Hide Articles List

13 articles on this Page

Cymdeithasfa Bangor.

Creulondeb Arswydus at Forwyn.

Cymru yn y Senedd.

Advertising

TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU.

News
Cite
Share

TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU. Nos Iau, gofynai Mr Bryn Roberts am gyfanrif ac arwynebedd tiroedd y Goron yn Llandwrog, Arfon, a werthwyd i'r tenantiaid; cyfanrif ac arwynebedd y tir-ddaliadau ad-brynwyd er dad- blygu'r chwarelau, a'r cyfanswm da! wyd am danynt; yn nghyda chyfanswm y rhenti a delid yn awr am diroedd y Goron. Mr Hanbury Cyfanrif y cyttiroedd werthwyd gan y Goron yn Arfon yw 300, yn cynwys arwyn- ebedd o 932a 2r 18p. Adbrynwyd 8 gan y Goron, sef 10 acr. Gwerthwyd yr wyth hyn am 31p, 2 ac ad-brynwyd hwy am 622p. Nifer y cyttiroedd a gauwyd i mewn gan y perchenogion presenol neu eu henafiaid yw 308, yn cynwys 260a lr 28p. Y rhent ar y 31ain o Fawrth, 1895, oedd 217p lis Ic, ond y mae rhai o'r tir-ddeiliaid heb ddechreu talu rhent eto. Nid yw ad-bryniad gan y Goron yn bosibl ond mewn achosion arbenig. REILFFYRDD YSGEIFN. Yn Nhy'r Cyffredin nos Wener gofynodd Mr Herbert Lewis i Lywydd Bwrdd Masnach a fyddai i angenion ardaloedd gweithfaol sir Fflint gael sylw pan ddeuid a. deddfwriaeth yn mlaen gyda golwg ai gael reiffyrdd ysgeifn i Gymru. Mr Ritchie Bydd yr ardaloedd a nodwyd yn sicr o gael sylw pan ddeuir a mesur yn mlaen yn ymwneud a reilffyrdd ysgeifn. COEDIO TIROEDD Y GORON. Mr Herbert Roberts a ofynodd pa gwrs gymerwyd gan Swyddfa Ceed a Fforestydd i goedio tiroedd y Goron yn Nghymru. Mr Hanbury a ddarllenodd a ganlyn o adroddiad Dirprwywr y Coed :—Gan fod ceisiadau wedi eu gwneud ataf yn ffafr planu coed ar diroedd y Goron yn Nghymru, cymerais gyfleusdra yn ystod Hydref, 1894, i fyned dros y tiroedd hyny yn ardal Dinbych, a chefais gyfarfod o ffermwyr lieol oedd yn meddu cynefin defaid neu gyttiroedd arnynt. Tra yr oedd yn bosibl i ddethol lleoedd y gellid planu coed, ac iddynt dyfu yn dda, y mae amryw ystyriaethau eraill y rhaid eu pwyso cyn symud yn mlaen. Rhaid fyddai gwneud i ffwrdd a hawl y cyttiroedd lie plenid y coed, a byddai cryn anhawsder i drefnu pa foddy gellid ad-dalu i'r perchenogion am eu hamddifadu o'u cynefin defaid. Byddai amddifadu y ffermydd mynyddig hyn o'u cynefin yn debyg o dynu llawer oddiwrth eu gwerth. Gan hyny, yr wyf yn cymeryd pob eyfle i ymweled a thiroedd y Goron mewn ardaloedd eraill yn Ngogledd Cymru cyn ceisio gwneud unrhyw drefniadau terfynol o berthynas iddynt. Gwnaed planhigfa fechan, yn benaf gyda'r amcan o gysgodi, ar dir y Goron yn Meirion, ger mynydd Maentwrog. Bu'r tywydd caled y gauaf diweddaf yn anfanteisiol iawn i'r gwaith, ac ychwanegwyd at y costau, ac nid oedd y gwanwyn sych yn fanteisiol i'r coed ieuainc. Fodd bynag, pan ymwelais a. hwy yn Mehefin, 1895, yr oeddynt yn tyfu yn dda. -0--

Corau Mawr y De a'u Costau.

Y Ficer Apostolaidd Cymreig.

[No title]

Advertising

Nodion or Rhos.

Advertising

[No title]

iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr