Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Cohebiaethau.!

Dyffryn Clwyd.

News
Cite
Share

Dyffryn Clwyd. DYMA fis Awst—un o blant anwylaf y flwyddyn —wedi ein gadael, ac er fod cryn hiraeth ar ol colli ei wyneb melyn fel lliw afal, ei ruddiau cochion fel gwrid rhosyn, a'i lygad siriol lie chwareuai heul- wen haf, eto wrth iddo ef fyned daeth mis Medi atom gyda ffrwythau toreithiog ar ei ysgwyddau, y grawn addfed yn hulio ei lwybrau, a'r cryman yn crogi wrth ei wregys. Erbyn hyn, mae gwen ar wyneb pob ffermwr yn y Dyffryn, ac y maent yn brasgamu drwy y meusydd gydag asbri newydd yn eu hysbryd, ac am ysbaid, beth bynag, yn gollwng y dirwasgiad amaethyddol dros got, ac yn cael cymhorth i annghofio eu cwyn. Eu gruddfan a droir yn ddiolch, ac wrth weled llafur eu dwylaw dan fendith, y tywysenau yn plygu pen dan bwys y grawn sydd ynddynt, a'r meusydd yn dyferu brasder, y mae eu llygaid yn gloewi a'u calon yn ysgafnhau. Nid oedd prinder testynau i siarad arnynt yn y Dyffryn yr wythnos ddiweddaf. Yn Rhuthyn, pwnc dydd oedd y cyhuddiad ddygwyd yn erbyn Dr William Jones o fod yn feddw ar y lawnt sydd wedi ei gysegru i'r Apostol Pedr. Hona, yr Arolyg- ydd Roberts fod y meddyg bron yn methu sefyll ar ei draed, ac yr oedd yr Heddgeidwad Jones o'r un farn. Dygwyd amryw dystion o'r ochr arall i geisio profi fod y Dr yn sobr, a dywedodd ef ei hun mai math o benysgafnder ddaeth arno i gyfrif am y sefyllfa y gwelwyd ef ynddi gan yr heddgeidwaid. Wedi i'r ynadon ystyried yr achos, hysbysodd Dr Jenkins eu bod wedi penderfynu taflu yr achos allan, ond rhoddodd yr Ynad Lumley ar ddeall nad oeddynt yu unfrydol wedi dyfod i'r penderfyniad hwn. Ddydd Iau, bu disgvblion y diweddar Beacons- field-aeloaau Cynghrair y Friallen-yn mwynhau eu hunain drwy agallu am eu gwrhydri yn yr ethol- iadau diweddar dros y Blaid Undebol. Wrth gwrs gan fod cymaint o wrachod yn bresenol rhaid oedd yfed te, ac oddiwrth yr areithiau Uiprynaidd draddodwyd nid ymddengys fod trwyth y ddeilen hono wedi ychwanegu dim at nerth meddyliol y siaradwyr. Bu'r Capten Wynne Edwards yn rhoddi balm sebonaidd ar friwiau ei bleidwyr siomedig, yn canu molawd Joe Chamberlain, ac yn dweyd wrth bawb oedd yn bresenol am efelychu y Germaniaid, fel pe na fuasai neb yn teilyngu efelychiad yn y wlad hen. Terfynwyd y gweithrediadau trwy ddawnsio, ac fel y dywedai her ffarmwr ddigwyddai fod yno- Yr oedd mwy o nerth yn eu traed nag yn eu heg- wyddorion o lawer iawn." Tra mae'r ffermwyr yn medi ffrwyth eu llafur, y mae caredigion addysg yr ardaloedd hyn yn prysur hau. Gwanwyn yw hi eto ar addysg ganolradd, ond gellir disgwyl ffrwyth toreithiog yn y man, a bydd meddwl Cymru yn gyfoethocach o'i blegyd. Cynaliodd llywodraethwyr Ysgol Ganolradd Din- bych gyfarfod dydd Mawrth er ethol athraw cynor- thwyol. Ymgeisiai amryw am y swydd, ond Mr J Howland, B.A., Coleg y Drindod, Dublin, etholwyd* Bu tafarnwyr yr ardal yn cael eu mesur a'u pwyso yr wythnos ddiweddaf. Ychydig iawn o drwydd- edau wrthodwyd. Yn Rhuthyn ceir tafarn ar gyfer pob 97 o'r boblogaeth yn Llandegla, un ar 2 gyfer pob 83 ac yn Llanfair, nid oes ond un ar gyfer pob 481 o bersonau. Mae hi'n wlypaeh, fe welir, mewn rhai manau na'u gilydd. Yn ynadlys Dinbych, ddydd Gwener, cyhuddwyd Harry Howes a Robert Royles, dau fachgen yn byw yn Mhwll Grawys, o ymosod ar Lloyd Jones, Stryd Henllao, hen wr, trwy daflu ceryg ato a'i niweidio yn dost.—Anfonwvd y bechgyn i garchar am saith niwrnod.—Cafodd John Jones, Pwll- grawys, hefyd ci ddirwyo i Is 6c a'r costau am arfer iaith anweddus. Bu doethion tref Rhuthyn yn eistedd mewn cynghor ddydd Mawrth. Y peth cyntaf ddaeth dan sylw oedd anhwylusdo y trenau, a phender- fynwyd apelio at awdurdodau y reilffyrdd i wella hyn.—Hysbysodd y meddyg fod saith o farwolaethau a chwech o enedigaethau wedi cymeryd lie yn ystod y mis, a darllenodd adroddiad o sefyllfa iechyd y dref. Er ei fod yn cwyno am amryw bethau, rhoddwyd clo clap ar y drafodaeth drwy i'r Maer, (Mr G. F. Byford) ddweyd fod Rhuthyn mor iach ag unrhyw dref arall yn Ngogledd Cymru ae-nftd oedd neb yn marw yno ond o henaint. Bu cwestiwn y dw'r dan sylw, a dechreuodd ferwi tipyn. Penderfynwyd gohirio'r ymdriniaeth arno —Penderfynwyd fod ffair gyflogi a phleser a arferid gynal yn mi8 Mawrth i gael ei chynal rhag- llaw ar y dydd cyn ffair Ebrill.-Bu'r cwestiwn o sefydlu llyfrgell yn y dref dan sylw, a throsglwydd- wyd y mater i Bwyllgor Addysg Gelfydslydo'. -0-

Nodion o'r Ddinas.

O'r De.

Mr Herbert Roberts, A.S,,…

Boneddwr mewn Helbul yn Rhyl.

---0---Y Cymraeg yn Rhaith…

Manion oddeutu'r Menai.

[No title]

Advertising

[No title]