Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

! CENEOLAETHOLDEB.

News
Cite
Share

CENEOLAETHOLDEB. Bu amryw wladgarwyr o alluoedd diam- heuol yn trafod y pwnc hwn yn ei amrywiol agweddau yn ddiwedda' Un ohonynt yw'r Parch. John Watson, M.A., o Eglwys Bres- byteraidd Sefton Park, Lerpwl, mewn Papyr a ddarllenodd gerbron Cymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl, yr hwn Bapyr sydd wedi ei argraphu ar wahan, ac a fydd yn fuan, gyda gweithrediadau eraill y Gymdeithas, yn nwylaw'r aelodau. Heb- law gweinidogaethu ar un o eglwysi lluos- ocaf a choethaf Ymneillduaeth yn y wlad hon, prin y rhaid ini ddweyd mai Mr. Watson ydyw Ian Maclaren" llenyddiaeth Seisnig, a bod ei nofei Beside the Bonnie. Brier Bush," wedi ei osod ar unwaith yn mysg awduron Seisnig mwyaf poblogaidd yr oes. Diangenrhaid hefyd ywchwanegu wrth y sawl a ddarllenodd y llyfr swynol hwnw mai Celtiad meddylgar a'i hysgrifen- odd-Celtiad Ysgotaidd, yn perchen y deall cryf a threiddgar sydd yn nodweddu ei genedl,a dawn nodedig wedi ei ddiwyllio gan I ddysgeidiaeth, sylwadaeth a phrofiad, i drosglwyddo ei syniadau i eraill. Beth ydyw Cenedlaetholdeb ? Mae yn gwestiwn hawddach ei ofyn na'i ateb, a'i I ateb yn nacaol nag yn gadarnhaol. Llawer cais a wnaed o dro i dro i'w ddarnodi ac efallai fod Mr Watson yn hapusach na'r un o'i ragflaeroriaid. Gallesid meddwl ar yr olwg gyntaf y buasai Gwaedoliaeth yn ddigon i asio cenedl wrth ei gilydd. Ond y mae'r Saeson, yr Ttaliaid, a'r Iancwys yn dra chenedlgarol ac yn nodedig o gymysg- ryw. Beth am Grefydd, ynte ? Feddyfethir y ddamcaniaeth hon gan genedlgarwch angerddol Germani, gan fod y naill haner iddi yn Brotestanaidd a'r haner arall yn Babyddol. Wel. dichon mai Iaith? Nid digonol iaith hefyd i roi cyfrif am ymlyniad pobloedd wrth eu gilydd, canys fe geir yn mysg cenedlgarwyr diysgog Switzerland un Ganton yn siarad Ffrancaeg a'r llall y nesaf ati Germanaeg, eto y maent yn Swis- siaid pendant. Nid yw byw yn yr un wlad ychwaith yn ddigonol, fel y ceir digonedd o brofion ond nid yr un mor darawiadol ag yn hanes Cenedl Israel-yr oil ohonynt yn Iuddewon at y craidd, er yn wasgaredig yn mysg holl genedloedd y ddaear. Fe welir mai gwaedoliaeth sydd gan un, crefydd gan arall, iaith gan y llall, a sef- yllfa ddaearyddol gan y pedwerydd—mewn rhai amgylchiadau yn cydweithredu mewn eraill, ni cheir ond un, ac ymddengys yr un yn fynych mor effeithiol a'r pedwar. Barn Mr Watson ei hun ydyw mai cyd- brofiad, cyd-ddyoddefaint, cyd-ymdrechu, cyd-orchfygu, sydd yn cydio pobl wrth eu I p gilydd ac yn eu gwneud yn genedl. Dyna I yn ddiau elfenau cyfansawdd ein cenedl ni, y Cymry yn nghyda hanes a llenyddiaeth hen a diweddar na fedd ond ychydig o genedloedd y ddaear, ac ystyried ein nifer, eu rhagorach- Yna daw yr awdwr at gwestiwn mawr ac ymarferol y pwnc, sef a yd yw cenedlgarwch o rhyw fudd i'r genedl ei hun neu i'r byd yn gyffredinol ? Yn nghyntaf yr ydym o ran cenedl yr hyn ydym, a phe dewisem nis gallem fod yn unrhyw genedl arall ac yn mhellach honir yma fod cenedlaethol- deb y sicrwydd penaf am heddwch eyffred- inol yr hil ddynol. Diffyg adnabyddiaeth neu gydnabyddiaeth o'r egwyddor hon a barodd luaws o ryfeloedd creulonaf y gan- rif, yn arbenig y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani. Yr adyn ffieiddiaf a mwyaf dir- mygus ydyw yr hwn a wado ei dad a'i fam, a brawd iddo ydyw'r hwn a wado ei wlad a'i genedl-y "Die Sion Dafydd," fel y galwn ni, Gymry, y llygwt penwan, "Nid yw," medd Mr Watson am y math yma o ddyn, IL yn chwanegu dim at werth y genedl Seisnig ac nid oes i'w genedl ei hun golled yn y byd ar ei ol." Dyma gyfieithiad o ddiweddglo'r Papyr rhagorol hwn ac anogwn ein darllenwyr i ymdrechu cael gafael ynddo a'i ddarllen yn fanwl ac ystyriol, gan wybod ei fod yn ymdrin yn fedrus a thrylwyr a phwnc o o ddyddordeb byw i bob Cymro a Chym- raes Peth mawr ydyw fod gan genedl ddrychfeddyliau (ideals). Ail beth pa un ai cenedl fawr ai bach ydyw, a pha un ai cyfoethog ai tiawd. WIadwriaeth mor feehan oedd G-roeg; wladwriaeth mor feehan oedd Rhufain-y wir Rufain wladwriaeth mor fechan oedd Juda ond dyna'r cenedloedd a wnaethant y byd. Y mae eich gwlad chwi [Cymru] tua'r un faint a Gwlad yr Addewid. Y mae eich gwlad, ar amcan, gymaint a'r ddwy wlad arall yn eu sefyllfa gynhenid— yn fwy, yn wir, na Rhufain. Y gallu sydd genych Y fath hanes genych o'ch hol-rbamantaidd a chref- yddol Beth mor ardderchog ydyw i dad ddysgu i'w blentyn pan yn ieuane enwau enwogion ei genedl yn yr amser aeth heibio, o'i Foses i'w loan Fedyddiwr- dweyd wrtho, am ddigwyddiadau mawrion gymerodd le yn hanes ei genedl, am groesi'r Mor Coch, eu crwydriadau yn yr Anialwch, eu caniadau o ymwared, eu halltudiaeth a'u caethiwed, a'u dyc-hweliad yn ol— gweithio'r^hanesion hyn megys i fed'dwl y bacligen, ei ysprydoli a'r dryehfeddwl ei fod ef yn rhwym o gadw'n ddyfal holl dda ei genedl yn y gorphenol, ed- mygu ei phrydferthwch gyda pharch beunvddiol, a llafurio a dyoddef fel y cynyddo ei genedl mewn gwy- bodaeth, cyfiawnder, a gwirionedd.

--0-Uwch Deml Seisnig Cymru.

I CWRS Y BYD.

Eisteddfod Lerpwl.