Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE. ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS. 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c., &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEUON, &c. (Goreu'r Iaith, Dr. Parry, tc. Gwlad y Delyn [J. Henry], cyfaddas i bob Ilais. Is Gwlad y Canu Is Bwthyn yr Amddifad Is Merch y Morwr Is Cenwch im' yr t en ganiadau "Is O!Peidiweh toyi'r Blodau Is Dim ond Deilen 11 Contralto neu Baritone 6d O fiwy n Cono (Sweet Memories) Tenor is Hoff Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano neu Tenor Is Llyrhyr fy Mam. Sopraho neu Tenor 13 Merch y C ulben. Baritone Is Hen Gadair Fawr fy Main. Contralto, Baritone 6c Songs of Wales [bound] 4s post free Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant. D. R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. F Eto ar y Blaen. -TE-R,W ERI Nl TV. A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. t GLASLYN HOUSED 9, Euston Square, London, N,W. c EVANS' I TEMPERANCE HOTEL | 0 Most Central to all parts of London. 2 1 ¿5 Close to Eustoa (L. & N. W, Ry.) fcq Station. Two Minutes w., k from St. § Pancras (Midland Ry.) Station. Ten | Minutes train from Padding-ton (G. W. Ry.) to Gower Street Station for Euston Square Fare, lid. s 2 Addysgol- BEAUMARIS, GRAMMAR & COUNTY SCHOOL. HEAD-MASTER E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, ASSISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House. D Terrca Moderate. Superior accommodation healthy and pleasant situation. SCHOOL RE-OPENS EPTEMBER 17TH. Apply, HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SdHOOL FOR BOYS & GIRLS). HEAD-MASTER EDMUIID D. JONES, MA. HEAD-MISTRESS Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. JAMES NISBET, L.R.A.M., Teacher of Piano, Organ, Harmony & Singing. Eighty Certificates, Two Medals, One Book Prize, One L.R. A.M. Diploma, Three Eisteddfod Prizes gained by Pupils. 11, SPELLOW LANE, LIVERPOOL. DAVID VIILLIAMS, COAL MERCHANT, Best house and otheri oals always on hand. Office aici Yard- 199, OROWh STREET, LIVERPCCI. Residence-37, Kingsley Road. depnone No. 8535 T)IOS.JON ES &Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3, 1/7, and 21- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLIOA TION. THOS. JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL
Y CYMRO:
Y CYMRO: Newyddiadur Cenedlaethol. Danfonir UN COPI yn ddidraul trwy y Post Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6
Telerau Hysbysiadau-
Telerau Hysbysiadau- Yn ol 3/- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6.
At Ein Cohebwyr.
At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher. YSGRIFENA "Un oedd yno" ac "Un o'r lihos" feirniadaeth led lem ar rai o sylwadau Gomer Jones" pan yn sylwi ar etholiad diweddar checkweighman" yn nglofa Hafod y Bwch. Nid ydym yn gweled dim yn sylwadau Gomer sy'n galw am gerydd. Rhydd i bawb ei farn," ydyw hi gyda hyn fel pobpeth arall. Bydd yn dda genym glywed oddiwrth y ddau ar rhyw fater pwysicach.
CWLAD HEB WENITH.
CWLAD HEB WENITH. Os na ddaw rhyw gyfnewidiad yn fuan, bydd cae o wenith yn olygfa mor ryfedd yn y wlad a chae o ryg neu lin- Yr oedd y 0 ddau gnwd olaf i'w gweled yn ddigon mynych hyd i ddiwedd y ganrif ddiweddaf, ac yn wir yn lied bell i hon ond yn awr nid llawer o ffermwyr sydd yn abl i adwaen y ddau pan eu gwelant. Felly, yn ol ar- wyddion presenol bydd maes o wenith cyn y byddo'r ganrif nesaf yn hen iawn. Eleni yn ol ystadegau newydd eu cyhoeddi, y codwyd y enwd Ileiaf o wenith yn Mhrydain er pan y dechreuwyd cadw cyfrif ohono. Yn 1885, yr oedd 2.549,335 o aceri tan wenith yma yn 1890, 2,478,677; yn 1894, 1,979,300 ac yn 1895, syrthiodd i 1,467,000. Hyny ydyw, nid oes nemawr fwy na'r haner y gwenith wedi ei godi yn 1895 i'r hyn a godwyd genym bum' mlyn- edd yn ol. Neu agwedd ddifrifol arall i'r pwnc ydvw hon Bydd genym eisiau gwen- ith gartrcf yn ystod y deuddeng misdyfodol naw miliwn ar hugain o chwarteri, ac nid ydym ni ein hunain yn cynyrchu ar gyfer yr angen hwnw.ond pedair miliwn a thri chwarter o chwarteri. Rhaid i ni atforio y diffyg anferth o wiedydd tramor, lie y mae gwenith yn talu am ei godi Ystyr neu ganlyniad hyn ydyw, fod yn rhaid i'r wlad hon ddanfon yn flynyddol tros ddeng mil- iwn ar hugain o bunau, gan mwyaf mewn aur, i wiedydd tramor 1 dalu am nwydd y gallern ac y dylem godi llawer ohono o'n gwervd ein hunain. Ond tra y gorfodir yr amaethwr i gadw gynifer o segurwyr ni wiw disgwyl y gall gysladlu gyda'r ffermwr nad oes ganddo eglwys sefvdledig i'w chynal na thir arglwyddiaeth wastraffus i'w chadw. Tan y telerau hyn, a phris y gwenith o 23s. i 24s. y chwarter, pa ryfedd fod llai eleni o aceri tano nag oedd y llynedd o yn agos i haner miliwn, a bod y ffermwr yn troi ei sylw at ffrwyth mwy enillfawr, yn hytrach llai colledfawr ? Am rhyw yspaid, bu yr heidden a'r gerchen yn garedig wrtho, pan oedd ei hoff wenithen yn pallu. Yr oedd mwy o haidd eleni na'r llynedd o 71,000 o aceri er fod ei bris wedi gostwng haner choron y chwarter a mwy o geirch o 42,000. Fel y dywedwyd uchod nid oedd aceriaeth gwenith ond 1,467,000, tra yr oedd yr haidd yn 2,331,000, a'r ceirch yn 4.550,000, neu fwy na'r ddau gyda'u gilydd. Dywed rhai o'r athronwyr amaethyddol fod yr olaf yn talu'n well am dano ei hun na dim d arall hyd yn hyn. Felly, edrych yn ddigon tywyll y mae hi ar y dosbarth gwerthfawr on cydwladwyr sy'n trin y ddaear ac nid yw yn hawdd gweled o ba le y daw'r ymwared. Fe ddichon y ceir *Mesur Tir yn mhen ychydig flynyddau ond os yw'r amaethwyr yn disgwyl Mesur Tir teg gan Senedd o dir- feddianwyr Toriaidd fel y bresenol, maent yn fwy hygoelus na'r adran ohonynt y daethom ni i gydnabyddiaeth a. hi. Na, nn fe ofala'r Senedd bresenol na cha'r meistr tir na'r stiward, na'r person na'r esgob, ddim cam oddiar law'r ffarmwr, beth bynag. Bu ambell i ffarmwr y gwyddom am dano yn bur selog, ac ambell un arall yn bur gyfrwys, gyda rhoddi ei bleidlais i Doriaid, gan goelio eu geiriau teg a ffals y byddai iddynt hwy wneud i'r anial flodeuo fel y rhosyn. Gobeithio fod y cen wedi syrthio oddiar lygaid y ffermwyr hyny. Cymhorth iddynt i gofio na chawsant fantais yn ybyd gan y blaid hono yn ystod yr haner canrif diweddaf ond a fyddai yn gyntaf ac yn benaf yn fantais i'r meistr tir. Cawsent fwy yn yr amser aeth heibio gan y blaid Ryddfrydol oni buasai am y tirfeddianwyr a berthynai iddi ac y mae'r cawl Gwydd- elig yma wedi gyru y rhai hyny bron oil i chwyddo "cyfeillion y ffarmwr," fel y galwent eu hunain cyn pob etholiad. Y mae degau o ffermydd yn neheubarth Lloegr yn myn'd yn wylltion o ddiffyg tenant i'w trin ond rywsut, rywsut ar hyd breichiau," fel y dywedir ac yn ngwyneb y ffeithiau a nodwyd uchod, os na ddaw ymwared buan o rywle bydd yn ddigon hawdd cael ambell i fferm yn Ngljymru am y nesaf i ddim ardreth. Disgwyl 'rwyf ar hyd yr hirnos, Disgwyl am y bore ddydd Disgwyl clywed pyrth yn agor, A'm cadwynau'n myn'd yn rhydd 0 na wawriai Bore hyfryd jiwbili. Clywsom y geiriau uchod yn cael eu han- adlu megys yn yr addoliad eyhoeddus fel profiad y truan trallodus ond gobeithiol gwelsom hwy ar gareg fedd yn mynwent Llandegai, fel wedi eu gosod ar dafod y marw a gellid gyda llawn cymaint priod- oldeb eu defnyddio i ddatgan deisyfiad am- aethwyr helbulus ein gwlad yn y blynyddau hyn. Ac wedi'r cyfan, drychfeddwl annghys- urus ydyw fod Prydain Fawr yn dibynu am bedair ran 0 bump 0 ddeunydd ei bara beunyddiol ar wiedydd tramor a phrudd- ach fyth mai lleihau yn gyflvm y mae'r cynyrcQiad yn y wlad hon. Pan ddiflano y meusydd gwenith fe gollir un oolygfeydd gogoneddusaf Ynys Prydain a phan y rhaid i genedl atforio rhan mor bwysig o'i bywoliaeth y mae beunydd mewn perygl i rhyw elyn atal yr adnoddau.
O Ail Agoriad Coleg Bangor.
O Ail Agoriad Coleg Bangor. OIIERWYDD fod cyfarfodydd cyntaf colegawl Prif- athrofa Cymru i'w cynal ar yr wythnos sy'n dechreu Medi 30, nis gellir ail agor Coleg y Brif- ysgol Bangor, fel yr hysbyswyd ar y rhaglen, hyd ddydd Mawrth yr wythnos ganlynol, sef Hydref 8fed, pryd y traddodir yr anerchiad agoriadol am dri yn y prydnawn.
[No title]
0 Adeiledir neuaddau newydd yn Nhreffynon gan Gynghor y Rhanbarth. Costiant 3,500p, ac y maent i fod yn barod yn mhen y mis.
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Pererinion yn Llandrindod, EBE Christmas Evans un tro wrth ei gyd-Fed- yddiwr selog o Lanllyfni, a'i gymydog y pryd hwnw, Rhobert, os yn ceisio dal ceffyl wedi gwylltu mewn cae, ai myn'd yno byddi di tan glecian dy chwip, a chyhwfan dy bet, a chodi dy freicbiau ar led, a gwaeddi Bw Nage, debyg ond hefo flfetati a tbipyn o geirch yn dy law, a chan arfer geiriau mvvynion. Felly byddi debyca o lwyddo. Ac os am argyhoeddi eraill i'r un farn a thi, bydd yn addfwyn ac yn bwyll- og dena bwy a, geiriau mwynion rbeswm, a beth bynag a wnei paid clecian dy chwip arnynt a'u bygwth." Gresyn na fnasai Mr Lloyd George yn ar- graphu geiriau doethion efengylydd mawr ei enwad ar ldch ei galon, ac yn gweithredu yn eu bol yn yr anercbiad a draddododd yn Llan- drindod yr wythnos ddiweddaf. Pe yn or- awyddus i gadw Cynghrair y Deheudir rhag ymuno a, Chynghrair y Gogledd, ni buasai fodd iddo gyrhaedd ei amcan yn fwy effeithiol na chyda'r geiriau bygylog a ddefnyddiodd tuag at ei gyd-Ryddfrydwyr o'r Debeubarth. Yr oedd ef, meddai, wedi blino yn teitbio i'w cyfarfod, wedi diflasl1 ar golli arian ac amser i ddyfod i gynadleddau, ar benu a thori oed, ac yn bygwth myn'd yn mlaen heb yr anffyddloniaid, a geiriau chwerwon cyffelyb, a barai i bawb wyddai am yr alegori Gnstmasaidd feddwl am dani, a cban- fod mor dra thebyg oedd yr A.S. tros fwrdeis- drefi Arfon yn Llandrindod ddydd Iau i'r dyn hwnw yn clecian ei chwip ac yn gwaeddi Bw!" A drwg genym orfod tynu un casgliad an- ocheladwy oddiwrth yr amgylchiad, sef na fedd Mr George fawr un cymhwysder arweinydd llwyddianus. Areitbydd parod, lluniwr braw- ddegau miniog, traddodwr hyawdl-nid anfyn- ych y ceir y nodweddion gwasanaethgar hyn mewn dyn amddifad o anhebgorion tywysog— un yn tywys. Pa un ai Cynghrair y Deheudir ynte'r criw sy'n galw eu hunain ar yr enw cbwyddedig Cynghrair Cenedlaethol Rhydd- frydwyr Cymru sy'n iawn yn y cyfwng presenol, efallai nid yw mor hawdd dyfalu canys dylid cofio mai un oclir i'r ddadl a gawn ni yn y newyddiaduron. Mae'r wasg wedi cael ei "jerrymandro" yn gywilyddus gan flaenoriaid yr acbos. Ond y mae un peth yn ddigon amlwg, sef fod Cynghrair y Deheudir yn deall eu gwaith ac yn dechreu ei gyflawni yn ddeheuig. Nid cyrchu yma ac acw i bwyllgorau, a chablu pawb nad ydynt yn ddigon penwan a segur i fyned yno i'w cyfarfod sydd eisiau, ond cael gan Ryddfrydwyr yn eu gwahanol gylchoedd gym- eryd y mater mewn llaw; ffurfio pwyllgorau, ac iddynt hwy, os mynant, ffurfio Cynghrair Cenedlaethol ac ethol ei aelodau. Dytia, yr ydym yn deall, a wna Rhyddfrydwyr y Deheu- dir. Gwallgofrwydd y Bel Droed. YR wythnos ddiweddaf, yr oedd llogwyr llafur yn Birmingham a'r gymydogaeth mewn pryder a helbul gan fod eu gweithfeydd yn sefyll,—y dwylaw oil wedi myn'd i wel'd ymrysonfa Pêl Droed a dydd Sadwrn, gan na chai dyn o'r enw Powell ganiatad ei feistr i fyn'd hefo'r dorf, ym- grogodd-gan ddweyd trwy y weitbred nad oedd bywyd ddim gwerth heb yr olygfa ar Gicio Pel Droed. Rhoddir pob cefnogaeth i'r gwallgof- rwydd gan y wasg ddyddiol, a megir miloedd o gamblwyr & pbob math o scowndreliaid gan y cyhoeddusrwydd a roddir i weithrediadau haner ffyliaid a haner cnafon. Dywedir nad peth an- arferol ydyw gweled deng mil o bobl yn llygad- rythu ar un o'r ymdreebion yn Everton ar bryd- nawn Sadwrn-llawer ohonynt yn Gymry, yn broffeswyr, ac ambell flaenor a phregethwr, fforsyth. P'le mae Owen If an nad edrychai ar ol pobl fel hyn ? Y Diafol yn chwareu Cardie, UN o Suliau y mis diweddaf, aeth chwech o lafnau Owm Rhondda i goedwig i chwareu cardie. A pban yn nghanol eu hafiaeth, dyma wr byneddig dyeithr yn ymddangos yn sydyn yn eu plith. Yr oedd golwg pendefigaidd arno -ffroe cot, het silc, scitshe melynion ac aeth yn fuan yn wen o glust i glust wrth wel'd y bechgyn yn chwareu, a phan ofynodd a gai yntau chwareu, nis gallent oherwydd yr olwg swynol a hudolus oedd arno, ei wrthod. Prin y rhaid chwanegu ei fod yn eu curo bob tro- deuai y Brenin a'r Frenhines at ei alwad fel pe buasai yn Simon y Swynwr. Yn ebrwydd yr oedd llogellau'r llanciau yn wag ac yn union ar ol hyny dywedodd y dyeithryn fod ganddo bwyntiadau eraill, a diflanodd mor sydyn ac y daeth. Nid yw'r llanciau yn bwriadu chwareu cardiau eto o leiaf ar y Sul; oblegyd nis gellir perswadio yr un ohonynt nad y cythrel oedd y gwr boneddig ac y maent yn benderfynol na chaiff yr Hen Fachgen byth ond hyny gvfleu i'w twyllo a'u hyspeilio hwy hefo cardiau. Hai lwc Os felly, fe wnaeth y diafol waifch da am un- waith a bendith ddianmheuol i Gwm Rhondda a llawer cwm arall a fyddai i haner cant o ddeifl ymweled a hwy, a rhoi ias o ddychryn yn nghalonau adynod cableddus, Cloch eisiau tynu'i thafod. O'R un natur a'r caseion uchod ydyw cloch eglwys yn tincian yn ystod yr oed fa. Mae elychau, hwyrach, yn angenrheidiol mewn rhai manau yn y wlad i ddweyd ei bod hi'n Sul, ac i ddweyd fod hi'n bryd myn'd i'r Llan ond cas- beth gwrthun ydyw mewn tref, ac mewn eglwys y byddo capel Ymneillduol gerllaw ac oedfa'r capel yn dechreu cyn y gwasanaeth eglwysaidd. Nos Sul diweddaf oil darllenai pregethwr yn bwyllog: A bu ynghylch (tine) wyth niwrnod (tine) wedi y geiriau hyn (tine), gymeryd ohono ef (tine), Petr ae loan (tine) ac Iago (tine), a myned (tine)," ac felly yn mlaen ar byd y ben- nod nes oedd pob gwrandawr yn llidiog drwy- ddo, ac yn barod i ddeisyf yn ngeiriau yr hen