Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Trychineb ar y Mor yn Aberystwyth.
Trychineb ar y Mor yn Aberystwyth. DDYDD Iau, cymerodd trychineb le yn Aberyst- wyth a droes yn angau i ddwy foneddiges. Yn y prydnawn, cychwynodd y cwch General Gor- don allan i bysgota dan ofal dau ddyn o'r enwau John ac Evan Davies. Gwahoddwyd dau fon- eddwr a dwy foneddiges oedd yn sefyll ar y traeth i fyn'd i'r cwch, a derbyniasant hwythau y gwahoddiad. Caed cryn anhawsder i rwyfo oherwydd fod y gwynt yn gryf a'r mor yn gyn- hyrfus. Pan oddeutu haner milldir o'r lan tarawyd y cwch gan don a thorwyd un o'r planciau. Oeisiwyd myned yn ol i'r porthladd ond yn aflwyddianus. Rhoddwyd yr unig life- belt yn y cwch i Miss Poole, Lerpwl, tra daliwyd y foneddiges arall, Miss Randle, N ewbridge, Rhiwabon, ar wyneb y tonau gan un o'r bon- eddigion, yr hwn a geisiodd nofio at y lan. Fodd bynag, suddodd Miss Poole, ond er llwyddo i ddod a Miss Randle i'r lan methodd y meddygon er pob ymdrech a'i hadfer. Yn y trengholiad ddydd Gwener, dychwelwyd rheith- farn o "Farwolaeth ddamweiniol." -0
Marwolaeth Cymro yn Toronto,
Marwolaeth Cymro yn Toronto, A BT 13, yn Toronto, Canada, bu farw Mr Richard Lewis wedi cyrhaedd ohono yr oedran teg o 82 mlwydd. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Lerpwl, ac am rai blynyddau bu yn athraw yn un o ysgolion y Gorphoraeth. Symudodd i Canada oddeutu 30 mlynedd yn ol, a llanwodd gylchoedd pwysig yn y wlad hono. Yr oedd yn Gymro twvmgalon, ac efe oedd llywydd Cym- deithas Dewi Sant Toronto. Yr oedd yn ddinesydd ac athraw da, yn adnabyddus i gylch eang, a theimlir colled ar ei ol. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o weithiau ar areithyddiaeth, ac yn y ganghen hon yr oedd yn fedrus iawn. Gadawa weddw a phedwar o blant i alaru eu colled ar ei ol.
-----------------Prof Henry…
Prof Henry Jones ar Addysgiaeth Uwch. YN y Traethodydd am y chwarter presenol rhoddir y lie blaenaf i erthygl alluog Proff. Henry Jones, M.A., ar Yr Addysgiaeth Uwch a Bywyd Cenedlaethol Cymru." Dyna y ddarlith a draddododd Mr Jones ar ddiwedd blwyddyn athrofaol Coleg y Goledd-Mehefin 27, 1895." Mae pob brawddeg bron yn yr erthygl yn llwythog o feddwl, ac yn orlawn o ddeunydd ystyriaeth a da fyddai i bawb sydd yn teimlo dyddordeb yn nyfodol Cymru, ei haddysg yn arbenig, ei darllen yn fanwl. Dadleua'r awdwr yn gryf dros undeb gwladwriaetbol, wrth yr.hyn nid ydym i feddwl ei fod yn erbyn Ymreolaeth. Megys yn un man :— Nid ydym yn unig yn frodorion Cymru, ond yn ddinaswyr Gwladwriaeth fawr, yr hon, fel y dywedir wrthym, sydd yn Anglo-Celtic yn hytrach nag yn Anglo-Saxon, ac am hyny mewn gwirionedd yn eiddo i ni ein hunain. Pa'm y byddwn ni yn anffydd- Ion i Y mberodraeth at wneuthuriad pa un yr ydym ni ein hunain wedi cyfranu? Oni fuom yn gyfranog o'i thynged yn y gorphenol, ac onid ydym yn etifedd- ion ei thynged ddyfodol, Y mae yn eiddom ni | mor wir ag y mae yn eiddo Lloegr. > Gwelir oddiwrth yr ymadroddion hyn fod y Proffesydd dysgedig yn Ymherodrydd cryf ond os troi'r i ranau eraill o'i ddarlith, ceir profion ei fod hefyd lawn cryfed Cenedlaetholwr. Megys :— Fe fyddai mewn rhyw ffordd yn well i Loegr ben- derfynu beth a fwytawn ac a yfwn, a brynwn ac a werthwn, ac a pha beth yr ymddilladwn, gan gornelu a chyfyngu ein bywyd allanol, nag iddi barhau i letfetheirio ein meddwl, a phenderfynu beth a geisiom ddysgu. --0--
O'r Twr.
O'r Twr. [Gan TREMIDYDD.] AR gof-golofn y diweddar Broffeswr Huxley, fwriedir osod yn Llundain yn fuan, ceir y penill awgrymiadol a ganlyn wedi ei gertio And if there be no meeting past the grave, If all is darkness, silence, yet 'tis rest, Be not afraid, ye waiting hearts that weep, For God still giveth his beloved sleep," And if an endless sleep He wills-so best. -0- Wedi'r ymdrafodaeth ddiweddar yn y Senedd yn nghylch rhoddi nwyddau wedi eu gwneud mewn carcharau tramor ar werth yn marchnadoedd y wlad hon, y mae'r Llywodraeth wedi penderfynu aoal gwerthiant y cyfryw rhagllaw. Cofir i Mr Bryn Roberts bleidio gwerthiant y nwyddau tramor hyn ar y tir fod gan Brydeinwyr hawl i fyned i'r man y mynont i brynu yr hyn y maent mewn angen am dano. —o— O'r diwedd, tybir fod y Sultan, teyrn ffroenuchel Twrci, yn dechreu sylweddoli mai nid doeth fydd iddo lwyr anwybyddu y tri Gallu sydd wedi anfon ato i geisio ganddo amddiffyn y Cristionogion yn Armenia Hysbysir ei fod wedi pencdi dir- prwyaeth arbenig i wneud ymchwiHad i'r gwyn, ond nid yw yn debyg y bydd iddo blygu yn hollol i geisiadau Prydain, Ffrainc a'r Almaen. —o— Wedi pythefnos o sefyll allan, y mae melinwyr Dundee yn rhifo 27,000, wedi dyfod i gytundeb boddhaol gyda'u meistri, a dechreuasant weithio ddydd Llun. Yr hyn yw Treffynon i Ogledd Cymru yw tref Lourdes i Ddeheubarth Ffrainc. Ceir ffynonau yno ag y mae pobl yn eu hygoeledd yn priodoli rhin- wedd gwyrthiol i'w dyfroedd. Mewn un wythnos yn ddiweddar yr oedd 25,000 o ddyoddefwyr o bob rhan o'r wlad wedi eu cludo yno er cymhwvso y dwfr sanctaidd at eu hanhwylderau. Golygfa dor- calonus yw gweled y trueiniaid yn cael eu llygad. dynu gan dwyll Pabyddol, a'u hud-ddenu i deithio milldiroedd lawer mewn gobaith am adferiad, a Ilu ohonynt yn marw yn yr ymgais. -0- Gwyr Cymru rywbeth am dirfeddianwyr yn cau llwybrau cyhoeddus i fynu, ac yn cymeryd meddiant ohonynt, ond y mae'n gwestiwn a fuasai'r trigolion yn cymeryd yr un cwrs i ata.l hyn ag a wnaed yn Macclesfield yr wythoc* ddiweddaf. Ymddengys fod cryn helynt wedi codi parth hawl i lwybr yno, a darfu i aelod o Gymdeithas Amddiffyn Llwybrau Cyhoeddus dynu i lawr fur oedd wedi ei osod i atal pobl i gerdded hyd y llwybr. Ar hyn, wele'r tir- feddianwr yn llogi tua 50 o ddynion i amddiffyn ei hawliau, a daeth torf fawr o bobl i'w herbyn. Cymerodd amryw ymladdfeydd le, a'r diwedd fu galw heddgeidwaid, y rhai anogasant y tirfeddian- wyr i roddi i mewn, ac aeth y dorf ar hyd y llwybr dan ganu am eu buddugoliaeth. -0- Fore Mawrth, cymerodd damwain le ar ganghen Forfar a Bircham o reilffordd y Caledonian, Ysgot- land. Pan yn agoshau at orsaf Brechin, methwyd atal y peiriant, a rhuthrodd drwy fur uchel i'r heol gyhoeddus yn cael ei ddilyn gan y cerbydau. Anafwyd deuddeg o bobl, ond gallasai y ddamwain fod yn llawer mwy difrifol onibae i'r peiriant dori i lawr, gan fod torf fawr o bobl ar yr heol y rhuthrodd y peiriant iddi, ar y pryd. -0 Dydd Sul diweddaf, aeth tren o Euston i Carlisle, pellder o 300 milldir, heb sefyll unwaibh ar y daith. —o— Dydd Sadwrn, dychwelwyd Mr. Finlay, y Cyf- rsithiwr Cyffredinol newydd, yn ddiwrthwynebiad dros Fwrdeisdrefi Inverness. -0- Yn y senedd-dymhor nesaf, bwriada Mr. Ernest Flower, yr A.S. Ceidwadol dros Orllewin Bedford, ddyfod a Mesur Wyth Awr yn mlaen, ond cyfyngir ef i weithfeydd peryglus, megys gweithiau alcan, fferyllol, a phlwm. Bwriada Syr Charles Dilke, hefyd, ddyfod a Mesur cyffelvb yn mlaen, ond bydd yn llawer eangach ei weithrediad, a mwy rhydd- frydol ei ddarpariadau. -0- Bu aelodau'r Ty Cyffredin yn eistedd o nawn ddydd Gwener hyd bump o gloch fore Sadwrn. Amcan-gyfrifon y Fyddin oedd dan sylw, a bu tra- fodaeth brwd arnynt. Yn ol pob ymddangosiad, dygir y Senedd-dymhor i ben yn fuan. :0:
Creulondeb Ffermwr Cymreig.
Creulondeb Ffermwr Cymreig. YN Ynadlys Penarddlag, ddydd Mercher, cyhudd- wyd Thomas Griffiths, ffermwr, Shotton, o greulon- deb at ddafad. Tystiodd yr Arolygwr John Clark fod y ddafad mewn poen mawr, a phan wnaeth archwiliad ami cafodd fod un o'i thraed wedi ei bwyta ymaith gan bydredd, a'i chlun yn llawn cynrhonod. Ni welodd erioed ddafad mewn cyflwr mor echrydus nac yn dyoddef cymaint o boen. Yr oedd dwy ddafad arall yn dyoddef yn gyffelyb. —Dirwywyd y ffermwr i 36s.
¡Marwolaeth Arwerthwr Cymreig.
¡ Marwolaeth Arwerthwr Cymreig. FORE ddydd Mercher, yn dra disymwth, bn farw Mr. G. F. Felton, arwaithwr, Llandudno. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn Ngogledd Cymru yn ei alwedigaeth, ac yn Llandudno cymerai ran amlwg mewn amryw symudiadau. Efe oedd y prif symudydd yn y regatta gynelid yno yn flynyddol. Nid oedd ond 35 mlwydd oed. --0-
Newyddion Cymreig.
Newyddion Cymreig. Derbyniodd y Parch Gwynoro Davies, Abermaw, alwad i fugeilio eglwys Fethodistaidd Falmouth Road, Llundain. Talodd Mr William Jones, Y.H., Birmingham, ei rodd o l,000p at Goleg Duwinyddol y Bala yn nghyfarfod diweddaf pwyllgor y coleg. Proctoriaid newydd Esgobaeth Llanelwy ydynt y Canon D. Evans, Abergele, a'r Parch D. Jones, ficer Llangernyw. Torodd tan allan yn ngadles Mr Sutton, Sandy- croft, nawn Sadwrn. Llosgwyd tas o wair yn llwyr ond arbedwyd y teisi eraill. Pregethai y cenhadwr adnabyddus Parch James Chalmers, New Guinea, yn eglwys Annibynwyr I Seisuig Llandudno y Sul diweddaf. Canai Mr Ffrangcon Davies a Miss Mary Thomas, Ynyshir, yn nghyngherdd Riviere, Llandudno, nos Sadwrn diweddaf. Penderfynodd Rhaith Dinesig Prestatyn, nos Wener, oleuo y pentref a nwy, a bwriedir dechreu'r gwaith ar fyider. Bwriada ymddiriedolwyr porthladd Caernarfon wario HOp er dyfnhau a gwelia y dociau fel y gall llongau mwy fyned i mewn iddynt. Yn nghyfarfod diweddaf Cynghor Tref Gwrec- sam, hysbysodd y swyddog iechydol fod pump o aehosion o'r frech wen a thri achos o glefyd coch wedi tori allan yn y fwrdeisdref. Yr wythnos hon dechreuodd tymor saethu petris, a dywedir eu bod yn Iluosog yn Ngogledd Cymru. Y maent hefyd mewn cyflwr graenus, diolch i feusydd yd ami i ffermwr tiawd am hyny. Y mae ffynon pentref Marchwiel, ger Gwrecsam, ar gael ei chau, am ei bod yn rhy agos i'r fynwent, a'r dwfr wedi ei gondemnio fel yn annghymwys i'w yfed. Bwriedir cyflwyno tysteb i'r bardd Elfyn, ac y mae chwarelwyr Ffestiniog wedi agor cronfa i'r perwyl. Dr Roberts (Isallt) yw'r trysorydd, gyda Glan Tecwyn yn ysgrifenydd. Mae Mr Turnbull, arolygydd reilffordd y L. & N. W., wedi addaw cyflenwi digon o drenau i gludo can mil o bob! i Llandudno wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yao. Yn Eglwys Babyddol St. Dewi, Wyddgrug, fore Sadwrn, unwyd dau o frodorion yr Eidal mewn priodas. Trafaelio gydag organ y maent. Felly maent yn dechreu byw tan ganu. Dywedir fod derbyniadan Cwmni Reilffordd Ffes- tiniog wedi lleihau yn ystod y flwyddyn, a'r costau wedi cynyddu. Achoswyd hyn gan y tywydd caled y gauaf diweddaf, yr hwn ataliodd waith y chwarelau. Yn ddiweddar gwnaeth 2,160 o chwarelwyr Dinorwig gais am godiad yn eu cyflogau, ond ya. grifenodd yr Anrhyd. W. W. Vivian, y goruch- wyliwr, atynt i'w hysbysu nad oedd yn gweled y ffordd yn glir i ganiatau hyn. Heblaw gwerthu Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy, y mae Arglwydd Ancaster wedi pender- fynu gwerthu dros 8,000 o aceri o'r etifeddiaeth, yn cynwys ffermydd, planhigfeydd, hawl i bysgota mewn amryw afonydd a llynoedd, a thir saethu. Yn Rhaith Dinesig Rhyl ddydd Mawrth, buwyd yn trafod y cwestiwn o symud y Royal Alexander Hospital o'r Promenade, a phenderfynwyd cynyg 3,000p i'r ymddiriedolwyr tuag at gael lie arall i'r yspytty. Darllenwyd Ilythyr mewn cyfarfod o Gynghor Tref Fflint ddydd Mawrth oddiwrth Gynghor Caer yn gofyn iddynt gydweithredu er sefydlu yspytty at wasanaeth sir Gaer a Gogledd Cymru. Wedi trafod y mater, penderfynwyd ei gyflwyno'i ystyr- iaeth y pwyllgor sy'n gofalu am iechyd y dref. Yn ynadlys Gwrecsam ddydd LInn, cyhuddwyd William Pulford, Birkenhead, o deithio ar linell y Great Western heb docyn, a dirwywyd ef i 20s a'r costau. Yn yr un llys, anfonwyd Thomas Hussin, glowr, i garchar am ddau fis am ymosod yn greu- lawn ar ei wraig. Dywedir fod mwy nag arfer o nadroedd yn Nghymru yr haf hwn, ac fod amryw wedi eu Hadd yn ardaloedd Ffestiniog a Beddgelert. Ar fynydd Gorllwyn ger Beddgelert, yr wythnos ddiwedda,f, lladdwyd neidr yn mesur oddeutu pedair troed- fedd, gan Mr Owen Williams, Glangors. Cafodd gryn drafferth gyda'r ymlusgiad gan iddi ymladd yn galed am ei bywyd. Yn ei dystiolaeth gerbron y Dirprwywyr Elusenol yn ddiweddar, adroddodd un dyn y penill canlynol i ddangos y modd y telid y rhent yn Nghymru ddechreu y ganrif bresenol:— Cewch ugain punt bob dimai goch, A dwy wydd dew o gafnau'r moch, A dwy iar ynyd gribgoeh, lan, A llwyth o lo i gadw'r tan. Cynwysa Llyfr Tonau ac Emynau newydd yr Annibynwyr tua mil o donau, nifer Iluosog o gorganau, a 24 o anthemau. Golygid yr emynau gan y Parchn. D. Roberts, D.D., Gwrecsam D. Adams, B.A., Bethesda; Proff. Rowlands, B.A., Aberhonddu a'r Parch. Elvet Lewis, Llanelli a'r tonau gan y Parch., W. Emlyn Jones, Treforris Mr. D. Emlyn Evans, Mr. D. W. Lewis, Bryn- aman, a Mr. M. D. Jones, Treherbert. Dywedir fod 20,000 wedi eu harchebu cyn i'r un copi ddyfod allan o'r wasg. Ddydd Llun, gosodwyd ceryg sylfaen addoldy newydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Warren Road, Rhyl. Adeiladwyd yr hen gapel 25 mlyn- edd yn ol, ond y mae y fath ffvniant wedi bod ar yr aeho3 fel y barnwyd yn ddoeth adeiladu capel eangach, i gynwys eisteddleoedd i 600. Cyfanswm y gost yw 2,000p. Cymerwyd rhan yn y gwasan- aeth gan y Parchn D. Ll. Owen, y gweinidog, a R. Black well. Rhoddwyd tryweli ariac i'r bonedd- igesau canlynol i osod y ceryg yn eu lie:—Mrs Robert Jones, Foryd Mrs J. Roberts, Hyfcydle Miss J. E. Jones, Water Street; Miss K. E. Hughes, Treffynon a Mrs R. Ll. Jones, Rhyl Tanysgriftodd y boneddigesau hyn lOOp rhyng- ddynt at gronfa'r capel. Wedi myned trwy'r gor- chwyl, cynaliwyd gwasanaeth yn y capel.
- Y diweddar Barch Richd,…
Y diweddar Barch Richd, Williams, Rhyl. Bu farw y gweinidog Wesleyaidd adnabyddus uchod, yn 67 oed, yn ei breswylfod, 30, John St, Rhyi, Awst 29 Nid oedd ond ychydis: ddyddiau er pan ydoedd wedi symud o Abergele. Efe oedd Arol- ygwr Cylchdaifch Abergele yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, ac wrth roddi i fynu ei ofalon gweini- dogaethol yn y gylchdaith hono, yr oedd yn gallu edrych yn ol ar lawn 41 o fiynyddoedd ei oes wedi eu treulio yn y weinidogaeth Wesleyaidd. Yr oedd wedi cael caniatad yn y gynadledd ddiweddaf yn Plymouth i fod am weddill ei oes yn uwchrif. Cymerodd dy yn Rhyl, gan fwriadu trigianu yma gyda'i deulu yn nghyfnod tawel a diofal ei neilldu- aeth ond gahvyd ef i fwynhau dedwyddwch "tra- gwyddol orphwys" cyn cael ond prin ychydig oriau o lonyddwch a gorphwysfa a ddisgwyliai ar y ddaear. Ganwyd y Parch R. Williams yn Llwyngwril, Meirionydd, ac o dan ddylanwadau crefyddol a gafodd yn y gymydogaeth hono y tueddwyd ei teddwl i ymgymeryd a gwaith y weinidogaeth. Denllaf iddo fod, pan yn ieuanc, am ryw gymaint 0 arnser yn byw yn Lerpwl, a dywedir iddo wneud defaydd da o'i oriau hamddenol y pryd hwnw i barotoi ei hunan i'r cylch pwysig ag y bwriadai dreulio eifywyd ynddo. Dechreuodd "deithio" fel gweinidog Wesleyaidd yn y flwyddyn 1854. Ei gylchdaith gyntaf ydoedd Llangollen. Bu yn ddilynol mewn 16 o gylchdeithiau eraill. Yr oedd yn neillduol o ofalus am amgylchiadau yr achosi on yn mhob man. Gweithioda yn galed mawn rhai lleoedd i ddiddyledu capeli, ai i symud ymaith feichiau arianol oeddynt er's talm yn boen i lawer. Bu yn llwyddianus iawn i wella amryw o'r cylch- deithiau ag y bu ynddynt yn yr ystyr yma. Byddai bob amser yn cyflawni ei ddyledswyddau fel Arol- ygwr Cylchdaith Wesleyaidd yn drefnus a phryd* Ion. Cymerodd ei gladdedigaeth le ddydd LIun, Medi 2, yn mynwent newydd Rhyl. Yr oedd y gweinidogion a'r lleygwyr Wesleyaidd canlynol, a nifer luosog o flaenoriaid ac aelodau eglwysig eraill, o'r gwahanol gylchdeithiau ag y bu yr ymadawedig yn llafurio ynddynt, yn ffurfio yr orymdaith alarus i hebryngu ei weddillion i dy ei hir gartref" :— Parchn John Evans, Rhyl; John Kelly, Prestatyn; Rowland Rowlands, Abergele; Robert Jones ac Edward Humphreys, Bangor; O. Lloyd Davies, Evan Evans, J. R. Ellis, John Hughes (Glanys- twyth), a W. Caenog Jones, Lerpwl; O. Hnghes, Widnes R. Morgan, Caer Dd. Jones (Druisyn), Gwrecsam John Evans, Cefn Henry Hughes, Bagillt; Moses Roberts a John Smith, Llanasa T. 0. Jones, Wyddgrug Peter Roberts, Mostyn John Felix, Ruthin; D. 0. Jones, Llanrhaiadr; David Jones, Dinbych T. C. Roberts, Colwyn B ty Robert Lewis, Llandudno; a J. Wesley Hughes, Llanddulas Meistri John Jones, Lerpwl; J. Lloyd Jones, Llanrhaiadr: Edward Jones, Conwy; John Edwards, Abergele; Wm.Williams, Rhyl; John Marsden, Treffynon; D. Owen, T. Bartley, a Wm Evans, Llandudno Joseph Jones,, Llanddulas; &c. Yr oedd y Parchn Hugh Jones, Tregarth W. H. Evans, Rhyl ac O. Williams, Caernarfon, wedi anfon i ddatgan eu gofid am eu bod yn analluog i fod yn bresenol Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn Nghapel Brunswick am ddau o'r gloch. Siaradwyd gan y Parchn Evan Evans, Lerpwl R. Jones, Bangor a Mr Edwards, Abergele. Cymerwyd rhan hetyd mewn darllen a gweddio gan y Parch Edward Humphreys, Bangor: 0. Lloyd Davies, a J Hughes, Lerpwl. Aed tn, v y gwasanaeth wrth y bedd gan y Parchn Ishmael Evans, Rhyl, a Henry Hughes, Bagillt. H. W. o
Person Caergybi ar yr Eglwys…
Person Caergybi ar yr Eglwys Cymraeg Nos Fawrth, traddododd Canon D. W. Thomas, M.A., olynydd y diweddar Ganghellydd Briscoe yn mywoliaeth Caergybi, ei bregeth gyntaf yn ei blwyf newydd. Ei destyn oedd "Ys- bryd yw Duw a thaid i'r rhai a1 haddolant Ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd." Wedi cyfeirio at yr hyn oedd yn gynwysedig mewn gwir addoliad sylwodd ar y ffurfim a'r credoau, ac ar henafiaeth yr Eglwys. Yr oedd ganddynt yr un credoau, yr un ordinbadau, ag oedd yn yr Eglwys Apostolaidd. Cyfeiriodd at hanes yr Eglwys Brydeinig, yr hon elai yn mhell tnhwnt i adeg St. Awstin. Yr oedd Eglwys St. Cybi, yn yr hon y pregethai, ar enw ben Sant Pryd- einig fodolai yn y chweched ganrif, ac yn eu hadgofio o'u hundeb parhatis gyda dynion apostolaidd. Ceid yr Eglwys Gymreig heddyw wedi ei buno gyda'i cbwaer ieuengach Eglwys Loegr gan rwymau gwladol, eglwysig, ac ys- brydol a da fyddai iddynt ystyried y breintiau a'r cyfiifoldeb gyfodai o'r undeb hwnw. --0-
[No title]
gael bj wydfad newydd i'r He hwnw,
Cyngres Undebau Llafur.
Cyngres Undebau Llafur. YR wythnos hon dechreuodd y Gyngres uchod ar ei heisteddiad blynyddol. Caerdydd oedd lie ei cbynaliad eleni, ac yr oedd canoedd o gynrychiolwyr o bob rhan o'r deyrnas wedi dod yn nghyd. Eisteddodd y gwahanol bwyllgorau yr wythnos diweddaf er gwneud y trefniadau aogenrheidiol, ac erbyn ddydd LIun, yr oedd pobpeth mewn trefn i fyned yn mlaen gyda'r gwaith o drafod cwesfciynau sy'n dal pertbynas mor agos a dosbarthiadau gweithiol y wlad hon. Ddydd Mawrtb oedd y dydd pwysicaf ar lawer ystyr, am mai dydd y traddodai y Cyng- horydd J. Jenkins, llywydd y Cyngres, ei anerchiad o'r gad air, ac hefyd y dydd i gymeryd llais y cynrychiolwyr ar gynygiad Mr J. H. Wilson, sylwedd yr hwn a welir yn ein coiofnau arweiniol. Yn ei anerchiad, dy. wedodd y llywydd fod y Llywodraeth trwy eu haddewidion yn rhwym o wneud rhywbeth i leddfu anghenion a gwella sefyllfa, y dosbarth gweithiol. Cyhuddai Blaid Annibynol Llafur o niweidio achos ymgeiswyr oedd ynffafrioI i fuddianau y gweithwyr yn yr etholiadau diweddar, a galwai arnynt i gyflwyno eyfriflen er dangos yn lie y caw- sant arian i gario eu hymgyrch yn mlaen. Pan aed i. bleidleisio ar gynygiad Mr J. H. Wilson, cymerodd golygfa gyffrous le, Hysbysodd y llywydd y byddai y pleidleisio yn ol un bleidlais am bob mil o'r aelodau, ac nid oedd hyn yn gymer- adwy gan luaws. Bygythiai rhai fyned allan, a bu cryn annhrefn am beth arnser. Wedi cymeryd y bleidlais, caed fod 357,000 dros gynygiad Mr Wil- son, a 604,000 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cyn- ygiad trwy 247,000 o fwyafrif. -0- Y mae 100p. wedi eu casglu ya Llandudno at
CWRS Y BYD.
hyn afiaethol Cymru. Bu yn golygu ac yn brif j ysgrifenydd i'r Archoeologia Gambrensis er's talm am flynyddau ac yno yr ymddangosodd gyntaf ei lithoedd dyddorol ar Vestiges of the Gael in Gwynedd." Yn gyfranog a Edward Freeman cyhoeddodd History and Antiquities of St. David's." Fel duwinydd hefyd, ysgrifen- odd gryn lawer i Eiriadur Ysgrythyrol Dr Smith, ac i'r Speaker's Commentary. Ond dywedir nad gwir y chwedl fod yn mwriad y ddau brelad ymddiswyddo, a rhoddi cyfle i'r Prifweinidog Toriaidd newydd i benodi eu holynwyr. Pwy fuasai'r ddau, tybed ? Pwy, tybed, a gawsai y fraint, Ai Howel, ai Hartwell, ai pwy ? 0 fod yn benciwdod y saint, Ai Griffiths neu rywun f'ai fwy ? Ai Prifathro Llanbed-O wen? Neu rhyw 'ffeirad arall islaw ? Wneid Dyfrig yn un o'r ddau ben ? Rhys Mwrog ? neu Huws, Aber Maw ? Egluradaeth Dr Rhvs. UN o'r testynau mwyaf dyddorol y bu Dr. Basil Jones yn eu trafod yn y Gambrensis ydoedd olion y Gwyddelod yn Ngogledd Cymru tan y penawd Vestiges of the Gael in Gwynedd. Rhydd enwau lleol mfer o fanau i gadarnhau ei oscdiad fod to o'r genedl neu'r llwyth hwnw wedi byw a bod yn Ngwynedd megys Coed y Gwyddel, Cytiau'r Gwyddelod, Gwyddelwern, &c. Ac y mae hyn yn fy arwain at erthygl ddysgedig y Prifathraw Jolin Rhys yn Y Cymro diweddaf, yr hon sydd wedi enyn dyddordeb annghyffredin yn mysg lluaws ein darllenwyr mewn enwau lleol yn Nghymru, ac yn debyg o gynyrcbu amryw obebiaethau gwerthfawr. Yn enw ein darllenwyr, yr wyf yn diolch i'r Cadeirdraw dysgedig am ei lythyr, ac yn hyderu y cawn ami air eto ganddo ar yr un pwnc. Y mae cyfaill neu ddau hefyd wedi addaw chwilio terfynau ym- herodraeth Ciadi a'r ciaws a'r ciathod yn Nghymru a danfonodd un ohonynt air i ddweyd eu bod yn cyrhaedd tros Ferwyn i Benybont Fawr. John Elias a Henry Rees, BUASAI yn anhawdd darnodi athrylith y ddau efengylydd enwog uehod yn well nag yn ngeiriau y Parch. John Hughes, awdwr Methodistiaeth Cymru. Meddai, Wrth i'r bobl ddychwelyd o oedfa gan John Elias dywedent, Dyna i chwi BREGETHWR I Wrth ddychwelyd o oedfa gan Henry Rees, 'Dyna i chwi BREGETH Prun, medd y darllenydd, oedd y mwyaf o'r ddau ? Gwilym Cowlyd. UN o feirdd Cymraej; goreu'r oes ydyw Gwilym Cowlyd a gellir yn ddibetrus gyfrif ei awdl ar Fynyddoedd Eryri" gyda'r dwsin goren o awdlau sy'n yr iaifh. Mae ynddi rai desgrifiad- au digymhar, megys :— 11 Y llynau gwyrddion, I.Ionydd--a gysgant Mewn gwasgod o foelydd A thyn heulweu ysplenydd Ar len y dw'r lan y dydd. A hwn.- Moel Siabod y 'mhlas wybyr- U wchlaw Dyffryn Mymbyr Tafod ein rhyddid difyr—sy'n siarad A diddirywiad fydoedd yr awyr. Mae'r hwn all nyddu'r gynghanedd a drych- feddyliau prydferth uchod yn fardd heb os nac onibai. Mae Gwilym hefyd yn ddyn gwybodus, wedi darllen illawer. ac yn byddysg iawn yn hanes Cymru, a'i barddas a'i llên. Ond yn y cymeriad o BRIF-FARDD PENDANT, Anhawdd ydyw gwybod beth i'w feddwl ohono. Pa fodd gellir cy soni y ffaith fod y bardd m wyn gyfansoddodd y toddaid tlws hwnw i'r Cae Gwenith oedd yn ein rhifyn diweddaf yr un a'r Pendantydd bygylog oedd yn y Post yr un diwrnod yn bygwth galw adran o fyddin Prydain i ysgnbo ymaith Orsedd anneddfol Llandudno, ac yn arweddu ffurfiau eraill o aw- durdod nad oes ganddo y rhithyn lleiaf o hawl iddo. Mae'n anhawdd chwerthin am ben ffolineb bardd mor ragorol ac yn anhawdd peidio am ben bygythiwr mor ddiallu a direswm. --0--