Hide Articles List

11 articles on this Page

Cohebiaethau.!

Dyffryn Clwyd.

Nodion o'r Ddinas.

News
Cite
Share

Nodion o'r Ddinas. [Can CWILSYN.] DYMA Gymanfa'r Annibynwyr wrth y drws. Bydd pregethu yn yr holl addoldai Annibynol nos Wener a thrwy ddydd Sul. Ceir amryw weinidogion newydd yn gwasanaethu eleni, ac yn eu plith y Parchn Ben Davies, y bardd coronog o Ystalyfera G. Griffiths, Pentre-estyll, lienor o fri, ac un o fuddugwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddar. Efe yw awdwr y gyfrol ddyddorol hono Emynwyr ac Emynyddiaeth Cymiu.' Beirdd eraill sydd yma yw'r Parehn Machreth Rees, Llundain a Parri Huws, B.D., Ffestiniog. Ceir amryw gewri eraill, fel y gwelir oddiwrth restr mewn colofn arall, yn gweinyddu yn yr wyl. —o— Nos Sadwrn, cynelir y Seiat Fawr. Ceir cyfle yma i weled a gwrando yr holl weinidogion dyeithr. Y llywydd fydd y Parch H. P. Thomas, Birken- head. Nos Lun, bydd cyfarfod i ddathlu Can. mlwyddiant Cymdeithas Genadol Llundain yn nghapel y Tabernacl a nos Fawrth bydd cyfar- fod i sefydlu y Parch S. Roberts, diweddar o'r Nant, Coedpoeth, yn weinidog eglwys weithgar Seacombe. Bydd adroddiad cryno o'r holl gyfar- fodydd yn y rhifyn nesaf. —o— Clywais droion nad yw y Cymry yn nodedig am gefnogi talent eu oydwladwyr. Faint bynag o wir sydd yn hyny, da genyf weled cyfeillion David btreet yn bwriadu rhoddi cefnogaeth i'w horgan- ydd ieuanc gobeithiol, Mr John Jones, Jacob Street, i fyned yn mlaen gyda'i astudiaeth gerdd- orol. Bwriadant gynal cyngherdd nos Fawrth, Hydref 8fed, er budd y cerddor ieuanc sydd wedi eu gwasanaethu mor ffyddlawn er's tro bellach a chan fod datgeiniaid gwych, yn cynwys Cor Meibion Walton, i gymeryd rhan, a'r amcan mor deilwng, gellir disgwyl iddynt gael cefnogaeth dda, a gobeithio y ceir swm da o elw. —o— Tra yn treulio yspaid o seibiant yn Mettwsycoed gyda'i deulu, derbyniodd y Parch William Pierce, gweinidog eglwys Tollington Park, Llundain, hys- bysrwydd fod lladron wedi tori i mewn i'w dy. Fodd bynag, y mae yn ymgysuro yn y ffaith ei fod wedi yswirio ei eiddo yn erbyn lladron, ac felly gwneir y golled i fynu. Mab ydyw'r pregethwr hyawdl i Mr a Mrs Pierce, Holden Street, o'r ddinas hon. -0- Ddydd Iau, ar fwrdd yr agerddlong St. Tudno, eynierodd amgylchiad dyddorol le, sef anrhegu y Capten Owen Lewis ar ei ben blwydd gan y swydd- ogion a'r peirianwyr. Cynwysai'r anrheg charm aur ag arwyddlun y cwmni arno, yn nghyda'r geiriau canlynol Anrhegwyd i'r Capt. Owen Lewis, agerddlong St. Tudno, gan y swyddogion a'r peir- ianwyr, fel arwydd o barch ac edmygedd, Tymhor 1895." —o— Ychydig o gapteniaid sydd mor adnabyddus ag yw'r Capten Lewis. Adwaenir ei wyneb gan fil- oedd sydd wedi ieithio i Ogledd Cymru yn agerdd- longau y Cwmni, a chyfrifir ef yn un o'r rhai medr- usaf vn ei alwedigaeth. Yn 1881 gwnaed ef yn g tpten y Bonnie Doon, wed'yn bu'n rheoli y Bonnie Princess hyd 1886, pan gymerodd ofal y Queen Victoria a foriai rhwng Lerpwl ac Ynys Manaw, ac yn 1890 dechreuodd ar ei waith fel capten y St. Tudno. Y mae ei orchwyl wedi bod ar y dyfroedd dyfnion am 44 mlynedd. —o — Ddydd Sadwrn nesaf agorir Pare Adloniadol Wavertree, a roddwyd i'r ddinas gan foneddwr an- adnabyddus. Rhoddir gwledd i ganoedd o blant yr ysgolion dyddiol, a bydd chwareuon, seindyrf, a llu o seremoniau i ddifyru y gwyddiodolion. —o— Bwriedir gwario 15,000p at helaethu'.c ysbytty yn Netherfield Road. o Ddyddiau Sul a Llun, agorwyd capel newydd y

O'r De.

Mr Herbert Roberts, A.S,,…

Boneddwr mewn Helbul yn Rhyl.

---0---Y Cymraeg yn Rhaith…

Manion oddeutu'r Menai.

[No title]

Advertising

[No title]