Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET various parts of the o .qu, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of ares. Also larger houses at higher rents. (F H Q E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large andsmallHous To Let in various parts of the city and suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, ttc. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- nomically managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insuances effected. (F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged. TELEPHONE No. 1779. W. H. 14EVANAS & Co. AUCTIONEERS & VALUERS, 384a, 386, & 388, Stanley Roai, Kirkdale. HOUSEHOLD SALES conducted on Owner's JTTL Premises at fair and reasonable Terms. Valua- tions made for Probate Transfers, etc. References given. W. H. NEVANAS buy for prompt Cash whole or part of Household Furniture. Best prices given. The Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 999 ears' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers, in Garston, Kirkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the ,I)Calities.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES lis STOCK, Tool Makers, &0. METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STREE i2, Office and :8ocs-402 &; 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings Hot Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams' Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Bakers Ovep, Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, Boxes, Fire Bars, &c.; al sizes of Gate Runners, &c. -0_- TRADE MARK. 8s' £ 9i aaaaisioaa YFeMygipetii FawrGymreig TUAG AT BESWCH, ASTHMA, BRONCHITIS A holl Anhwylderau y Frest, y Gwddf, a'r Ysgyfaint. PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWOa PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH Ysgrifena y Parch. E. W. DA VIBS. Ton tre, yn ddiweddar Gallaf ddwyn tvstiolaeth glir i boblogrwydd mawr HUGH DAVIES'S COUGH MIXTURE, ac idderbyniad Iles neill- duol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd 'w werth yr adeg hon gyda'r haint Influenza.' Llanber's, Jan. 27, 1886. Dywed y Parch..T. E. OWEN 6 Y raae hen wraig yn Pentraeth. Sir Fon, yn dueddol iawn i beswdl ciled vn enwedig ar amserau rb"wl!yd._ Nid oes dim yn y ffordd o feddygi'daeth yn ei lleshau g"tal a'eh 'COUGH MIXTTTRF, Ei hunig gvsnr ar y ddaear, ebe hi. yw y Beibl a DAVIES'S ComJH MIXTURE.' Dywed Y Parch LL. B. ROBERTS, Caernarfon -Dan oc'Hain anwyd yn nychu -a'r lungs Yn rhyw lis? weithredu Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes 0 iechyd ddi-besychu Dywed D. JONES, Bethesda, Bangor:- Anwvl Syr,-Cef;tis rldwy botel 0 DAVIES'S ItF COUGR MIXTURE gan Mr. flushes, Druggist, yn ddiweddar, a dymunaf ddiolch i chwi am dano. Yr oeddwn vn dioddef er's misoedd oddiwrth Beswch a Diffyg Gwynt. ac wediti-eio pob moddion, ond vn aflwyddianus; ond yr wyf drwy eich meddyginiaeth apffael,edig wedi cael adferiad trwyadl, a gwnaf fy ngoreu i gymhell eich darpariaeth ar bawb sydd yn ddi- oddef oddiwrth anhwylderau yr Ysgyfaint.' Dywed Mr J. E. EDWARDS, Groes, Rhiwabon: Anfonwch botelaid o'ch Co ITOH MIXTURE ar unwaith. Da genyf eich hysbysu fod y botel- aid flaeuorol wedi gwneud lles mawr. PAROTOEDIG GAN HUGH DA.YIES, Chemist, H[HCHYNLlETH. Liverpool Agents -Williains, Chemis xxeyworth Street; Williams, Chemist, Granby Street Wynne Thomas, Chem- st, Keusingwa Wrextiam-Ur Hugh ^nwlands, Bridge Street. s nj Messrs GRIFFITHS & DAVIES; 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. :— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhanging. Uncier cloth i ng. Burs. —AND— Millinei y. In all these Departments will b, >nd the Newest and most Stylish Goods of the S n at moderate prices. yGRfFFfTHS & DAVIES, 393, Scotland Road. F XTEILWNG 0 SYLW PAWB. y CWYNIONY CLAF. J\ PA Beth yw ASTHMA Anadliad byr, brysiosr a llafurus. A oes rhagor nag un math o Asthma? Oes. dan—un yn barhaul, a'r Hall y 1 dyfod yn mlaen ar adegau. Celwir., cyntnf ya continual, a'r olaf yn periodical. Pa beth sydd yn achosi Asthma? Culhad, crebychiad a dirwasgiad y pibau meinion sydd yn arwain o'r corn gwynt. i'r ysjryfaint. Pa feddyginiaeth sydd wedi rhoddi esmwythad buan aneirif o bersonau a ddyoddefent oddiwrth Asthma, Bron- chitis, Peswch, Anwyd, E-iffyg Anadl, a'r Crygni ? BALSAM OF HONEY TUDOR WILLIAMS. GAN mai oerfel ac anwyd ydyw dechreuol achos pob clefyd yn mron, a diddadl fod miloedd yn myned t'r bedd yc anamserol o eisiau cael meddyginiaeth bwrpasol a phrydlawn Ymaflodd yr anwyd ynwyf mor ddisymwth a lleidr yn y nos, nes yn rnron ymdori gan beswch yn ddibaid, Lel) ond ychydig orhpwysdra, nes yr oeddwn %edt ciredu fy mod wedi fy nal gan y darfodedigaeth ac yn nghanol y boen dirdynol oedc: trwy fy nghyfansoddiad anfo ais am botelaid 0 'BALSAM OF HONEY" TUHOR WILLIAMS a chymerais tua llonaid llwy gawl ar unwaith, sef chwaneg na'r cvfarwyddjd oedd ar y botel a chyn tri munyri yr oedd y peswch wedi peidio i raddau annghyffredin. Cymerais yr oil o gynwysiad y botel, ac erbyn heddyw, yr wyf yn gallu diolch i'r Drefn Fawr, yn nghyda'r wybodaeth am y feddyginiaeth ddaionus hon, am fy mod heddyw yn ddyn iach. Ydwyf, yr eiddoch, yn hollol iach, ISAAC THOMAS. Dadganiad dymunol arall. i Bum yn ddyoddefydd mawr am un mlynedd ar ddeg odd wrth gaethdra, peswch, poeri gwaed. a tizyridra y frest: bum hefyd am bum' mlynedd yn cae] anhawsiier dirfawr i syrnuo o amgylch, ni allaswn gysgll na gnrwedd i lawr y nos laa'r dydd. Bum o -'an driniaeth feddygol am un mlynedd ai ddeg hefyd, bmll o dan driniaeth yn Yspyttai Hereford, Buxton, a Southport, ond y cyfan yn ofer. Dywedood y meddygou wrthyf na allvswn ddisgwyl gwellhad, gan fy mod yn 64ain mlwyd,l oed. Ar ol clywed cymaint o siarad am 'BALSAM OF HO>IEr T7DOE WILLIAMS rhoddais brawf arno, ac er fy gyndod da-fu i'r dogn cj-dtef- roddi rhyddhad ebrwydd i mi anadiu. r oedd poeri y gwaed o'r ysgyfaint yn Ueihau. Diflanodd y caethdra, fel Swyni gyfaredd, i bed«Tar gwynt y nefoedd, ac yn inhen ychydif wythnosau. drwy ddefnyddiad parhaus 'Balsam if rJ oney Tudor Williams, adferwydfl i fy iechyd daatfe (0,1 Ystyriwy! hi yn ddyledswydd arnaf i anfon i chw' y dystiola,eth hUII.- Yr eiddoch yn ddiffuant, Mrs EMEREV, 19 Coningsby Street, Hereford, 1Sfai 25ain, 1S90." Mae Miloedd o Blant wedi eu hachub o Farw laetl O'r Croup, Bronchitis, a'r Pâs, wedi pobpe-h arall fethu Y ffordd i brofi y peth ydyw profi drosoch eich hunain. 01 "¡.yna sydd yn feridigedig ni chewch eich siojBBji. Gwerthir 'BALSAM OF HONEY' TUDOR \VI:.J gan bob Kferyllydd drwy yr boll fyd. 1,1-wn costrelau, 2s 9c, neu trwy y llythyrdy YI1 rliad am Is 3c a 3s. Perch D. TUDOR WILLIAMS, R.D.S. Medical Hall, Aberdare. A A ii IPAPAYASNI STEAMSHIP 03MPAN*. LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMER Sail regularly to he LEVANT, BLACK SEA, KGTPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports, taking the following two routes alternately (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling ofte on the return journey at sevtral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Srain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRi- BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty well ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge living on board during ships'stay at Ports. Tourists and pleasure-seekers aking a trip by this Line » ill and it most enjoyable and interesting. For further partit; ars, apply to fAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpoo asig; LLINELL Y WHITE STAH. ROYAL MAIL STEAMERS. ROYAL MAIL STEAMERS. LF5RPWL I NEW YORK via QUEENSTOWN, EO DYDD MERCHER:— *MAJESTIC Hydref 2 GERMANIC Hydref 9 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith Pr\ y cludiad ydyw £7 ac £ 8. Y mae y Llongau rhago»ol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf 0 ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni cheh well cyfleasdra i fordatctiwyr. Am fanylion, ymofyner a R. Owen, Ship & In perance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a. R. Roberts, Bethesda; Owen E Parry, masnachydd llechi, ( wyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; W. M. Jones, Church Street, Llangefni R. G. Roberts, Rock Cottage, Craigiau Mawr, Ta ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. O. Williams, Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. C Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu lg ISMAY Implk & Co., 34, Leadenhall Street, Llundain, E.G., a Water Street, Lerpwl, 0 I I$i SERGE JACKETS 4/6* s"
Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr
Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr Gan GWILYM HIRAETHOG PENNOD XXXIII.—MR BYDOLDDOETHYN YN TRIIZ ACHOS MISS EVANS. YR oedd argraphiad newydd o'r cyfieithiad Cymraeg o Daith y Pererin,' gan John B unyar), wedi ei gyhoeddi tuaa; adeg yr helyntion a goffeir genyf a mawr v darllen oedd arno, a'r hyfryd- wch a geid yn ido gan grefyddwyr yn mbob man. Cyffelybent y naill y llall i un neu arall o'r cymeriadau a ddesgrifir yn y Ilyfr yr oedd gan bob eglwys ei Christion, ei Ffyddlon, ei Gobeithial, ei Deddfol, ei liydolddoethyn, &c. Yr oedd gtn yr eglwys yr ydym yn awr ar ei hanes y cymeriadau hyny yn pertbyn iddi a chan eu bod oil wedi myned i ffordd yr boll ddaear, ni fydd o un niwed i ni roddi eu henwau. Gelwid Thomas Evans (tad Miss Evans) yn Gristion; Wmffre Edward, o'r Fron, yn Ffyddlon Dafydd Tomos, y Rhiw, yn Gobeithiol; a'r hen frawd o'r Ty Celyn yn Dedclfol; a Harri Dafydd, Owm- bere, yn Bybolddoethyn. Yr oeddynt oil yn henafgwyr a gwyr ieuainc yr eglwys a ddodas- ent yr enwau arnynt, yn ol fel y barnent fod y naill a'r llall yn dwyn cyffelybrwydd i'r nod- weddau hyny yn Nhaith y Pererin.' Aeth nifer o'r gwyr ieuainc at eu gilydd ar ol y society y rhoddais hanes am dani yn y bennod ddiweddaf, i gynal committee bach ar y mater a daethant i'r penderfyniad o gael barn personol pob un o'r bynafgwyr ar y pwnc. Aeth tri neu bed war obonynt ar ol Mr Bydolddoethyn y noson hono goddiweddasant ef ar y ffordd a gofyn- asant iddo beth oedd ei feddwl o achos Miss Evans. Fy meddwl i ydi,' ebe ef, nad ydi hi ddim mor wirion ag y gnai hi wrthod priodi gwr byneddig fel Mr Watkin, os bydde fo mor wirion a chynyg iddi.' A ydych yn meddwl mai tro gwirion ynddo fyddai ei phriodi hi ?' Ie, tro na wnaethwn i byth mono fo taswn i yn 'i sefyllfa fo.' Pali am hyny f Wel, pa'm hyny ? Ond am y galle un fel y fo gael gwraig yn werth 'i miloedd, tae o'n ceisio a ff'wl ydi'r dyn a brioda lodes dlawd, mewn cymhariaeth, pan alle fo gael aeres stad fawr yn wraig. 'Does gen i ddim yn erbyn yr eneth, mae hi'n burion o'r peth ydi hi, mae hi'n perthyn i mi o bell, o ran hyny.' Wel, yr ydych yn meddwl y gnae hi dro call i'w briodi o, ynte ?' Wel, debyg iawn ond ydi'n hawdd i chi wel'd hyny tae ddim yn y'ch pene chi, mi fydde yn ffoJach na flolog tae bi'n gwrthod,—ond ni neith Mari mo hyny, mi gwranta hi, osceith hi'r cynyg, mae gormod yn ei phen i neud tro felly.' Ond beth feddyliwch chwi am ei chrefydd hi p9 bai hyny yn digwydd bod ?' pe bai hyny yn digwydd bod V Ei chrefydd hi Twt, nonsens, ydach chi'n mfirtdwl fod crefydd yn erbyn i ddyn ddal gafel ar fantes fel ene, os daw hi yn 'i ffordd o 1 Mae crefydd yn dysgu d'ledswydd pob un i fod yn gall i ofalu am 'i amgylchiadau gore fyth gallo fo wrth fyn'd trw'r byd yma.' Y(iyw,, ar lwybr cyfreithlon.' Llwybyr cyfreithlon yn wir Be fydde'n annghyfreithlon i'r eneth ene briodi'r gwr byneddig, os ceith hi gyntho fo V Wei, ni byddai dim yn annghyfreithlon iddi yn nghyfraitb y wlad, ond beth fyddai iddi hi sy'n proffesn crefydd i briodi dyn dibroffes a digrefydd fel Mr Watkin, yn ngwyneb cyfraith y Beibil sy'n beth arall. I Tydi cyfreth y Beibil ddim yn erbyn y fath beth, neu mae cyfreth y Beibil yn groes i gyfreth rheswm. Am dana i, mi gymra i afel ar bob cyfleusdra ga i, i wneud y gore alia i o'r byd yma, tros bothw i yntho fo fydd hi ddim gwaeth arna i ar ol i mi fyn'd ohono fo, ar y cownt hwnw, goelia i.' 0 helaethrwydd ei galon,' yr oedd yr hen greadur yn llefaru canys megys y llefarai y gweithredai. Nid ai byth i un man—i ffair na marchnad, na chyfarfod crefyddol, gartref nac oddicartref, nad oedd yn gwylio am gyfle i wneud bargen dda. Yr oedd felly wedi casglu cryn swm o arian. Pe digwyddai fod angen ryw swm o arian ar ryw gymydog, ac i Harri wybod hyny, ai ato i gynyg cymwynas iddo, trwy brynu anifail neu rywbeth ganddo, gan gymeryd mantais ar angen y truan i'w wasgu yn y pres, a'i brynu am llawer llai na'i wir werth ond er mwyn gwneud y cwbl bJb amser. Ie, y mae yn iawn yn wir,' ebe un o'r bech- gyn, 'i bob un wneud y gore allo fo o'r byd yma, fel y dywedwch chwi ond iddo ofalu am fod yn deg a chyfiawn.' "Does dim yn fwy teg a chyfiawn, goelia i,' atebai'r Bydolddoethyix, nag i ddyn wneud y fargen ora fyth fedro fo dan bob amgylchiad, wrth briodi a phrynu a gwerthu.' Bwrier,' ebe'r llall, fod gofynwr yn bygwth rhedeg arna i os na tbalwn swm dyledus iddo ar ryw ddiwrnod penodol, a minau heb fodd i'w gyfarfod o, a minau yn fy nghyfyngder yn dyfod atoch chwi i gynyg gwerthu buwch neu geffyl i chwi, am beth llai na'i wir werth, er mwyn cyfarfod a 'ngotynwr, am na chawn amser i wneud y goreu a allwn ohono, gan fod yr amgylchiadau yn gwasgu a chwithau yn gwrthod oni chaech ef am lawer llai na'i werth, beth y cyfrifwch chwi beth felly ?' 4 Mi cyfrifwn hi'n eitha teg i ti gad w'r anifail, os na byddet ti'n foddlon i mhris i, ac i minau gadw i'arian.' o Usuriaeth ac ocraeth y geilw y Beibl beth fel yna,' meddai'r bachgen. Surieth ac ocraeth, neu beth bynag y gel wir o, mae o'n beth digon teg a chyfiawn wrth bob rheswm,' meddai Harri. Yr ydych wedi myn'd oddiwrth y pwnc,' ebe un o'r becbgyn eraill, son yr oeddym am achos Mary Evans pa un ai fyddai'n iawn iddi hi sy'n proffesu crefydd briodi dyn digrefydd fel Mr Watkin, dyna oedd y pwnc.' Rydw i wedi setlo'r pwnc hwnw o'r blaen,' ebe Harri, mae synwyr pob dyn yn deyd bydde'n ffol ac yn bechadurus ynthi wrthod y fath fantes.' Ond bwriwch fod addewid priodas rhyngddi a rhywun arall,'atebai'r bachgen, 'a fyddai'n iawn iddi dori'r addewid hono, er mwyn y fantes ?' Bydde, tase hi wedi addo ganwaith, a bwrw 'i bod hi wedi cael gwell match,' ebe Harri ac ychwanegai, 'Yr oedd hen wr y Ty Celyn yn siarad fel ffwl heno. Ond 'roeddwn inau'n gwel'd rhywbeth yn y petbe oedd o'n ddeyd am :1 wisgo menig, a cbario umbrello hefyd—rhoi siampal ddrwg i hogie a hogenod yr ardal yma ydi peth felly mi fydd ar bob hogyn a hogen eisio menyg ac 1mbrello bellach, gewch chi wel'd balchder a gwastraff ydipeth felly. Mi roiswn inau fy Dais trost droi Mari Ifan o'r seiat am neud peth felly,' ac felly terfynodd yr ym- ddiddan. 'Doetbineb y byd bwn ydyw crefydd Harri i gyd,' sylwai un o'r bechgyn wedi iddynt ymadael 4g ef. 'Onid iawn y gelwir ef, Bydolddoethyn meddai un arall. Y mae Rarri yn fwy bydol na'r byd ei hun,' meddai y trydydd-'O'r byd y mae efe, am y byd y mae yn llefaru, ac yn y byd y mae ei galon.' Yr oedd crefydd Harri yn codi ac yn gostwng gyda'r byd bob amser os cai gynhauaf da, a phrisiau da ar yd ac anifeiliaid, byddai yn wresog iawn gyda'i grefydd. Ar y tymhorau hyn canai a'i holl egni, a'i law ar lechwedd ei ben, yn y cyfarfodydd crefyddol. Ni ddeuai yn agos i gyfarfod diolchgarweh am gynhauaf, pan na chaffai gynbauaf wrth ei fodd. Pan fyddai prisiau moch, a defaid, ac anifeiliaid eraill yn isel, byddai yntau yn ei stranks. Anaml iawn y gwelid ef yn y capel mewn un cyfarfod, ac ni cheid na chan na cheiniog ganddo, ac edrychai mor surllyd a bwch. Cafodd adnewyddiad go hynod ar ei grefydd ar ol hir ddirywiad felly un tro. Yr oedd wedi bod yn amser go galed ar ffarmwyr er's cryn dvmhor, a Harri yn methu gwneud bargen mewn dim. Yr adeg hono, aeth i ffair anifeiliaid oedd i fod yn y dref gyfagos un diwrnod, ac ar y ffordd goddiweddodd wr oedd yn myned a phedwar neu bump o fustych i'w gwerthu. Aeth yn ymddiddan rhyngddynt â'u gilydd ar galedi yr amser. Areithiodd Harri'n ddoniol ar y pwnc hwnw. Gofynodd yn y man beth oedd y gwr yn feddwl gael am y bustych. Hyn a hyn, fel a'r fel,' ebe'r gwr. Druan ohonoch,' ebe Harri, 'y mae amser y pris yna wedi myned heibio, ni welwch chwi mo hono fo h-ddvw, beth bynag, os gwelwch chi o byth. Mi'ch cynghorwn i chi i gadw'r bustych am dipyn eto, i edrych be ddaw.' 'Dyna ftiaswn i'n wneud,' ebe'r gwr, 'pe buasai gen i fodd; rhaid i mi eu pve: thu heddyw am hyny gaf fi.' Daliodd Harri ar y gair, a chynygiodd ar y bustych yn y man, ac wedi taeru am y pris- cytunwyd. Aethant yn mlaen i'r dref, talwyd ftixi y bastych. Deallwyd erbyn myned i'r ffair, bod amryw o brynwyr o Loegr wedi dyfod i'r ffair, a chryn ofyn am fustycb, a chodiad yn y pris. Gwerthodd Harri hwy drachefn, a gwnaeth ddeg neu ddeuddeg punt o brofit arnynt. Yr oedd cyfarfod crefyddol yn y eapel y noson bono aeth Harri iddo yn llawn bywyd a gwres. Nid oedd diwedd ar ei ganu, dyblai a threblai pob odl, ac ambell i '0 diolch' yn gymysg a'r gan. Yr oedd pawb wedi synu, ac artil un yn dweyd ynddo'n hunan, Wei, y mae Harri wedi gwneud bargen dda yn y ffair heddyw yn sicr ddigon,' ac felly yr oedd fel y dangoswyd. Druan oedd Harri. (I barhau).
Cynddelw a'r c Hen Deiliwr.1
Cynddelw a'r c Hen Deiliwr.1 [YMDDANGOSODD 'y llythyr canlynol hefyd mewn cysylltiad &'r Hen Deiliwr adeg ei gyboedd- iad gyntaf yn Y Tyst tua'r flwyddyn 1867, o waith yr ysgrifenydd doniol CYNDDELW.] PEIDIED neb a meddwl fod genyf fi gulni at yr alwedigaeth deilwraidd, nac at neb sydd ynddi, eto y mae rhai bodau rhyfedd yn eu mysg, er, yn ol yr hen air, fod "rhai da yn mysg pob sect felly caiff urdd y teilwriaid yr un fantais a rhyw urdd arall o bechaduriaid. Digwyddodd llyfr o hanes ymladdwyr ddyfod i'm Haw rhyw dro, ac yn eu plith yr oedd teiliwr Gwyddwn y. medrent ymladd mewn eglwysi, ymladd a diaconiaid ac & gweinidogion o'r blaen ond synais eu gweled yn mysg byddin y rhyfelgwff. Ffugenw y teiliwr hwnw oedd Knight of the Thimble, neu farchog y gwniadur. Yr oedd o yn ymladd yn dda iawn tra yr oedd ei wrth- wynebwr yn rhy feddw i sefyll ar ei draed, a'r llabystiaid yn bloeddio, Pwytha fo bob mod- fedd hernia fo bob eisionyn Ond pan ddaeth ei wrthwynebwr ato'i hun, a dechreu bonclustio, ffodd y teiliwr tan waeddi Mwrdwr Tua saith ugain mlynedd yn ol, yr oedd teiliwr hynod yn Llanerchymedd o'r enw Robin Wan, ac yr oedd Lewis Morris, yn ei afiaeth a'i ddrygioni, wedi gwneud litani, fel parody ar Litani Eglwys Loegr, i'w hadrodd yn y dafarn mewn cyfeddach. Gallwch weled wrth hyn nad oedd fawr o barch i Eglwys Loegr yn y wlad cyn cyfodiad Ymneillduaeth, a'i bod yn rheg ac yn watwargerdd gan oferwyr yn y tafarndai. Dyma engraipht o'r litani. Un fel person, gyda thoa eglwysig, yn dywedyd Rhag peintiau bychain sy'n y Llan, A Robin Wan y teiliwr, Gwared ni, &c., meddai y lleill, wrth gydateb y rhigwm Yn nyfnder y llygredd a'r halogrwydd yna y cafodd yr Ymneillduwyr Gymru chwech ugain mlynedd yn ol. Dyma deiliwr eto. Yr oedd hwn yn rhyw fath o bregethwr. Mewn awr o ryfyg a byr- bwylldra, galwodd ei hun yn was yr Arglwydd, a hyny er mwyn arbed ei groen pan oedd colie^ yn bygwth ei fonclustio. Adwaenid ef mwya«h fel Y Gwas." Llefaiai am draed merch pen- defig mewn esgidiau, cymalau'r morddwydydd,