Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Eisteddfod Cadeiriol Cwynedd.

DYDD IAU.

News
Cite
Share

DYDD IAU. Llywyddwyd gan Mr. R. Thomas, Y.H., Cric- cieth, ac wedi cael anerchiad ganddo aed drwy y rhaglen ganlynol:— Cân wynol gan Miss Gertrude Hughes. Amwisg weuedig Mary J. Williams, Pwllheli. Darlun o olygfa Gymreig Owen Jones, Criccieth, ac efe enillodd hefyd am y darlun o geffylgwedd. Cwpbwrdd tridarn: John Roberts, Llanys- tumdwy. Cyfarchiad barddonol gan Dyfed. Chwareu ar y berdoneg Robert P. Jones, Tal- sarn. Unawd contralto Catherine Price, Llandegai. Tair can at wasanaeth morwyr Beren, Pwllheli. Pedwarawd Mrs Henderson Jones, Penygroes, a'i pharti. Traithawd "Cestyll Cymru": Alfred Ivor Parry, Pwllheli. Cystadleuaeth corau meibion—' Milwyr y Groes a 'Nos Ystorm,' gwobr 15p. Ymgeisiai corau Llanberis, Nantlle, Ffestiniog, a Meibion Llifon (Groeslon, Arfon). Cor Ffestiniog, dan arweiniad Mr. Cadwaladr Roberts, yn oreu. Ni theilyngai neb y wobr gyntaf am wawl-lunio, ac ni atebodd yr ail a'r trydydd i'w henwau. Cyfarfod y Prydnawn. Llywyddwyd gin y Mil. O. J. Lloyd-Evans. Wedi cael anerchiadau'r beirdd, aed drwy y gwaith a ganlyn:— Rhiangerdd, "Meinir Meredydd." Rhoed y wobr o bed ,ir gini i Hywel Tudur, Clynnog. Cerfio ar bren W. E. Edwards, Caernarfon. Ni theilyngai neb y wobr am gyfaddasu yr enw Pwllheli i'r Saesneg, er fod 96 wedi ymgeisio, a rhai ohonynt wedi danfon enwau gwreiddiol iawn i mewn. Unawd baritone Alexander Henderson, Peny- groes. Traithawd ar "SaBe yr iaith Gymraeg yn addysg y genedl." Enillwyd y wobr o 5p 5s gan y Parch William Williams (Gwilym ab Gwilym). Deuawd Y Morwyr Richard Jones, Llan- frothen, a Gutyn Eifion, Lerpwl. Cystadleuaeth y Seindyrf, Gems of Cambria." Gwobr laf, 15p. 15s; ail, 5p. Ymgeisiai deg o seindyrf, ond enillwyd y wobr gyntaf gan Seindorf Gwirfoddolwyr siroedd Arfon a Chaer, a rhanwyd yr ail wobr rhwng seindyrf Colwyn a Dolyddelen. Pryddest, "Llwybrau Cyfiawnder Gwili, Coleg Bangor, gafodd y 7p 7s a'r bathodyn aur. Traithawd hanesyddol ar Ynys Eulli Glan Menai, Llanfairfechan. Yn nghyngherdd yr hwyr eymerodd y brif gystadleuaeth gorawl le, pan gynygid gwobr o 60p i'r c6r ganai oreu "We never will bow down a "Deisyfiad am y wawr." Cor Tanygrisiau, dan arweiniad Mr Cadwaladr Roberts, yn unig ddaeth yn mlaen, a chwbl deilyngent y wobr. Cymerwyd rhan hefyd gan Miss M. E. Jones, Miss Gertrude Hughes, Mr John Henry, Mr David Hughes, Mr Herbert Emlyn, a'r ymgeiswyr buddugol. Hys- byswyd mai Harry Williams, Trefor, oedd y goreu, a Thomas Evans, Trefor, yn ail am hollti llechi. Llywyddwyd gan Mr. Richard Roberts.

DYDD GWENER.

[No title]

Cynghrair Llandrindod.

o Byffryn Clwyd.

[No title]

Lleol

Advertising

Family Notices