Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

V Prifathraw John Ilhys ar…

News
Cite
Share

V Prifathraw John Ilhys ar Enwau UEOECLD. Yn can yn ceir anercliiad y Doethawr ar y pwnc dyddorol o ''Enwau Lleoedd,' a draddod- wyd ganddo yn Eisteddfod Corwen ddydd Llun: EBOHWYD i mi eich annerch, ond ni chefais un awgrym ar ba bwnc, ac yr wyf mewn penbleth o'p herwydd, ond yr wyf yn lied glir ty meddwl gyda golwg ar ddau beth, sef nad tebyg fod ar neb yma awydd clywed dim am wleidyddiaeth ar hyn o bryd nae am addysg y' Nghymru y mae cymaint o son wedi bod am dano y blynyddau diwethaf. Gadâwny pyuciau gwleidyddol i'r aelodau Seneddol am heddyw, ac addysg i'r athrawon a'r athrawesau sydd wrth eu swydd yn ei gyfranu. Nid yw hyn, pa fodd bynag, ond nacaol, ac nis gwn pa destun i'w ddewis, ond am a wn i nad anffawd i gyd i fonglerwr fel myfi fyddai cael testun a gorfod dal ato. Gwyddoch yn dda nad oes glawdd ffin na ffos a fedr gadw pregethwr gwael y tu mewn i'w der- fynau ei arfer i'w dilyn ei drwyn i bobman a chyffwrdd a phobpeth. Cymeryd fy rhyddid felly wraf innau ar hyn o bryd, a dechreu o r llecyn lie r ydym canys bydd yn dda genyf bob amser glywed llais doethineb lleol ar bynciau Ileol. Caraswn pe buasai gennym hamdden ofyn i henafiaethwyr Corwen beth a wnant o'r hen amddiffynfa ar ben y bryn acw, a oes gan rywun ryw amcan pwy a'i cloddiodd ac yn erbyn pwy. Pwy oedd y trigolion ar y pryd a phwy oedd eu gelynion ? Deallaf mai Caer Drewyn neu Gaer Drywyn y gelwir hi, a swnia'r gair hwnnw'n debyg i rif unigol y gair drywon am dderivyddon, megis yn y llinellau a ganodd rhyw hen fardd afon am y Ddyfrdwy :— Drwyodd er dyddiau'r drywon Y rhwyf y Dwfr dwyf ei don. Dyna'r hen fardd wedi esbonio i chwi yr enw Dyfr- dwy yn Ddwfr dwyf, hyny yw y Dwfr dwyfol. Ffurf hynach yr enw oedd Dwfr divyn a hen ffurf yr ansoddair dwyfol oedd dwywol neu ddwywawl j er hynny, ceir rhywutv yn awr ac eilwaith yn ys- grifennu y' nghyflawnder ei anwybodaeth i brofi mai Dwfr dwy afon yw yr ) styr: nid wyf yn cofio pa ddwy, ond nid oes nemawr afon nas gellid dyweud ei bod yn ddwfr dwy, neu ddwy ar hugain, o ran hyny neu ragor. Myn rhywun arall, canys y mae dwy oclir hyd yn oed i fympwyau fel hyn hefyd, mai Dwfr Du yw'r Dyfrdwy am fod Glyn- dyfrdwy yn cael ei gwtogi weithiau yn Glyndxovdxi Ond ni waeth hynyna nag ychwaneg, hen enw yr afon oedd Dyfrdwyw, a golygai'r dwyw hwnnw a wna'r bardd yn ddwyf yn y llinellau a grybwyllais eisoes dduio neu dduwies, a cheir yr un gair mewn ffurf mwy hynafol yn y Deva a arferai y Rhufein- iaid am yr afon. Gan ryw lwyth Celtig y dysgas- ant hww y gair hwnnw gyntaf, ac o'r enw Deva, debyg, yn hytrach nag o un ffurf Gymraeg fwy diweddar, y daw Dee y Saeson. A rhyw debyg, feddyliaf i, yw hanes yr enw Dee ar afonydd eraill mewn gwihanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol. Ond y mae enw duwies yr afon ar gael hyd hedd- yw, a dyma oedd Aerfen; ac ond i chwi droi i Eiriadur Silvan Evans cewch yno amryw ddifyn- iadau pwrpasol o'r beirdd o amser Cynddelw hyd amser Dafydd ab Edmwnt. Yn eu plith cewch hen fardd yn son am yr afon fel Aerfen bengrech felenfawr," a geilw Dafydd ab Edmwnt Lyn Tegid yn Llyn Aerfen yn y llinellau— Am a welais i, myn Elien 0 Lanurful i Lyn Aerfen. Ymddengys o gymharu yr enw a geiriau fel Ogrfen a thynghedfen mai ysprydiaeth yr aerfa neu faes y gad a olyga'r gair Aerfen hyny yw, math o dduw- ies rhyfel oedd Aerfen, tebyg hwyrach i'r dduwies Rufeinig Minerva, a esbonia rhyw Gymro cell- weirus fel Min Arfmt! Nid mympwy na geir- darddwr na bardd yu hollol yw yr hyn a awgrymais i gyda golwg ar yr Aerfen, canys ceir fod yn nhyb y trigolion beth o ddwyfoldeb yr afon yn parhau hyd amser Gerallt Gymro yn y 12fed ganrif. Yr hyn a ddywed efe yw y coeliai trigolion glannau'r Ddyfrdwy y byddai rhediad yr afon yn hyspysu pwy gai'r goreu y' mwydrau'r flwyddyn ddyfodol, y Cvmry neu ynte'r Saeson os pwysai'r afou, er engraifft, yn erbyn y glanau Seisnig byddai hynny'n arwydd mai'r Saeson gai'r gwaethaf. Ond rhag i ni gael ein cludo'n rhy bell gan lifeiriant yr Aerfen down yn ol 1 Gorwen i holi am ystvr yr enw hwnnw. Nid hawdd gwybod pa le i ddechreu a dyma'r cynnyg cyntaf, mai cwtogiad yw o ffurf hynach, sef Cor-waen cymharer Dinmel am Dinmaet heb fod yn nepell oddiyma. Ond o ran hynny Corwaen yw y sillebiad hynaf o'r gair y gwn i am dano y mae y' Mrut y Tywysogion a gyhoedded gan Wenogfryn a minau adnod fel hyn Ac yny erbyn ynteu [sef yr Ail Harri ar Orsedd Lloegrl y deuth owein gwyned, a chatwaladyr ueibion gruffydd ab kynan a holl lu gwyned y gyd ac wynt. Ar ;arglwydd rys ab gruffud a hall deheubarth ygvt ac ef. ac Owein keveilawc a Iorwoerth goch uab Maredudd a meibion madawc uab maredudd. a holl powys ygyt ac wynt. Ac ygyt yn gyfun diergrynedic y doethant hyt yn eideirnawn. A phebyllu wnaetliant yglioruacn. Dyna ddywed y Brut, a dwg y llawysgrit ni'yn ol i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, a Chorwaen oedd yr enw yr amser hwnw, a'r gofyniad nesaf yw pa beth a olyga'r gair Cor-ivaen. Yr ateb naturiol yw mai Gwaeu y Cor ond pwy oedd y cor neu'r corach y cyfeirir ato? Nis gwn i, ond bydd y gair weith- iau'n golygu aelod o'r Tylwyth Teg, gan mai rhai bach, bach, fel y credid, oedd y boblogaeth honno. Os felly priodolai hygoeledd yr oesoedd gynt y liain hon o dir rhyngom ni a'r Aerfen i'r Tylwyth Teg ryw adeg cyn i dai gael eu hadeiladu yma. Credid gynt, fel y clywsoch ganwaith, y byddai'r Tylwyth Teg yn arfer dyfod allan yn y nos neu yn y niwl i ddawnsio wrth lais y delyn a'r llecynau ddewis- ent, meddai'r hen bobl, oedd dolydd gwasta.d ar lannau afonydd, yn enwedig pan fyddai rhyw hugan deneu rydoll o darth yn eu cuddio a'r Iloer yn ariannu hwnnw uwch eu pennau. Hwyrach y gwyddoch ei bod yn gred heddyw hefyd gan rai mai tref yw Corwen yn gorwedd yr ochr chwith i'r haul, ac y tarawai i'r dim yn ymddifyrfa Tylwyth Teg yn hytrach nag yn drigfa i gynwys Morwyn- ion glan Meirionydd." Pwnc i'w hwn yna i'w ben- dertynu rhyngoch chwi wyr Corwen a rhagfarn eich cymydogion canys dyna ddywedir yn Llangollen a'r Bala, sef mai mwy fyddwch chwi'n gael drwy'r flwyddyn o leuad nag o haul y' Nghorwen, 0 ran hyny, nid oes fawr o haul yn gwenu arnom yma heddyw, ond hwyrach fod gwenau'r Tylwyth Teg yn pebyllio yma dan yr hetiau rhyfedd yna sydd bellach yn debycach bob un i arddflodau nag i benguwch neb o'r merched gynt. Os Tylwyth Teg, meddaf i, teg fyddai gweled eu gwedd. Ie, pa le yr ydym ? nis gallaf alw i gof, ond cyn cael fy hudo i ffordd gan y Tylwyth Teg yn ym- drechu gyda'r enw Corwen yr oeddwn. Nid iawn gadael hwnw heb grybwyll rhai o'r esboniadau Ileol. Y boreu heddyw pan yn teithio tuag yma, gofynais i'm cyd deithwyr beth al-ai fod ystyr y gair Corwen. "0," meddai un yn gyflym, Cor Awen yw Corwen." Sut hyny ?" meddwn innau? Mae Eisteddfod, welwch chwi, i fod yn Nghor- wen heddyw, a bydd ami i gor canu ac awen ffraeth yn y gystadleuaeth yno yr wyf i fy hun (meddai) wedi anfon cyfansoddiad i mewn." Gan nad oedd wn yn teimlo awydd i ymatlyd codwm a gwr oedd yn berchen cyfansoddiad, tewais yn ostyngedig. nes y dechreuodd hen wr adnabyddus a Chorwen fy ngoleuo'n wahanol barthed i'r enw. Ei farti ef oedd mai Cor Owen yw Corwen, a phan ofynais iddo pa Owen oedd ganddo ar ei feddwl, atebodd mai Owen Glyn Dwr oedd yr Owen hwnw. Wel, beth oedd Owen yn wneud a chor, meddwn inuau ? Fel hyn yr oedd hi," meddai r henafgwr, "eisiau cor da i ganu'r Te Deum oedd ar Owen pin gai efe'r goreu ar y brenin a'i wyr ar eu dyfodiad drosodd o Lyn Ceiriog." "Welsut y gwyddai Owen y doi'r Saeson y ffordd yma?" ebwn innau Wel, ont oedd Owen yn diall y llyfr du a'r Gel- fyddyd Ddu drwyddi draw, ac wedi dysgu pobpeth a fedrai Saeson tua Rhydychen yna yn rhywle," "Da iawn," ebwn innau, "gwir fod. Owen wedi bod yn efrydydd yn Rhydychen a Thomas Charles o'r Bala amser maith ar ei ol ond sut y gwyddoch chwi mai cor canu oedd gan Owen yn hytrach na chor huwch mewn beudy ? Chwerthin y gwelaf chwi am fy mhen, meddwn onid yn y parth yma i'r wlad yn rhywle y dywedir fod perchen buwch yn ei gosod hi'n y cor pan fyddo yn ei rhwymo wrth y gledren ddechreu gaeaf ?" 0, ond chwerthin yr oeddwn i wrth feddwl gymaint ydym ni ar y blaen i'r Saeson. Stalls y geilw'r Saeson leoedd felly mewn cor mewn eglwys fawr, a gwyr parchedig ac eraill a osodant i eistedd yn y cor, gwyr, welwch chwi, nid gwartheg." I ,Wel, wel," meddwn, mae'ch rhesymeg chwi yn rhy anhawdd i mi ei chanlyn, a rhed o hyd i dir peryglus yr eglwys." Y canlyniad fu i ni droi at bwnc arall a chael ymgom ddyddorol y gweddill o'r daith am brisiau moch a 'menyn. (I orphen yn ein nesaf.)

--0--Y Cynadledd Wesleyaidd.

Lleol

Marohnadoedd. YD.

o PWLPUDAU CYMRE1G Awst II…

[No title]

Advertising

Family Notices