Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

1SENEDD LLAFUR.

News
Cite
Share

SENEDD LLAFUR. YR wythnos hon cynelir Senedd Llafur yn Nghaerdydd. Dyma ei hail ymweliad a Chymru wyth mlynedd yn ol cyfarfu yn Abertawe, ac y mae ei nerth a'i dylanwad yn y cyfamser wedi cynyddu'n ddirfawr. Llawer egwyddor oedd y pryd hwnw megys yn blaendarddu erbyn hyn wedi tyfu yn bren grymus, a'r hyn oedd yn cael ei sisial yn ofnus yn 1887 bellach yn cael ei bregethu ar benau'r tai. Er engraipht, yn nghyfar- fod Abertawe yr awgrymwyd yn ffurfiol gyntaf gwestiwn y dydd o wyth awr, ac y mae'n deilwng o sylw mai ychydig o gefn- ogaeth gafodd erbyn hyn, fe gydnabyddir yn gyffredinol yr angenrheidrwydd ohono yn mysg glowyr, mwnwyr, chwarelwyr, a phawb sy'n gweithio mewn cuddfeydd afiach. Daeth 345 yn nghyd, ac y maent yn cynrychioli tua miliwn o weithwyr. Dechreuasant ymgynull ddydd Sadwrn a !n dydd Sul, traddodwyd lluaws o bregethau gan wyr o nod yn eglwysi a chapelau'r dref, ac yn mysg y pregethwyr yr oedd Deon Stubbs o Ely (diweddar o Waver- tree), Canon Gore, y Parch W. H. Head- lam, Llundain, ac eraill glerigwyr hynod am eu gogwydd gwerinaidd. Dywedir fod holl addoldai y dref yn orlawnion ac yr oedd cyfeiriad y weinidogaeth yn benaf, yr eiddo Canon Gore yn neillduol, at brofi fod gan y gweithwyr hawl i gydymgynghori ac i ymgynghreirio er amddiffyn eu hawliau a'u buddianau Pwysig yn wir ydyw'r pynciau a drafodir, ac amrywiol yn eu natur a'u hamcanion yn ymestvn o'r priodoldeb odalu i Aelodau Seneddol, cynal yr hen diallu, i ddadrys achos y dosbarth sydd allan o waith. Ond eleni yr oedd mater arall i'w ddwyn ger bron y gynadledd ag y teimlid dyddordeb neillduol ynddo, ac un y ceid cryn amryw- iaeth barn yn ei gylch ac yr ofnid y gallai arwain i annghydfod ac ymrysonau sef, pwy oedd i fod o hyn allan yn aelodau o'r Senedd hon, a'u cymhwysderau. Yn nghyf- arfod y llynedd, a gynaliwyd yn Norwich, rhoddwyd awdurdod i'r Pwyllgor Seneddol i dynu allan fath o gyfansoddiad newydd a rheolau newyddion pa fodd i ddwyn y cyfarfodydd yn mlaen, a bod y rheolau hyny i ddyfod i rym yn ycyfarfod eleni. Aethy pwyllgor a nodwyd at ei waith yn ddiymaros a chyflawnodd ef gyda thrylwyredd a bar- odd syndod hyd yn nod i'w bleidwyr penaf. Y diwygiad neu'r cyfnewidiad pwysicaf a wnaeth ydoedd trefnu na fyddai neb yn gyn- rychiolydd ond gweithwyr hyny ydoedd, yr oedd yn rhaid i'r glowyr gael eu cyn- rychioli gan lowr, nid fel o'r blaen fe ddichon gan siopwr neu dafarnwr, neu fel y cynrychiolid lla^irwyr dociau Lerpwl o'r blaen gan McHugh, argraphydd. Effaith y rheol newydd fyddai gadael allan o'r gynrychiolaeth ddynion fel Mrl. John Burns, A.S., Broadhurst, A.S., Tom Mann, a Keir Hardie er mai y blaenaf oedd un o'i phleidwyr penaf. Gweithiodd yn egniol trosti yn y pwyllgor ac er y bydd iddo ef golli ei swydd, y mae'n foddlon i aberthu ei fuddianau personol er lies undebau llafur. Teimla ef yn argyhoeddedig fod yr un- debau gwerthfawr hyn mewn perygl o gael eu camddefnyddio gan uchelgeiswyr sosial- aidd i'w dybenion eu hunain os na wneir rhyw gyfnewidiad o'r fath. Mae llawer i'w ddweyd tros ac yn erbyn y cyfnewidiad, a theg ydyw hysbysu mai trwy bleidlais cadeirydd y pwyllgor y mab- wysiadwyd adran neu ddwy ohono. Mr. J. H. Wilson, A.S., oedd yr arwain y gwrth- wynebwyr ddydd Mawrth a'i ddadl yn erbyn ydoedd y dylesid dwyn y cyfnew- idiadau i'w cadarnhau yn y cyfarfod blyn- yddol yn hytrach nag i unrhyw bwyllgor ddeddfu mewn mater o'r fath bwys. Nid aed i mewn i deilyngdod penderfyniad y pwyllgor o gwbl. Yn y ddadl boeth a gymerodd Ie, daeth amryw ysgogiadau i'r golwg nad oeddynt mor amlwg i'r cyhoedd o'r blaen. Un mai ymdrech ydoedd hwn rhwng hen Undebau Llafur cryfion a chyfoethog ac Undebau ieuengach a bwgan mawi pleid- wyr y cyfnewidiad ydoedd y dosbarth a elwir yn Lafurwyr Annibynol (Independent Labour), tan arweinyddiaeth Keir Hardie yn benaf. Parodd y dosbarth hwn flinder tost i'w cydlafurwyr yn yr etholiad di- weddaf, ac fel y mae'n ddigon hysbys buont yn achlysur i droi rhai seddau i'r Toriaid. Cynrychiolid y blaid annibynol hon gan rai nad oeddynt yn weithwyr eu hunain, neu nad oeddynt yn dilyn eu galwed- igaeth ar y pryd. Cwyn arall gan yr hen Undebwyr ydoedd fod gan yr Un- debau bychain yr un gallu pleidleisio a'r Undebau mawrion canys trwy godiad deheulaw y pleidleisid, tra yn y dyfodol y bydd gan bob crefft un bleidlais am bob mil o aelodau. Fel hyn, yn y fotio a fu ddydd Mawrth yr oedd gan y mwnwyr 166 o bleidleisiau, y peirianwyr 77, ygwehyddion 83, a chymdeithas Gweision y Reilffyrdd 42,—cyfanswm o 407, a digon ynddynt eu hunain i orbwyso y gwrthwynebiad canys nid oedd gan blaid Mr Wilson ond 357 o bleidleisiau tra yr oedd gan yr ochr fuddugoliaethus o gwbl 604. Beth fydd canlyniadau y bleidlais nid yw yn hawdd dirnad gan fod y lleiafrif yn lluosog ac yn benderfynol. Ar rhyw olwg, bydd yn dda gan y cyhoedd glywed am gwymp Hardie a'i blaid ymyrgar a hunanol; ac o'r ochr arall, nid golygfa hyfryd ydyw canfod gweithwyr Prydain yn fan finteioedd yn ymladd â'u gilydd yn lie a'u gorfodwyr naturiol. -0-

Etholiad St. Stephen's Creen.

CWRS Y BYD.