Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE. ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS. 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL- Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. I PIANOS o IOS. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c., &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEUON, &c. (Goreu'r Iaith, Dr. Parry, &c. Gwlad y Delyn [J. Henry], cyfaddas i bob llais. Is Gwlad y Canu 1, Is Gwlad y Delyn [J. Henry], cyfaddas i bob llais. Is Gwlad y Canu »• Bwthyn yr Amddifad •> Is Merch y Movwr >> *s Cenw'ch im'yr i en ganiadau js OlPeidiwch toji'r Blodau j, 1| Dim ond Deilen Contralto neu Raritone od O Rwy'n Cofio (Sweet Memories) Tenor Is Hoff Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano neu Tenor Is Llyrhyr fy Mara. Sopraho neu Tenor Is Merch y Cadben. Baritone Is Hen Gadair Fawr fy Mam. Contralto, Baritone 6c Songs of Wales [bound] 4s post free Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant. D. R. JONES & Co., io6, HOLT ROAD, LIVERPOOL. F1 Etc ar y Blaen. -TE-RW ERI iN TE A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER CUTTER & ENGRAVER 53, PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C. GLASLYN HOUSE, gl 9, Euston Square, Londoq, N,W. s E V A N S | 1 TEMPERANCE HOTEL f G Most Central to all parts of §■< Loitdoit. Close to Euston (L. & N. W. Ry.) tsj Station. Two Minute8 walk from St. § Pancras (Midland Ry,) Station. Ten §. Minutes train from Paddington (G. W. Ry.) to Gower Street Station for g". Euston Square Fare, l^d. I — Adclysgol. BEAUMARIS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL. HEAD-MASTER E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, ASSISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House. JD Terms Moderate. Superior accommodation healthy and pleasant situation. SCHOOL RE-OPENS SEPTEMBER i7TH. Apply, HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS cb GIRLS). HEAD-MASTER EDMUND D. JONES, M.A. HEAD-MISTRESS Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- master. and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. RICHARD E- EVANS. HOUSE AND ESTATE AGENT, ia, Preston Street (Opposite Police Courts), LIVERPOOL, And 67, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET, MORTGAGES EFFECTED. T)IOS.JON ES &Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3, 1/7, and 2/- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/ and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES;FREE ON APPLICATION. THOS JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. —— I Y CYMRO: N ewyddiadur Cenedlaethol. Danfonir UN COPI yn ddidraul trwy y Post:— Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6 Telerau Hysbysiadau- Yn ol 3/- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6. At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher.
1SENEDD LLAFUR.
SENEDD LLAFUR. YR wythnos hon cynelir Senedd Llafur yn Nghaerdydd. Dyma ei hail ymweliad a Chymru wyth mlynedd yn ol cyfarfu yn Abertawe, ac y mae ei nerth a'i dylanwad yn y cyfamser wedi cynyddu'n ddirfawr. Llawer egwyddor oedd y pryd hwnw megys yn blaendarddu erbyn hyn wedi tyfu yn bren grymus, a'r hyn oedd yn cael ei sisial yn ofnus yn 1887 bellach yn cael ei bregethu ar benau'r tai. Er engraipht, yn nghyfar- fod Abertawe yr awgrymwyd yn ffurfiol gyntaf gwestiwn y dydd o wyth awr, ac y mae'n deilwng o sylw mai ychydig o gefn- ogaeth gafodd erbyn hyn, fe gydnabyddir yn gyffredinol yr angenrheidrwydd ohono yn mysg glowyr, mwnwyr, chwarelwyr, a phawb sy'n gweithio mewn cuddfeydd afiach. Daeth 345 yn nghyd, ac y maent yn cynrychioli tua miliwn o weithwyr. Dechreuasant ymgynull ddydd Sadwrn a !n dydd Sul, traddodwyd lluaws o bregethau gan wyr o nod yn eglwysi a chapelau'r dref, ac yn mysg y pregethwyr yr oedd Deon Stubbs o Ely (diweddar o Waver- tree), Canon Gore, y Parch W. H. Head- lam, Llundain, ac eraill glerigwyr hynod am eu gogwydd gwerinaidd. Dywedir fod holl addoldai y dref yn orlawnion ac yr oedd cyfeiriad y weinidogaeth yn benaf, yr eiddo Canon Gore yn neillduol, at brofi fod gan y gweithwyr hawl i gydymgynghori ac i ymgynghreirio er amddiffyn eu hawliau a'u buddianau Pwysig yn wir ydyw'r pynciau a drafodir, ac amrywiol yn eu natur a'u hamcanion yn ymestvn o'r priodoldeb odalu i Aelodau Seneddol, cynal yr hen diallu, i ddadrys achos y dosbarth sydd allan o waith. Ond eleni yr oedd mater arall i'w ddwyn ger bron y gynadledd ag y teimlid dyddordeb neillduol ynddo, ac un y ceid cryn amryw- iaeth barn yn ei gylch ac yr ofnid y gallai arwain i annghydfod ac ymrysonau sef, pwy oedd i fod o hyn allan yn aelodau o'r Senedd hon, a'u cymhwysderau. Yn nghyf- arfod y llynedd, a gynaliwyd yn Norwich, rhoddwyd awdurdod i'r Pwyllgor Seneddol i dynu allan fath o gyfansoddiad newydd a rheolau newyddion pa fodd i ddwyn y cyfarfodydd yn mlaen, a bod y rheolau hyny i ddyfod i rym yn ycyfarfod eleni. Aethy pwyllgor a nodwyd at ei waith yn ddiymaros a chyflawnodd ef gyda thrylwyredd a bar- odd syndod hyd yn nod i'w bleidwyr penaf. Y diwygiad neu'r cyfnewidiad pwysicaf a wnaeth ydoedd trefnu na fyddai neb yn gyn- rychiolydd ond gweithwyr hyny ydoedd, yr oedd yn rhaid i'r glowyr gael eu cyn- rychioli gan lowr, nid fel o'r blaen fe ddichon gan siopwr neu dafarnwr, neu fel y cynrychiolid lla^irwyr dociau Lerpwl o'r blaen gan McHugh, argraphydd. Effaith y rheol newydd fyddai gadael allan o'r gynrychiolaeth ddynion fel Mrl. John Burns, A.S., Broadhurst, A.S., Tom Mann, a Keir Hardie er mai y blaenaf oedd un o'i phleidwyr penaf. Gweithiodd yn egniol trosti yn y pwyllgor ac er y bydd iddo ef golli ei swydd, y mae'n foddlon i aberthu ei fuddianau personol er lies undebau llafur. Teimla ef yn argyhoeddedig fod yr un- debau gwerthfawr hyn mewn perygl o gael eu camddefnyddio gan uchelgeiswyr sosial- aidd i'w dybenion eu hunain os na wneir rhyw gyfnewidiad o'r fath. Mae llawer i'w ddweyd tros ac yn erbyn y cyfnewidiad, a theg ydyw hysbysu mai trwy bleidlais cadeirydd y pwyllgor y mab- wysiadwyd adran neu ddwy ohono. Mr. J. H. Wilson, A.S., oedd yr arwain y gwrth- wynebwyr ddydd Mawrth a'i ddadl yn erbyn ydoedd y dylesid dwyn y cyfnew- idiadau i'w cadarnhau yn y cyfarfod blyn- yddol yn hytrach nag i unrhyw bwyllgor ddeddfu mewn mater o'r fath bwys. Nid aed i mewn i deilyngdod penderfyniad y pwyllgor o gwbl. Yn y ddadl boeth a gymerodd Ie, daeth amryw ysgogiadau i'r golwg nad oeddynt mor amlwg i'r cyhoedd o'r blaen. Un mai ymdrech ydoedd hwn rhwng hen Undebau Llafur cryfion a chyfoethog ac Undebau ieuengach a bwgan mawi pleid- wyr y cyfnewidiad ydoedd y dosbarth a elwir yn Lafurwyr Annibynol (Independent Labour), tan arweinyddiaeth Keir Hardie yn benaf. Parodd y dosbarth hwn flinder tost i'w cydlafurwyr yn yr etholiad di- weddaf, ac fel y mae'n ddigon hysbys buont yn achlysur i droi rhai seddau i'r Toriaid. Cynrychiolid y blaid annibynol hon gan rai nad oeddynt yn weithwyr eu hunain, neu nad oeddynt yn dilyn eu galwed- igaeth ar y pryd. Cwyn arall gan yr hen Undebwyr ydoedd fod gan yr Un- debau bychain yr un gallu pleidleisio a'r Undebau mawrion canys trwy godiad deheulaw y pleidleisid, tra yn y dyfodol y bydd gan bob crefft un bleidlais am bob mil o aelodau. Fel hyn, yn y fotio a fu ddydd Mawrth yr oedd gan y mwnwyr 166 o bleidleisiau, y peirianwyr 77, ygwehyddion 83, a chymdeithas Gweision y Reilffyrdd 42,—cyfanswm o 407, a digon ynddynt eu hunain i orbwyso y gwrthwynebiad canys nid oedd gan blaid Mr Wilson ond 357 o bleidleisiau tra yr oedd gan yr ochr fuddugoliaethus o gwbl 604. Beth fydd canlyniadau y bleidlais nid yw yn hawdd dirnad gan fod y lleiafrif yn lluosog ac yn benderfynol. Ar rhyw olwg, bydd yn dda gan y cyhoedd glywed am gwymp Hardie a'i blaid ymyrgar a hunanol; ac o'r ochr arall, nid golygfa hyfryd ydyw canfod gweithwyr Prydain yn fan finteioedd yn ymladd â'u gilydd yn lie a'u gorfodwyr naturiol. -0-
Etholiad St. Stephen's Creen.
Etholiad St. Stephen's Creen. CYMERODD yr etholiad hwn le ddydd Llun, a mynegwyd y canlyniad dranoeth. Yr ymgeis- wyr oeddynt Mr Kenny, Cyfreithiwr Cyffred- inol Iwerddon, a Mr Pierce Mahony, Parnell- iad. Safai'r ffigyrau fel y canlyn :— I 0 Kenny, U 3,325 Mahony, P. 2,893 Mwyafrif 432 Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, cafodd Mr Kenny fwyafrif o 556.
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Plaid y ''Temprans Mawr," PA bryd y cawn ni ddynion ar y fainc ynadol yn Nghymru a chanddynt ddigon o asgwrn cefn i wrthod trwyddedu tafarnau i ddynion sydd yn gweithredu tros eraill, megys darllawyr mawr- ion, a llawer o'r cyfryw ya Lloogr ? Os a pethau 'mlaen yn y deng mlynedd nesaf fel yn y deng mlynedd diweddaf, bydd mwy na haner tafarnau a gwesttai Cymru yn nwylaw y dar- llawyr rheibus a thrachwantus hyn. Heblaw mai cwbl anonest ydyw rhoi enw dyn i lawr ar y drwydded fel ei pherchenog tra nad yw ond gwas cyflog, m3.e'n anhawdd i'r cyhoedd gael chwareu teg mewn llys barn pan fyddo ganddynt gyfoeth un neu ragor o gwmniau arianog Lloegr i ymladd yn eu herbyn, Gwelir ar luaws 0 dafarn- au yn nghanol Cymru enwau firms o Burton neu Warrington, ac ofnwn na cheir gwared a-'r 11 gwrthuni nes y cymerir awdurdod trwyddedu o'r dwylaw sydd yn ei ddal yn awr a'i roi i'r trethdalwyr. Dyma engraipht nodedig o wendid ynadol. Yr oedd tafarndy yn Nghaernarfon, y "Temprans mawr" y gelwid, neu y llyselwid ef mae'n debyg, wedi bod yn nghaead r mis Tachwedd pryd y cafodd y tenant ei ddirwyo am werthu diod ar y Sul. Gan i'r dref allu tori ei syched am naw mis heb gymborth y Temprans mawr, gallesid meddwl nad oedd angen am dano, ac mai gwell fuasai gadael iddo ateb i'w enw fel gwestty dirwestol; ond pan ddygwyd y cwestiwn o'i ail agor gerbron yr ynadon un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, fe ganiataodd y fainc hyny trwy lais sa.ith ynad yn erbyn pedwar. Hyn sy'n rbyfedd fod pob Tori o ynad o blaid ei ail agor—pe'n rhyfedd hefyd. Bravo plaid y "Temprans mawr." Mewn ilys barn yn v wlad TREULIAIS ran dda o ddiwrnod yn ddiweddar mewn llys arall yn un o drefi Cymru. Diwruod adnewyddu trwyddedau ydo'dd, ae felly yr oedd y great unpaid" ar y blaen, fel y dywed y Saeson. Yr oedd yno saith ynad ar y fainc. Mab i fferm fawr yn yr ard<d oedd y cadeirydd, ond wedi treulio ei oes led faith erbyn hyn yn feddyg yn y dref ac yr oedd y ddwy ffaithhyn, yn nghyda'r ffaith hefyd ei fod yn meddu gradd led dda o synwyr cyfFredin yn ei gymhwyso at wneud ynad defnyddiol. Dau hen ddrugist wedi gadael eu masnach ac yn byw yn dymhoredd ar eu harian oedd yn eiatedd yn nesaf i'r cadeirydd ar ei chwith ae yn mhellaf oddiwrfcho ar ei ddeheu yr oedd coed-fasnachwr wedi prynu a dyfod i fyw i balasdy dymunol yn yr ardal. Y boneddwr olaf oedd yr unig Ymneilluwr o'r saith, ac yr oedd yn un o'r pedwar o'r saith allent siarad Cymraeg; dyfodiaid fel yntau oedd y tri eraill, a Saeson uniaith, yn deall ond ychydig am natur a greddfau y bobl y penod- wvd hwy am rhyw reswm cyfrin i weinyddu barn yn eu mysg. Gan mai trwy lais y mwy- afrif y penderfynid pobpeth ar y fainc hOD, yr wyf yn fwy argyhoeddedig nag erioed fod mawr angen ynad taledig yn y wlad cystal a'r dref. Nid oedd yr un o'r selthwyr da eu gair hyn wedi cael addysg gyfreithiol, na'r un ohonynt ond y cadeirydd a'r Yraneillduwr hyd y gellid casglu yn meddu'r ddawn i groesholi tystion a throi a throsi tystiolaeth. Bod uwchlaw amheuaeth. OND yr oedd mwyafrif y faine hon, yn well na mainc ynadol Caernarfon, lie, fel y crybwyllwyd uchod, yr adnewyddwyd trwydded oedd wedi darfod canys gwrthododd hon ail agor tafarndy oedd yn gauedig er's misoedd er fod darllawyr o nod Trueman, Hanbury, &c., yn gofyn y ffafr. Ac wedi gorphan gyda'r trwyddedau, bu yno achos poenus tan ystyriaetb. Cyhuddid meddyg parchus gan yr heddgeidwaid o fod yn feddw a diallu, a daeth amryw dystion yn mlaen gan ddweyd nad oedd efe yn abl i ymlwybro ohono ei hun, yr hyn yn wir a gydnabyddai'r cyhudd- edig. Ond priodolai ef hyny i'w orlafur gyda'i broffes, gan iddo fod ar ei draed trwy y noson cynt, a chael ei ddeffro o gynthun byr y pryd- nawn hwnw i physigiaethu swyddog milwrol oedd yn y gwestty, yr hwn a'i perswadiodd i gymeryd cigar, ysmocio yr hon yn nghanol llu o ysmygwyr eraill a ddygodd arno, pan ddaeth allan i'r heol, fath o bensyfrdandod. Mae'n ddigon posibl mai fel y dywedai'r meddyg y bu, z, a dyna oedd barn mwyafrif yr ynadon ac yn ol pob ymddangosiad farn mwyafrif y cyhoedd yn y llys. Ond dyma sy'n ofidus fod boneddwr o feddyg fel hyn yn agored i gael ei amheu o feddwdod. Yn ngwyneb y tvstiolaethau a roddwyd, ni fuasai'n iawn beio'r heddgeidwaid am gymeryd yr achos i fynu ond nid oes lawer o foneddigion yn byw yn y dref hono, pe gwelsid hwynt yn ddiallu ar yn heol, y meiddiasai'r heddlu briodoli eu banalluedd i feddwdod a dylai ein boneddigion, fod fel gwraig Cesar, uwoblaw amheuaeth, ac yn dra gwyliadurus yn eu hvmarweddsad. Esgobion Cymru. Bu rhyw son bythefnos yn ol bod ni'n myn'd i golli dan o'n hesgobion sef y Parch. R. Lewis, Arglwydd Esgob Llandaf, yr hwn sy'n 74 oed, yn y swydd hon er 1883, ac yn derby n £4,200 yn y flwyddyn o gytlog. Hefyd, yr oedd si ar led fod y Parch. W. Basil Jones, Arglwydd Esgob Tyddewi, ar fedr ymneillduo o'r swydd a lanwodd yntau er's un mlynedd ar hugain am d&l o C4,500 yn y flwyddyn. Y mae ei argl- wyddiaeth flwyddyn ieuengach na'i frawd o Landaf ac yn sefyll yn anuhraethol uwch fel gwr o nod a gallu na'i frodyr o Landaf a Llan- elwy. Cafodd ei addysg yn Ysgol Amwytbig a Choleg y Drindod, Rhydychain, lie yr oedd yn ysgolor ei goleg. Efe oedd Archddiacon Yore o 1867—'74. Ychydig sy'n awr yn fyw a wyddanfc gymaint am bynafiaethau eglwysig Cymru ag a. wyr Esgob Tyddewi; ac y mae wedi cyfranu yn helaeth flynyddau yn ol tuag at lenyddiaeth