Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Cymdeithasfa Bangor.

Creulondeb Arswydus at Forwyn.

Cymru yn y Senedd.

Advertising

TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU.

Corau Mawr y De a'u Costau.

Y Ficer Apostolaidd Cymreig.

[No title]

Advertising

Nodion or Rhos.

News
Cite
Share

Nodion or Rhos. DDYDD Mercher, cymerodd Etholiad checkweighman No. 1. yr Hafod le. Defnyddiwyd y balot, ac allan o wyth yr oedd tri yn agos i'w gilydd. I gynulliad Iluosog y nos hoco hysbyswyd y canlyn- iad, a chafwyd Isaac Smith 15 o flaen pawb arall. Dechreua ar ei waith yr wythnos hon. Nid doeth ydoedd sylwadau Thomas Thomas, yn y cyfarfod uchod, cyn rhoddi y canlyniad. Pa hawl oedd ganddo ef i ddweyd dim? A pha les ddeillia o'r hyn ddywedod 1 ? Dywedodd un o'r ymgeiswyr am Smith, mai M- fyddai raidgwneud y gwaith i gyd. Atolwg, pe etholesid ef, pwy fuasai ganddo ef i wneud y gwaith? Amser a ddengys weithrediadau yr ysgub newydd. I'n tyb ni efe ydoedd y goreu o'r wyth ar amryw ystyron. Nos Fercher hefyd bu y Seindorf yma allan eto yn cynal cyngherdd yn Church Street, yn yr awyr- agored. Chwareuwyd ganddynt amryw ddarnau chwaethus yn dda iawn, a chawsant gynulliad da. i'w gwrando. Haeddant gefnogaeth gyffredinol yr ardal am eu hymdrechion. Nos Iau ddiweddaf, am y nawfed tro, bu y Cyngor Plwyfol yn eistedd, ac allan o'r 15 aelod yr oedd chwech yn absenol, beth feddylir o beth fel hyn ? Ond gwnaeth y naw hyn lawer o waith. Derbyniwyd adroddiad y pwyllgor goleuo, a ffurfiwyd pwyllgor "leehyd a'r Ffyrdd," "Y Rhandiroedd," ac archwilwyr. Rhoddwyd sylw i amryw geisiadau am lampau newydd, a phender- fynwyd cael tair meitr lamps yn mhob ward. A galwyd sylw hefyd at sefyllfa y dwfr. Yn wir, cawniechydaphobpeth gan y cynghor yn fuan iawn. Mae y Cymdeithasau Llenyddol yma yn brysur wrthi yn trefnu ar gyfer y tymhor nesaf. Os na frysir, rhaglen Johnstown fydd y gyntaf allan, a chawn sylwi arnynt fel y deuant. Mae yma un gymdeithas heb fod yn ymddibynu ar dymhor, sef, Peniel, Penrhos, ac yn ystod yr haf parhaodd yn llewyrchus iawn. Math o gymdeithas Cyd- ymdrech Grefyddol ydoedd ar y dechreu, ond y mae yn awr yn debyg iawn i'r cymdeithasau eraill sydd yma. Testyn y ddadl heno ydyw Dull Bedydd." Bydd yma dyrchu ati, oberwydd eu bod gyda'u hoff bwnc. Nos Sadwrn. GOMER JONES.

Advertising

[No title]

iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr