Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Yn Nghwmni Natur a'i Phlant.

News
Cite
Share

Yn Nghwmni Natur a'i Phlant. Y CREYR GLAS. Y MAE pawb bron yn adnabod y creyr glas (heron) drwy ei big a'i goesau hirion, ei gorph teneu a'i gryglais aflafar. Ond ychydig yw nifer yr adar hyn o'u cydmaru ag adar eraill ein gwlad, a dy- wedir eu bod yn lleihau yn eu nifer fel mae y boblogaeth yn cynyddu. Mewn rhan o Ddeheudir Cymru, nid oes yr un i'w gweled yno, meddir. Eu r hoff leoedd ydyw ffosydd a chorsydd anial, a glan- au'r traethau, a'u hymborth ydyw man bysg, llyffaint, a chreaduriaid dyfrawl eraill. Mae'n ffaith hynod y gellir dychryn y creyr yn farwol os gall yr un geisia wneud hyny fyned yn ddigon agos ato heb iddo ei weled, a rhoddi bloedd sydyn uwch ei ben. Bu i un yn y gymydogaeth hon Wneud hyny tra yr oedd y creyr mewn ffos, ac yn ei ddychryn ehedodd y creyr ychydig o bellder ar gylchdro, a daeth yn ei ol i'r lie y cododd oddiarno, a bu farw yn ddiatreg bron, meddai fy hysbysydd. Y BETRISEN. Feallai bydd yr ychydig fanylion hyn am y 11 betrisen a'i hiliogaeth yn newydd ac yn ddyddorol i rywun. Nytha y betrisen mewn Ilwyn o eithin, *ieu ddrain a mieri, ac anhawdd iawn fydd ei darganfod heb ei gweled yn myn'd ohono. Pan tyddo yn deori, ac yn digwydd gadael ei nhyth weithiau i chwilio am damaid, bydd yn gorchuddio yr wyau a mwsogl neu wellt, rhag i adar neu greaduriaid rheibus eu darganfod a ewledda ar- nynt. Gyda'r nos, pan fyddant ar wasgar, bydd- aQt yn galw ar eu gilydd yn nghyd i fyn'd i giwydo. Clwydant yn un haid ar dir gwelltog neu frwynog, yn un cylch crwn, ochr yn ochr, a'u Penau allan ohono i bob cyfeiriad i wylio, fel nas gall unrhyw elyn ddyfod ar eu gwarthaf heb i un neu ychwaneg ohonynt ei glywed neu ei weled yn yfod, a thrwy hyny roddi rhybudd prydlon i'r gweddill o'r haid symud o'r perygl. BACHGEN O'U WLAD. --o

farwolaeth arswydus ger Cwrecsam.

O'r De.I

-:0:-Ffestiniog.

Llofruddteieth Ofidus yn Lerpwl.

--0---Ebion o Nant Conwy.

Nodion o'r Rhos.

---0---Ciawdd Offa a'r CyfTiniau.

[No title]

Advertising

------Helyiition Bywyd Hen…