Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Corphori'r Eisteddfod.

Annibynwyr Cymru.

Seneddol.

Lleol.

PRIODAS 0. KENRICK JONES,…

News
Cite
Share

PRIODAS 0. KENRICK JONES, YSW. ARDDANGOSWSD llawer o deimladau da a llawenydd mawr yn y ddinas hon, yn arbenig yn y rhanbarth gogleddol, ac yn Ynys Mon, ddydd Mercher, Awst 28ain, diwrnod priodas Mr 0. Kenrick Jones, mab hynaf yr Henadur William Jones, Y.H., Monfa, cyn-Faer Bootle, a Miss Gordon Owen, merch hynaf Mr Thomas Owen, Y.H., Rhyddgaer, Dwyrain, Mon. Cymerodd y briodas le yn nghapel M.C. Dwyrain, a gweinyddwyd ar yr amgylchiad dymunol gan y Parchn John Williams, y gwein- idog, a G Ellis, M.A., Bootle. Disgyna y priodfab o deuluoedd Ymneillduol cyntaf Ynys Mon, ac y mae fel ei dad yn Rhydd- frydwr gweithgar, a medda ddylanwad mawr, gan ei tod yn dra chymeradwy yn mysg rhyw 1,500 o denantiaid y teulu. Gellir olrhain achau y bnod- ferch o du ei mam i bumtheg llwyth Gwynedd, ac o ochr ei thad i Hedd Molwynawg ac Angharad James, awdures y Llyfr Coch. Y mae Miss Gordon Owen, Mrs Jones yn awr, wedi hynodi ei hun yn barod fel aelod weithgar o Fwrdd Ysgol y Dwyr- ain, a dymuna llawer i'r par ieuanc oes hir ddefn- yddiol o ddedwyddwch didrai. Dathlwyd y dydd ya Bootle a'r cylch gyda gradd helaeth o ddifyr- wch. Chwyfiai banerau ar y gweithdai a'r yator- dai, a llosgwyd coelcerth nos Fercher yn Moore Street, Knowsley Road, yn derfyn i amryw o chwareuon difyrus ac arwyddion llawenydd a gaf. wyd yn ystod y dydd. Anfonwyd brysneges gan y gweithwyr i ddymuno gwenau haul hawddfyd ar yr undeb, a threfnir ganddynt i gyfiwyno anrheg hardd i Mr a Mrs Jones ar eu dyehweliad o'r mis mgl yn neheubarth Ffrainc.—G.

Advertising

TREFN CYMANFA'R ANNIBYNWYR

PWLPUDAU CYMREIG Medi 8. LERPWL.

--0--Marchnadoedd.

Advertising

Family Notices