Hide Articles List

11 articles on this Page

Cohebiaethau.!

Dyffryn Clwyd.

Nodion o'r Ddinas.

O'r De.

News
Cite
Share

O'r De. UN o siroedd prydferthaf Cymru yw sir Frych- einiog, y debyca iddi yn y North, greda i, yw sir Ddinbych gyda Haw, gailesid hefyd gyffelybu sir Forganwg a sir Gaernarfon mewn llawer o bethau, ond fod gan yr olaf ei Gwyddfa fawr nid anhebyg iawn ychwaith yw Aberteifi a Meirionydd Byddai cyffelybu'r siroedd yn orchwyl dyddorol. Ond son oeddwn am Frych- einiog—unir ynddi'r mynydd uchel a'r dyffryn isel gyda'r ucheldir bryniog, fel y Foel Famau, Dyfiryn Clwyd, a bryniau lal yn Ninbych. Daw ymweiwyr yn lluoedd i Frycbeiniog eleni, ac yn eu plith hysbysir fod y Parch Thomas Spurgeon, Llundain, gweinidog y Tabernacl. Nid oes gwell rhanau yn Nghymru i'r lluddedig ei feddwl gael adgyfnerthiad. -0- Wrth droi dail rhyw newyddiadur yn ddi- weddar gwelais gan briodasol i'r Parch J. Bron- liwyn Davies. Taibirion, a'i briod. Gwyddwn am y briodas o'r blaen, a gwyddwn fod hyny yn un o ddigwyddiadau pwysicaf y ganrif, a dechrenais ddarllen y gân gyrJa bIas. Can felus, felns, felus (chwedl yr Archdderwydd), ac, wrth gwrs. ar y diwedd 'roedd enw'r awdwr. A phwy feddyliech ? Dr. Probert, Pentre awdwr yr Esboniadau ar y Rhufeiniaid a'r Epbesiaid. Fidryched y beirdd at eu llawryfau. Mae'n amlwg fod gan Dr. Probert awen, ond yn unig fod yn rhaid cael digwyddiadau eithriadol i'w rhoi ar ddihun. Enillodd rhyw Ddoctor gadair yn sir Aberteifi yn ddiweddar wn i ddim beth sydd i'w wneud os yw y doctoriaid o bob math yn troi yn feirdd. Dywedir am y diweddar Ddr. Edwards o'r Bala ei fod yn fwy tueddol i ym- ffrostio yn ei farddoniaetb na dim arall a ysgrif- enodd erioed. Synwn i ddim na fydd Dr. Probert yn yr un camwedd yn fuan os ydyw am barhau. —o— Ysgrif ddyddorol, finiog, amserol ydyw'r ys- grif arweiniol yn Seren Cymru am yr wythnos ddiweddaf. Nid oes flewyn ar yr ysgrifell, ac er yn llvm iawn, nid oes finegr yn yr inc. Byddai gwasgaru ambell i ysgrif fel hon i'r cyn- ulleidfaoedd yn sicr o fod yn fendith. Ei tbestyn yw Lladd y Prophwydi." Ac mae'n debyg mai'r golygydd galluog yw ei hawdwr. -0- Un o helyntion y Darian mewn ystyr len- yddol y dyddiau hyn ydyw belynt yr ail oreu yn Llauelli. Dyry restr o'r ail oreu ar wahanol destynau, a cban fod y rhestr yn un go ddy ddorol dyma hi :-Yr ail ar y Goron y Parch R. R. Morris, Ffestiniog y Libretto, Dr. Gurnos Jones y cywydd, Morleisfab y deuddeg englyn, Pedrog y myfyrdaitb, Ap Ionawr. Felly'n wir. -0- Dyma englyn i'r Bywydfad ag yr awgryma'r un ysgrifenydd ei fod ar un adeg o'i fywyd yn go agos i'r un buddugol:— Goruwch aig, dyngarweh yw,-a gwibiol Fad gobaith uwch distryw Gwaredydd beiddgar ydyw, 0 ddiluw'r bedd hawlia'r byw. -0- Mae'r Caniedydd Cynulleidfaol, sef llyfr emynau newydd yr Annibynwyr, bellach wedi ei gyhoeddi ac yn cael ei wasgaru yn gyflym dros y wlad. Ceir ynddo lawer o newydd-deb tonau ac emynau. Nid oes yr un llyfr emynau yn cynwys cymaint o gynyrchion awduron byw. Pa faint o'r emynau a'r tonau fydd yn byw yn nghalon y werin sydd gwestiwn nad oes ond arnser a'l hetyb yn effeithiol. -0- Yn Llandebie pwy nos cafwyd darlith odidog gan y Parch Elwyn Thomas, ei destyn oedd "Deng mlynedd yn Llunden." 'Roedd dros uoain o bregethwyr yn bresenol, a dim ond dweyd fod y lie a nodwyd wedi ei leoli y drws nesa i'r Gwynfryn ni raid dweyd o ba le y deuai yr holl bregethwyr. Fe faddeua W. Wyn i fi am ddod mor agos i'w dý i gasglu newyddion. —o— Cynaliwyd cyfarfod ymadawol brwdfrydig yn Merthyr i'r Parch D. C. Edwards a'i briod. Cyflwynwyd y llestri te a choffi i Mrs Edwards, ac nis gellir nemor ddim sydd yn fwy cymhwys i wraig, a chyflwynwyd bookcase godidog i Mr Edwards—beth arall mwy priodol allesid roddi iddo yntau. Bendith fo ar y naill a'r llall. Tra- ddododd Mr Edwards ei bregetb ymadawol nos Sul diweddaf. SOUTHMAN. -:0:-

Mr Herbert Roberts, A.S,,…

Boneddwr mewn Helbul yn Rhyl.

---0---Y Cymraeg yn Rhaith…

Manion oddeutu'r Menai.

[No title]

Advertising

[No title]