Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

G'r De.

News
Cite
Share

G'r De. Bu Major Jones yn dwe/d giir ar bwnc y lecshwn yn Llauelli yn nghysgod yr Eisteddfod. Dangosodd well ysbryd na fuasai llawer yn ddisgwyl. Priod- olai v golled i gwestiwn llosg y tyn, sef y 74 list. Dywedodd hefyd mai anwireud oedd V stori iddo iyned drwy Lanelli i Lunden heb edrych allan yn vr orsaf. Nid aeth drwy Lanelli o gwbl, meddai ef. Ptthau bychain sy'n boddhau a phoeni llawer ohonom A yw yn bechod i gywiro Archdderwydd ? Ac os yw yn bechod, a oes maddeuant? Neu mewn geiriau mwv cyfrin A oes heddwch?" Gyda ni yn y De y daeth yr Archdderwydd newydd i'w lawn waith, a phan yn urddo nifer o lanciau fore ddydd Iau,—Eosiaid, Llinosiaid, Brithyllod, Llys- wenod, Gwrachod, &c., dyna ddywedai wrth ben pob un Yr ydym yn awr yn cael yr anrhydedd o roddi urdd bardd (neu fel y buasai yn digwydd) i Brithyll Llwchwr," neu rywbeth yn yr un line. Nawr s, lwer ar y geiriau italaidd nid yr crsedd yn cael yr anrhydedd sydd gywir, ond yr orsedd yn anrhydeddu. Os yw'r Orsedd i fynu a'r hyn ddywedodd yr Archdderwydd yn Llanelli ddydd cyhoeddi vr Eisteddfod, Did anrhydedd iddi Li yw cad neb pwy bynag ger ei bron, ond anrhydedd i'r uwchaf yn y tir yw cael urdd ganddi hi. Wedi i dywysogion a brenhinoedd, a brenbinesau sugno ei bronau, cadwer ei hanrhydedd i fyuu. Croesaw tywysog roddir yma i'r Barnwr Edwards o America. Profodd ei hun yn feistr yr Eisteddfod fel arweinydd vn Llantlli, ac yn ol y croesaw a ga', amlwg fod ei genedl yn ei werthfawrogi. Mae gwleddoedd croesawol wedi eu cynal yn Caerdydd ac Abertawe, ac Amanford, a pharti Tom Stephens, Rhondda, yn parotoi. Yn ei areithiau yn y gwahanol gyrdde hyn, gesyd allan ei fawr sel a'i gariad at ei iaith, a'i wlad, a'i genedl. Maa'n debyg nas gall gwyr godre sir Aberteifi gynal Eisteddfod Genedlaethol oherwydd diffyg Ile,-ac i wneyd i fyny'r golled, ac i geisio dod i fyny a'u cvmydoges sir Gaerfyrddin, y maent eleni wedi cynal nifer o Gyrddau Cadeiriol rhagorol, ond trueni rywsut eu galw'n Eisteddfodau yn ymyl cawres Llanelli. Yn Cei Newydd enillwvd y gadair gan Gwylfa Roberts, Bala-Bangor, un o sgnfenwyr mwyaf blodeuog y genedl. Yn Pencader enillwyd y gadair gan J. T. Job. Aberdar, yr hwn, fel y cofir oedd yn ail yn Llanelli. Gwydderig, urynaman, oedd yn clirio y manion i gyd. Gan fod cri wedi ei godi fod rhyw un enwad yn llvncu'r cwbl yn nglyn a'r Eisteddfod, rwy'n teimlo awydd prophwydo os y parha ysbryd culni enwadol yn y cylch cyfrin, mai'r Hen Qorph fydd dani cyn bo hir mae'r Sentars ar y ffordd i weithio u hunain allan, a Uu'n dod i'r golwg ar ffordd y Corph. Dyna Job a Cynwyd yn ymyl y gadair yn Llane.li medde nhw-a gwnaeth Gwilym ap Lleision ei fare hefyd. Tri chynghaneddwr campus—tri bardd rhi-,orol-a thri Methodist. Wel den, boys—ewch ymlaen. Gair eto am yr Archdderwydd. Er ei fod yn ben, gall weithio'n galed. Bu pan yn y De yn awr yn areithio a phregethu yn y Cymmer, Llechryd, Blaenannerch, a Brynamau. Go!ygai hyn gryn deithio a, lla,wer o siarad. Amser a balla i mi nawr gyfeirio at daith y milwyr o Benfro i Gaerdydd drwy'r gwlaw mawr, a thros heolydd trymion, yn flin yr olwg arnynt, ac heb beri i nemawr chwenychu eu sefyllfa. SODTHMAK. --0--

Manion oddeutu'r Menai.

.. ICyfrifon yr Eisteddfod.

Lleol

PWLPUDAU CYMREIG Awst 18 LER…

Marclinadoedd.I

Arwest Clan Ceirionydd.

Agoriad y Senedd.

[No title]

Advertising

Family Notices