Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

YR AMSERAU."

News
Cite
Share

YR AMSERAU." RHIF I. DA chwi, gadewch i ni gael tipyn o lenyddiaeth iach, bur, i dynu ymaith fl,s y lecsiwn ddiffaetb, ac yn mha le y ceir iachach a phurach llenydd- iaeth nag yn llenyddiaeth gyfnodol Cymru yn ystod y pedwar degau. Cyfnod adfywiad nod- edig arm ydoedd rhwng 1840 a 1850. Dyna pryd y cychwynwyd Yr Amserau, Y Traethod- ydd, a'r Archceologia Ca,mbi-ensis-tri chyhoedd- iad a fuont o fawr wasanaeth i'r genedl ac yn foddion neillduol i ddyrchafu ei chwaeth ac eangu ei gwybodaeth a'r blynyddau a nodwyd oedd cyfnod eu nerth a'u defuyddioldeb. Golygid y blaenaf gan Gwilym Hiraethog, yn cael ei gynor- thwyo gan ei gyfaill medrus yr Argraphydd John Jones, 21, Castle Street yr ail gan y Parchn Roger a Lewis Edwards a'r trydydd gan y Parch Basil Jones, Esgob Tyddewi, gyda cbymhorth Mri Longtieville Jones ac Edward Barnwell. Rhywdro eto cawn hamdden i son ychydig am y ddan gyboeddiad olaf, a'u golygwyr a'u gohebwyr trylen. Y tro hwn gair am y blaenaf. Daeth y rhifyn cyntaf o'r gyfrol gyntaf o'r Amserau, yr hon sydd yn awr o'm blaen, allan "Ddydd Mercher, Awst 23, 1843." Yr oedd ei bris yn Dair Oeiniog, a'i faint yn ycbydig drus haner maint y Cymro. Bob pythefuos y cyhoeddid ef y flwyddyn gyntaf o'i fodolaeth, os nid yn mhellach ac yr oedd stamp ceiniog y Llywodrxeth ar bob copi,a th, eth drom i'w thalu ar bob Hysbysiad. Y mae wedi ei argraphu yn llawer gwell na'r un papyr newydd Cymraeg a gyhoeddir y dyddiau hyn. CYFAJBCHIAD Y GOL. YN nghyntaf petb, ceir "Anercbiad y Golyg- ydd." Y mae rbwng gobaith ac of a yn anturio rhedeg yr yrfa y cwympodd amryw ynddi o'i flaen penderfyna gymeryd gymaint o ofal ag a allo ar fod ei wefusaii yn adrodd gwybodaeth bur, a bod cyfraith gwirionedd, cyfiawnder a heddwch yn wastad ar ei dafod. Y mae'n llaw- drwm iawn ar ei gyfenw mewn iaith arall, sef y Times. Feddyliwn mai yr un un oedd o y pryd hwnw ag ydyw'n bresenol. Dyna'r desgrifiad a rydd Dr Reeso Dimes 1843 Cablu a dirmygu yr egwyddorion o ryddid a chyfiawnder y buasai unwaith yn en proffesu a'u hamddiffyn, a gwertbu ei huuan i bob isel fudr wasanaeth, hyd nes aeth ei ddryg-nodwedd yn ddiarebol trwy boll Ewrop fel un nad yw yn parchu nac yn caru y gwir mwy na'r celwydd, na'r celwydd mwy na'r gwir." Nid yw Brougham ychwaith ond Ilathen o'r un brethyn a'r Times ac er na nodir pechod yr Ysgotyn amleiriog hwnw, dywed y Gol. hyawdl tod y ddau yn yr un ffos, yn wrth- rychau truenus, beb gan nebymddiriedynddynt. Gobeithia. Yr Aniscratt Cymreig hethau gwell am dano ei bun." Er hyn oil, dal i "balu o hy a dal i fyw rywsut drwy'r holl stormyud fu arno y niHfi'r Times, er y dywedir yn mhellach yn y Rhagymadrodd hwn, "Gellir cymhwyso ymadroddion y prophwyd, Y genedl a'r deyrnas ni'th wasanaetho di a lwyr ddifethir' at bob newyddiadur a chylch-gyhoeddiad yn ogystal &g at wlad a chenedl." r_ Sylwadau cymhwys iawn sydd yn y paragraph nesa i'r -lpf, lie y traethir ar bwys'grwydd y fyddin yr oedd efe fel golygydd ar ymuno a hi. Ebai Y mae i'w wir alarn fod y dosbarth hwn yn cael mawr gam drwy agos ei lwllol esgeuluso tra mae gweinidogion y gair yn cae lie yn ngweddiau dirgelaidd, teuluol a chym- deithasol y sanct, ni chlywir byth, yn mron, na gwaedd na gweddi yn cael ei dyrchafu dros olygwyr y wasg gyhoeddus. Ni ddylai y pethau hyn fod felly. Sicr yw na fydd i'r byd byth gael ei buro a'i ddiwygio nes puro a diwygio y was yn gyntaf." Geiriau gwirionedd a sobr wydd, mae'n ddiau ae mae eisian pnro a diwygio pob crefft cystal a hithan. Adar Bi-otifraith oedd "scribes" neu scriblwyr y 40au fel y 90.11.1, a llawer cymeriad rhyfedd a fu yn eu mysg o dro i dro—dyhirod digrif o ys^'olfeistriaid wedi eu llygad-dynu, fFermwyr wedi ffaela, a pregeth- wyr wedi eu witsio ac ni welais i erioed brintar na fyddai yn ystyried ei hun yn gwbl addas i olygu y papyr y byddo'n gweithio arno, ac os ca'r siawns yn barod i neidio i'r swydd. Fel y dywed y Rbagymadrodd, os gellir spario ambell weddi, yn awr ac eilwaitb, mae digon o'i -heisiau ar y dosbarth mawr a phwysig [yn enwedig yn ei dyb ei hnn] bwn ac annhraethol bwysicach na'r "holl Frenhinol Deulu" y coffeir eu cyflwr mor ddefosiynol yn y Llan o Sul i Sul. TEùLU REBECCA. WEDI gorphen y Rhagymadrodd, penawd yr erthygl gyntaf ydyw lieheudir Cymru." Yr oedd boll siarad y Deheudir y pryd hwnw am wrhydri ac ystranciau Teulu Becca,' cyngbrair oedd wedi ei ffurfio yn benaf i symud y tollbyrth neu'r Turnpike Gates aneirif oedd yn britho pob ffordd, yn y Debeudir yn arbenig, ac yn orth- rwm trwm ar amaethwyr ac eraill. Maes penaf gweithrediadau Teulu Becca ydoedd sir Gaer- fyrddin, er nad oeddynt yn fanwl yn nghylch terfynau os byddai gorthrwm gerllaw. Cyswynair yr urdd gyfrin ydoedd yr adnod hono, Genesis xxiv. 60 Ac a fendithiasant Rebeccab, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn ac etifedded dy had byrth ei gaseion." Yn ngwisgoedd menywod a'u gwynebau wedi eu duo neu eu mygydu, teithient i'w negesau nosawl ar geffylau cyflym yn finteioedd bychain. Deuent at glwyd, neu lidiart, codent y ceidwad o'i wely, barient ef a'i deulu allan, yna rhoent y ty ar dan, a gwnaent y gate yn chwilfriw, y ewbl mewn ychydig funydau a ffwrdd a hwy at y glwyd nesaf. Mewn ychydig fisoedd yr oeddynt wedi clirio ffyrdd yrr holl wlad o'r beicbiau annghyfiawn hyn. Llawed. cais wnaed gan yr awdurdodau i'w dal, on. gydag ychydig eithriadau yn aflwyddianus Cafwyd allan wedi hyny mai meibion ffermwyr oeddynt gan mwyaf. Dyma yehydig engreifftiau o'u campau wedi eu cymeryd o'r ysgrif tan sylw Sadwrn, y 5ed, ymosododd yr hen fam a'i 1 merched ar dollborth Porth-y-rhyd, yr hwn a ddystrywiodd yn nghyda'r toll-dy. Cyrhaeddodd Becca yno yn mhen ychydig wedi haner nos, a daeth y merched yno bron ar unwaitb, yn bum dosparth gwahanol. Yr oedd y llidiart yn gref, a'r pyst yn 27 modfedd o dryfesur, ac yn dderw Cymreig. Yr oedd ceisbyliaid (special constables) yn gwylio y lie, y rhai, yn mhresenoldeb Syr John Heidden, a fostient lawer ar eu dewrder, a hysbys- asant eu penderfyniad i ddal yn erbyn Becca hyd yr eithaf. Ond yn ddioed ar ymddangosiad ei niawrhydi, ymaith a Junto'r gwehydd, Jacob Thomas, a dau eraill, a thybiodd Die Morganwg, y tollwr, mai y peth callaf iddo yntau oedd gwneud y defnydd goreu o'i sodlau. Erbyn un o'r gloch y boreu, yr oedd y llidiart, y bar, a'r tolldy wedi eu dinystrio. Yna ymosodasant ar efail gof, yr hwn oedd wedi brolio y gwynebai ef bymtheg o deulu Beeca ymaith yr aeth vulcan ar eu dynes- iad, ond ni chafodd ond prin hamdden i gychwyn nes oedd ei ddrws a'i ffenestri wedi eu tori, a hacner ddystrywiwyd ei efail hefyd." Wedi cyflawni ei gweinidogaeth, darfu am Deulu 'Brtcca ni ail godwyd y clwydi a ddi- nystriodd hi byth mwyacb ac er iddi gyflawni rhai creulonderau, gwnaeth hefyd lawer byd o ddaioni. "RtPALE OF THE UNION." TRA mai Teulu 'Becca oedd yn cynhyrfu Dehen- dir Cymru, diddymiad yr Undeb oedd yn poeni Iwerddon y pryd hwnw fel y mae i raddau mwy neu lai o hyny hyd y dydd bwn ac adroddiad o'r symndiad ydyw'r trydydd mater a ddygir gerbron yn y tudal. cyntaf, Mr Daniel O'Coii- nell ydyw prif arweiaydd y symudiad; ac y mae un nodwedd ryfedd yn perthyn i'r sefydl- iad, yr hyn a'i hynoda ar bob ysgogiad gwlad- wriaethol arall; sef ei heddychlonrwydd a'i reoleidd-dra. Ei egwyddor wreiddiol ydyw ymgadw o fewn terfynau y gyfraith—pender- fyniad ymroddgar i gyrhaedd yr amcan trwy foddion heddychol a chyfreithlawn, hebryfel na thywallt gwaed. Yr hyn a olygid wrth ''Di- ddymu yr Uudeb" ydoedd dwyn yr Iwerdclon yn ol i'r eyflwr yr oedd ynddo cyn dechreu y ganrif pan oedd ganddi ddau Dy'r Senedd, y rhai a lunient ei holl gyfreithiau, yn cael eu cadnrnhau gan set frenhinol Lloegr. Gwneir ymchwiliad athronyddol i achosion y cynliwrf. I hyn," ebe'r ysgrifenydd, "fel y mae'n dra gofidus, rbaid ateb mai camlywodr- aeth, annghyfiawnder a gormes yw yr achosion obono." Un o'r annghyfiawnderau hyn ydoedd cynrychiol \eth ddiffygiol yr Iwerddon yn y Ty Cyffredin. Tra yr oedd gan Loegr a Chyinru, gyda pboblogaeth o 15 miliwn, 500 o gynrych- iolwyr, sef un dros bob 30,000, nid oedd gan Iwerddon, gyda phoblogaeth o dros wyth mil- iwn, ond 105, nen un dros 77,800. Haner can mlynedd yn ol, Iwerddon oedd yn grwgnach fod gan Loegr ormod o aelodau seneddol heddyw, Lloegr sy'n cwyno fod gan Iwerddon ormod, ac yn son am gymeryd rhai oddiarni ond yn y cyfamser, bu newyn y pytatws, a phob math "o adfydau o'r nef a'r ddaear yn teneuo'r boblog- aeth, ac nid yw pobl y wlad hono yn rhifo ond tua haner ei phoblogaeth gynt. Yna a'r ysgrifenydd llithrig yn mlaen i sylwi ar annghyfiawnder mawr Iwerddon, ac medd- ai :—"Ond archoichrwm Iwerddon yw ei Heglwys Sefydledig. Trethu a degymu naw rhan o ddeg o boblogaeth y wlad at gynal eglwys a dysgawdwyr yr un ran arall yn unig, sydd yn wrthuni gwaradwyddus i lywodraeth gwlad oleuedig." Cwbl wir. Ond y mae Mr Gladstone wedi symud y baich oedd yn llethu Iwerddon i'r llawr ac wedi gadael baich eyffelyb ar gefn ei gyniydO4ion y Cymry ar hyd y blynyddau. Fe- ailai y daw ei hamser hitbau yn nghynt nag y disgwylia hwyrach yn awr. Buasai yn dda genyf ddilyn yr Amserau yn mhellach. Mae yn y gyfrol lawer o fanion dy- ddorol tuhwnt, a cheir cyfleusdra, hwyrach yn fuan i son yn helaethach am danynt.

— o Y Personiaid a'u Segwm

" Cwreichion

--:0:--Esgob Llanelwy a'r…

Advertising

..,----Cohebiaeth.

Advertising