Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

----____-Gwreichion.

Cyfarfod Misol Liverpool.

News
Cite
Share

Cyfarfod Misol Liverpool. Y MAE gweithrediadau C. M. Medi yn benaf fel y canlyn :— Darllen Llythyrau.—1. Oddiwrth y Parch Lewis Ellis ar ran Cymdeithas yr Ach.)sion Newydd a Chenadol. Penderfynwyd gwahodd y Parch John Owen, Wyddgrug, i G.M. Tachwedd i osod hawliau yr achosion hyn gerbron. 2. Oddiwrth y Parch D. O'Brien Owen yn hysbysu fod Llyfrau Joshua a'r Barnwyr i'w cael am Ic yr un yn swyddfa y cyfun- deb, ac yn hysbysu hefyd am y Da vies Lecture gan y Parch G. Ellis, M.A., sydd ar werth yno. 3. Oddiwrth y Parch Wm. James, Manchester, yn hysbysu fod tri o'r pedwar a safodd yr arholiad ar ymgeiswyr am y weinidogaeth wedi pasio, sef Mr Thomas Davies (Bootle), Wm. Griffith (Fitzclarence otreet), a H. P. Roberts (Seacombe). Yn awr, y rnaent ar dir i ddechreu eu blwyddyn brawf, a threfnwyd i Mr David Jonas ofalu am y gwr ieuanc o Bootle, Mr Hugh Lloyd am yr un o Fitzclarence, a Mr Smallwood am yr un o Seacombe. 4. Oddi- wrth Mr J. H. Hughes, Widnes, yn gofyn caniaUd i sefyll yr arholiad nesaf ar gyfer ordeinio. Can- latawyd hyn iddo. 5. Oddiwrth Mr E. Jones Edwards yn gofyn yr un peth, a hefyd am lythyr cyflwyniad iddo i G.M. Gorllewin Meirionydd, gan ei fod yn cymeryd gofal dwy eglwys yn y cylch hwnw. Caniatawyd y naill a'r llall iddo, a dy- munwyd yn dda ar ei ran. 6. Oddiwrth Mr John P,valls, Mulgrave Street, yn gofyn caniatad i fyned i Goleg Duwinyddol y Bala. Penderfynwyd fod i'r Parch G. Ellis gynrychioli f !l Ti ^ghynadledd Saesneg Caerdydd, gan p 9* ^ori-is yn methu myned yno. Pasiwyd i anfon pleidlais o gydymdeimlad a Mr Ilugh Williams, Holt Road, yn ei gystudd presenol y Parch J. S. Roberts, Huyton Quarry, i anfon ( ato. I Oenadwriaethau.—0 eglwys Garston yn gofyn aniatad a chymhorth i alw rhagor o swyddogion. ^osodwyd ar y Parch D. Jones a Mr R. Roberts, Birkenhead, i fyned yno ncs dranoeth y C.M. O eglwys Fitzclarence Street gyda golwg ar ddygiad yr achos yn mlaen yn Portland Street. Rhoddwyd hyn i ofal Pwyllgor y C.M. i'w ystyried vn mhell- ach, a'r brodyr canlynol gyrla hwy :—Parcha l)r Jones, G. Ellis, Mri T. Lloyd, Wm. Jones (Breezs Hill), a Wm. Evans, Elm Bank. Awgrymiadau y cyn-Lywydd.-Dygodd y pwyll- gor eu hadroddiad arnynt fel a ganlyn Gyda'r awgrym cyntaf, Pa fodd i wneud y C.M. yn fwy o ymgeledd ysprydol i'r swyddogion a'r aelodau eglwysig,' penderfynwyd cynal y Cyfarfod Ped Nar Misol ar gylch, er cael ymddyddan a swyddogion y lie, a thrafod rhyw fater priodol yn y cyfarfod cy- hoeddus am saith. Y manylion gyda hyn i fod dan sylw y pwyllgor yn mhellach. Yr ail awgrym, sef I darpliru yn briodol ar gyfer y bJbJ iouainc, yn enwedig gydag anhawsder y ddwy iaith.' Gwelid na ellid deddfu yn arbenig gyda hyn, ond ei adael i ddoethineb a chariad y rhai y mae gofal y gwahanol eglwysi ar eu hysgwyddau. Rhoddwyd pwys ar ddysgu Cymraeg i'r plant gartref. Y Genh&daeth Gar/rejol. Adroddiad y pwyll- gor lleol: 1. Fod y Parch Henry Jones yn cael ei anfon ddechreu Hydref i ofalu am yr achos yn Barrow a Dalton. Barrow yn cael caniatad i wneud yr adgyweiriad angenrheidiol ar eu capel yn ddioed. Caniatad i Horwich brynu hen gapel sydd yno mewn lie cyfleus yn feddiant iddynt eu hunain. Hysbysodd y Parch J. Williams (Anfield) fod adeg casglu at y Groufa Fenthyciol i fynu ddiwedd y mis hwn, yr arian i'w talu i Mr John Morrii, Sir Thomas' Buildings, ac enwau tanysgrifwyr, &c., i Mr Williams. Etholwyd y Parch O. J. Owen, M.A., yn ys- grifenydd y C.M., a'r Parch E O. Davies, B.Sc., yn ystadegydd. Ymddyadanodd Dr Jones a. thri o'r myfyrwyr oedd yn bresenol, a rhoes y Parch Josiah Themas gynghorion buddiol iddynt ar gyfer eu gwaith. Cywirwyd rhestr y dyddiadur n ar gyfer y flwyddyn ddyfodol, a gosodwyd ar Dr Jones ysgrif- enu cotiant byr am y diweddar Barch John Parry i ymddangos yn y dyddiadur. Dewiswyd y Parch T. Gray a Mr G. C. Owen i fod yn gynrychiolwyr yn Nghymanfa Ddirwestol G wynedd.

--0-Ffestiniog.

[No title]

Advertising

I Cwyddoniaeth,

[No title]

Advertising