Hide Articles List

8 articles on this Page

----____-Gwreichion.

Cyfarfod Misol Liverpool.

--0-Ffestiniog.

News
Cite
Share

--0- Ffestiniog. GORFOLEDD digymysg sydd wedi ein meddianu ni, drigolion yr ardal hon, y dyddiau hyn, ac nid heb esgus da drosto, canys ein beirdd, a'n cantorion, a'n hofferynwyr a gipiasant frasder Eisteddfod Gwyn- edd, 1895, a thrwy eu Ilwyddiant a ddodasant fri ar yr ardal. Dywedir fod tua 150p wedi eu cludo yma rhwng y ddau ddiwrnod, a diau y buasai y swm yn llawer mwy pe buasai y gwobrwyon vn uweh. Llongyfarchaf Elfyn ar ei waith yn enill blue ribbon yr Eisteddfod. Cafodd dderbyniad tywysogaidd genym yn y Llan yma. Wedi derbyn y newydd ei fod ef a'r seindorf yn fuddugoliaethus, trefnwyd eu cyfarfod yn ngwaelod yr AUt, Goch, ryw filidir o'r pentref, gyda fflcimdorchau. Ar ol dod i fynu yr aUt serth, ac i wyr y cyrn gael eu hanadl atynt, chwareuwyd alaw swynol gan y seindorf, ac nid oedd heddwch (er ei fod wedi ei gyhoeddi 'yn ngwyneb haul a llygad goleuni' yn gynarach ar y diwrnod yn Mhwllheli) heb i Elfyn roi gair o'i broflad. Rhoddodd anerchiad doniol ac amserol, a chlodd y cyfan gyda chwpl o englynion pert. Dealiaf fod cefnogwyr Seindyrf Frenhinol Oakeley yn teimlo yn siomedig na syrthiodd yr yspail i ddwylaw eu cadarn hwy, ond na foed digter na dadl o berthynas i'r dyfarniad-dywed pawb fod perffaith gyfiawnder wedi ei ymarfer. Ychydig amser yn ol bu yr hen gyfaill Teigil yn rhoddi cernod neu ddwy (y rhai a haeddid) i sein- dorf y Llan am eu bod yn cicio'r priciau ar ol Eis- teddfod y Towyn, ond hyderaf na fydd angen i'w olynydd yn y colofnau hyn gladdu ei gwilsyn mewn bustl i osod trefn ar y seindorf aflwyddianus ar ol Eisteddfod Gwynedd. Credaf mai ein dyledswydd fel ardalwyr ydyw cydlawenhau yn llwyddiant unrhyw gystadleuwyr, os deuant o gyffiniau y plwy, boed eu preswylfod lie y bo, neu eu henwad yn dwyn yr enw Undodiaid' neu I Doubledodiaid.' Rhyfedd iawn, eithafion y fro a anrhydeddwvd y tro yma-Cor Tanygrisiau a pharti meibion Tany- grisiau aeth a'r llawryf lleisiol; band y Llan, fel y crybwyllwyd, gipiodd y wobr fel offerynwyr ac Elfyn (yntau bellach yn un o foys y Llan) a gafodd y gadair. Pa le, tybed, yr oedd cystadleuwyr ad- nabyddus canolbarth y plwyf ? Ai cysgu wnaeth Pari Huws, Barlwydon, Bryfdir, a Threborfab ? Os yn mysg y colledigion y rhestrir hwy, boed iddynt dderbyn fy nghydymdeimlad llwyraf, canvs yr wyf finau hefyd yn un o'r anffodusion. Fe gyfyd eto haul ar tryn; a chawn ninau, sydd yn y llaid, dorsythu mewn buddugoliaeth ryw ddiwrnod. Tua'r adeg yr oeddym yn dathlu Ilwyddiant y seindorf a'r bardd ar lawnt y pentref yma, ceisiodd dyhiryn meddw o'r enw Thomas Williams roddi y ty lie y preswyliai ef a'i fam oedranus ar dân. Yn ffodus, clywodd y cymydogion waeddiadau yr hen wraig, a Ilwyddwyd i roddi y tan allan cyn gwneud nemawr o niwed. Dylid pwytho geneuau creadur- iaid fel hwn er eu hatal i draflyncu yr hyc sydd yn eu gwneud yn beryglus i'w cyd-ddvnion. Dealiaf fod yr heddgcidwad wedi cymeryd yr achos mewn Haw, a diau y dygir y brawd o flaen ei well. Cynaliodd y Cvnghor Sirol eu cyfarfod chwarter- ol yn Neuadd y Dref ddydd Iau diweddaf. Yr oedd yr aelodau wedi ymgynull yn bur gryno, a chafodd y dyeithriaid dderbyniad Ffestiniogaidd- h.y., tywydd niwlog a digon o wlaw am y chwarter nesaf a dweyd y lleiaf. Nid ymddengys fod y cyE- arfodydd hyn yn boblogaidd gan bobl yr ardal, oblegyd ychydig a welid yn eistedd ar 'stol y gwrando,' a gellid tyblo mai lied debyg i'r tywydd ydoedd y siaradwyr os derbynir tystiolaeth rhai a fu yn bresenol. Bu yno gryn lawer o frygowtha yn Gymraeg a Saesneg, ami i besychiad pregethwr- ol, ac ymddangosai llawer o'r siaradwyr fel rhai a gredent yn sicr fod pob un ohonynt yn rhywun, ond I dyfarniad cyffredinol eu gwrandawyr ydoedd mai mewn niwl tew yr oeddynt oil gydag ychydig iawn o eithriadau. Ni hidier pa fodd bynag, os ychydig yw eu dawn i argyhoeddi, y maeot wedi dysgu y dull a'r modd i chwyddo'r trethi yn ar- dderchog. BAELWVD.

[No title]

Advertising

I Cwyddoniaeth,

[No title]

Advertising