad oeddwn yn mhell c fy lie wrth ddweyd diafol go ffeind sydd gan y Cymry rhagor O-PT,6 ercl?y11' a hygas sydd gan t eal°edd eraill. Gallwn ddweyd cryn lawer Yn rhagor am "Beelthab," y "gwdd"nad jl -Richard Jones o Lwyngwril yn hitio w am i enwi fo ond unwath mewn pen- 0(* '>' ond gwell tewi ar hyn< Cymry Lerpwl: eich sylw. YN y Ddarllenfa Gyhoeddus, William Brown Street, derbynir 29 o Newyddiaduron (Dyddiol gan mwyaf) sef wyth o'r 'Liverpool Mercury,' chwech bob un o'r 'Liverpool Post,' a'r Daily Courier,' dan bob un o'r Daily Times,' News,' 'Standard,' 'Telegraph,' a'r 'Freeman's Jour- nal;' un bob un o'r Daily Chronicle, 'Morning Post,' 'Manchester Guardian and Courier,' 'Pall Mall Gazette,' 'Journal of Commerce,' Birmingham Post,' Shipping Gazette,' Wes- I tern Press (Bristol), 'Sheffield Telegraph,' 'The Era,' 'Yorkshire Post,' 'Newcastle Chronicle, 'Scotsman, Glasgow Herald,' 'Leeds I Mercury,' 'Irish Times,' 'New York Herald,' 'Carnarvon Herald,' a'r 'Belfast News Letter.' Nid oes yn y rhestr hon, fel y gwelir, ond un papyr yn dal y cysyiltiad lleiaf a Chymru ac fe f. wyr pawb, a siarad mor barchus ag y gellir ) am dano, nad yw'r Caernarfon Herald' yn s cynrychioli dealltwriaeth Cymru. Pan gymerom i ystyriaeth y nifer aruthrol o Gymry sydd yn Lerpwl, ganoedd ohonynt yn drethdalwyr trym- ion, yr wyf yn meddwl y dylai'r pwyllgor roi dau bapyr dyddiol Cymru beth bynag ar y rhestr, sef y South Wales Daily News' a'r 'Western Mail.' Byddai hyn yn gymwynas fawr a ni yn y ddinas, canys nis gwyddom ond y nesaf i dditn am ein cydwladwyr yn mhen pellaf y Deheu- barth, byddai darllen eu papyrau yn fantais neillduol i ni ymgydnabyddu a'n cydwladwyr Deheuol, ac nid oes genym fath siawnsi wybod dim am danynt ond trwy gyfryngau fel hyn. Culni. MEGYS na cheir mewn llawer ty Cymreig ond darluniau o enwogion un enwad yn addurno'r muriau, ac na ddaw oddiar dafod ambell Gymro mewn ymddyddan byth enw ond un o'n "henwad ni," felly mewn ambell bregeth, ni ddyfynir ond o ddoethineb brodyr o'r un llwyth. Dywedai cyfaill wrthyf iddo fod yn gwrando ar bregeth Gymraeg nos Sul ddiweddaf yn un o addoldai Lerpwl, a nodwyd naw neu ddeg engraipht o bertrwydd brodyr o'r un enwad a'r pregethwr a dim un engraipht o gallineb brodyr o enwadau eraill. Dyna gulni yn magu culm. Prif Gymwynaswyr Cymru, MAE'R papyrau enwadol wedi codi pryf y rhaid iddynt redeg cryn lawer cya y gallant ei ddal. Beth amser yn ol, cynygiodd rbywun wobr i'r sawl a nodai enwau Prif Gymwynaswyr Cymru yn ystod yr haner can mlynedd diweddaf." Ac o'r tri chyfansoddiad ddaeth i law, y goreu, meddai'r beirniaid oedd yr un a roddai'r rhestr ganlynol Y Parch John Junes, Talsarn Dr Lewis Edwards, Oh-jo l)r T. C. Edwards, Mri Thos. Ellis ac 0. M. Edwards." Heb ddweyd dim un gair i geisio iselhau'r personau a nodir, gellir ar unwaith benderfynu ar ddau belli, sef mai dyn or Bala a Methodus a dynodd y rhestr allan, canys nid yw enwi Ceiriog a Talsarn ond tipyn o make-weight direidus ac i'r beirniad pwy bynag ydoedd gymeryd y peth fel joke,, a rhoi'r wobr fel mewn rasus mulod, i'r olaf. Ond yr wchw fawr dyma'r Tyst i glag y Methodus am ei sectyddiaeth, a'r Goleuad drachefn i glag y Tyst am ei sectyddiaeth yntau ac y mae'r ddau gyboeddiad defosiynol yn tynu gwalltiau eu gilydd yn arwinol cwbl deilwng o arddull newyddiaduron dienwaededig Caernar- fon pan na fyddo ganddynt neb arall i'w guro. Ni fynwn i ychwaith coffer feio'r papyrau enwadol, canys onid yn fath o body-guard, i'w enwad y gelwir y papyr newydd enwadol i fodolaeth. Cynadiedd Porthmadog. I DDYDDIAC Mercher a Tau, cyfarfu rhyw nifer 0 glerigwyr ac eglwyswyr Esgobaeth Bangor mewn cynadiedd yu Mhorthmadog. Yr Esgob Lloyd alywyddai, ac a draddododd araith ddigon r synwyrol—y Y fawr—ar y fwyaf fe ddichon canys fe ddechreuodd trwy ddarllen salm o Brophwydoliaetbau Dr Lloyd ar ddyogelwch yr eglwys yn ngwyneb rhuthriadau ei gelynion annuwiol; ac yr oedd ei arglwyddiaeth yn clwcian yn uchel iawn fod ei eiriau'r llynedd wedi eu cyliawni i'r llythyren. Am y gweddill o'i araith yr oedd yn bur ddiniwed-bron nior ddiniwed a'r areithiau dilynol, y rhai, gydag eithriad neu ddau, oeddynt ya peri i ddyn feddwl am Gymdeithas Lenyddol o Blant Gwlad Bu cryn lawer o son yno am ddiwygio'r Eglwys ond pensiwna, offeiriaid oedranus, penodiad math o gynghorau eglwysaidd yn mhob plwyf, a rhoi dewisiad o berson y plwyf fwy yn nwylaw'r plwyfolion eu hunain, fu dan sylw fwyaf. Rhaid i ddiwygwyr Eglwys Loegr yn Nghymru fyn'd yn is nk hyn cyn y gwnant ddim daioni. Dywedai'r hen Waenfawr mai o Yays Madog y cychwynodd Madog ab Owen Gwynedd allan i ddarganfod America ond llawn cyn belled ag y gall eglwyswyr Esgobaeth Bangor fyned o'r un lie yn eu hynt ynachwiliadol, a siarad yn fydol, fydd Inys Giftan-" (lest rownd y trwyn." Gwalfgofrwydd y Bel Droed- Y MAE'R clefyd hwn mor dost yn nghanolbarth Lloegr, Birmingham, a'r gymydogaeth, fel nas gall dynion yn eu llawn oe'dran ei wrthsefyll, a gadawant eu gwaith i fyned i'r ornest. Ac vn 01 llythyr sydd yn y Birmingham Mail, y mae athrawon yr Ysgol Sul mewn penbleth hefo'r plant, gan na fedrant mewn rbai manau gael ganddynt dalu dim sylw i'w gwersi yn y dos- barthiadau, gymaint y maent wedi ymgolli yn chwareuon y diwrnod cynt. 'Ryfedd yn y byd nid yw'r plant ond yn dilyn esiampl llawer o rai hyn. Oni cheidw Duw y wlad, Fe dripia llanc lie tripia'r tad.

[No title]

Llythyr Watcyn Wyn. 1

--0--Trengholiad ar gorph…

CYMDETTHAS GENHADOL LLUNDAIN.

-0-GWYL GERDDOROL CAERDYDD.

-0-RHEDEGFA'R PLESSRGYCHOD.

-0-RHYKELA.

-0-FM- AINTC A MADAGASCAR.

-0-""' DAEABGRYNFEYDD.

Y PEGWN GOGLEDDOL.

[No title]