Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr

News
Cite
Share

Helyijtion Bywyd Hen Deiliwr Gan GWILYM HIRAETHOG PENNOD XXX.—GWRAIG Y PLAS YN COLLI EI THYMHER. GYDA i Mr Edward droi ei gefn o'r Hafod y bore hwnw, aeth Miss Evans hithau i dalu ymweltad a thenlu tlawd yn y gymydogaeth, lie yr oedd dau o blant bychain yn gleifion o'r dwymyn goch (scarlet fever) a gyda iddi hithau gychwyn o'r ty, daeth ymwelydd dieithr i mewn i ymofyn am dani, sef yr hen wraig foneddig. Digwyddodd yn ffudus iawn na ddaethai i mewn cyn ifw mab fyned allan o'r golwg, canys pe digwyddasai ddyfod a'i gael ef a Miss Evans gyda'u gilydd, nid oes wybod beth a fuasai y canlyniadau y mae yn burdebygol, beth bynag, y digwyddasai yno lawer o ffitiau hysterics cyn diwedd y cyfarfod. Nid oedd ond yr hen wrnig, Mrs Evans, yn y ty pan ddaeth yr hen wraig foneddig i mewn. Dyfalodd Mrs Evans ar yr olwg gyntaf arni beth oedd ei nheges, canys yr oeid golwg digofus a chyffrons arni-yr oedd ei hwyneb a'i llygaid cyn goched a chrib a llygaid iar ar ddodwy Gofynodd i'r fam am y ferch, bod arni eisiau ei gweled. Y mae hi wedi myned i ymweled a tbeulu tlawd, lie mae plant cleifion, madam daw yn ol cyn hir,' oedd yr ateb, Fi dim amser i aros,' ebe hithau, 'fi'n synu atoch chi, chi'n hudo mab fi yma at y'ch mercb. Chi'n meddwl iddo fo, sy'n gwr byneddig, i priodi llances tlawd fel y'ch geneth chi ? Ffei 1 Gyda'ch cenad, ma'm,' atebai'r llall, I ddarti ni 'rioed geisio hudo'r gwr boneddig. Mi fydd yn galw yma weithiau wrth basio. heb i neb ohonom ni erioed ofyn iddo fo, ac mae iddo fo groeso i wneud eto pan y fyno fo ond am iddo briodi'r eneth yma, ni ddarfu iddi hi na ninau erioed freuddwydio am y fath beth.' Fi gwbod cwell petbe,' ebe'r llall, "rholl gwlad yma'n cwbod ac yn siarad 'run peth. Fi gwbod o'r gore bod chi'n swcro'ch geneth i tenu y bachgen.' Y ni 'n ei swcro hi Ni feddyliodd yr eneth erioed am y'ch mab chi, na ninau chwaith,' a dechreuodd y gwaed frydio, a chwanegai, 'Cadwch y'ch mab mi rydw i'n meddwl fy ngeneth i gystal ag yntau bob dydd o ran hyny.' Geneth chi cystal a mab fi for shame—yych impudence chi teyd fath beth wrth fi bydde gwell gen fi i saethu o a, llaw fy hun nm; iddo gymysgu gwaed ni a gwaed pobl isel a vulgar fel chi.' Saethwch o, saeth wcb o, pan fynoch chwi, o'm rhan i,' ebe'r llall. 'Son am y'ch gwaed mae gan goched gwaed yn y ngwythenau i ag sydd yn eich gwythenau chwithau toes arna i ddim eisio cymysgu gwaed &'ch ffasiwn chwi. Mi alia i a nbeulu gario 'n penau mor ucbel wrth fyned trwy'r byd ag y gallwch chwi a'ch teulu beth bynag, rywfaint yn uwch, hwyrach, pe baid yn myn'd i chwilio hanes y ddau deulu. Cymerwch chwi'n gynil, madam, rbag ofn ichwi wneud i nhafod i ddweyd rbywbetb y byddai'n well genych fod heb ei glywed o.' Gyrodd yr awgrym diweddaf at amgylchiad annymunol a ddigwyddasai i un o berthynasau teulu y Plas flynyddau yn ol, yr hen wraig foneddig i'r clawdd yn 14n, torodd i wylo, a throdd i'w Saesneg, ac ymaith a hi mewn digter llidiog. Pan ddaeth Miss Evans yn ol, adroddodd ei mam yr holl ffrwgwd a fuasai rhyngddi a/r hen wraig foneddig yn ei hachos. Aeth y peth at ei chalon yn ddwys iawn. Cyfarfuasai kg un o'i chwiorydd crefyddol ar y ffordd y bore hwnw, yr hon a deimlai yn anesmwyth ei meddwl yn nghylch y siarad oedd ar led yn ei chylch hi a Mr Edward, a barnodd mai ei dyledswydd oedd tori ati a mynegi iddi, pan gaffai gyfleusdra, ac achubodd y cyfleusdra hwn i ddweyd wrthi yr hyri oedd ar ei meddwl. Wedi iddi glywed gan ei mam dracbefn banes yr helynt y bore hwnw rhyngddi hi a'r hen wraig foneddig, gwasgwyd ei meddwl i drallod mawr. Beiai ei hun yn chwerw na buasai wedi cadw y gwr ieuanc draw oddi- wrthi er's talm y gallasai feddwl y buasai ei fynych ymweliadau yn ddefnydd i bobl siarad, a llunio a thaenu pob math o chwedlau, a synai ati ei hun na buasai wedi gweled a deall hyny cyn hyn. Penderfynodd fyned oddicartref at ei cbyfeillion yn Nghaerlleon am dymhor, hyd nes elai yr afiwydd heibio, a myned ymaith yn ddystaw heb yn wybod i neb ond ei mam a'i tbad, ac iddynt hwythau gadw na chaffai neb wybod i ba le yr aethai; a pharotodd i'r daith y noson hono, a chychwynodd y bore dranoeth cyn y dydd. Danfonodd ei thad hi i'r dref, lie y cafodd y cerbyd i Gaer. Yr oedd brawd i'r wraig foneddig yn byw yn sir Gaer, a cbanddo etifeddiaeth led helaeth yno ac yr oedd efe -ewn gwth o oedran, ac yn ddi- briod. Yr oedd hefyd frawd i'w gwr hi, tad Mr Edward, yn byw yn Llundain, yn fasnachwr cyfoethog, a dibriod oedd yntau hefyd. Dis- gwylid y ddau ar ymweliad i'r Plas er's dyddiau ac fel y digwyddai fod, y diwrnod hwnw y daethant. Cawsant eu chwaer yn nyfnder ei phrofedigaeth. Adroddodd iddynt ei helbul a'i thrallod, yr hyn a barai iddynt syndod ac anfoddlonrwydd nid bychan. Mr Edward oedd etifedd i gyfoeth y ddau. Addawsant i'w fam y cymerent hwy ofal y mater, a pherswadient hi i fod yn dawel, y byddent hwy yn sicr 0 ddwyn y gwr ieuanc ato ei hun yn fuan. Arferasant eu holl resymau a'u donial1 i gael ganddo ymrwymo iddynt na edrychai byth wedi hyny ar y llances wledig y gallai ef edrych am briod o frigau uchel y bendefigaeth. I Mi a wn hyny hefyd,' ebai'r gwr ieuanc, cefais gyfleusdra teg i wneud hyny fwy nag unwaith. Gallaswn gael llaw mwy nag un neu 3dwy o bendefigesau ieuainc prydweddol cyn llyn. Ond ni welais un y gallaswn ei charu hyd aes y gwelais Miss Evans, ac ni welwn yr un byth a allwn garu fel hi nid am ei bod hi yn brydferthach na'r un a welais, yr oedd pob un I o'r boneddigesau byny mor brydfertb a hithau, ac mor synwyrol hefyd, am a wn i, ond y mae ynddi hi rywbeth na allaf ddim dweyd pa beth sydd wedi deffro rhywbeth ynof fi, na allaf ddim dweyd beth ydyw hwnw chwaith; ond gallaf' ddweyd hyn, na foddlonir byth mo'r rhywbeth hwnw sydd ynof fi, ond a'r rhywoeth arall hwnw sydd ynddi hi.' Edrychai y ddau ewythr ar eu gilydd mewn syndod. Yr oedd ei ewytbr brawd ei fam yn un brochwyllt ei dymer fel hithau, a decbreuodd ddwrdio, a bygwth, a rhegi yn erwin. Yr oedd yr ewythr brawd ei dad yn wr pwyllog ac amyn- eddgar cymerai ef ei nai trwy deg, gan ymres- ymn ag ef, ac ymbil arno er ei fwyn ei hun, a'i fam, a'i deulu, i roddi pob meddwl am y ferch i fynu ond amlwg ydoedd nad oedd gerwindeb y naill na thynerweh y Hall ddim yn cael yr effaith a ddymunid arno. Cadwai ei dymer yu dda, a siaradai yn barchus a, hwynt, gan sicrhau y gwnaethai bob peth arall a allasent geisio ganddo ond hyny. Nid oedd yn meddwl, meddai, y buasai iddo byth briodi Miss Evans, oblegyd ni fynai hi wrando ar ei gais mewn un modd, ond yr oedd yn benderfynol y gwnai ei oreu i'w henill, &c. Y diwedd fu i'r ddau droi i fygwth os na roddai efe hi beibio, ac ymrwymo ar ei lw i hyny, y torent oddiwrtho bob cwys o dir, a phob dimeu o arian oedd ar eu helw. Gellwch wneud hyny,' ebe yntau, nid yw o fawr bwys yn fy ngolwg i y mae genyf ddigon yn fy meddiant fy hun eisoes ac os gallaf sicr- hau Miss Evans, byddaf yn eithaf boddlon." 'Wedi hir ymresymu, ac ymbil arno i ymwrthod k Miss Evans, dywedodd nad oedd waeth iddynt roddi i fynu eu cais, na allai efe ddim addaw iddynt yr hyn nad oedd ganddo fsddwl na bwriad i'w gyflawni. Yr oedd ei ymddygiad yn ddirgelwcb i'r ddau hen lane, canys ¡,j buasent hwy eu hunain erioed yn glaf o'r clefyd oedd arno ef a chan eu bod yn gwbl ddyeithr i'r ptofiad,ni feddent ar y rhithyn leiaf o gydymdeimlad. Aeth y ddau ymaith bore dranoeth yn siomedig a thramgwyddus, ond addawent i'r fam drallodus y gwnaent eu goreu yn mhob modd drachefn i ragflaenu y trychineb oedd yn bygwth dyfod arnynt fel teulu. (I barhau). Cynddelw a'r "Hen Deiliwr." [YMDDANGOSODD y llythyrau canlynol mewn cysylltiad a'r Hen Deiliwr adeg ei gyhoedd- iad gyntaf yn Y Tyst tua'r flwyddyn 1867, 0 waith yr ysgrifenydd doniol Cynddelw.] Y PETH sy'n difyru mwyaf arnaf fi yn awr yw athrylith ryfedd y teilwriaid. Prin y gellir disgwyl i deiliwr fod mor gryf ei gyneddfau a dyn arall gan mor fasw a lliprynaidd yw ei alwedigaeth. Yr oedd rbai o hen Fedyddwyr cyntefig gwlad Gwent yn cario meddyliau culion a rbagfarnllyd iawn am deilwriaid. Yr oedd yr hen Samuel Morgan, neu Sami Shon o Nantyglo, yn barnu nad oedd cymaint ag un teiliwr yn gadwedig hyd nes y clywodd efe deiliwr yn gweddio. Gan i weddi y teiliwr gyftwrdd a/i deimlad, syrthiodd ar ei liniau yn ei ymyl, a dywedodd yn hyglyw,. Mae dy ras di'n fawr, Arglwydd, yn fwy nag y meddyliais i erioed ei fod e. Doeddwn i ddim yn meddwl dy fod ti yn rhoi gras i deilwriaid ond dyma deiliwr wedi ei achub, a theiliwr anwl yw e hefyd." Lied gul hefyd oedd barn yr enwog F. Hiley am gyflyrau teilwriaid, gan i rai ohonynt beri poen iddo yn yr eglwys. Galwyd arno un tro i gwrdd i dawelu annghydfod, ac iddo ef y rhodd- wyd y gadair. Y peth cyntaf a ofynodd oedd, Sawl toeliwr sydd yma ? Dou," ebe rhyw- un. Yr Arglwydd a'n helpo," ebe yntau. Dangosir yn awr beth a all teilwriaid wneud a dylai yr Hen Deiliwr" gael clawr aur cyfled a llabwd, ac mor drwehus hefyd, yn destimonial am godi yr urdd hwnw i'r fath enwogrwydd awdurol. Llwyddiant heb siomiant yn siwr I dalent yr Hen Deiliwr." WYDDOCH chwi beth? Mae rhyw ias o ddireidi yn gweithio ynof bob tro y deuaf i gyffyrddiad a'r "Hen Deiliwr" yma; nid oes gen i mo'r help. Rhywbeth ynddo fo sydd yn dylanwadu yn rbyfedd arnaf. Wel, mae genyf finau stori am hen deiliwr. Haner can' mlynedd yn ol yr oedd hen deiliwr teneu, gewynog, difrifol, a da, genym ni yn y weinidogaetb. Llafur cariad oedd ei weinidog- aeth, ac angenrheidrwydd er cynal teulu oeddei deiliwryddiaeth. Yr oedd e bob amser fel creyr glas yn rhydd yn ei fola, ac yn cael llawer o drafferth gyda'r trugareddau a wastreffid ganddo, ac oherwydd hyny yr oedd efe yn llym a diarbed fel dysgyblwr eglwysig, ac yn llwyr lanhau ei lawr dyrnu, fel nad oedd nemawr o tis na gwenith i'w canfod arno. Gallasech feddwl ar ei olwg mai bresych cochion o'r gwinegr oedd ei fwyd, ac mai wermod a bustl oedd ei ddiod; eto yr oedd ei dduwioldeb yn ddigon amlwg a dian- mheuol i foddloni hyd yn nod Sami Shon o Nantyglo. Hen frawd rhagorol oedd yr hen deiliwr, ond ei fod yn deneu ac yn gul o gnawd, yn ddreng a phigog yn hytrach 0 ran ei ysbryd, ac yn Buritanaidd a difrifddwys yn mhob ar- weddiad. Digwyddodd fod mewn cymanfa yn amser rhyfel Boni, ac ofnid gan lawer y pryd hwnw y buasai y gwron milwraidd hwnw yn goresgyn ein gwlad. Dyna'r teiliwr yn codi yn arafaidd a phwysig.i gynyg neillduo diwrnod o ympryd a gweddi er mwyn cadw Boni draw. Ond rywfodd neu gilydd, nid oedd y peth yn cymeryd gyda'r gynadledd, a'r teiliwr yn dal at ei bwnc fel y gweddai i wron a fyno sefyll yn erbyn byddin ei hunan, nes oedd amynedd Christmas Evans yn darfod, ac yn dymuno cael llonydd i fyned at rywbetb arall mwy pwysig ac angenrheidiol. A dyna fe yn cyfarch y teiliwr fel hyn :— Wel, bach, yr wyt ti yn ddigon teneu fel nad oes achos i ti ymprydio gwnei'r tro yn burlon am hyny; a gobeithio dy fod yn arfer gweddio bob amser, fel nad oes achos i ti golli