Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Yn Nghwmni Natur a'i Phlant.

farwolaeth arswydus ger Cwrecsam.

O'r De.I

News
Cite
Share

O'r De. PARHAU yn dywyll wna masnach yr alcan yn Llanelli. Mae'r gweithwyr yno yn sefyll allan am hen bris 74, ac ychydig yw'r arwyddion ar byn o bryd y bydd iddynt i lwyddo yn fuan. A chymeryd pethau yn gyffredinol i ystyriaeth, mae'n sicr fod y fasnach wedi cyffroi cryn dipyn, oherwydd gweithir ar yr hen bris mewn llawer iawn o'r gweithie erbyn hyn. Mewn Thai manau gweithir ar ddeg y cant o ostyngiad. ond deil Llanelli yn dyn am y pris llawn. Cymylog yw rhagolygon y fasnach hon ar y gore, ac yn mhob cymydogaeth clywir swn llawer yn parotoi i groesi'r don. Daeth ymdaith y milwyr i ben o'r diwedd, mor bell ag y mae a fyno Deheudir Cymru a hwy. Mae ein papyre dyddiol yr wythnosau hyn wedi bod yn llawn llunian bidogau, gynau, a baneri rhyfel. Rhoddwyd iddynt gryn dipyn mwy o Ie nag a roddwydi'r Eisteddfod. Ddydd Gwener, daethant i Gaerdydd, ac y mae banes yr ymweliad yno yn cymeryd dros wyth golofn o'r S. W. D. N. am ddydd Sadwrn. Pa un ai'r Eisteddfod ynte ymweliad y milwyr wnaeth fwyaf o ddaioni i Gymru ? Pwy gafodd yr olygfa fwyaf ddymunol, y rhai aeth i weled y fyddin ynte y rhai aeth i weled yr Eisteddfod 1 Nid oes angen ateb, ond gresyn ria allem roi mwy o sylw i'r pethe gore. "Ei le i bob peth, a phob peth yn ei le," fyddai'n iawn yn shwr. Erbyn hyn mae Eis1 eddfodal1 Ceredigion wedi myned heibio—y rhai pe gosodid hwy wrth eu gilydd a wnaent Eisteddfod Genedlaethol go dda. Yr wythnos ddiweddaf pasiodd gwyl Llan- gybi ac Aberteifi. Cadfan yn y flaenaf yn arwain a beirniadu. Watcyn Wyn yn yr olaf. "Dewi Sant oedd testyn y gadair yn y flaenaf a'r Wefus Bur yn yr olaf. Dennis enillodd yn y flaenaf a'r Parch J. T. Job, Aberdar yn yr olaf. Yr oedd y ddwy gystadleuaeth yn enwog am hyd y cyfansoddiadau mae'n debyg. Dywedir fod amryw o bryddestau Rhvl yn nghystadieu- aeth Llangybi. Ai un o'r cyfryw enillodd tybed ? Araf iawn ar hyn o bryd yw'r fasuach lo, ac y mae canoedd o we;thwyr da a diwyd allan o waith. Yn Treharris, rbyw fath o streic sydd yno yn achosi fod oddeutu dwy fil o weithwyr tanddfiearol yn segur, ac nid oes ar hyn o bryd nemawr o arwyddion deztlltwriaeth buan. Nid "prisyglo" yw pwnc y ffrae, ond pa fodd i "fesur" y gwaith. Gwelir fod y mesurau yn blino rhywrai heblaw gwyr yr Orsedd. —o — Achwyna'r Tyst a'r Dydd fod y traethawd buddugol ar Brif Gymwynaswyr Cymru yn un- ochrog (ymddengys fod y traetbawd yn fuddugol yn Eisteddfod Powys eletsi). Nid yw yn enwi ond chwech, a di<wydda'r cyfryw fod yn aelod- au o'r Corpb. Anturia'r Tyst enwi tri neu bedwar o gymwynaswyr ereill sydd yn rhagori ar rai o'r chwech," megys Henry Richard, Hiraethog, Aubrey, Y Gohebydd, loan Emlyn, John Thomas. Beth bynag am y traethawd, nid oes Gymro o galon a wfi/1 nad oedd y cyfryw rai o nifer prif gymwynaswyr ein cenedl. Mae un o ysgrifenwyr doniolaf ein cenedl ar daith drwy'r De ar hyn o bryd. Clywais ei hanes yn Nghaerdydd ac yn Nghastellnedd- gwelais ef yn gyru drwy haul a cbawodydd i Abertawe a Llanelli. Am J. M. Edwards yr wyf yn son. Os y bydd yn ysgrifenu yr hanes, cofied na fydd ganddo gystal mantais i ddych- rnygu a phan yn ysgrifenu hanes ei grwydr:adau yn yr Iwerddon am y rheswm y darllenir ei lithiau gan ganoedd sydd yn nabod y South yn lied dda. Mae Gwyneth Yaughan er's wythnosau mewn gwahanol ranau o'r wlad yma yn areithio dir- west. Yn y Gwynfryn y gwna ei chartref pan yma. gwelais hi yn Llanelli. Ymddengys mai new v.oman yw hi. Bu Llewelyn Williams yn areitbio ar y Deff- road yn Nghwmaman, a Watcyn Wyn yno'n barddoni wrth wrando, a Towyn wrth gwrs yn llosgi. Wedi dechre nodi ffeithiau fel hyn, dylwn wneud yn hysbys hefyd fod Pan yn y wlad yma yn gyru heibio yn ei van, gan roddi'r ddaear i'r bobl. Yn Aberaeron, nos Wener ddiweddaf, cafwyd araeth gan Dr John Rhys ar wahanol enwau ac hynafiaethau'r cylch. Dygodd allan o drysorfa ddihysbydd ei wybodaeth bethau newydd a hen. Yn nglyn a'r gair Sochtyn, nis gwyddai ei darddiad nid oedd yn ei ddeall, meddai ef. r Gallasai gynyg llawer esboniad dychmygol arno, ond gan nad oedd yn sicr nid oedd am ddych- mygu. A minau dan yr argraph fod y Dr yn dychmygu llawer. Os yw yn sicr o'r holl bethau y mae wedi ddweyd yn mhob man ar wahanol enwau—wel, mae'n rhyfedd gen i. Llandrindod yn ogoneddus iawn y dyddiehyn, a dywedir y cedwir "Ty Gwalia yn ddawns barhaus gan ddonian digymar y Parch E. Lloyd 1 11 Jones, Rhyl. Mae gwahanol ranau y wlad yma ger y flynon a'r llyn-pob enwad, sect, a phlaid, a swydd, a phawb o'r brodyr yno'n un, heb neb yn tynu'n groes. SOUTHMAN.

-:0:-Ffestiniog.

Llofruddteieth Ofidus yn Lerpwl.

--0---Ebion o Nant Conwy.

Nodion o'r Rhos.

---0---Ciawdd Offa a'r CyfTiniau.

[No title]

Advertising

------Helyiition Bywyd Hen…