Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr

Cynddelw a'r I Hen peiliwr.'

News
Cite
Share

Cynddelw a'r I Hen peiliwr.' [YMDDANOOSODD y llythyr canlynol mewn cysylltiad a'r Hen Deiliwr adeg ei gyhoedd- iad gyntaf yn Y Tyst tua'r flwyddyn 1867, o waith yr ysgrifenydd doniol CYNDDELW.] WEL eto, hen hitrwm rhyfedd oedd f'ewyrth Robert, yr hen deiliwr a fu dan sylw o'r blaen. Ni ddywedais yr haner am dano; am hyny, goddeftrch un hanesyn eto. Yr oadd llabi o ddyn mawr castiog yn byw, driugain mlynedd yn ol, mewn tua thri chwarter milldir i drigfa'r hen deiliwr; a phob amser gyda'r blaenaf yn aflonyddu gorphwysfa ei ben gymydog penysgafn a diddichell. Adwaenid hwn, oherwydd ei fod yn uo o'r rhai mwyaf yn y wlad, wrth yr enw 'Morus Fawr.' Un tro, wrth fyned heibio ganol nos, cyflawnodd ryw wrhydri, nes 4codi yr hen deiliwr,' a ffwrdd a fo nerth ei draed tuag adref, a'r hen deiliwr yn trotian ei oreu yn ei grys ar ei ol! Cyrhaeddodd Morus y ty, a chauodd y drws yr oedd pawb yn cysgu yn dawel yn eu gwelyau, y tân bron a diffodd yn yr aelwyd, a'r crochan uwd yn y gornel ar y pentan, a'r gweddill uwd garw ac eisinog wedi sych-grasu ac oeri wrth ddisgwyl Morus o'i grwydriadau nosawl. Ar ben y bwrdd yr oedd cawgiad o enwyn yn dechreu suro, a llwy bren a phicyn, &c. Dyben neillduol yr enwyn oedranus a phrofiadol oedd dangos y ffordd ir uwd mynyddig i gylla Morus. A cbyda bod Morus yn dechreu llowcio yr uwd llygoer, wrth lewyrch canwyll frwynen, dyna'r ben deiliwr yn dechreu bombardio y ty. Pared coed oedd iddo felly yr oedd yn hawddach cadw swn wrth guro. Deffrodd hen wr y ty, cododd i'r ffenestr, a gofynodd yn chwerw ac awdurdodol pa beth oedd yn aflonyddu pobl yn eu gwelyau yr awr hono ar y nos. Yr oedd llais cadarn yr hen wr yn ddigon i ladd gwroldeb milwraidd yr hen deiliwr yn y fan, ac atebodd yn ostyngedig, 'Dim ond Morcyn a minau.' Gwelodd Morus le i siarad erbyn hyny, a gofyn- odd yn ddiniwaid, 11 b'le'r ydach chi'n mynd, f'ewythr Robert, yr amser yma ar y nos ?— dowch i mewn i gael share o'r uwd yma.' Der- byniodd yr hen symlogyn y cynyg yn union, a bu'r ddau yn cydwledda yn frawdol ar greifion uwd a llaeth enwyn, fel pe na buasai dim wedi digwydd Ond digon digalon fyddai hi ar yr hen deiliwr wrth ddychwelyd adref yn ei grys o'i frwydrau, ar ol i'w natur oeri ac i'r agerdd ostwng. Yr oedd hen deiliwr arall pur ryfedd yn byw rhwng Llangedwyn a Llanfyllin. Bychan o gorpholaeth, ond mawr mewn gwrhydri, oedd hwnw. Meddwi, cadw swn, a brwydro oedd ei hynodion. Yr oedd o yn feistr cated ar yr hen wraig a dyna fyddai ei chwyn wrth ei chym- ydogion, Rhaid i mi dewi pan fydda i'n dweyd y gwir.' Adroddid chwedl hynod am dano tua diwedd ei oes. Mal y dychwelai o Lanfyllin yn hwyr un noswaith, wrth groesi afon fechan y Stryt Isaf, tybiai ei fod yn gweled eog neu leis- iedyn yn yr afon cymaint agos ag ef ei hun. Gan fod y dwfr yn fychan, yr oedd cefn y pysg- odyn mewn manau allan ohono. Aeth i'r afon i geisio ei ddal, a bu yn hela ar ei ol am hir amsar, nes o'r diwedd yr aeth i lyn dyfn at glicied ei en yna brawychodd, gan gwbl gredu mai y diafol, yn rhith salmon, oedd yn ceisio ei ddenu i'r llyn i'w foddi? Os oedd y fall yn medru chwareu y fath stranciau efo'r teiliwr, gan ymrithio fel gleisiedyn i'w hudo i ddinystr, dylasai yntau, fel Ceridwen Wrach gynt, ym- rithio fel dyfrgi i'w hela a phe gwnaethai hyny y gelyn fuasai mewn mwyaf o berygl am- ei gorpws. Pa fodd bynag, yr oedd rhyw goll ar gyneddf- au y teiliwr, mae lie i dybied canys bu farw yn fuan wedi hyny, a buwyd yn taenu chwedlau fod ei ddrychiolaeth yn ymrithio i deithwyr ar y ffordd fawr, ac yn ymosod yn ffyrnig ar rai u'r hen gymydogion, yn rhwygo eu dillad, &e. Ni waeth gadael 'y ddau lwch gwael' yna yn llonydd bellach ond teg fyddai nodi fod son ar droed am gael hanee y teilwriaid yn llyfr cryno pan geir 4 nifer digonol' o danysgrifwyr fel y gellir ei rwymo yn gyfrol hardd mewn croen llo, gydag ymylau goreuredig Eraill a farnant mai doethach fyddai ei gyhoeddi yn bamphlet, i'w gydrwymo å banes Twm Sion Cati, Siencyn Pen- hydd, Twm o'r Nant,a bodau hynod o'r fath ond mae y pethau yna eto heb eu penderfynu,acmae'r awdwr yn hollol ddifater pafodd y try y fantol yn y diwedd.