Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr

Cynddelw a'r 'Hen Deiliwr.'

News
Cite
Share

Cynddelw a'r 'Hen Deiliwr.' [YMDDANGOSODD y llythyr canlynol mewn cysylltiad &'r Hen Deiliwr adeg ei gyhoedd- iad gyntaf yn Y Tyst tua'r flwyddyn 1867, 0 waith yr ysgrifenydd deniol CYNDDELW.] DYMA fi eto yn trin cyflyrau y teilwriaid. Gad- ewais Iago Mochnant yn hytrach yn swta. Aeth mam Iago unwaith i Cwmblowty i edrych am laeth enwyn neu rywbeth at use ty. Ond ni chafodd ddim, er cerdded yr holl dai ar hyny canodd Iago brofiad eifam, ar y trith'rawiad Mae gwragedd Cwmblowty wedi ynfydu, Ni che's i, er crefu, na llymru na llaeth 'Rwy'n credu ar fyrder, os deil y fath brinder, Ni fegir dim llawer wyn llawaeth. Pan oedd Iago yn ddyn ieuanc, penderfynodd fyned gyda chyfaill iddo o'r enw Dafydd Rhys i Dowyn Meirionydd i yfed heli'rmor ac ymhoewi ac ymddifyru. Ond yr oedd yn rhaid i'r daith hono gael ei hanrhydeddu a chan yn cynwys ei banes yn ol ac yn tnlaen. Dyma'r dechreu :— Mi dreia'n gryno gasglu gronyn I fyn'd efo Deio i Dywyn. Aethant i'w taith trwy Benygarnedd, Aber- marchnad, Llanwddyn, Penegoes, &c., dan folera a chanu, canys yr oedd Deio' yn ganwr campus. Wrth wel'd y Hi ar gors Llanwddyn, Gofynodd Deio, Ai dacw Dywyn ?' Ac feUy yn y blaen. Yn Mhenegos mynai nogyn, Wrth fyn'd hefo Deio i Dywyn. Ond yr oedd math arall o deiliwr yn y plwyf. Trigai hwnw yn y Cymdn, ar y ffordd tua'r gogledd-ddwyrain. Hen lwch rhyfedd oedd f'ewyrth Robert y teiliwr. Hen gorphyn llin- ynog, hirfain, a theneu oedd ganddo yr oedd ef yn hynod o ysgafn ar ei bolion, a'i goesau newynog bron mor ddifwydion a choesau creyr glas, a meginau go dda yn ei ddwyfron, ac felly yn rhedegwr pur hoew a diflino. Ei wendid mawr fyddai neidio o'i wely ganol nos, a rhedeg yn benoeth, droednoetb, esgeirnoeah, a dim ond ben grys cwta am ei gorpws, i ddial ar y llanciau fyddai yn ei aflonyddu trwy luchio ceryg neu goed at ei ddrws neu ei ffenestr wrth basio. Codi'r hen Deiiiwr fyddai un o'r gwleddoedd brasaf gan y bechgyn diras, ac ni byddai modd pasio heb gynyg ar y gwaith, ac anfynych iawn yr aflwyddent. Os byddai braidd yn gyndyn i adael ei loches, dywedai yr hen wraig, 'Codwch, Robert; os na chodwch chi, mi goda i.' Byddai hyny yn ddigon Ifwrdd a'r hen ddyn fel en- derigoallt" ar ol ei elynion, a rhedai yn fynych filldir neu ddwy cyn digaloni a throi yn ol. Anaml y goddiweddai ei boenydwyr, canys byddent yn llechu mewn cuddfanau manteisiol, a diderfyn fyddai eu mwyniant wrth weled yr hen glimach heglog a thinllwm yn brasgamu fel iwrch drwy'r pyllau, a hwythau'n ddyogel o'r cyrhaedd. Weithiau gosodent hoenynau yn groes i'r ffordd, er ei faglu a'i godymu dinben- drosben pan yn rhedeg ar ei egni gwyllt ar ben goriwaered. Ond rywfodd, yr oedd yr hen deiliwr yn rhy ysgafn a disylwedd i gael llawer o niwaid, ac yn rby wydn i dori asgwrn nac ysigo gewyn. Er na wnaeth ef niwaid i neb erioed o'r sawl a'i haflonyddai gymaint, eto bu'n achos 0 fraw a dychryn mawr i deithwyr di- niwaid ac ofnus lawer gwaith, canys deuai ar eu gwarthaf yn nyfnder y nos mor sydyn ac annis- gwyliadwy, a golwg mor annelwig arno, a'i ysgogiadau mor ddystaw ag ehedia 1 dallhuan wen, fel na wyddid ar funyd ofnus pa beth yd- oedd, nac o ba fyd y daethai. Ond wedi ychydig o ddweyd ei gwyn, dychwelai adref at yr hen wreigan i'r gwely. Rhaid gadael hen Deiliwr y Cymdu yn y fan yna. Y pdthau a nodais, er ffoled ydynt, oedd yr unig betbau a wnaeth efe yn ei ddydd i gadw ei enw mewn coffadwriaeth. Rhaid ei ddileu o fodolaeth, neu gofio am dano fel un yn rhedeg yn ei grys liw nos ar ol llanciau castiog, 'spaddu cathod, a phetbau o'r fath. Tua thriugain mlynedd yn ol, yr oedd teiliwr buandrued yn Nglyn Ceiriog, o'r enw Ned Hughes. PENILL 0 FOLAWD I NED HUGHES, TEILIWR, GLYN CEIRIOG. (Yr awdwr yw JOHN CAIN JONES, yr hivit oedd gryn fardd yn ei amser). MAE'R hanes ar g'oedd, Modd cariodd Glynceiriog godidog y dydd Am redwr pur hynod, mawr syndod y sydd, Ned Hughes, hyny sy'n siwr, Y taeliwr mwyneidd-deg, i redeg yr aeth, A Wil o Fane NTantir yn ddewraidd a ddaeth I'r cae pan gychwyned, 'Roedd Ned cyn llawened, Fe dynodd mewn duned ei siaced mor sionc Yn hylaw fe hwyliodd, Ar frys fe gychwynodd, O'i ol y gadawodd, fe basiodd y Bone "— 'Roedd Wil wedi darfod, poen hynod, pen hone Cydglymed pob gwladwr Anrhydedd 1 redwr, 'Does ail i Ned Taeliwr un troediwr trwy'n tre Ei hanes sy'n hynod, Mae'n gyflym ar ddeudroed Cydganed pob tafod ei fawrglod efe, A bloeddiwn yn rhugyl, Huws anwyl, hwre!" Bu awdwr y penill yna farw pan ar daith yn Eisteddfod Aberhonddu, 1826. Bydd y teiliwr nesaf 0 natur wahanol i'r rhai presenol. canys y mae amrywiaeth mawr yn perthyn i'r urdd hwnw o fodau deallawl.

--0--Trychineb yn Nghemaes,…

[No title]