Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE. ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS, 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERlTPOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o 10s. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c., &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on ctpplication. CANEUON, &e. (Goreu'r Iaith, Dr. Parry, &c. Gwlad y Delyn [J, Henry], eyfaddas i bob llais. Is O Rwy'n Cofio (Sweet Memories) Tenor Is Gwlad y Canu is Hoff Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano neu Tenor Is Bwthyn yr Amddifad" Is Llyrhyr fy Mam. Sopraho neu Tenor Is Merch y Morwr Is j Merch y Ctdben. Baritone Is Cenwch im'yr ten ganiadau Is Hen Gadair Fawr fy Mara. Contralto, Baritone 6c OlPeidiwch toti'r Blodau „ Is Songs of Wales [bound] 4s post free O!Peidiweh toii'r Blodau is Songs of Wales [bound] 4s post free Dim ond Deilen Contralto neu Baritone Gd Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant, D. R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. F Eto ar y Blaen. T E R W ERIN.- TE A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. GLASLYN HOUSE, §5 9, Euston Square, Londo, N, W. o EVANS' | | TEMPERANCE HOTEL J 6 Most Central to all parts of London. i 1: ——— S" Close to Euston (L. & N. W. Ry.) fcq Station. Two Minutes walk from St. | Pancras (Midland Ry,) Station. Ten | Minutes train from Paddington (G. W. g j Ry.) to Gower Street Station for z Euston Square. Fare, ld. § Acldysgol- BEAUMARIS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL. HEAD-MASTER £ MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, A&SISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House. D Terms Moderate. Superior accommodation healthy and pleasant situation. SCHOOL RE-OPENS SEPTEMBER 17TH. APP*J HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS & GIRLS). HEAD-MASTER EDMUITD D. JONES, M.A. HEAD-MISTRESS Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. JAMES NISBET, L.R.A.M., Teacher of Piano, Organ, Harmony & Singing. Eighty Cartificates, Two Medals. One Book Prize, One L.R.A.M. Diploma, Three Eisteddfod Prizes gained by Pupils. 11, SPELLOW LANE, LIVERPOOL. DAVID V ILLIAMS, COAL MERCHANT, Best house and others oals always on hand. Office aid Yard- 199, C)ROWN STREET, LIVERP( C L. Residence—37, Kingsley Road. • » ephone No. 8535 THOS.JONES &Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 2/- per Th. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES'FREE ON AP PLICA TION. THOS JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: N ewyddiadur Cenedlaethol. Danfonir UN con yn ddidraul trwy y Post Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6 Telerau Hysbysiadau- Yn ol 3/- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6. —— o —— At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd LIun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher. Y Tafodieithoedd" yn ein nesaf. ^Tyrnog.—C&iff eich gofyniadau ar ystyr Clwyd a'i hafonydd ymddangos yn ein nesaf.
! CENEOLAETHOLDEB.
CENEOLAETHOLDEB. Bu amryw wladgarwyr o alluoedd diam- heuol yn trafod y pwnc hwn yn ei amrywiol agweddau yn ddiwedda' Un ohonynt yw'r Parch. John Watson, M.A., o Eglwys Bres- byteraidd Sefton Park, Lerpwl, mewn Papyr a ddarllenodd gerbron Cymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl, yr hwn Bapyr sydd wedi ei argraphu ar wahan, ac a fydd yn fuan, gyda gweithrediadau eraill y Gymdeithas, yn nwylaw'r aelodau. Heb- law gweinidogaethu ar un o eglwysi lluos- ocaf a choethaf Ymneillduaeth yn y wlad hon, prin y rhaid ini ddweyd mai Mr. Watson ydyw Ian Maclaren" llenyddiaeth Seisnig, a bod ei nofei Beside the Bonnie. Brier Bush," wedi ei osod ar unwaith yn mysg awduron Seisnig mwyaf poblogaidd yr oes. Diangenrhaid hefyd ywchwanegu wrth y sawl a ddarllenodd y llyfr swynol hwnw mai Celtiad meddylgar a'i hysgrifen- odd-Celtiad Ysgotaidd, yn perchen y deall cryf a threiddgar sydd yn nodweddu ei genedl,a dawn nodedig wedi ei ddiwyllio gan I ddysgeidiaeth, sylwadaeth a phrofiad, i drosglwyddo ei syniadau i eraill. Beth ydyw Cenedlaetholdeb ? Mae yn gwestiwn hawddach ei ofyn na'i ateb, a'i I ateb yn nacaol nag yn gadarnhaol. Llawer cais a wnaed o dro i dro i'w ddarnodi ac efallai fod Mr Watson yn hapusach na'r un o'i ragflaeroriaid. Gallesid meddwl ar yr olwg gyntaf y buasai Gwaedoliaeth yn ddigon i asio cenedl wrth ei gilydd. Ond y mae'r Saeson, yr Ttaliaid, a'r Iancwys yn dra chenedlgarol ac yn nodedig o gymysg- ryw. Beth am Grefydd, ynte ? Feddyfethir y ddamcaniaeth hon gan genedlgarwch angerddol Germani, gan fod y naill haner iddi yn Brotestanaidd a'r haner arall yn Babyddol. Wel. dichon mai Iaith? Nid digonol iaith hefyd i roi cyfrif am ymlyniad pobloedd wrth eu gilydd, canys fe geir yn mysg cenedlgarwyr diysgog Switzerland un Ganton yn siarad Ffrancaeg a'r llall y nesaf ati Germanaeg, eto y maent yn Swis- siaid pendant. Nid yw byw yn yr un wlad ychwaith yn ddigonol, fel y ceir digonedd o brofion ond nid yr un mor darawiadol ag yn hanes Cenedl Israel-yr oil ohonynt yn Iuddewon at y craidd, er yn wasgaredig yn mysg holl genedloedd y ddaear. Fe welir mai gwaedoliaeth sydd gan un, crefydd gan arall, iaith gan y llall, a sef- yllfa ddaearyddol gan y pedwerydd—mewn rhai amgylchiadau yn cydweithredu mewn eraill, ni cheir ond un, ac ymddengys yr un yn fynych mor effeithiol a'r pedwar. Barn Mr Watson ei hun ydyw mai cyd- brofiad, cyd-ddyoddefaint, cyd-ymdrechu, cyd-orchfygu, sydd yn cydio pobl wrth eu I p gilydd ac yn eu gwneud yn genedl. Dyna I yn ddiau elfenau cyfansawdd ein cenedl ni, y Cymry yn nghyda hanes a llenyddiaeth hen a diweddar na fedd ond ychydig o genedloedd y ddaear, ac ystyried ein nifer, eu rhagorach- Yna daw yr awdwr at gwestiwn mawr ac ymarferol y pwnc, sef a yd yw cenedlgarwch o rhyw fudd i'r genedl ei hun neu i'r byd yn gyffredinol ? Yn nghyntaf yr ydym o ran cenedl yr hyn ydym, a phe dewisem nis gallem fod yn unrhyw genedl arall ac yn mhellach honir yma fod cenedlaethol- deb y sicrwydd penaf am heddwch eyffred- inol yr hil ddynol. Diffyg adnabyddiaeth neu gydnabyddiaeth o'r egwyddor hon a barodd luaws o ryfeloedd creulonaf y gan- rif, yn arbenig y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani. Yr adyn ffieiddiaf a mwyaf dir- mygus ydyw yr hwn a wado ei dad a'i fam, a brawd iddo ydyw'r hwn a wado ei wlad a'i genedl-y "Die Sion Dafydd," fel y galwn ni, Gymry, y llygwt penwan, "Nid yw," medd Mr Watson am y math yma o ddyn, IL yn chwanegu dim at werth y genedl Seisnig ac nid oes i'w genedl ei hun golled yn y byd ar ei ol." Dyma gyfieithiad o ddiweddglo'r Papyr rhagorol hwn ac anogwn ein darllenwyr i ymdrechu cael gafael ynddo a'i ddarllen yn fanwl ac ystyriol, gan wybod ei fod yn ymdrin yn fedrus a thrylwyr a phwnc o o ddyddordeb byw i bob Cymro a Chym- raes Peth mawr ydyw fod gan genedl ddrychfeddyliau (ideals). Ail beth pa un ai cenedl fawr ai bach ydyw, a pha un ai cyfoethog ai tiawd. WIadwriaeth mor feehan oedd G-roeg; wladwriaeth mor feehan oedd Rhufain-y wir Rufain wladwriaeth mor fechan oedd Juda ond dyna'r cenedloedd a wnaethant y byd. Y mae eich gwlad chwi [Cymru] tua'r un faint a Gwlad yr Addewid. Y mae eich gwlad, ar amcan, gymaint a'r ddwy wlad arall yn eu sefyllfa gynhenid— yn fwy, yn wir, na Rhufain. Y gallu sydd genych Y fath hanes genych o'ch hol-rbamantaidd a chref- yddol Beth mor ardderchog ydyw i dad ddysgu i'w blentyn pan yn ieuane enwau enwogion ei genedl yn yr amser aeth heibio, o'i Foses i'w loan Fedyddiwr- dweyd wrtho, am ddigwyddiadau mawrion gymerodd le yn hanes ei genedl, am groesi'r Mor Coch, eu crwydriadau yn yr Anialwch, eu caniadau o ymwared, eu halltudiaeth a'u caethiwed, a'u dyc-hweliad yn ol— gweithio'r^hanesion hyn megys i fed'dwl y bacligen, ei ysprydoli a'r dryehfeddwl ei fod ef yn rhwym o gadw'n ddyfal holl dda ei genedl yn y gorphenol, ed- mygu ei phrydferthwch gyda pharch beunvddiol, a llafurio a dyoddef fel y cynyddo ei genedl mewn gwy- bodaeth, cyfiawnder, a gwirionedd.
--0-Uwch Deml Seisnig Cymru.
--0- Uwch Deml Seisnig Cymru. CYNALIWYD cyfarfodydd blynyddol Uwch Demi Seisnig Cy ru yr wythnos ddiweddaf yn Nhra- llwm. Ar y tri diwrnod cyntaf caed cyfarfodydd dirwestol yn Nghfistell Caereinion, Groes, a Threfaldwyn, a dydd Sul traddodwyd pregethau dirwestol yn y rhan fwyaf o eglwysi y dref a'r gymydogaeth. Traddodwyd y bregeth swydd- ogol yn y Neuadd Drefol gan y Brawd T. Webber, Caerdydd. Dydd LInn rhoddwyd croesawiad i'r cynrychiolwyr, ac agorwyd gweithrediadau'r undeb ddydd 3fawrtli, pryd y trafodwyd amryw o gwestiynau dyddorol. Yn yr Iiwvr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Drefol. Ddydd Merch er trefnwyd gor- ymdaith o demlau y plant a'r rhai mewn oed, a dydd lau terfynwyd y gweithrediadau gyda phleserdaith i Llanerchhndol. Cafwyd cyfar- fodydd llwyddianus iawn, ac yn mysg eraill a wasanaefchent yno yr oedd Mr LJew. Wynne (Birkenhead) a'r Capten G. B. Thomas (Caer- narfon). O Mae'r Melbourne Times yn rhedeg nofel drwy ei golofnau yr wythnosau hyn tan y teitl Welsh Princess or, as Gold is tried," gan Hedley Richards.
I CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Y Tad Mostvn. DDYDD Sadwrn, gyda holl rwysg a gorwychder seremoniol y grefydd Babaidd, urddwyd y Parch. Francis Mostyn yn Esgob, nen yr hyn a elwir yn Ficer-apostolaidd, Cymru. Cymerodd y dde- fod le yn Eglwys St. Mair, Birkenhead, lie yr oedd yr urddedig yn gweinidogaethu er's blyn- yddau a gweiriyddwyd hi gan y Cardinal Vaughan, a chan Esgobion Mwytbig a Mynyw, neu Menevia. Pe bai hyny o rhyw bwys, y mae Cymru wedi ei hesgeuiuso'n druenns gan Bab- yddiaeth. Fel y dywedasom o'r blaen yn y golofn hon. rhaid mai gafael gwan oedd ganddi ar Gymru cyn y Diwygiad Protestanaidd, onide ni chollasai hi mor llwyr yn y cyfwng hwnw. Syrth- iodd ei chrefydd-dai yn ebrwydd yn adfeilion, trodd ei hofLiriaid eu cobau clerigawl, neu ffoi- sant gan adael eu deade'loedd o ffyddloniaid i'w tynged fel y gwas cyflog hwnw y sonir am ('ano yn yr efengyl. Os Pabyddion oedd gwreng a gwerin Cymru cyn y Diwygiad, buan yr aethant ar ddisperod ac am wyr ucheldras a bonedd y wlad, cydymffurfiasant oil gydag ychydig iawn o eithriadau hefo'r grefydd newydd. Ac un o'r eithriadau hyny, "Mostyniaid Talacre," oedd hynafiaid y clerigwr a ddewiswyd gan y Pab i fod yn Esgob cyntaf Cymru. Canghen o Fostyniaid Mostyn ydyw teulu Talacre—palas a saif mown llanerch goediog rhwng Mostyn a Phrestatyn. Taflodd y ganghen hon o'r cyflf Mostynaidd yn amser Harri VII. .,7 Tad y Pyers Mostyn cyntaf o Dalacre oedd Risiart ap flywel o Fostyn, am yr hwn y traethir yr hanesyn canlymd gsn Pennant yn ei His- tory of Whitford and Holywell, tudal 57 :— Yn Mhlas Mostyn y mae ystafel1 fawr nodedig I am un digwyddiad hynod. Pan oedd Harri iarll Richmond yn cynllwyn dadymchweliad teulu York, byddai yn myned yn gudd o le i le er enill ffafr y Cymry ar gyfrif ei daid Owen Tudur, eu cydwJadwr. Tra yr oedd efe yn tario yn Mostyn, daeth nifer o wyr Risiart III. yno i'w ddal. Yr oedd Harri ar y pryd yn myn'di ddechreu ar ei giniaw, ond cafodd tua d'gon o amser i neidio allan trwy ffenestr gefn, a dianc trwy agorfg, a elwir hyd heddyw yn Dwll. y Brenin." Ymunodd Risiart ab Hywel, Arglwydd Mostyn y pryd hwnw, a Harri ar faes Boswrorth ac wedi'r fuddugoliaeth, rhoes y brenin, yn arwydd o'i ddiolchgarwch i Risiart ab Hywel, y belt a'r cledd a wisgai yn y frwydr bu hefyd yn daer arno am fyned gydag ef i'r llys ond ni fynai y I efe gydsynio gan aceb yn ngeiriau y Sunamees hono, Trigo yr wyf fi yn mysg fy mhobl Yr oedd y gwregys a'r cleddyf yn cael eu cadw yn Mhlas Mostyn byd o fewn ychydig flynyddau yn ol." Mae teulu Talacre yn dal perthynas trwy briodas gydag amryw o deuluoedd ucheldras Cymru a Lloegr; m"gys Salsbriaid Lleweni, Conwy Bodrbyddan, Morgan o'r Gelli Aur; Arglwydd Molyneux o Sefton, y Blundell o Crosby, &c., &c., a dyoddefodd rbai o hen barthynasau'r Esgob Mostyn ferthyrdod, medd- ir, tros y ffydd y mae ef yn ei harddel. Ar lawer cyfrif y mae'r penodiad yn un nas gellid yn hawdd ei well ac yn ngholofnau "Cwrs y Bycl" yr awgrymwyd gyntaf yn gyhoeddus enw'r Tad Mostyn i'r swydd. Heb- law ei dras Cymreig anrhydeddus, y mae ganddo Jawer cymhwysder arall i lanw'r swydd. Y mae'n ysgolhaig gwych, yn bregethwr effeithiol, yn gerddor mwyn a medrus. Bu yn canuliwer- oedd o weithiau mewn cyngherddaa cyboeddus fel aelod o'r Cambrian Choral yn Birkenhead, tan arweiniad Mr D. 0. Parry. Pa lwyddiant fydd ar y cais newydd deheuig bwn i "argyhoeddi Cenedl y Cyrr, ru -o'ti heresi Protestanaidd, nid yw yn anhawdd dyfalu ac edrych yn ddynol ar y mater. Y mae yn anes- boniadwy paham y gadawyd ein gwlad yn lIon- ydd gan Rufain cyhyd, ai yr iaith, yr anobaith o lwyddiant, neu beth a fu yn achlysur o hyny. Modd bynag, yn awr dyma Cardinal o waedol- iaeth Gymreig yn ben esgob Prydain a gwneir ymdrech deg i ddychwelyd y bobl yn ol at y grefydd a adawsant os gadawsant hi hefyd; fel y dywedid am rhyw frawd wedi cael cwymp oddiwrtb ras ?'' Yr ydym yn ddyledus am y darlun uchod i berchenogion y Catholic Times.
Eisteddfod Lerpwl.
Eisteddfod Lerpwl. UN mlynedd ar ddeg i'r wytbnos hon y cynal- iwyd Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. Yroedd, fel y dywedir, yn record Eisteddfod. Ar lawer o ystyron yn rhagori ar bob un a fu o'i blaen, os nad hefyd ar ei hol. Rhagorai ar ei rhag- flaenoriaid yn y drefn y dygwyd hi yn mlaen, canys dyma'r tro cyntaf i'r gwaith gael ei ranu i fath o is-bwyllgorau-Ilenyddol, cerddorol, cel- fyddydol, arianol, yn nghyda phwyllgor gweith- iol cynwysedig o gadeirydd, is-gadeirydd, ysgrifenydd, a thri aelod wedi ei etbol allan o bob un o'r pedwar pwyllgor ucbod, Yr olaf-yr executive-oedd y pwysicaf ond yr oedd gweithrediadau yr oil yn ddirym nes y cadarnheid hwy gan y Pwyllgor Cyffredinol. Eisteddfod 1884 oedd y gyntaf i gael ei gweithio