Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Cohebiaethau.!

News
Cite
Share

Cohebiaethau. OYMRY YN RHANEDIG. SYR,—Y mae golygvdd un o'ch cyfoesolion yn cwyno yn dorcalonus oherwydd fod rhai o'n cyd- wladwyr yn Neheubarth Cymru yn meiddio bod yn ddigon annibynol i anwybyddu y symudiad ertbyl aidd a adnabyddir wrth yr enw "Cynghrair Rhyddfrydig Cenedlaethol Cymru Fydd," ac am eu bod yn glynu wrth eu hen gyaghrair, ac apelia mewn ton lesmeirioi am fwy o undeb. Ai nid gonestach a mwy gwynebagored a tuasai iddo gyd- nabod mai symudiad anymarferol as erthylaidd yw y symudiad newydd ? Cwyna fod gormod o duedd yn mhawb i fod yn geffyl blaen ond y mae yn amlwg mai ei ddirgel gred ef yw nad oes neb i fod yn geffyl blaen ond rhyw ychydig o wyr ieuaiDc di- brofiad ac annghyfarwydd mewn gwir wladlyw- iaeth perthynol i "Gymru Fydd," a phawb arall i'w hanrhydeddu hwynt trwy dywys eu hobi-farch hwy trwy yr heolydd, gan waeddi "Abrec." Pwyntia y golygydd at y sefyllfa y mae annghyd- fod wedi dwyn y Gwyddelod iddo, ac eto y mae efe am i ni efelychu gwladlywiaeth y Gwyddelod mewn anwybyddu y gwahaniaeth sydd rhwng egwyddorion Rhyddfrydig ac egwyddorion Tori- aidd. Myn i ni anwybyddu egwyddorion a dyr- chafu hunaoles (expediency) i'r orsedd yn eu lie. Yr ydym yn ddyledus am y golled o rai o'r seddau Seneddol yn Neheudir Cymru i ymyriad Cymru Fydd. Y mae y drychfeddwl o fod i ni fel cenedl e ymuno mewn un cynghrair cyffredinol yn idea ardderchog ar bapyr, a hoffem weled y drychfeddwl mewn ymarferiad. Ond y mae yn groes in hanian- awd ni fel cenedl, ac hefyd yn anymarferol oher- wydd y draul ddirfawr i'w gario yn mlaen, a ninau y Rhyddfrydwyr mewn oydmaris.eth mor dlawd. Un anhawsder i allu dyfod i gyd-ddealltwriaeth cyffredinol fel Rhyddfrydwyr yw fod y wasg Rydd- frydig yn Nghymru, oddigerth ychydig eithriadau, yn ymarferol gauedig yn erbyn pob gohebydd nad yw yn gallu seinio shibboleth Cymru Fydd. Ym. ddengys fod perchenogion a golygwyr llawer o newyddiaduron wedi eu hud-ddenu trwy gael eu gwneud yn aelodau a swyddogion ar gynghor y cynghrair newydd. Rhyfedd fel y mae rhai o'r newyddiaduron, oeddynt gynt yn bur boblogaidd, wedi ymddirywio, fel y mae y rhai oeddynt gynt yn arwain y cyhoedd, yn eu dyrchafu, ac yn cymedroli dosbarthiadau o'n cenedl fyddent yn dechreu cymeryd cwrs gyfeiliornus ac eithafol, erbyn hyn wedi ymddarostwng i weini i chwaeth isel rhai pobl, ac i wenieithio iddynt, fel y mae y cyfoesolion hyny wedi dyfod erbyn hyn y pethau mwaf glasdwraidd ac amrwd. Gellir gyda golwg ar rai ohonynt ofyn, Pa fodd y tywyllodd yr aur coeth?" Nid ydynt bellach yn maentumio ac | attegu egwyddorion. Camarweiniant y werin trwy eu hadroddiadau o'r hyn sydd yn myned yn mlaen yn Nhreffynon, ac ni roddant yr un awgrym mai gau yw y gwyrthiau honedig rhoddir pob rhwyddineb i'r rhai sydd yn hau cyfeiliornadau ac yn ceisio dadymchwel ffydd ein tadau. Y mae lie i ofni fod yr ysbrydiaeth gonest, diarswyd, a selog dros rin- wedd ac egwyddor, oedd flynyddoedd yn ol yn tanio ac yn gwefreiddio Cymru trwy y wasg, wedi cymeryd ei adenydd. Yn mhellach, y mae dillyn- der a phrydferthwch iaith a dullwedd wedi rhoddi ffordd i lipryndod a brygawthedd. Y mae sefyllfa bresenol rhan o'r wasg Gymreig yn ddigon difrifol i drydanu llwch Ieuaa Gwynedd, Hiraethog, John James Hughes, J. Evans Jones, &c., i fywyd yn ol i wrthdystio, Os ydym am gael,Cymru unol, adnewydder i ni wasg a feiddio sefyll dros egwyddor, serch colli rhai tanysgrifwyr, ac na cheisier efelychu ein brodyr yn yr Ynys WerJd yn eu pethau gwaelaf. SYLWEDYDD. "COURT LEET." SYR,—Gwelais hysbysiad y cynelid Manor Court, Court Barm, Court Leet, and view of Frankpledge, ar yr 28ain o'r mis hwn yn Cemaes M6n. Nid wyf I yn deall beth feddylir wrth y Courts hyn, na pha amcan neu ddyben sydd iddynt. A fyddwch chwi, syr, neu rai o'ch darllenwyr, cystal ag egluro hyn, a theimlaf yn dra diolchgar i chwi. —Ydwyf, &c., UN 0 GEMAES. --0-

Dyffryn Clwyd.

Nodion o'r Ddinas.

O'r De.

Mr Herbert Roberts, A.S,,…

Boneddwr mewn Helbul yn Rhyl.

---0---Y Cymraeg yn Rhaith…

Manion oddeutu'r Menai.

[No title]

Advertising

[No title]