Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

------CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. Cynghaws yn nghylch Ci. Hwyrach 11 a welodd ein d arllen wyr y n ywladmo'r hanes canlynol. Yr wythnos ddiweddaf gwys- iodd Mrs Boyd, gwraig briod yn byw yn Gwydir Street, Lerpwl, gigydd o'r enw Dodson, yn byw yn Peel Street, am gi defaid, neu am y swm o 15p, gwerth y ci Dywedai'r twrne oedd yn gosod yr achos gerbron, fod y ci o waed uchel, a'i bod hi wedi ei gael yn anrheg oddiwrth un Mr Multeeth o Dumfries, Scotland. Yr oedd yn gi blwydd y mis hwn. Mai 30, collwyd y ci, hysbysóbwyd am dano, a chafwyd ef yn ol Gorphenaf 11. Yr 22ain o'r nn mis, curodd y diffynydd wrth y drws a chymerodd y ci i ffwrdd trwy ortbreeh.-Tystiodd Matthew Short o Dumfries tiiai y ci hwnw oedd yn y llys a ddanfonodd ef i Multeeth yn Ebrill diweddaf, a thystiolaethodd amryw o'r cymydogion mai hwnw oedd ci Mrs Boyd. Tystiodd Mr Pilking- ton, ffariar, nad oedd y ci ond tua blwydd oed. O'r ochr arall, tystiai'r diffynydd ei fod ef wedi gwe,tbio'r ci ar ei ffarm yn Toxteth bron yn feunyddiol er mis Rhagfyr diweddaf, pan y cafodd ef gan Thomas Henry, cigydd a magwr cwn, Leece Street. Yn ol y tyst hwnw, o Cum- berland y daeth y ci hwn i'w feddiant ef. Cyn hyny perthynai i ddyn yn Westmoreland o'r enw Mr John Jones Tatham, yr hwn oedd wedi ei roddi i'w frawd i'w ddysgii i drin defaid. Yr oedd y ci yn ddwyflwydd oed o leiaf, a chynyg- iai'r diffynydd alw ffariar yn dyst o hyny, ond gwrthododd y barnwr gan bawlio galw ffariar annibynol ei bun, ac i'r diffynydd dalu'r draul. Yn ddiweddarach ar y dydd, rhoes ffariar o ddewisiad yllys, Mr Dawsey, ei dystiolaeth fod y ci hwnw o leiaf yn ddwyflwydd oed. Addefai'r erlynes nad oedd ei chi hi wedi ei ddysgu i drin defaid, tra yr haerai'r diffynydd fod ei gi ef, ac y byddai yn dda ganddo gael dangos hyny yn mhresenoldeb yr ynad. Derbyniodd Judge Shand yr her, a phenderfynwyd fod y prawf ar alluoedd y ci i gymeryd lie bore dranoeth ar faes y diffynydd yn Toxtetb. Felly, bore ddydd lau, cymerodd y prawf le, Mr Shand yn bres- enol, a chafodd ef ei foddloni fod y ci hwnw yn gynefin a'r gwaith o drin defaid ac felly rhoes ei ddedfryd o du'r cigydd. Gobeithio fod y dyfarniad yn iawn. Ym- ddengys yn achos pur ddyrus. Nid bob amser y gellir i sicrwydd ddweyd oed ci, fel oed ceffyl, oddiwrth ei ddanedd a gwaith go beryglus yn ami fyddai ceisio, canys, fel y dywed fy ddiareb, mae "nerth ci yn ei ddant." Ai tybed nad oedd ei ynadaeth yn rhoi gormod pwys ar allu y ci i drin defaid 1 Mae gallu greddfol y creadur at y gwaith yn annghredadwy bron. Os bydd y rhieni wedi eu trenio'n uchel, mae'r cenawon yn etifeddu'r ddawn a'r fedr fel yr etifeddant faint y trwyn a'r glust a hyd y blewyn a'r gyn- ffon. Ond waeth beb wel'd bai Mr Shand oedd y beirniad a chas yw dadl wedi barn. Cwn y Beirdd. SON am Gi, nid annyddorol fyddai penod f) hanes Cwn y Beirdd a'u brenin hwynt oil y dyddiau hyn mewn deall ydyw Jack (yr wyf yn meddwl mai dyna'r enw) ci Heilig, Pwllheli. Mae yn edrych arnoch mor synwyrol, fel yr ydych yn ofni iddo siarad. Un o hynodion Jack ydyw na feder o yr un gair o Saesneg, ond y mae'n deall Cymraeg cystal a phe buasai wedi bod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ab Gwilym am saith mlynedd. Fel ei feistr, y mae'n Wesleyad mawr, ac nid ai i gapel Method us tros ei grogi. Dos i nol y peth a'r path o'r lie a'r lie," ebe'r piTcben wrtbo a ffwrdd a Jack nerth ei draed, a gwae i'r ci mawr neu fychan a geisio dynu sgwrs ag ef a'i gael i ymdroi ar ei neges. Cynddelw a Chwn. YR oedd Cynddelw yn hoff iawn o gwn a cbeffylau. Gwelais ef lawer gwaith pan ar ym- weliad i'r dref yma yn sefyll i edrych ac edmygu gwedd o geffylau elai heibio, ac ymholai tan ryfeddu o b'le caem yr anifeiliaid hardd oedd genym yn Lerpwl. Yr un oedd ei hoffder at itwn a bydd at pob ci yn myn'd yn ffrynd ag ef yn union. Yr wyf yn cofio cydgerdded ag ef hyd y cae lie cynelid Eisteddfod Wyddgrug 1873 a daeth rhyw ffifflen o greadur bychan o'r I llwyth ewnol gan chwareu oddeutu ei draed. "A ngwas i," ebe'r ffraethebydd, rydw in ffond iawn o gwn—gast addfwyn rieu gi Stedd- fod ydio'n te 1" gan wisgo ei olwg mwyaf sych- ddigrifol. Cwn Ceiriog 'ROEDD Ceiriog hefyd yn ffond o gwn, er nad yw yn eu crybwyll mor fynych ag y gallesid disgwyl i un a fagesid yn ngodreu Berwyn. Un o ddifyrion y bugail Owain Wyn ydoedd taflu careg i fy iigiii;" a climax y croesaw a gafodd Alun Mdbon gan natur pan Ar ol fy hir gystudd 'Rwy'n cofio'r boreuddydd Y'm cariwyd mewn cadair tros riniog fy n6r. ydoedd A daeth fy nghi gwirion, Gan ysgwyd ei gynffon, A neidiodd i fynu a llyfodctfy llaw. Gadawodd Beirdd Cymru y gwaith o ymgomio iefo deiliaid greddf bron yn gyfangwbl i Dafydd ab Gwilym ac am rhyw achos anhysbys nid yw'r Ci yn eifenagerie yntau. Tango Hiraethog Û1 Chwibren Isaf, Llansannan, oedd Tango, a thrwy ei fod yn gydymaith i'r bardd ieuanc Gwilym Hiraethog pan oedd efe yn bugeila praidd ei dad ar lechweddau Hiraethog Fynydd, daeth yr enwocaf o Gwn llenyddiaeth Cymreig. Cyfeiria'r bardd godidog ato ef a'i gyd-oesyddion cwnawl yn "Adgofion M ebyd." Awn i rodio hyfryd fryniau Hen gynefin praidd fy nhad, Lie bu Tango'r ci a minau, 'R ddau ddedwyddaf yn y wlad. Mi ni wyddwn, mwy na Thango, Am ofidiau bywyd gau, Onibai'r ddafad ungorn hono, Buasem berffaith ddedwydd ddau. Y mae crybwyll Tango'n peri Imi gofio llawer ci Enwog arall allwn enwi, Yn eu hoes adwaenwn i:— Civrt, y Wern, a Mot, yr Acrau, Bute, hynafgi Sion y go'— Hedger fawr y Priddbwll, yntau, Heliwr cadam ydoedd o. Keeper, Chwibren Isaf hefyd, Gi cyfrwysddrwg, mawr ei ddawn, Dygodd hwnw yn ei fywyd Gig a bara, lawer iawn Hefyd Tosa, cydymaith Tango, Ein defeidgi ffyddlon ni, Credu'r wyf na bu yn rhodio Daiar ddiniweitiach ci. Catch, o Ddeunant, filgi hynod, Ystwyth ysgafn iawn ei droed, Llawer iawn o 'sgyfarnogod, Ddaliai'r helgi hwnw 'rioed Gallwn roddi rhestr o enwau Cwn gyfrifid gynt yn gall, Ac 'r oedd, ir.eddid, ragoriaethau Yn perthynu i'r naill a'r llall. Dyna ddigon am gwn yr wythnos bon. Dych- welaf at leoyddiaeth Cwn etoyn fuan danfoned cyfeillion unrhyw ddarnau neu gyfeiriadau y gwyddant am dano ar y pwnc hwn. Gwisgoedd yr Orsedd. MAE'R genedl i gyd yn cael ei barnu oddiwrth ymddangosiad dosbarth ohoni ar adegau arbenig o gybofddus, ac un o'r cyfryw ydyw amser yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma ddywed Mr. Hubert Herkomer, R.A.,—arlunydd enwog ei oes, ac o ganlyniad awdurdod uchel ar yr hyn sydd weddus mewn gwisg a diwyg-yn y Graphic am wisgoedd y Bdirdd yn Nghorsedd :— From an artistic point of view, of course, I may and do object to the costumes. They need overhauling, for they could be made not only picturesque but arch geologically correct. This correctship, once established, would never be lost again, and one of the most interesting periods of the island's history would be retained as nearly as possible in form, as it has been retained in spirit. Gan fod Mr. Herkomer wedi addaw tynu portread o wisg Dderwyddol idealistic, fel y dywedir, hyderir na welir mo'r erchyll- dod o gapiau, &e. hynyar benau Beirdd byth ond hyny. Jac y Bala. UN rhyfedd oedd Jecyn, ac anhawdd dweyd pa'r un ai lar ai dyllhuan. Aeth unwaith cyn belled a Mon, ac yno gwelodd Felin Wynt gyntaf. Safai oddiallan gan ryfeddu ati. Daeth y melin- ydd i'r drws, ac yn gwelerl golwg go hurt ar Jac, gofynodd iddo, Welsoch chi rioed beth fel hyn o'r blaen, newyrth ?" Rioed," ebe Jac, yn bur ddidaio. Wei, bedach chi'n feddwl ydio ?" Carchar, faswn i'n meddwl." "Carcbar! be barodd i chi feddwl hyny?" "Gweled lleidar yn i ddrws o," ebe'r cnaf, gan hel ei breniau traed i gilio o'r ffordd. Dro arall, yr oedd yn Nyffryn Conwy, a chyfarfu lencyn tafodrydd oedd yn chwanog i'w boeni, ac ebe hwnw wrtho, Sion, mae mistres isio ffwl." Wyt ti'n myn'd ,i madel" "Nac ydw," ebe'r llanc. Myn'd i gadw dau mae hi, yntê 1" Yr oedd y bachgen wedi twymo drwyddo.

"Adgof uwch Annghof."

o Costau Ysgolion Elfenol…

[No title]

Newyddion Cymreig.

Creulondeb at Anifeiliaid…

-0-Y Blaid Eglwysig.

Advertising