Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
D.R. JONES & Co., IANOFCRTE, ORGAN, HARMONIUM. & MUSIC SELLERS, 106. HOLT ROAD, LIVERPOOL., Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEUON, &c. (Goreu'r Iaith, Dr. Parry, &c. Gwlad y Delyn [J, Hettry), cyfaddas i bob llais. Is i O Rwy'n Coflo (Sweet Memories) Tenor Is Gwlad y Canu Is Hoff Wlad fy Ngenedigaeth. Soprano neu Tenor Is Bwthyn vr Amddifad „ Is Llyrhyr fy Mam. Sopraho neu Tenor la Merch y Movwr • Is Merch y C-*dben, Baritone Is Cenwchim'yrfren ganiadau Is Hen Gadair Fawr fy Mam. Contralto, Baritone 6c O! Peidiweh toii'r Blodau Is Songs of "Wales [bound] 4s post free O! Peidiweh to) i'r RIodau Is Songs of Wales [bound] 4s post free Dim ond Deilen Contralto neu Raritone 61 Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant. D, R. JONES & Co., io6, HOLT ROAD, LIVERPOOL, F Eto ar y Blaen. -TERW ERIN.- TE A GHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. CHAS. R. HALL, GENERAL LETTER CUTTER <& ENGRAVER 53, PARADISE STREET, LIVERPOOL ^MANUFACTURER OF BORNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C. I I Gartref Cymreig. GLASLYN HOUSE, 9, Euston Square, London, N,W. W-V AN S' TEMPERANCE HOTEL, Most Centi-al to all parts of London. Close to Euston (L. & N. W. Ry.) Station. Two Minutes walk from St. Pancras (Midland Ry.) Station. Ten Minutes train from Paddingtoa (G. W. Ry.) to Gower Street Station for Euston Square. Fare, ljd. Home fog, Students during Examination. 1 -I Addygsol* 13EAUMARIS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL. | HEAD-MASTER E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, ft 1 ASSISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House. JD Terms Moderate. Superior accommodation healthy and pleasant situation. SCHOOL RE-OPENS SEPTEMBER 17TH. Apply, HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS & GIRLS). HEAD-MASTER EDMUND D. JONES, M.A. HEAD-MISTRESS Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. RICHARD E. EVANS, HOUSE AND ESTATE AGENT, la, Preston Street (Opposite Police Gourts), LIVERPOOL, And 67, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET MORTGAGES EFFECTED. T)IOS.JONES &Co. Ltd. I TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 2/- per Th. SPECIAL VALUE Parcels of Tea 201- a; d upwards sent carriage paid by Rail wheu remittance is sent with the order. SAMPLES FREFJ ON APPLICATION. THOS JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: N ewyddiadur Cenedlaethol. Danfonir UN copi yn ddidraul trwy y Post:— Am 12 mie., 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6 Telerau. Hysbysiadau- Yn ol 3/- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6. At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd LInn a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher.
Y LLYWODRAETH AM HADDEWIDION,
Y LLYWODRAETH AM HADDEWIDION, YMDDENGYS fel pe byddai pob Llywodraeth, boed hi Doriaidd neu Ryddfrydol, wedi ei thynghedu ar gychwyniad ei gyrfa i ruthro at ei cheseiliau i'r gors Wyddelig, ac i lynu yno, gan fyn'd yn ddyfnach, ddyfnach, nes y bydd wedi haner diffrwytho ei haelodau, ac anmharu ei hymenydd. Yn ol pob golwg, nid yw'r Llywodraeth bresenol ychwaith yn eithriad i'r rheol. Hyd yn hyn, ni wnaed odid ddim yn Nhy'r Cyff- redin ond ymdrin a. phynciau Gwyddelig a chyfyngwyd y siarad bron yn llwyr i Aelodau o'r Iwerddon ac i'r rhai oedd yn cydolygu a hwy neu yn annghydolygu, Cyhuddid y Llywodraeth ddiweddaf o gymeryd ei llywodraethu gan y Gwydd- elod ond y mae'r Llywodraeth bresenol, gyda'i mwyafrif bostfawr o tros gant a haner, eisoes lawn cymaint tan bawen y Gwyddel ag y bu ei rhagflaenydd erioed. Er cryfed ydyw, llwyddodd Mr T. Healy i'w dychryn, ac y mae Mr Balfour (nid ydym yn sicr p'run ohonynt-y mae cynifer o'r teulu hwn yn y Weinyddiaeth) wedi | addaw ail wneud adran 130 Fesur Tir 1891 yn ddeddf er amddiffyniad i ffermwyr Iwerddon. Apeliwyd yn daer gan amryw aelodau, a rhai o'r cyfryw yn Doriaid, at y Llywodraeth, i wneud rhywbeth cyn y gauaf tuag at leddfu trueni y miloedd gweithwyr sydd allan o waith apeliai eraill ar ran amaethwyr y wlad hon gan erfyn ar i'r Llywodraeth drefnu rhyw gynllun ar eu cyfer yn y cyfwng difrifol y maent ynddo, ac edliwid mor hael oedd y Toriaid cyn yr etholiad o'u haddewidion i helpu'r amaethwyi a gallesid meddwl na fuasai Mr Chamberlain ddim yn gallu gor- phwys yn ei groen am wythnos heb wneud rhyw ddarpariadau ar gyfer yr hen bobl digynysgaeth, end y mae ei yni yntau wedi diffygio mewn swydd. Anaml y gwelwyd engraipht well o addewidion politicaidd yn cael eu rhoddi mor ebrwydd i'r prawf, ac yn cael eu tori mor ddiseremoni. Rhaid i bob cwr o'r wlad, oddigerth Iwerddon, feddianu ei hun mewn amynedd hyd Chwefror-caiff pob camwri lonydd am chwe' mis ac yn mhen chwe' mis, yn ol y rhaglen Doriaidd, bydd y Llywodraeth a ddychwelwyd i awdurdod i symud annghyf- awnderau yn dechreu ar ei gwaith o ddifrif, ac, wrth gwrs, yn dechreu yn IWERDDON -yn dechreu gyda'r gorchwyl buddiol, ond maith o angenrheidrwydd, o fyn'd a Mesur Tir i'r Chwaer-ynys trwy Dy'r Cyffredin. Wedi hyny, gobeithir yn ddwys y daw tro y ffermwyr dyoddefgar. Ar ol dyoddef cyhyd, ni fydd dwy neu dair blynedd yn rhagor nac yma nac acw. Yr oedd ymgeis- wyr Toriaid yn nodedig o hael a charedig gyda'u haddewidion ar y mater hwn. Bu rhai ffermwyr mor ehud a hygoelus a'u credu, a gobeithio na fydd iddynt golli ymddiried yn mhob addewid boliticaidd o hyn allan. Pa le hefyd y mae'r pleidwyr Llafur hyny a fu mor brysur hefo'u hymgeiswyr arbenig yn rhanu'r Rhyddfrydwyr yn yr Etholiad Cyffredinol gan golli ami i sedd trwy hyny ? Ni ddangosir fawr o gydym- deimlad a'u ffefryn, y diwaith, gan y Weinyddiaeth bresenol. Rhaid iddo ymdaro goreu gallo tra byddo hi yn gwas- tadhau pethau yn yr Iwerddon. Iwerddon yn gyntaf. Iwerddon yn ail, Iwerddon yn olaf, ac os bydd amser yn caniatau. rhoir sylw neu ddau yn mhellach i'r Iwerddon Nid beio'r Toriaid am hyn, cofier, yr ydym, ond bei eu rhagrith hwy yn beio'r Rhyddfrydwyr am yr hyn a wnaethant eu hunain y cyfleusdra cyntaf a gawsant. Mae pob ymblygiad o'r eiddynt i'r Iwerddon yn ddadl tros Ymreolaeth ai palmantu'r ffordd i Ymreolaeth ydyw eu hamcan ? Hyn sydd sicr, na fedr na Llywodraeth Doriaidd na Radicalaidd symud fawr yn mlaen, heb Iwerddon oddiar y ffordd, Yn y cyfamser mae achos Cymru yn ym- ddangos yn dywyllach nag ydoedd ddeng mlynedd yn ol. Y trawsder yn ail fywhau, canys beth oedd yr engreiphtiau a roisom yr wythnos ddiweddaf o ymddygiadau Eglwys Loegr yn Esgobaeth Llanelwy ond hyfdra rhai yn credu fod y perygl trosodd am yspaid o leiaf. Chaiff Cymru, mwy na'r Iwerddon, mo'i gwrando heb guro yn bur drwm ar fyrddau'r Ty a gobeithio fod ein Haelodau Seneddol yn caledu eu mig- yrnau at y gwaith. Rhaid i Gymru ddynwared Iwerddon cyn y caiff hithau ei hawliau cyfiawn.
-(0)-OFERCOELEDD TREFFYNON.
-(0)- OFERCOELEDD TREFFYNON. DYWEDIR fod rhwng haner cant a thriugain mil o bererinion wedi ymweled a Ffynon Gwenfrewy yn ystod yr haf hwn. Daw lluaws yno i geisio meddyginiaeth gwyrth- iol i anhwylderau corph a meddwl. Gweddiant am eiriolaeth y Santes ar eu rhan, a thrwy gyfryngwriaeth y Tad Beau- clerc trosglwyddant arian iddi, neu yn hytrach i'r achos llewyrchus sydd yno ar ei henw, yn fath o wobr yn mlaenllaw neu yn daledigaeth wedi derbyn y fendith." Y mae llwyddiant Ffynon Gwenfrewy yn ystod y pum' mlynedd diweddaf bron taflu enwogrwydd rhiniau dyfroedd y Lourdes i'r cysgodion. Gyda'r offrymau hyn, cododd y Tad Beauclerc adeilad gwych gerllaw'r ffynon, lie y cynelir offerenau lawer gwaith yn y dydd y mae megys arogl y thus a'r myrrh Pabaidd tios yr ardal, ac amryw Gymry eisoes wedi eu swyno i adael crefydd eu tadau, a mwy yn hwylio at eu dilyn. Nid awn i wastraffu amser ein darllenwyr trwy geisio profi fod dim yn y dwfr hwn nad all fferylliaeth gyfrif am dano, ac nad yw Ffynon Gwen- frewy, fel pob ffynon iachusol arall, ond Ysten Duw i estyn dw'r. A wneir rhyw ymdrech gan Brotestan- iaid sir Fflint i wrthweithio y dylanwad llechwraidd a chyfeiliornus sydd yn bygwth bywyd eu ffydd a'u proffes ? Gwelsom gry- bwylliad cynil fod un neu ddau o'r enwadau Ymneillduol yn eu cyfarfodydd misol neu chwarterol yn galw math o sylw clauar at y mater ond hyd y gwyddom ni chymer- odd Egkvys Loegr-y gwrthglawdd dy- lanwadol rhag Pabyddiaeth," fel y gelwid hi gan John Elias—y sylw lleiaf o'r symud- iad. Ymneillduaeth ydyw pechod mawr esgobion ac offeiriadon yr oes hon. Gwell gan urddasolion yr esgobaeth y mae Treffynon ynddi chwareu crefydd i eglwys wag, neu rifo, rhifo, rhifo, nag edrych ar ol y ffydd ddaeth ini wedi ei mwydo yn ngwaed y merthyron a dywalltwyd gan y gyfundrefn o grefydd sydd yn awr yn codi allorau Baal oddeutu Ffynon Gwenfrewy. -0:
Y Senedd.
Y Senedd. Y RHODD I BRIFYSGOL CYMRU. YN Nhy'r Cyffredin ddydd Mawrth, gofynodd Mr Brynmor Jones a fwriadai'r Llywodraeth barhau i estyn y rhodd o 3,000p at Brifysgol Cymru yn flynyddol ? Syr J. Gorst a ddywedodd fod y swm o 3,000p wedi ei roddi at sefydlu y Brifysgol Gymreig y flwyddyn ddiweddaf, a'i fod yn deall, gan fod y swm hwn yn annigonol i'r amcad, fod ei ragflaen- orydd wedi fiddaw rhodd gyffelyb y flwyddyn hon. Byddai i'r swm hwn gael ei roddi yn yr Amcan- gyfrifon. ADDYRG GANOLRADD CYMRU. Gofynodd Mr Herbert Lewis i Is-Lywydd Cyng- hor Addysg beth oedd safle bresenol y cynllun i fFurfio Bwrdd Canolgg Addysg Ganolradd yn Nghymru, ac a oedd yn bosibl pasio'r cynllun yn ddeddf yn ystod y tymhor presenol ? Syr J. Gorst: Mae'r cynllun wedi ei osod ar fwrdd y Ty, ac yn awr gerbron y Senedd. Rhaid iddo aros am ddau fis cyn y gellir ei gadarnhau gan ei Mawrhydi. Nid yw yn debyg felly y daw yn ddeddf yn ystod y tymhor presenol, os na phery'r tymhor fwy na dau fis. Mr Lewis a ofynodd a. fyddai i adroddiad y Ddir- prwyaeth Frenhinol ar Addysg Ganolradd gael ei roddi ar y bwrdd yn ystod y Senedd-dymhor presenol. Syr J. Gorst: Bydd. Rhoddir yr adroddiad ar y bwrdd yn ystod y tymhor hwn. Y GWEITHWYR DI-WAITH. Mr Herbert Lewis a ofynodd a fyddai i'r Pwyl!- gor Swyddogol fu'n gwneud ymchwiliad i sefyllfa'r dynion di-waith gael ei ail-benodi yn ystod y tymor presenol. Mr Balfour Mae Llvwydd Bwrdd Llywodraeth Leol wedi gohebu a. llywydd y pwyilgor (Mr Camp- bell Bannerman) ar hyn, ond nid yw wedi cael ateb ganddo. Gan fod pedwar neu bump o aelodau'r pwyllgor wedi eu gorchfygu yn yr etholiad diwedd- ar, nad oes llawer o debygrwydd y bydd i un amcan da ddilyn ail-benodiad y pwyllgor. Bydd i mi, fodd bynag, ystyried y mater hyd eithaf fy ngallu. ACHOS JOHN DALY. Cynygiodd y Cyfreithiwr Cyffredinol fod John Da!y, a ddychwelwyd yn A.S. dros Limerick, ag sydd yn awr yn dyoddef penyd-wasanaeth am ei oes, yn annghymwys i gael ei ethol yn aelodo'rTy. Wedi dadl fywiog gyda'r aelodau Gwyddelig, ymranwyd, a chaed 256 dros y cynygiad, a 74 yn erbyn. Pleidleisiodd amryw Ryddfrydwyr gyda'r Llywodraeth yn yr ymraniad, ac yn eu plith Syr G. Osborne Morgan, tra gyda'r lleiafrif ceid Mri Herbert Lewis, Lloyd George, Mabon, Wm. Jones, Pritchard Morgan, Alfred Thomas, a Brynmor Jones, YR AELODAU CYMREIG A'R CYFLENWAD." Yn y ddadl ar y Cyfienwad, cynygid rhoddi 119,210p at dir-fesuriad yDeyrnas Gyfunol, pan yr ymholodd Mr Herbert Lewis pa gwrs gymerwyd i gario allan gymeradwyon y Pwyilgor Swyddogol parth tir-fesuriad, yn neillduol gyda golwg ar absenol- deb swyddogiou yn medru siarad Cymraeg o nifer tir-fesurwyr Cymru, yr hyn a arweiniodd i luaws o gamgymeriadau. Mr Long a atebodd fod y parthleni gyhoeddwyd er 1883 wedi eu rhoddi yn nwylaw Cymry dysgedig er cael eu halolygu, a byddai iddo ystyried yr awgrym arall fod swyddog yn medru Cymraeg yn cael ei anfon gyda phob cwmni. Mewn atebiad i Mr Lloyd George, dywedodd Mr Long nad oedd ond un yn mhob ardal yn gwerthu parthleni. Ond yr oedd y Llywodraeth yn ystyried y cwestiwn o wella y trefniadau pres- enol. Pan gynygiwyd fod 12,240p. yn cael eu rhoddi at oleudai a phorthladdoedd, dywedoedd Mr. Lloyd George eu bod yn gwario 6,000p. yn flynyddol ar borthladd Cwmni Reilffordd y L. & N. W. R. yn Nghaergybi, ac fod y porthladd hwnw yn cael ei arfer bron yn gyfanwwbl gan agerlongau y Cwmni hwnw. Costiodd y porthladd, gan gynwys y breakwater, agos i filiwn o bunau, yr hyn yn ym- arferol oedd yn rhan o gyfalaf Cwmni y L. & N. W. Awgrymai fod y 6,000p.; yn He cael ei gwario yn flynyddol am wneud glanfeydd coed, a rhoi blwydd-daliadau i gad-lywyddion wediymneillduo, yn cael eu harfer i wneud ymchwiliad ar y modd goreu i wneud porth-laddoedd ar draethellau Cymru i lochesu morwyr Cymreig. Mr Ritchie a atebodd fod Cwmni y L. & N.W. yn talu rhent mawr am gael arfer y porthladd. Am angenion morawl Cymru, byddai iddo gymeryd sylw o'r awgrym wnaed, a phenodi peirianydd i wneud ymchwiliadau. Mr Lough a wrthdystiai yn erbyn y syniad i borthladd Caergybi gael ei werthu i Gwmni y L. & N. W. Yr oeddynt wedi cael digon yn barod ar orfaeliaeth y cwmni hwn, ond dylai y rhent fod yn ddigonol i dalu costau y porthladd. Mr Herbert Roberts a gyfeiriodd at y pwysig- rwydd o anfon peirianydd i edrych i mewn i'r angen am borthladdoedd ar y traethellau Cymreig, a hyderai y byddai i Lywydd Bwrdd Masnach ym- gynghori £ t'i gydswyddogion a dwyn adroddiad ger bron. Mr Herbert Lewis a awgrymai fod porthladd Caergybi yn cael ei eangu er budd trafnidiaeth morawl yn gyffredinol. Yn bresenol nid oedd un porthladd ar draethellau Cymru y gallai Hong a dynai wyth troedfedd o ddwfr fyned iddo ar drai. Dangosai hyn fod angen am well darpariadau i for- wyr Cymru. Wedi i eraill siarad, cytunwyd a'r bleidlais.
[No title]
0- Mae Syr Lewis Morris wedi ysgrifenu pryddest ar y cnledi yn Armenia. Aiff yr elw at gynorth- wyo'r Cristionogion yn y wlad hono. Mae Ysgol y Friars, Bangor, wedi ei gwertha gan Lywodraethwyr Addysg y Sir i gwmni o foneddwyr am 9,260p.