Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Manion oddeutu'r Menai.I

News
Cite
Share

Manion oddeutu'r Menai. I Ar Daith.-Boreu ddydd Mawrth, yr 20fed cyfisol, yr oeddym yn gadael Caernarfon am Llanwnda yno yr oedd cerbyd yn disgwyl am danom. Cawsom gwrnni athraw Ysgol Ramad- egol Clynnog yn mlaen hyd yno. Dychwelai gartref o'i wyliau. Dywedai wrthym fod y lie yn IJawn o ymwelwyr, ac fod cwyn nad oedd digon o le iddynt. Hawdd genym ei gredu gan fod yma le hynod o ddymunol a neillduedig. Wedi aros yno ychydig cychwynasom yn mlaen 3Jm Llanaelhaiarn a thros yr Eifl, a tbrwy Llithfaen i Nefyn. Yr oedd yn dda genym weled arwyddion fod gwaith setts y Gwylwyr yn debyg o roddi cyfieustra eto i luaws i enill eu bara beunyddiol. Y mae yma barotoadau helaeth at ail gychwyn y gwaitb. Bydd yn bendith i Nefyn a'r cylchoedd. Yr oedd amryw faneri yn chwyfio yn yr awelon yn Nefyn, yr n modd yn y Morfa ac Edeyrn, ac wrth ddyfod i.gyfeiriad Pwllheli, gwelem fod y baneri yn amlhau, a phontydd prydferth i'w gweled mewn amryw fanau. Cawsom allan yn Pwllheli mai y pheswm am hyn oil ydoedd priodas merch Nan- horon. Yr oedd y cerbydydd a ninau hyd hyn wedi bod yn cysuro ein hunain mai y ffaith ein fod ni yn myned trwy yr ardaloedd oedd yn cyfrif am yr arwyddion o lawenydd a cbroesaw Wedi cyrhaedd gorsaf Pwllheli pwy welem ond y cyfaill R. o Fadog yn y tywyllwch yn ceisio ysgrifenu ei adroddiad oddigwyddiadau y dydd. Nid heb achos y cwynem ein dau yn erbyn y Cwmni na fuasent yn darparu gwell goleu yn yr orsaf. Doniol iawn y desgrifiai Wirfoddolwyr Porthmadog yn teithio o Pwllbeli i Na> horon mewn glo-gerbydau, &c. Dywedir na fu erioed gynifer o yrnwelwyr yn y rhanau hyn ag sydd eleni. Ond y mae pobl Pwllheli yn hyderus iawn ac yn canu mewn hwyl-"Daw eto fwy yn amser yr Eisteddfod. Darperir yn helaeth yma ar eu cyfer. Pencerdd America.-Ar orsaf Caernarfon, ddydd Iau diweddaf, gwelsom y boneddwr hwn yn nghwmni y Barnwr Edwards o'r America. Deil y Dr. i edrych yn dda. Dywedai "Wrthym fod ei gyfaill yn mwynhau ei hun yn rhagorol yn Hen Wlad ei Dadau," a'i fod yn dychwelyd yn mhen tair wythnos. Alafon.-Heddyw (ddydd Iau) bydd y bardd bregethwr Alafon yn cychwyn dros y don 1 America. Derllwn iddo fethu trefnu i fyned yr un ade a'r Parch D. O'Brien Owen-gwell I ganddo efallai ydyw myn'd ei hunan.; Ei hunan y mae wedi arfer byw a bod, ac y mae yn debyg mai ei hunan y daw yn ol. Ychydig fwriada aros yn yr ochr draw. Hyderwn y bydd iddo gael mordaith lwyddianus a chysurus. Disgwylia gyrhaedd gartref yn ol at ddiwedd Hydref. Dam wain Ddifrifol.—Nos Iau ddiweddaf, collodd Mr Henry Thomas, Dinorwig Street, Caernarfon, ei fywyd trwy iddo gael ei dynu i fewn rhwng yr olwynion yn y Victoria Corn Mills. Yr oedd yn ddyn hynod o gymeradwy. pydymdeimlir yn fawr a'i fam, ac A'r boneddwr teuanc Mr Pritchard, perchenog y feJin. MARCUS.

-:0:-Nodion o'r Rhos.

[No title]

Newyddion Cymreig.I

[No title]

Marwolaeth Arswydus ger Abergele.

--0-Esgob Cymreig yn Ymneillduo.

Rhyddfrydiaeth yn Nyffryn…

I-;0;| Dau yn Boddi yn Llandudno.

Y Dirwasgiad Amaethyddol.

-0-"Cymru i'r Cymry."

[No title]

IByffryn Clwyd.

--:0:--Dr. Clifford yn Ffestiniog.

[No title]