Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
----____-Gwreichion.
Gwreichion. H YR Orsedd v. Cowlyd Mewn ymddyddan ag ysgrifenydd Eisteddfod Llandudno, yn ol y Man- chester Guardian, dywedai y Prif-fardd Pendant pe buasai Pwyllgor Eisteddfod 1896 wedi gofyn iddo ef y buasai yn rhoddi ei ganiatad i newid mesur y Gadair; ac heb ei ganiatad nad oedd gwaith yr Orsedd yn Llanelli ond ofer.' Felly Mwy yw Cow lyd na'r Orseld If Yr oedd Mr Wynne wedi byw flynyddoedd gyda gwraig o Scotland, ac wedi myned mor debyg i Scotsman nes y meddyliodd gwraig maelfa yn Mangor y dydd o'r blaen mai Sais pur oedd yn gofyn How do yon svll the philberts, Mrs ?' 1/- a pound, sir,' ebe hithau. 1/- a pound that is a very dear price, isn't it ?' ebe yntau yn bur wy- bodus, pryd y daeth y ferch i mewn ac a ddywed- odd yn Gymraeg wrth ei mham, Nage, mam, 8c y pwys ydynt, ac fe dalent yn iawn pe baeck chi ddim ond cael 6o.' Burstiodd y Scotsman Cym- reig allan i chwerthin yn galonog, ac aeth allan heb yr un gneuen, ond yr hon a graciodd y ferch IT Y crochan u, d. Yr oedd gwraig Cefnbran wedi rhoi y crochan uwd oedd wedi ddarparu ar gyfer swper y teulu i oeri y tuallan i'r drws, ond erbyn iddynt noswylio yr oedd gweilch direidus wedi dyfod heibio a chrogi y crochan yn y pren deiliog yn nhalcen y ty, er mawr ofld i'r teulu lluddedig. lir chwilio pob twll a chornel, methas- ant ddod o hyd i'w swper, a gorfu iddynt fyn'd i orphwys y noson hono, pan oedd reitia am dano, heb yr uwd. Gwaeth na'r cwbl, fe gollwyd y crochan, a rhoddwyd y bai ar y tramps. Tl Av ddamwain, yn mhen y pythefnos, pan oedd un o'r bechgyn yn lluchio ceryg at wiwer yn y pren, dychlamodd ei galon wrth ganfod y crodhan colledig yn crogi yn ei frig, pryd y rhedodd i'r ty i hysbysu ei dad a'i fam. Pan glywodd y tad, 0, diolch.' ebe fe, diolch byth Nid y tramps ar ol y cwbl, ond dipyn o ffriks y cythrel, yn siwr i chi, am i ni beidio talu y degwm. Mi dalwn foru nesa, Marged.' IT Dywedai Miss Roberts wrth facngen y lletrith y boreu o'r blaen, Ydi dy feistr yn rhoi dw'r yn y llefrith, dywed ? mae o yn dene iawn, heb yr un mymryn o hufen,' Nac ydi wir, mam all neb ddweyd hyny am mistar herwydd mae o'n rhoi dw'r yn y canie y nosweth gynt, ac yn tywallt y llefrith iddynt yn ffres o'r tuches bob boreu. 'Rydw i yn dyst o hyny. I 'Purion,' ebe Miss Roberts, 'raid i chi ddim galw yma ond hyny.' It Yr oedd y dosbarth yn darllen yn Sctlm cxxix., ac wrth ymdrin a'r geiriau, Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tyner ef ymaith ar hwn ni leinw y pladurwr oi law, na'r hwn fyddo'n rhwymo ei ysgubau, ei fynwes,' dywedai John Pirs, Pwy erioed gymodd ei bladur i ladd llyiau pen tai ? 'Tydyw llysiau pen tai, mwy na'r annuwiolion, ddim gwerth i'v/ cynull ond i'w llosgi. Dyna feddwl y Salmydd, ddalia i.' If Yr oedd gwr boneddig yn y wlad yma er's talm oedd yn ffefryn aeillduol yn mhlith y bonedd- igesau, a mawr y cipris oedd yn eu meddyliau cyf- rin pwy a'i cawaai yn wr ond ar ddamwain, pan gyfarfyddodd dwy o'i anwyliaid, gofynai y naill, Glywsoch chi ? y mae Mr Eye wedi cynyg ei hun i Miss Williams y Fedw Hy ebe y llall, yn ffroenuchel ryfeddol, Y mae wedi cynyg ei hunan i minau, ond 'doeddwn i ddim yn myn'd i daflu fy hun i ddyh a. choes gore IT Y mae hynyna yn galw i'm cof mai y str6c oreu a wnaeth Mr Rowndell Palmer (diweddar Iaril Sdlborne) yn ei fywyd oedd pan oedd yn am- ddifiyn gwr mewn achos o dor amod priodas, ac ar ol i'w wrthddadleuydd wneud angyles o'r wraig nes llwyr enill ffafr y rheithwyr, cododd Palmer ar (i ol ac a ddywedodd, Y mae fy nghyfaill, wrth osod ger eich bron gyfres orwych o rinweddau a rhagoriaethau y foneddiges brydweddol, wedi an- nghofio dweyd fod ganddi goes bren.' Aeth hyn ag anadl y rheithwyr am y foment, a symudodd y goes bren eu ffafr yn llwyr i du yr amddiffynydd Peth mawr ydyw cael bod yn weddol gyfa yn yr hen fyd yma. jl Y mae anfon ysgub yn rhodd i gwpwl newydd briodi yn eithaf priodol, ond y mae anfon y penill yma gyda hi, fel y gwnaeth rhywnn yn y De, yn athrod ar y gwr :— Defnyddiol iawn yw'r anrheg hon Ar dywydd teg a chroes; Y sgubo'r llawr yn lan a'r pen, Ac weithiau'r gwr a'r goes, CYFARWYDD, -0-
Cyfarfod Misol Liverpool.
Cyfarfod Misol Liverpool. Y MAE gweithrediadau C. M. Medi yn benaf fel y canlyn :— Darllen Llythyrau.—1. Oddiwrth y Parch Lewis Ellis ar ran Cymdeithas yr Ach.)sion Newydd a Chenadol. Penderfynwyd gwahodd y Parch John Owen, Wyddgrug, i G.M. Tachwedd i osod hawliau yr achosion hyn gerbron. 2. Oddiwrth y Parch D. O'Brien Owen yn hysbysu fod Llyfrau Joshua a'r Barnwyr i'w cael am Ic yr un yn swyddfa y cyfun- deb, ac yn hysbysu hefyd am y Da vies Lecture gan y Parch G. Ellis, M.A., sydd ar werth yno. 3. Oddiwrth y Parch Wm. James, Manchester, yn hysbysu fod tri o'r pedwar a safodd yr arholiad ar ymgeiswyr am y weinidogaeth wedi pasio, sef Mr Thomas Davies (Bootle), Wm. Griffith (Fitzclarence otreet), a H. P. Roberts (Seacombe). Yn awr, y rnaent ar dir i ddechreu eu blwyddyn brawf, a threfnwyd i Mr David Jonas ofalu am y gwr ieuanc o Bootle, Mr Hugh Lloyd am yr un o Fitzclarence, a Mr Smallwood am yr un o Seacombe. 4. Oddi- wrth Mr J. H. Hughes, Widnes, yn gofyn caniaUd i sefyll yr arholiad nesaf ar gyfer ordeinio. Can- latawyd hyn iddo. 5. Oddiwrth Mr E. Jones Edwards yn gofyn yr un peth, a hefyd am lythyr cyflwyniad iddo i G.M. Gorllewin Meirionydd, gan ei fod yn cymeryd gofal dwy eglwys yn y cylch hwnw. Caniatawyd y naill a'r llall iddo, a dy- munwyd yn dda ar ei ran. 6. Oddiwrth Mr John P,valls, Mulgrave Street, yn gofyn caniatad i fyned i Goleg Duwinyddol y Bala. Penderfynwyd fod i'r Parch G. Ellis gynrychioli f !l Ti ^ghynadledd Saesneg Caerdydd, gan p 9* ^ori-is yn methu myned yno. Pasiwyd i anfon pleidlais o gydymdeimlad a Mr Ilugh Williams, Holt Road, yn ei gystudd presenol y Parch J. S. Roberts, Huyton Quarry, i anfon ( ato. I Oenadwriaethau.—0 eglwys Garston yn gofyn aniatad a chymhorth i alw rhagor o swyddogion. ^osodwyd ar y Parch D. Jones a Mr R. Roberts, Birkenhead, i fyned yno ncs dranoeth y C.M. O eglwys Fitzclarence Street gyda golwg ar ddygiad yr achos yn mlaen yn Portland Street. Rhoddwyd hyn i ofal Pwyllgor y C.M. i'w ystyried vn mhell- ach, a'r brodyr canlynol gyrla hwy :—Parcha l)r Jones, G. Ellis, Mri T. Lloyd, Wm. Jones (Breezs Hill), a Wm. Evans, Elm Bank. Awgrymiadau y cyn-Lywydd.-Dygodd y pwyll- gor eu hadroddiad arnynt fel a ganlyn Gyda'r awgrym cyntaf, Pa fodd i wneud y C.M. yn fwy o ymgeledd ysprydol i'r swyddogion a'r aelodau eglwysig,' penderfynwyd cynal y Cyfarfod Ped Nar Misol ar gylch, er cael ymddyddan a swyddogion y lie, a thrafod rhyw fater priodol yn y cyfarfod cy- hoeddus am saith. Y manylion gyda hyn i fod dan sylw y pwyllgor yn mhellach. Yr ail awgrym, sef I darpliru yn briodol ar gyfer y bJbJ iouainc, yn enwedig gydag anhawsder y ddwy iaith.' Gwelid na ellid deddfu yn arbenig gyda hyn, ond ei adael i ddoethineb a chariad y rhai y mae gofal y gwahanol eglwysi ar eu hysgwyddau. Rhoddwyd pwys ar ddysgu Cymraeg i'r plant gartref. Y Genh&daeth Gar/rejol. Adroddiad y pwyll- gor lleol: 1. Fod y Parch Henry Jones yn cael ei anfon ddechreu Hydref i ofalu am yr achos yn Barrow a Dalton. Barrow yn cael caniatad i wneud yr adgyweiriad angenrheidiol ar eu capel yn ddioed. Caniatad i Horwich brynu hen gapel sydd yno mewn lie cyfleus yn feddiant iddynt eu hunain. Hysbysodd y Parch J. Williams (Anfield) fod adeg casglu at y Groufa Fenthyciol i fynu ddiwedd y mis hwn, yr arian i'w talu i Mr John Morrii, Sir Thomas' Buildings, ac enwau tanysgrifwyr, &c., i Mr Williams. Etholwyd y Parch O. J. Owen, M.A., yn ys- grifenydd y C.M., a'r Parch E O. Davies, B.Sc., yn ystadegydd. Ymddyadanodd Dr Jones a. thri o'r myfyrwyr oedd yn bresenol, a rhoes y Parch Josiah Themas gynghorion buddiol iddynt ar gyfer eu gwaith. Cywirwyd rhestr y dyddiadur n ar gyfer y flwyddyn ddyfodol, a gosodwyd ar Dr Jones ysgrif- enu cotiant byr am y diweddar Barch John Parry i ymddangos yn y dyddiadur. Dewiswyd y Parch T. Gray a Mr G. C. Owen i fod yn gynrychiolwyr yn Nghymanfa Ddirwestol G wynedd.
--0-Ffestiniog.
--0- Ffestiniog. GORFOLEDD digymysg sydd wedi ein meddianu ni, drigolion yr ardal hon, y dyddiau hyn, ac nid heb esgus da drosto, canys ein beirdd, a'n cantorion, a'n hofferynwyr a gipiasant frasder Eisteddfod Gwyn- edd, 1895, a thrwy eu Ilwyddiant a ddodasant fri ar yr ardal. Dywedir fod tua 150p wedi eu cludo yma rhwng y ddau ddiwrnod, a diau y buasai y swm yn llawer mwy pe buasai y gwobrwyon vn uweh. Llongyfarchaf Elfyn ar ei waith yn enill blue ribbon yr Eisteddfod. Cafodd dderbyniad tywysogaidd genym yn y Llan yma. Wedi derbyn y newydd ei fod ef a'r seindorf yn fuddugoliaethus, trefnwyd eu cyfarfod yn ngwaelod yr AUt, Goch, ryw filidir o'r pentref, gyda fflcimdorchau. Ar ol dod i fynu yr aUt serth, ac i wyr y cyrn gael eu hanadl atynt, chwareuwyd alaw swynol gan y seindorf, ac nid oedd heddwch (er ei fod wedi ei gyhoeddi 'yn ngwyneb haul a llygad goleuni' yn gynarach ar y diwrnod yn Mhwllheli) heb i Elfyn roi gair o'i broflad. Rhoddodd anerchiad doniol ac amserol, a chlodd y cyfan gyda chwpl o englynion pert. Dealiaf fod cefnogwyr Seindyrf Frenhinol Oakeley yn teimlo yn siomedig na syrthiodd yr yspail i ddwylaw eu cadarn hwy, ond na foed digter na dadl o berthynas i'r dyfarniad-dywed pawb fod perffaith gyfiawnder wedi ei ymarfer. Ychydig amser yn ol bu yr hen gyfaill Teigil yn rhoddi cernod neu ddwy (y rhai a haeddid) i sein- dorf y Llan am eu bod yn cicio'r priciau ar ol Eis- teddfod y Towyn, ond hyderaf na fydd angen i'w olynydd yn y colofnau hyn gladdu ei gwilsyn mewn bustl i osod trefn ar y seindorf aflwyddianus ar ol Eisteddfod Gwynedd. Credaf mai ein dyledswydd fel ardalwyr ydyw cydlawenhau yn llwyddiant unrhyw gystadleuwyr, os deuant o gyffiniau y plwy, boed eu preswylfod lie y bo, neu eu henwad yn dwyn yr enw Undodiaid' neu I Doubledodiaid.' Rhyfedd iawn, eithafion y fro a anrhydeddwvd y tro yma-Cor Tanygrisiau a pharti meibion Tany- grisiau aeth a'r llawryf lleisiol; band y Llan, fel y crybwyllwyd, gipiodd y wobr fel offerynwyr ac Elfyn (yntau bellach yn un o foys y Llan) a gafodd y gadair. Pa le, tybed, yr oedd cystadleuwyr ad- nabyddus canolbarth y plwyf ? Ai cysgu wnaeth Pari Huws, Barlwydon, Bryfdir, a Threborfab ? Os yn mysg y colledigion y rhestrir hwy, boed iddynt dderbyn fy nghydymdeimlad llwyraf, canvs yr wyf finau hefyd yn un o'r anffodusion. Fe gyfyd eto haul ar tryn; a chawn ninau, sydd yn y llaid, dorsythu mewn buddugoliaeth ryw ddiwrnod. Tua'r adeg yr oeddym yn dathlu Ilwyddiant y seindorf a'r bardd ar lawnt y pentref yma, ceisiodd dyhiryn meddw o'r enw Thomas Williams roddi y ty lie y preswyliai ef a'i fam oedranus ar dân. Yn ffodus, clywodd y cymydogion waeddiadau yr hen wraig, a Ilwyddwyd i roddi y tan allan cyn gwneud nemawr o niwed. Dylid pwytho geneuau creadur- iaid fel hwn er eu hatal i draflyncu yr hyc sydd yn eu gwneud yn beryglus i'w cyd-ddvnion. Dealiaf fod yr heddgcidwad wedi cymeryd yr achos mewn Haw, a diau y dygir y brawd o flaen ei well. Cynaliodd y Cvnghor Sirol eu cyfarfod chwarter- ol yn Neuadd y Dref ddydd Iau diweddaf. Yr oedd yr aelodau wedi ymgynull yn bur gryno, a chafodd y dyeithriaid dderbyniad Ffestiniogaidd- h.y., tywydd niwlog a digon o wlaw am y chwarter nesaf a dweyd y lleiaf. Nid ymddengys fod y cyE- arfodydd hyn yn boblogaidd gan bobl yr ardal, oblegyd ychydig a welid yn eistedd ar 'stol y gwrando,' a gellid tyblo mai lied debyg i'r tywydd ydoedd y siaradwyr os derbynir tystiolaeth rhai a fu yn bresenol. Bu yno gryn lawer o frygowtha yn Gymraeg a Saesneg, ami i besychiad pregethwr- ol, ac ymddangosai llawer o'r siaradwyr fel rhai a gredent yn sicr fod pob un ohonynt yn rhywun, ond I dyfarniad cyffredinol eu gwrandawyr ydoedd mai mewn niwl tew yr oeddynt oil gydag ychydig iawn o eithriadau. Ni hidier pa fodd bynag, os ychydig yw eu dawn i argyhoeddi, y maeot wedi dysgu y dull a'r modd i chwyddo'r trethi yn ar- dderchog. BAELWVD.
[No title]
-:0:- Erbyn hyn mae yr hybarch Gwalchmai wedi gwella fel ag i fod yn abl i fyned allan bob dydd. Ddeugain mlynedd i ddydd Sul diweddaf, sef Medi 8, 1855, y cymerwyd Sebastopol.
Advertising
Gymry,cef nog well Gydwladwyr. Bwytewch FOOTBALL Oats Yr ansawdd goreu ar wyneb y ddaear. 0 dyftant Prydeinig. Na chymerwch eich perswadio brynu ansawdd gwael, diflas fel yr Americaaaidd.
I Cwyddoniaeth,
Cwyddoniaeth, BREUDDWYD A GWELEUIGAETH NOS. MAE dyfalu lawer wedi bod erioed am ystyr a natur breuddwyd ac er fod pawb yn breuddwydio nid oes neb a fedr olrhain gweithrediidau y peirianau dyrus roddant fodolaeth i freuddwyd. Fe greda y mwyafrif ohonom nad oes rhyw lawer o ystyr o gwbl i freuddwyd, beth bynag am ei natur. Ond fe greda ambell un yma ac acw yn ein plith fod i freuddwyd ystyr ac amcan, ac er y chwerddir am ben ei gyffes gan y mwyafrif, fe lyna yn dyn wrth y grediniaeth fod yn ei hanes lawer breuddwyd ag iddo ystyr a phwrpis. Yn wir, trwy ymchwiliad manwl i dystiolaethau pobl gellir dod i'r pender fyniad fod yna ddau fath o freuddwyd, y naill yn rhywbeth sylweddol a naturiol, anhawdd yn ami ei wahaniaethu oddiwrth brofiadau dyddiol y breu- ddwydiwr; a'r llall yn rhyw ymddatigosiad niwlog megys yn y dychymyg, yn ansylweddul ac an naturiol. Yn y dosbarth olaf hwn, mae yn debyg, y mae y rhan amlaf o freuddwydion dyaion i'w lleoli. Tebyg yw fod posiblrwydd breuddwyd i'r dorbarth cyntaf yn dibynu yn rhanol ar bersonau o nodwedd arbenig ac efallai uwchraddol. Nid yw y breuddwydion sylweddol yn eiddo i bawb. Nid oes un o bob cant ohonom yn gwybod dim am danynt trwy brofiad. Yn y Beibl fe welir yn amlwg y ddau ddosbarth hyn o freuddwydion. Er engraipht, fe ddywed Job ani yr anuuwiGI, 'Efe a eheda ymaith megys breuddwyd, ac ni cheir ef ac efe a ymlidia fel gweledigaeth ncs (Job xx. 8). 4 Canys mewn llaweroedd o freucidwydion y mae gwagedd (Ecc- les. v. 7). Ie, bydd megys newynog a freudd wyd. io ac wele ef yn bwyta a phan ddeffro gwag fydd ei enaid ac megys y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed a phan ddetfro wele ef yn ddi- ffygiol, a'i enaid yn chwenych diod felly y bydd tyrfa yr ho'il genedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion' (Esai. xxix. 8). Mewn breuddwyd- ion o'r natur yna mae pawb yn credu. Yn mreu- ddwydion o'r fath a ganlyn anaml yw y rhai a gredant eu bod yn bosibl heddy w :—4 Os bydd pro- phwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn eweled- igaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho' (Num. xii. 6). 4 A bydd ar ol hyny y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd, a'ch meibion a'ch merched a brophwydant, eich henur- iaid a welant freuddwydion, eich gwyr ieuainc a welant weledigaetliau' (Jo ;1 ii. 28). Mae yn y Beibl nifer fawr o'r dosbarth hwn o freuddwydion —breuddwydion ag iddynt ryw ddybenion neillduol. Yn ddiweddar, gwedi Hydref 1892, mae eglur- had helaeth wedi ei gael ar ddirgelion breuddwyd a gweledigaeth nos, trwy arbrofion a sylwadau a wnaed gan y Doctor G. B. Ermacora o Padua. Fe wnaed yr arbrofion a'r sylwadau hyn ar blentyn ieuanc pedair neu bum mlwydd oed o'r enw Angel- ina Cavazzoni o Venice. Rhai o brif ganlyniadau yr arbrofion yw y rhai hyn Yn laf, fod yn bosibl i freuddwyd fod yn sylweddol, mor sylweddol a phrofiad dyddiol dyn. Yn ail, fod breuddwydion lawer heb iddynt sylwedd o gwbl, na bodolaeth y tuallan i ymenydd y breuddwydiwr, breuddwydion ellir ystyried 0bosibl fel afiechyd yn fwy na dim arall. Yn drydydd, fod yn rhaid i'r breuddwydiwr fod mewn iechyd cyn y gall breuddwyd sylweddol ddigwydd. Mae y tipyn lleiaf o aflonyddweh corphorol neu feddyliol ynataliadar wir freuddwyd neu weledigaeth rhaid i'r cwsg fod yn drwm a thawel. Pan yn ysgrifenu, mae o'n blaen 70 o arbrofion o eiddo y Dr Ermacora, a'r oil wedi eu gwneud ar y plentyn Angelina. Yr oedd pob arbrawf: gyn- wys breuddwyd, ac allan o'r 70 o gynygion bu 12 yn aflwyddianus oherwydd afiechyd neu gwsg ter- fysglyd. Bu pedwar hefyd yn aflwyddianus oher- wydd achosion eraill. Mae yn aros fdly 54 o arbrofion llwyddianus, yn cynwys 54 o freuddwyd- ion sylweddol. Dyben a sylwedd pob arbrawf oedd cynyrchu breuddwyd yn 01 cyullun rhag-drefnedig, ac yn hanfodol yr oedd pob arbrawf yn gynwysedig o ddewisiad pwnc a flurfiad manylion y breuddwyd gan y Dr Ermacora ei bun o drosglwyddiad y manylion i gyfrwng arbenig, sef y bod deallol a enwa ei hun yn Elvira; o ffurfiad y manylion rhag- drefnedig yn freuddwyd ar ymenydd neu yn hytrach yn ymwybolrwydd Angelina pan mewn cwsg ar wely yn nyfnder nos ac yn olaf o gael ad- roddiad o'r breuddwyd gan Angelina foreu dran- oeth wedi deffro. Yn nglyn a'r pwnc o sylweddolrwydd, bu yr ar- brofion mor llwyddianus fel ag i beri i Angelina ystyried y breuddwydion fel rhan o'i hanes daearol, ac i son am ei gweledigaethau nos fel y sonia am ei chwareuon ganol dypdd. Cofier fod yr achos o'r holl freuddwydion a'r gweledigaethau yn bodoli y tuallan i ymwybod- iaeth Angelina, ac felly yr oedd i bob un ohonynt ystyr ag oedd yn annibynol ar nodwoddion naturiol y plentyn. Hyny yw, mae posiblrwydd breuddwyd sylweddol yn dibynu yn rhanol ar ryw allu y tu- allan i'r breuddwydiwr, ac mae y gallu hwn yn an- nibynol hyd yn nod ar fodolaeth y breuddwypiwr. Yn yr arbrofion hyn mae y gallu yn eiddo'r cy rwng deallol a elwir Elvira. Mae y ffaith fod yn bosibl cynyrchu breuddwyd a gweledigaeth yn ymwybodolrwydd un mewn cwsg yn un o'r darganfyddiadau mwyaf dyddorol a phwysig a wnaed mewn Psychology yn ystod y deog mlynedd diweddaf, ac mae canlyniadau y wybodaeth hon yn sicr o daflu goleuni mawr ar natur dyn. Bydd i ni yn fuan eto ysgrifenu ychwaneg ar y testyn hwn. BENJAMIN DAVIES. o
[No title]
Wrth osod careg sylfacn ficerdy newydd yn Ngholwyn Bay ddydd Mercher, cyffelybai Esgob Llanelwy yr eglwys yn bresenol fel Ilong wedi myned i borthladd tawel wedi mordaith dym- hestlog a pheryglus.
Advertising
1" Elfenau Athroqiaeh Foesol," (Yr unig lyfr yn ein hiaith ar y gangen hon o wybodaeth). Pris is. Trwy y Post, is ic mewn Ilian, i/6 Mae pawb sydd i ryw fesur yn hoff o olrhai ) Gwirioneddiu Ysgrythyroi yn rhwym o deimlo dyddordeb mewn Athroniaeth Foesol. Danfoner at yr Awdwr, Rev. JOHN JONES, Tuebrook, LIVERPOOL AT Gymdeittiasau Darllen Gartr.f A Chymdeithasau Llenyddol. There are no more vigorous compositions in the whole field of Welsh Literature than Goronwy's Letters. The epistles con- tain a faithful transcript of Goronwy's life, his difficulties, his feelings;, his passionate love of country, his enthusiasm for the Welsh language and literatim. The Letters are couched in perfect idiomatic Welsh. Western Mail, Mehefin 21, 1895. Pris Swllt. Trwy y Post, Is. lc. 'Llythyrau Goropy Owen"; Tau olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, M.A., Coleg y Brifyagol, Bangor. LERPWL: Cyhoeddir gan I. FOULKES, 18, Brunswick Street Dim ond ychydig gopiau v n wedriiil. Gwaith Barddonol Eben Fardd, Am 7s. 6ch. rprwy y Pest, s. YR ydym wedi prynu yr holl Stoc o Waith y JL Prif-fardd Enwog o Glynog, ac er mwyn clirio, gwerthir hwy wedi eu rhwymo yn hardd mewn llian am 7s. 6ch. yr nn-tua. "lianer eu pris ar y cyntaf. ISAAC FOULKES, 18, Brunswick Street, Lerpwl. PRIS SWLLT, Trwy Post ar dderbyniad Is. 1 c. .1 2 "CANIADAU ELFED." Ail Argraphiad yn awr yn barod. ALLAN O'R WASG, PRIS SWLLT, Trwy y Post, Is. ljc. 44 TRI CHRYFION BYD," "PLESER A GOFID," CYBYDD-DOD ac OFEREDD H Tair Antarliwt o waith T WM OMR NANT. I FOULKES, 18, Brunswick St,, LIVERPOOL. COLEG Y GOGLEDftBANGORT (UN C'R COLEGAU YN Y BRIFYSGOL GYMliEIG) Prifathraw: H. R. REICHEL, M.A., Gydag 11 o Broffeswyr, 3 o Ddarlithwyr, a 14 o Athrawon eraill. DECHREUA y Tymhor nesaf Hydref 1, 1895. Parotoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru ac eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol yn Mhri fysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiadau eraill, Rhoir addysg arbenig mewu Amaethyddiaeth ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg Adran Normalaidd. Cynygir dros 20 0 Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o B40 i S10 y flwyddyn, i'r rhai fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y Tymhor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i Gym- ry. Dectjreua yr arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd aChofresirydcl. CWMNI V&WtRlOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TKYSOEFA DROS £ 20,000,0c0. A GENTS addas ychwanegol yn eisiaa — Ymofvn» t\ a J. W. J ONE'S, Prudential Office qt I'llp 0 E'Solkp FO t E SOAP FOR RD \NAT-,ER FT WikTER, 0 t% IL% -MIMI, THE SOAP Fo -f H E!SORP FUR HOT 'CULU WATER. For 150 Wrappers the splendid Picture The Charge of the Light Brigade," in good gilt frame, will be sent carriage paid. Full particulars on each Wrapper. I WATSON'S MATCHLESS CLEANSER is sold only in 16oz. Tablets. A 16oz. TABLET of SOAP for 3d. equals 3d. per lb. A 12oz. j, to 2|d. w Std. )> |