Hide Articles List

13 articles on this Page

Cymdeithasfa Bangor.

Creulondeb Arswydus at Forwyn.

Cymru yn y Senedd.

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. BWRDD ADDYSG I GYMRU. YN Nhy'r Cyffredin, nos Fercher, gofynodd Mr Ellis Jones-Griffith i Is-Lywydd Bwrdd Addysg pa gwrs gymerwyd i sefydlu Bwrdd Canolog Addysg Ganolradd yn Nghymru. Y Cadeirydd a sylwodd fod y cwestiwn yn gyn- amserol, ac y ceid trafodaeth arno pan ddeuid at y bleidlais ar addysg ganolradd. AMGUEDDFA I GYMRU. Mr Herbert Lewis a gwynai nad oedd cyfran o gwbl yn cael ei gyflwyno at amgueddfa Gymreig, tra y darperid am Ysgotland a'r Iwerddon yn y cyfeiriad hwn. Dylid rhoddi chwareu teg i Gymru gyda hyn. Cwynai hefyd nad oedd gan Gymru sefydliad canolog i gasglu creiriau a phethau o ddyddordeb hanesyddol, ac yr oedd absenoldeb y cyfryw sefydliad yn ddianmheu wedi rhwystro casglwyr i gymanroddi creiriau a phethau gwerth- fawr eraill i'r Dywysogaeth. Nid oedd gan Gymru ychwaith unman i roddi llawysgrifau henafol nag oriel celf, tra yn Ysgotland a'r Iwerddon y ceid y sefydliadau hyn yn cael eu cynal gan y Wladwr- iaeth. Hyderai y byddai i gyfundrefn addysg Cymru gael ei choroni a'r manteision y cyfeiriodd atynt. Syr John Gorst a ddywedodd mai ei ddymuniad ef oedd gweled amgueddfa yn cael ei sefydlu, ond yu anffodus nid oedd gan Gymru brifddinas i roddi'r amgueddfa ynddi, a rhaid oedd gwneud y diffyg hwn i fynu cyn y gallai'r Llywodraeth symud gyda'r mater. Gyda'r eithriad o brifddinasoedd y Deyrnas Gyfunol, nid oedd un amgueddfa yn cael ei chynal yn uniongyrchol gan Swyddfa Celf a Gwyddor ond rhoddid benthycion i'r holl ddinas- oedd mawr, dan amodau neillduol, a derbyniai Cymru yr un gyfran o'r cyfryw fenthycion ag un ran arall o'r Deyrnas Gyfunol. Byddai iddo sicr- hau Mr Lewis y gwneir pob ymdrech i roddi i bobl Cymru gyfran mor fawr ag oedd bosibl o'r buddianau gyflwynai'r Llywodraeth ar gelf a gwyddor. Mr Lloyd Ceorge a alwodd sylw at Ddeddf Llywodraeth Leol, 1887, o dan yr hon y gallai cynghorau siroedd Cymru a sir Fynwy benodi pwyllgor unedig, ac awgrymai ef fod y cwestiwn o gael prifddinas i Gymru yn cael ei gyflwyno i'r cyfryw bwyllgor. Y RHODD I BRIFYSGOL CYMRU. Yn y bleidlais ar gostau colegau prifysgolion Prydain Fawr, Mr Ellis J. Griffith a argymhellai'r Llywodraeth i ffurfio Bwrdd Addysg Ganolradd yn Nghymru. Er fod chwe' blynedd wedi myned heibio er pan basiwyd Deddf Addysg Ganolradd, ychydig iawn wnaed tuag at ffurfio bwrdd i reoli'r cyfryw. Mr D. Brynmor Jones a ofynai am fynegiad mwy pendant gan y Llywodraeth parth y rhodd at Brifysgol Cymru. Yr oedd ef wedi deall y bwr- iedid cyflwyno rhodd flynyddol i Gymru fel y gwneid i'r Iwerddon ac Ysgotland. Cymerid y dyddordeb mwyaf yn y Brifysgol Gymreig gan bob plaid ac enwad, a hyderent y gallent wneud mewn amser heb gynorthwy'r Llywodraeth, ond yn bres- enol yr oedd hyny'n anmhosibl heb godi tal gor- modol ar yr ymgeiswyr am raddau. Ceid annghyf- artaledd mawr rhwng y rhoddion i Gymru a'r Alban. Derbyniai yr Alban 55,000p, a rhoddid swm mawr i'r Iwerddon, tra na dderbyniai Cymru ond 15,000p, a chyfrif y 3,00Up at y Brifysgol ar wahan oddiwrth y rhoddion at addysg elfenol a chanolradd. Mr Hanbury a atebodd fod Canghellydd y Try- sorlys ddwy flynedd yn ol wedi caniatau 3,000p i gyehwyn y Brifysgol Gymreig, ond iddo wrthod rhoddi addewid bendant at y dyfodol. Ond y flwyddyn hon rhoddwyd 3,000p arall at y Brifysgol. Gan fod y Llywodraeth ddiweddaf wedi bod yn ystyried y cwestiwn am ddwy neu dair blynedd ac heb ddyfod i'r un farn derfynol, gellid ei esgusodi ef am beidio rhoddi atebiad pendant yn awr. LLYTHYRDY CAERGYBI. Nos Lun, gofynodd Mr Ellis J. Griffith i Ysgrif- enydd y Trysorlys a oedd yn ymwybodol fod Llythyrdy Caergybi yn annigonol at angenion y dref; a oedd y swyddog meddygol wedi hysbysu fod adeilad y llythyrdy yn annghymwys at y pwrpas yr arferid ef; a oedd yn gwybod am adeilad cyfleus a chymhwys yn nghanol y dref fuasai'n ateb y pwrpas a pha gwrs fwriadai'r Llywodraeth gymeryd i ddarparu llythyrdy priodol i dref Caer- gybi- Mr Hanbury: Cydnabyddir fod angen gwell llythyrdy yn Nghaergybi, ac y mae'r bost-feistres, yr hon sydd i ofalu am adeilad eymhwys, yn ceisio er's peth amser gael adeilad priodol. Ni alwyd sylw at yr adeilad priodol y cyfeiriwyd ato, ond os cynygia y perchenog hwy i'r amcan, caiff y mater ystyriaeth. YSGOL BERRIEW. Mr Herbert Lewis a ofynodd a fwriadai'r Llyw- odraeth fyned yn mlaen gyda mesur Ysgol Berriew, gan fod tri aelod wedi rhoddi rhybudd y bydd iddynt ei wrthwynabu. Mr Balfour a ddymunai ar Mr Lewis i ail-ofyn y cwestiwn nos Fawrth. Mr Lewis A fydd i'r mesur fod dan sylw heno? Mr Balfour: Ni allaf addaw na fydd i mi gymeryd yr ail-ddarlleniad heno. Yn hwyrach ar y noson, gwrthwynebwyd y mesur gan Mr Humphreys-Owen, a chynygiodd Mr Brynmor Jones fod y mesur yn cael ei wrthod. Eiliwyd hyn gan Mr Herbert Lewis, ond yn yr ymraniad caed 134 dros yr ail ddarlleniad, a 22 yn erbyn—mwyafrif 112. Y PELLSEINYDD YN NGOGLEDD CYMRU. Mewn atebiad i Mr Herbert Lewis, dywedodd Mr Hanbury fod pellseinyr wedi ei osod o Gaer trwy sir Fflint i Llandudno, a hyderai y bydd at wasanaeth treS eraill mor fuan ag y gwneid trefn- iadau gyda'r National Telephone Company. Ond ar y cwmni y dibynai hyny, gan eu bod o dan gytundeb.

Advertising

TIROEDD Y GORON YN NGHYMRU.

Corau Mawr y De a'u Costau.

Y Ficer Apostolaidd Cymreig.

[No title]

Advertising

Nodion or Rhos.

Advertising

[No title]

iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr