Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Hilve Cottages to LET in various parts of the own, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of axes. Also larger houses at higher rents. (F H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, STATE AGrENTi HAS large and S mall Hous TO Let in various parts of the city and suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, Jee. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. so All classes of House and Shop Property carefully and ec- nomically managel. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insuances effected. (F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arraqged. TELEPHONE No. 1779. W. H. NEVANAS & Co. AUCTIONEERS & VALUERS, 384a, 386, & 388, Stanley oa t Kirkdale. HOUSEHOLD SALES conducted on Owner's ijL Premises at fair and reasonable Terms. Valua- tions made for Probate Transfers, etc. References given. W. H. NEVANAS buy for prompt Cash whole or part of Household Furniture. Best prices given. The Liverpool Land Compan, Limited. TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 999 ears' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers, in Garston, Kirkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the localities.—Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STREEr, Office and sfSoi-402 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings; Hot Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams' Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Bakers Oven Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, Boxes, Fire Bars, &c.; al sizes of Gate Runners, &c. TRADE MARK. 0 WX I", PEG 1, 11 0 -=r, REGISTERED 167,58 YFeddygipetlj Fawr Gymreig TUAG AT BESWCH, ASTHMA, BRONCHITIS A holl Anhwylderau y Frest, y Gwddf, a'r Ysgyfaint. PESWCH Ysgrifena y Parch. E. W. DA VIES, Ton tre, yn ddiweddar Gallaf ddwyn tystiolaeth T>ESWCH glir boblogrwydd mawr HUGH DAVIES'S COUGH MIXTURE, ac i dderbyniad Iles neill- PF^WCTT duol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd 'w werth yr adeg hon ^pj pi" gyda'r hain t Influenza.' J. Llanberis, Jan. 27, 1886. PESWCH Dywed y Parch. J. E. OWEN 'Y mae hen wraig yn Pentraeth, Sir Fon, yn PESWCH dueddol iawn i beswch caled yn enwedig ar amserau rhewllyd. Nid oes dim yn y ifordd o PESWCH feddyginiaeth yn ei lleshau gystal a'eh 'COUGH MIXTURE.' Ei hunig gysur ar y ddaear, ebe PESWCH hi. yw y Beibl a DAVIES'S COUGH MIXTURE.' Dywed y Parch LL. B. ROBERTS, Caernarfon PEb W LH Dan ochain anwyd yn nychu -a'r lungs Yn rhyw lesg weithredu; PESWCH Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes o iechyd ddi-besychu!' PESWCH Dywed D. JONES, Bethesda, Bangor:- PXJIQWPR Anwyl Syr,—Cefais ddwy botel o DAVIES'S vv COUGH MIXTURE gan Mr. Hughes, Druggist, yn ddiweddar, a dymunaf ddiolch i chwi am dano. Yr oeddwn yn dioddef er's misoedd „ oddiwrth Beswch a Diffvg Gwynt, ac weditreio c xtiO VV C hL pob moddion, ond yn aflwyddianus; ond yr wyf drwy eich meddyginiaeth anffaeledig wedi PESWCH cael adferiad trwyadl, a gwnaf fy ngoreu i gymhell eich darpariaeth ar bawb sydd yn ddi- PESWCH oddef oddiwrth anhwylderau yr Ysgyfaint.' PTT (JWHR Dywed Mr. J. E. EDWARDS, Groes, Rhiwabon: Anfonwch botelaid o'ch COUGH MIXTURE ar DTTQWPn unwaith. Da genyf eich hysbysu fod y botel- xr ill 10 vv wXl aid flaenorolwedigwneud lies mawr, PAROTOEDIG GAN HUGQ DAVIES, C4emist, HACHYNLLETI). Liverpool Agents—Williams, Chemist, Heyworth Street; Williams, Chemist, Granby Street: Wynne Thomas, Chem'- st, Kensington VVrexham—Mrj "Iugr Hnwlands. Bridge Street. Messrs ORIFFITHS & UAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liver poo], ,are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— Millinei y. In all these Departments will b, ind the Newest and most Stylish Goods of the S ;• n at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES 398, Scotland Road. F XTEILWNG 0 SYLW PAWB. OWYNIONY CLAF. y\. PA Beth yw ASTHMA Anadliad byr, brysiog a llafurus < A oes rhagor nag un math o Asthma? Oes, dau-un n barhaol, a'r Hall y j dyfod yn mlaen ar adegau. Gelwi-r j :yntaf ya continual, a'r olaf yn periodical. Pa beth sydd yn achosi Asthma? Culhad, crebychiad a ■lirwasgiad y piban raeinioa s-ydd yn arwain o'r corn gwynt i'1 ysgyfaint. Pa feddyginiaeth sydd wtdi rhoddi esmwythad buan i tneirif o bcrsonau a ridyoddefent oddiwrth Asthma, Bron chitis, Peswch, Anwyd, I iffyg Anadl, a'r Crygni? BALSAM OF HONEY TUDOR WILLIAMS. GAN mai oerfel ac anwyd ydyw dechreuol aohos pob clefyd yn mron, a diddadl fod miloedd yn myned i'r bedd yn anamserol o eisiau cael medlyginiaeth bwrpasol a phrydlawn. Ymaflodd yr anwyd ynwyf mor ddisymwth a lleidr yn y nos, nes yn mron ymdori gan beswch yn ddibaid, heb ond ychydig orhpwysdra, nes yr oeddwn wedi esedu fy mod wedi fy nal gan y IarfodecligLeth ac yn nghanol y boen dirdynol oedd trwy fy nghyfansoddivi anfo ais am botelaid 0 'BALSAM OF HONEY' TUDOR WILLIAMS a chymerais tua llonaid llwy gawl ar unwaith, sef chwaneg na'r cyfarwyddyd oedd ar y botel; a chyn tri munyd yr eedd y peswch wedi pei -lio i raddau annghyffredin. Cymerais yr oU o gynwysiad y botel, ac erbyn heddyw, yr wyf yn gallu diolch i'r Drefn Fawr, yn nghyd,Ù wybodaeth am y feddyginiaeth ddaionus hon, am fy mod heddyw yn ddyn iach. Ydwyf, yr eiddoch, yn hollol iach, ISAAC THOMAS. Dadganiad dymunol arall. t Bum yn ddyoddefydd mawr am un mlynedd ar ddeg odd. wrth gaethdra, peswch, poeri gwaed, a tiiyndra y frest; bum hefyd am bum' mlynedd yn cael anhawscier dirfawr i symud o amgylch, ni allaswn gysgu na gorwedd i lawr y nos na'r dydd. Bum o ,;an driniaeth ftddygol am un mlynedd ai ddeg hefyd, bum o dan driniaeth yn Yspyttai Hereford, Buxton, a Southport, ond y cyfan yn ofer. Dywedodd v meddygou wrthyf na alliswn ddisgwyl gwellhad, gan fy mod yn 64ain mlwydJ oed. Ar ol clywed cymaint o siarad am 'BALSAM OF HO -IIE Y' TUDOR WILLIAMS rhoddais brawf arno, ac er fy syndod darfu i'r dogn cyn, roddi rhyddhad ebrwydd i mi anadlu. Yr oedd poeri ygwaed o'r ysgyfaint yn lleihau. Diflanodd y caethdra, fel swyn, gyfaredd, i bedwar gwynt y nefoedd, ac yn mhen ychydie wythuiis^u. drwy ddefnyddiad parhaus Balsam c-f Honey- Tudor Williams, adferwyd fl i fy iechyd da arfe l. Ystyriwyj hi yn d-lyledswydd arnaf i anfon i ch' y dystiolaeth hou.— Yr eidcloch yn ddiffuant, Mrs EIIBREY, 19 Coningsby Street, Hereford, Mai 25ain, 1890." She Miloedd o Blant wedi eu hachub o Farw laett (rr Croup, Bronchitis, a'r Pas, wedi pobpeth arall fethu Y fford 1 i brofi y peth ydyw profi drosoch eich hunain. Oj gvvnp"li ''tyna "ydd yn fendigedig ni chewch eich siojf —Gwerthir 'BALSAM OF HONEY' TUDOR\VII,UT, gan bob Kferyllydd drwy yr holl fyd. Mewn costrelau. Is ljc 2s ge, neu trwy y llythyrdy yn rhad am Is 3c a 3s. Perchenog-, D. TUDOR WILLIAMS, R.D.S.L., Medical Hall, Aberdare. c_- PAPAYANNI STEAMSHIP COAPAN,, LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMER Sail regularly to he LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterral ean Ports, taking the following two routes alternately:- (1) MALTA, SYR A, SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling ofte on the return journey at sev. ral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRIJ BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty well ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge living on board during ships'stay at Ports. Tourists and pleasure-seekers taking a trip by this Line v. ill dnd it most enjoyable and interesting. For further partiei lars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpoo 3ukg; LLINELL Y WHITE. STAK. ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK via QUEENSTOWN, BO DYDD MERCHER:— GERM ANIC Medi 11 *TEUTONIC Medi 18 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdetthwyr A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith pri y cludiad ydyw Z7 ac d68. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni cheii well cyfleusdra i fordaishwyr. Am fanylion, ymofyner a R. Owen, Ship & In perance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu A R. Roberts, Bethesda; Owen E Parry, masnachydd llechi, ( wyddelen; David Rowlands, Penygraig; W. D. Jones, Old Bank Caergybi; W. M. Jones, Church Street, Llangefni R. G. Roberts, Rock Cottage, Cr3igiau Mawr, Ta ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. O. Williams, Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. 0 Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ag ISMAY IMRIE & Co., 34, Leadenhall Street, Llundain, E.C., a Water Street, Lerpwl. £ J i&3jo gj 1 t^pr| i
iHelyijtion Bywyd Hen Deiliwr
Helyijtion Bywyd Hen Deiliwr Gan GWILYM HIRAETHOG PENNOD XXX.—GWRAIG Y PLAS YN COLLI EI THYMHER. GYDA i Mr Edward droi ei gefn o'r Hafod y bore hwnw, aeth Miss Evans hithau i dalu ymweltad a thenlu tlawd yn y gymydogaeth, lie yr oedd dau o blant bychain yn gleifion o'r dwymyn goch (scarlet fever) a gyda iddi hithau gychwyn o'r ty, daeth ymwelydd dieithr i mewn i ymofyn am dani, sef yr hen wraig foneddig. Digwyddodd yn ffudus iawn na ddaethai i mewn cyn ifw mab fyned allan o'r golwg, canys pe digwyddasai ddyfod a'i gael ef a Miss Evans gyda'u gilydd, nid oes wybod beth a fuasai y canlyniadau y mae yn burdebygol, beth bynag, y digwyddasai yno lawer o ffitiau hysterics cyn diwedd y cyfarfod. Nid oedd ond yr hen wrnig, Mrs Evans, yn y ty pan ddaeth yr hen wraig foneddig i mewn. Dyfalodd Mrs Evans ar yr olwg gyntaf arni beth oedd ei nheges, canys yr oeid golwg digofus a chyffrons arni-yr oedd ei hwyneb a'i llygaid cyn goched a chrib a llygaid iar ar ddodwy Gofynodd i'r fam am y ferch, bod arni eisiau ei gweled. Y mae hi wedi myned i ymweled a tbeulu tlawd, lie mae plant cleifion, madam daw yn ol cyn hir,' oedd yr ateb, Fi dim amser i aros,' ebe hithau, 'fi'n synu atoch chi, chi'n hudo mab fi yma at y'ch mercb. Chi'n meddwl iddo fo, sy'n gwr byneddig, i priodi llances tlawd fel y'ch geneth chi ? Ffei 1 Gyda'ch cenad, ma'm,' atebai'r llall, I ddarti ni 'rioed geisio hudo'r gwr boneddig. Mi fydd yn galw yma weithiau wrth basio. heb i neb ohonom ni erioed ofyn iddo fo, ac mae iddo fo groeso i wneud eto pan y fyno fo ond am iddo briodi'r eneth yma, ni ddarfu iddi hi na ninau erioed freuddwydio am y fath beth.' Fi gwbod cwell petbe,' ebe'r llall, "rholl gwlad yma'n cwbod ac yn siarad 'run peth. Fi gwbod o'r gore bod chi'n swcro'ch geneth i tenu y bachgen.' Y ni 'n ei swcro hi Ni feddyliodd yr eneth erioed am y'ch mab chi, na ninau chwaith,' a dechreuodd y gwaed frydio, a chwanegai, 'Cadwch y'ch mab mi rydw i'n meddwl fy ngeneth i gystal ag yntau bob dydd o ran hyny.' Geneth chi cystal a mab fi for shame—yych impudence chi teyd fath beth wrth fi bydde gwell gen fi i saethu o a, llaw fy hun nm; iddo gymysgu gwaed ni a gwaed pobl isel a vulgar fel chi.' Saethwch o, saeth wcb o, pan fynoch chwi, o'm rhan i,' ebe'r llall. 'Son am y'ch gwaed mae gan goched gwaed yn y ngwythenau i ag sydd yn eich gwythenau chwithau toes arna i ddim eisio cymysgu gwaed &'ch ffasiwn chwi. Mi alia i a nbeulu gario 'n penau mor ucbel wrth fyned trwy'r byd ag y gallwch chwi a'ch teulu beth bynag, rywfaint yn uwch, hwyrach, pe baid yn myn'd i chwilio hanes y ddau deulu. Cymerwch chwi'n gynil, madam, rbag ofn ichwi wneud i nhafod i ddweyd rbywbetb y byddai'n well genych fod heb ei glywed o.' Gyrodd yr awgrym diweddaf at amgylchiad annymunol a ddigwyddasai i un o berthynasau teulu y Plas flynyddau yn ol, yr hen wraig foneddig i'r clawdd yn 14n, torodd i wylo, a throdd i'w Saesneg, ac ymaith a hi mewn digter llidiog. Pan ddaeth Miss Evans yn ol, adroddodd ei mam yr holl ffrwgwd a fuasai rhyngddi a/r hen wraig foneddig yn ei hachos. Aeth y peth at ei chalon yn ddwys iawn. Cyfarfuasai kg un o'i chwiorydd crefyddol ar y ffordd y bore hwnw, yr hon a deimlai yn anesmwyth ei meddwl yn nghylch y siarad oedd ar led yn ei chylch hi a Mr Edward, a barnodd mai ei dyledswydd oedd tori ati a mynegi iddi, pan gaffai gyfleusdra, ac achubodd y cyfleusdra hwn i ddweyd wrthi yr hyri oedd ar ei meddwl. Wedi iddi glywed gan ei mam dracbefn banes yr helynt y bore hwnw rhyngddi hi a'r hen wraig foneddig, gwasgwyd ei meddwl i drallod mawr. Beiai ei hun yn chwerw na buasai wedi cadw y gwr ieuanc draw oddi- wrthi er's talm y gallasai feddwl y buasai ei fynych ymweliadau yn ddefnydd i bobl siarad, a llunio a thaenu pob math o chwedlau, a synai ati ei hun na buasai wedi gweled a deall hyny cyn hyn. Penderfynodd fyned oddicartref at ei cbyfeillion yn Nghaerlleon am dymhor, hyd nes elai yr afiwydd heibio, a myned ymaith yn ddystaw heb yn wybod i neb ond ei mam a'i tbad, ac iddynt hwythau gadw na chaffai neb wybod i ba le yr aethai; a pharotodd i'r daith y noson hono, a chychwynodd y bore dranoeth cyn y dydd. Danfonodd ei thad hi i'r dref, lie y cafodd y cerbyd i Gaer. Yr oedd brawd i'r wraig foneddig yn byw yn sir Gaer, a cbanddo etifeddiaeth led helaeth yno ac yr oedd efe -ewn gwth o oedran, ac yn ddi- briod. Yr oedd hefyd frawd i'w gwr hi, tad Mr Edward, yn byw yn Llundain, yn fasnachwr cyfoethog, a dibriod oedd yntau hefyd. Dis- gwylid y ddau ar ymweliad i'r Plas er's dyddiau ac fel y digwyddai fod, y diwrnod hwnw y daethant. Cawsant eu chwaer yn nyfnder ei phrofedigaeth. Adroddodd iddynt ei helbul a'i thrallod, yr hyn a barai iddynt syndod ac anfoddlonrwydd nid bychan. Mr Edward oedd etifedd i gyfoeth y ddau. Addawsant i'w fam y cymerent hwy ofal y mater, a pherswadient hi i fod yn dawel, y byddent hwy yn sicr 0 ddwyn y gwr ieuanc ato ei hun yn fuan. Arferasant eu holl resymau a'u donial1 i gael ganddo ymrwymo iddynt na edrychai byth wedi hyny ar y llances wledig y gallai ef edrych am briod o frigau uchel y bendefigaeth. I Mi a wn hyny hefyd,' ebai'r gwr ieuanc, cefais gyfleusdra teg i wneud hyny fwy nag unwaith. Gallaswn gael llaw mwy nag un neu 3dwy o bendefigesau ieuainc prydweddol cyn llyn. Ond ni welais un y gallaswn ei charu hyd aes y gwelais Miss Evans, ac ni welwn yr un byth a allwn garu fel hi nid am ei bod hi yn brydferthach na'r un a welais, yr oedd pob un I o'r boneddigesau byny mor brydfertb a hithau, ac mor synwyrol hefyd, am a wn i, ond y mae ynddi hi rywbeth na allaf ddim dweyd pa beth sydd wedi deffro rhywbeth ynof fi, na allaf ddim dweyd beth ydyw hwnw chwaith; ond gallaf' ddweyd hyn, na foddlonir byth mo'r rhywbeth hwnw sydd ynof fi, ond a'r rhywoeth arall hwnw sydd ynddi hi.' Edrychai y ddau ewythr ar eu gilydd mewn syndod. Yr oedd ei ewytbr brawd ei fam yn un brochwyllt ei dymer fel hithau, a decbreuodd ddwrdio, a bygwth, a rhegi yn erwin. Yr oedd yr ewythr brawd ei dad yn wr pwyllog ac amyn- eddgar cymerai ef ei nai trwy deg, gan ymres- ymn ag ef, ac ymbil arno er ei fwyn ei hun, a'i fam, a'i deulu, i roddi pob meddwl am y ferch i fynu ond amlwg ydoedd nad oedd gerwindeb y naill na thynerweh y Hall ddim yn cael yr effaith a ddymunid arno. Cadwai ei dymer yu dda, a siaradai yn barchus a, hwynt, gan sicrhau y gwnaethai bob peth arall a allasent geisio ganddo ond hyny. Nid oedd yn meddwl, meddai, y buasai iddo byth briodi Miss Evans, oblegyd ni fynai hi wrando ar ei gais mewn un modd, ond yr oedd yn benderfynol y gwnai ei oreu i'w henill, &c. Y diwedd fu i'r ddau droi i fygwth os na roddai efe hi beibio, ac ymrwymo ar ei lw i hyny, y torent oddiwrtho bob cwys o dir, a phob dimeu o arian oedd ar eu helw. Gellwch wneud hyny,' ebe yntau, nid yw o fawr bwys yn fy ngolwg i y mae genyf ddigon yn fy meddiant fy hun eisoes ac os gallaf sicr- hau Miss Evans, byddaf yn eithaf boddlon." 'Wedi hir ymresymu, ac ymbil arno i ymwrthod k Miss Evans, dywedodd nad oedd waeth iddynt roddi i fynu eu cais, na allai efe ddim addaw iddynt yr hyn nad oedd ganddo fsddwl na bwriad i'w gyflawni. Yr oedd ei ymddygiad yn ddirgelwcb i'r ddau hen lane, canys ¡,j buasent hwy eu hunain erioed yn glaf o'r clefyd oedd arno ef a chan eu bod yn gwbl ddyeithr i'r ptofiad,ni feddent ar y rhithyn leiaf o gydymdeimlad. Aeth y ddau ymaith bore dranoeth yn siomedig a thramgwyddus, ond addawent i'r fam drallodus y gwnaent eu goreu yn mhob modd drachefn i ragflaenu y trychineb oedd yn bygwth dyfod arnynt fel teulu. (I barhau). Cynddelw a'r "Hen Deiliwr." [YMDDANGOSODD y llythyrau canlynol mewn cysylltiad a'r Hen Deiliwr adeg ei gyhoedd- iad gyntaf yn Y Tyst tua'r flwyddyn 1867, 0 waith yr ysgrifenydd doniol Cynddelw.] Y PETH sy'n difyru mwyaf arnaf fi yn awr yw athrylith ryfedd y teilwriaid. Prin y gellir disgwyl i deiliwr fod mor gryf ei gyneddfau a dyn arall gan mor fasw a lliprynaidd yw ei alwedigaeth. Yr oedd rbai o hen Fedyddwyr cyntefig gwlad Gwent yn cario meddyliau culion a rbagfarnllyd iawn am deilwriaid. Yr oedd yr hen Samuel Morgan, neu Sami Shon o Nantyglo, yn barnu nad oedd cymaint ag un teiliwr yn gadwedig hyd nes y clywodd efe deiliwr yn gweddio. Gan i weddi y teiliwr gyftwrdd a/i deimlad, syrthiodd ar ei liniau yn ei ymyl, a dywedodd yn hyglyw,. Mae dy ras di'n fawr, Arglwydd, yn fwy nag y meddyliais i erioed ei fod e. Doeddwn i ddim yn meddwl dy fod ti yn rhoi gras i deilwriaid ond dyma deiliwr wedi ei achub, a theiliwr anwl yw e hefyd." Lied gul hefyd oedd barn yr enwog F. Hiley am gyflyrau teilwriaid, gan i rai ohonynt beri poen iddo yn yr eglwys. Galwyd arno un tro i gwrdd i dawelu annghydfod, ac iddo ef y rhodd- wyd y gadair. Y peth cyntaf a ofynodd oedd, Sawl toeliwr sydd yma ? Dou," ebe rhyw- un. Yr Arglwydd a'n helpo," ebe yntau. Dangosir yn awr beth a all teilwriaid wneud a dylai yr Hen Deiliwr" gael clawr aur cyfled a llabwd, ac mor drwehus hefyd, yn destimonial am godi yr urdd hwnw i'r fath enwogrwydd awdurol. Llwyddiant heb siomiant yn siwr I dalent yr Hen Deiliwr." WYDDOCH chwi beth? Mae rhyw ias o ddireidi yn gweithio ynof bob tro y deuaf i gyffyrddiad a'r "Hen Deiliwr" yma; nid oes gen i mo'r help. Rhywbeth ynddo fo sydd yn dylanwadu yn rbyfedd arnaf. Wel, mae genyf finau stori am hen deiliwr. Haner can' mlynedd yn ol yr oedd hen deiliwr teneu, gewynog, difrifol, a da, genym ni yn y weinidogaetb. Llafur cariad oedd ei weinidog- aeth, ac angenrheidrwydd er cynal teulu oeddei deiliwryddiaeth. Yr oedd e bob amser fel creyr glas yn rhydd yn ei fola, ac yn cael llawer o drafferth gyda'r trugareddau a wastreffid ganddo, ac oherwydd hyny yr oedd efe yn llym a diarbed fel dysgyblwr eglwysig, ac yn llwyr lanhau ei lawr dyrnu, fel nad oedd nemawr o tis na gwenith i'w canfod arno. Gallasech feddwl ar ei olwg mai bresych cochion o'r gwinegr oedd ei fwyd, ac mai wermod a bustl oedd ei ddiod; eto yr oedd ei dduwioldeb yn ddigon amlwg a dian- mheuol i foddloni hyd yn nod Sami Shon o Nantyglo. Hen frawd rhagorol oedd yr hen deiliwr, ond ei fod yn deneu ac yn gul o gnawd, yn ddreng a phigog yn hytrach 0 ran ei ysbryd, ac yn Buritanaidd a difrifddwys yn mhob ar- weddiad. Digwyddodd fod mewn cymanfa yn amser rhyfel Boni, ac ofnid gan lawer y pryd hwnw y buasai y gwron milwraidd hwnw yn goresgyn ein gwlad. Dyna'r teiliwr yn codi yn arafaidd a phwysig.i gynyg neillduo diwrnod o ympryd a gweddi er mwyn cadw Boni draw. Ond rywfodd neu gilydd, nid oedd y peth yn cymeryd gyda'r gynadledd, a'r teiliwr yn dal at ei bwnc fel y gweddai i wron a fyno sefyll yn erbyn byddin ei hunan, nes oedd amynedd Christmas Evans yn darfod, ac yn dymuno cael llonydd i fyned at rywbetb arall mwy pwysig ac angenrheidiol. A dyna fe yn cyfarch y teiliwr fel hyn :— Wel, bach, yr wyt ti yn ddigon teneu fel nad oes achos i ti ymprydio gwnei'r tro yn burlon am hyny; a gobeithio dy fod yn arfer gweddio bob amser, fel nad oes achos i ti golli