Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Nodion Eisteddfodol
Nodion Eisteddfodol Yr oedd yn dda gan ganoedd weled Llew Llwyfo ynyr Eisteddfod, a cha'dd dderbyniadiawn pan aeth i'r llwyfan i nol y wobr o 20p am ei gan fuddugol i'r Disgybl Anwyl." Edrycha yn iach a chryf, fel pe byddai ei fywyd tawel wrth droed y Wyddfa yn dygymod ag ef i'r dim. Y mae ei wallt cyn wyned a'r llin ond ei feddwl yn iraidd, fel y prawf ei hvyddiant yn y gystad- leuaeth favr hon. Lie anbwylus ar lawer ystyr ydyw Llanelli i gadw'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n ofynol wrtb gryn ysgolhaig i allu myn'd yno o gwbl ac i'r ysgolhaig goreu cymer yn rhywle o saith i ddeg awr i wneud y daith o Lerpwl i brif dref y gweithiau tyn. Junctions (beth ydyw'r gair Cymraeg ?) aneirif-Crewe, Mwythig, Craven Arm", Bnilth Road, Llandovery, Llandilo, Pont- arddulais, ydyw rhai o'r cyfryw, ac yn niffyg na fydd teithi wr yn llygadog, fe'i cipir filldiroedd o'i ffordd. Yr ail ar y Gadair yn yr Eisteddfod oedd y Parch J. T. Job, Aberdar. Gweinidog gyda'r Methodistiaid yn Aberdar ydyw Mr Job, 27 oed, a gellir disgwyl llawer oddiwrtbo. Yr oedd p,iwb yn ddieithriad yn condemnio rhoddi'r beirniad cerddorol yn y pwll petryal hwnw oedd ar ganol y neuadd. Pwy bynag oedd tad y drychfeddwl, fe ddylesid ei fwrw yno yn rhwymedig draed a dwylo. a'l adael felly nes I- y y cyflesasai ei ffolineb ac addaw'n edifeiriol na throseddai felly mwyach. Ond yr oedd ypwyll- gor trwy dderbyn yr awgrym ffoled ag yntau. Yr oedd tri Joseph yn cael eu bwrw i'r pwll hwnw, sef Syr Joseph Barnby, Dr Joseph Parry, a Joseph Shepherd. Yr oedd Mr Ben Davies yn ei hwyliau goreu drwy yr holl Eisteddfod ei Jais mewn cywair ysplenydd, a phe buasai dywysog ni fuasai modd. rhoddi amgen croesaw iddo bob tro yr ymddangosai ar y stage. Efe oedd y mwyaf pobl- ogaidd o'r hoil gautorion. Urddwyd ef yn Ngorsedd ddydd Iau tan yrenw Y Pencerdd," pryd y canws Gurnos iddaw mal hyn :— Bachgen glân-mae'n gan i gyd,—a'i awen Yn hoewi cerdd bywyd A'i gan wefraw], gwin hyfryd, Wna ein Ben yn ben y byd. Yn eno'r anwyl, pa bryd y chwanega'r beirdd, (gyda b bach) ddoethineb at ddeall ? Mae yr urddwisgoedd hyny mor arswydus ag erioed, a'r capiau, mitrau, neu beth bynag gelwir hwy, yn saith gwaeth na'r gwisgoedd. Ond myned i'r Eisteddfod i ymgecru n'n gilydd, ar bwy fyddai ben, neu nesaf i'r pen, edlíw mai Hwntw yw hwn, a Sentar yw'r llall, a'r papyrau Seisnig penwan yn rhoi colofnau o banes cyrddau'r plantos digrif Rhag cywilydd i'w calonau Nid oes rhyw ogoniant mawr yn perthyn i'r urdd, na hynafiaetb gwerth son am dano, ond tlylai fod ynddi d dig on o fywyd i esgymuno- trwy gynffon y sarph doreho^—pob un a ddygai fwgan sect neu sir i'w chyfarfodydd. Y buddugol ar y traethawd ar Ddaearydd- iaeth Cymru,' gwobr 15p, oedd Mr J .E. Thomas, Gwrecsam. Dywedir fod yr Arngueddfa Celf a Diwydianau yn nglyn a'r Eisteddfod wedi troi yn golled o 250p. Gwariwyd 300p ami, ac ni dderbyniwyd oud 50p. CYFARCHIAD, A draddododd Ceulanydd yn Eisteddfod Llanelli pan goronwyd Llew Llwyfo am ei bryddest i "loan y Disgybl Anwyl CEFAIST destyn dyrchafedig! Testyn gar fy nghalon i; Dyfed fwyn o'r beirdd yn unig Gafodd destyn gwell na thi; Canodd ef i'r Mab Trag'wyddol, Ddaeth i farw ar y pren Cenaist dithau i'r Apostol Bwysodd ar Ei fynwes wen Fuost ti yn N galilea, Cyn i loan ado'i wlad? Welaist ti ei gwch pysgota Ar y traeth ger ty ei dad ? Welaist ti yr loan arall, Gyda'i eneiniedig fant, Oedd yn uwch na'r brenin anngball Ar ol tori'i ben i bant ? Fuost ti'n y 'stafell hono Pan oedd ef a'i ben ar fron Duw a dyn, yn dystaw wrando Ar guriadau calon hon ? I werdd faenol y grnddfanu Wyt ti'n dilyn ol ei draed? Wyt ti'n danod iddo gysgu Pan oedd Iesu'n chwysu'r gwaed Fuost ti ar ben y mynydd Yn y t'wyllwch pan oedd Ef Yno gyda ei Waredydd, Heb yr haul, yn nghefn y Nef ? Maddeu hyn o ofyniadau A ddisgynant ar dy glyw; Mi af heno ar fy ngliniau Gyda'th achos at fy Nuw Bydd yn siwr o wrando arnaf, Ac fe daena aden Nef Gylch yr hwn a ganodd oraf I'w anwylaf gyfaill Ef. Pan ei adref at dy delyn, Tafla'th goron lan wrth draed Y Dieuog ar y Clogwyn A fu farw yn Ei waed Pan ddaw adeg cadw noswyl, Gymry hoff us, gawn ni gwrdd Yn nghwinpeini'r Disgybl Anwyl," Gyda'r lesu wrth y bwrdd ? Arwest Farddol Glan Qeirionydd a Qorsedd f'awreddog Barddas, Awst 13eg.—Derbyniwyd awdlau a chynyrchion Mab y Mynydd', Elias, Per- |rin, Peredur, Gweledydd, Glan Cowlyd, Bardd Brainfc, Taliesin, Hywel Dda, Ap Pendant, Silas, Ezeciel, Henafydd, EmTys Tudur, loan Celt, Gor- onwy, Alawydd Gwyndud heblaw y cyfansodd- laau dan sel i'w gwahanol feirniaid. Cofied y beirdd y rhaid i'r buddugwr ar awdl Mynydd y -Ly 1 fod yn bresenol, am nas gellir cadeirio trwy gyurychiolydd. — Y Prif-fardd Pendant. Arholiad Dirwestol Oogledd Cymru.-Amser yr fcrholiad nos Wener, Awst 30, o 7 i 9 o'r gloch. Maes llafur i rai o 18 i 21 oed' Llawlyfr Dirwest, pen. iii., iv. ay; i rai o 14 i 18 oed, Catecism Dir- West—y ddau i'w cael gan y Parch S. Owen, Tan- ygrisiau. Lie byddo 6 o ymgeiswyr yn barod i ?istedd, anfoner hysbysrwydd erbyn Awat 24 i J. EIDDOX JONES, Ysg., Llanrug, Caernarfon.
[No title]
Y Parch J. O. WILLIAMS (Pedrag), Cadeirfardd 18Q_ CYHOEDDWYD y darlun a'r bywgraphiad canlynol o'r bardd awenber o'r blaen genym yn rhifyn Medi 3ydd, 1891, ar yr achlysur o'i gadeiriad yn brif- fardd Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ond diau y bydd yn dda gan luaws weled ei wyneb a chael tipyn o hanes ei fywyd unwaith eto. Gwelir fod y bywgraphiad wedi ei ysgrifenu ganddo ei hun yn ei ddull diymhongar. Gellir ychwanegu ato ei fod wedi gwasanaethu fel beirniad er's blyn- yddau lawer mewn Eisteddfodau mawr a man. Efe a glorianai y beirdd yn y gystadleuaeth pan eniilodd Ceulanydd gadair Pontypridd, ac mewn Eisteddfodau Cenedlaethol eraill. Rhoddir yr ymddiriedaeth Iwyraf yn ei farn, ac ni anmheuodd neb erioed ei degwch. Heblaw ei allu dianmheuol fel bardd, beirniad, pregethwr a gweinidog, y mae hefyd yn lienor gwych. Efe oedd awdwr y nofel ddyddorol Rhyd y Wylfa a'i Bobl Od," a ym- ddangosodd yn ein rhifynau yn ddiweddar, ac y mae ei amlinelliad o ambell gymeriad a'i ddsrluniad o fywyd gwledig yn hono yn deilwng o gael eu rhestru yn mhlith rhai o gynyrchion goreu y gang hen hon o lenyddiaeth Gymreig. Mae Pedrog yn barchus yn mhobman, ond yn unman nid yw yn fwy felly nag yn y ddinas hon, lie yr adwaenir ef oreu. Yn bresenol mae ar daith bregethwrol yn yr America, a diau wedi ei hadwaeaont y bydd gan yr lancwys syniad lawn mor uchel am dano ag sydd genym ni yma. Caffed iechyd a nerth i ddychwel yn ddyogel o'i daith i eistedd yn nghadair Eisteddfod Llanelli, ac i awenu odlau i'w geaedl eco. Wele'i fywgraphiad :— GANWYD fi Mai 20fed, 1853, yn Gatehouse, Madryn, Lleyn, yn fab i Owen a Martha Williams. Bu farw fy mam pan oeddwn tua chwe mlwydd oed a fy nhad yn fuan ar ol hyny. Cefais nawdd ar aelwyd modryb i mi, yr hon a fu farw pan oeddwn yn alluog i droi allan i'r byd." Hyny o addysg a gefais yn moreu fy oes oedd yn "Ysgol y Llan," Llanbedrog ond gorfu i mi droi i enill fy nhamaid cyn braidd blasu ohonof unrhyw ganghen o ddysg- eidiaeth. Bum yn dysgu garddwriaeth am dair blynedd yn Gelliwig Hall, Lleyn, preswylfa y diweddar Mr A. Jones Williams a'i briod, chwaer y diweddar Syr Love Jones Parry. Bum wedi hyny am tua thri mis, yn ngerddi Dicksons, Caerlleon ond er imi gael cynyg oddiyno ar leoedd da, teimlwn fod gofal garddwr yn fy amddifadu o'r Sabboth, ac o gyflensderau crefyddol a llenyddol yn gyffredinol, fel y penderfynais roddi yr alwedigaeth hono i fynu, yr hyn wnaethum tua 22ain mlynedd yn ol, pryd y daethum i Liverpool, lie y bum yn gwasanaethu am un mlynedd ar ddeg, yn fflrm Meistri W. Wil- liams a'i Gyf., Button Street Dygwyd fi i fynu gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd o'm hieuenctyd; cymhellwyd fi i bregethu gan fy hen athrawon yn Llanbedrog, ond er fod ysfa ynof nid ufuddheais nes dod i Liverpool. Cymhellwyd fi i'r un peth gan y Parch John Evans (Eglwysbach); ond ofnwn yr anturiaeth. Daeth Cynfaen yn olynydd iddo yn Chester Street, ac anogodd yntau fi i gymeryd yr un cwrs ond gwrthodais iddo yntau hyd oni welais ei fod wedi dodi fy enw ar Blan y Gylchdaith —heb fy nghu,niatad. Wedi hyny, ystyriais y dylwn wneud cais i bregethu, hyd yn nod pe meth- aswn. Gwnaethum, a throes pethau allan yn well nag y disgwyliwn. Cefais gymaint o fwynhad wrth bregethu, fel yr awyddais am gael ffordd i'r weini- dogaeth. Yr oedd anhiwsderau ar fy ffordd i'r weinidogaeth Wesleyaidd, gan fy mod erbyn byn wedi priodi. Symudais at yr Annibynwyr, ac ym- aelodais yn eglwys ieuanc Kensington, gan yr hon, yn y flwyddyn 1884, y derbyniais alwad unfrydol i'w gwasanaethu fel gweinidog. Dechreuais ymgiprys a'r awen yn ieuanc iawn, a chystedlais gryn lawer yn y Cyfarfodydd Cystad- leuol a gynelid yn Liverpool a'r cyffiniau, a chefais ran dda yn yr yspail. Enillai3 mewn gwahanol fanau ar bryddestau, &c. Yr awdl gyntaf a wnaethum oedd un ar Ffydd," yr hon a eniilodd Gadair Eisteddfod Gwynedd. yn Mhorthmadog, yn 1887, gwobr £ 20. Cefais y tlws aur a'r wobr am awdl, Gwybodaeth," yn Utica, 1889, a bum yn ail ar awdl, Y Beibi Cymraeg," yn Aberhonddu, yr un riwyddyn. Ni chynygiais erioed am Gadair ond yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r eithriad o'r tro y digwyddais fod yn llwyddianus yn Mhorthmadog gyda'r Dalaethol. Bu Cymdeithas Lenyddol a Duwin- yddol Chester Street, gynt, o fawr les i mi-dan lywyddiaeth gwyr galluog a charedig fel y Parchn John Evans, (Eglwysbach), J. H. Evans, (Cynfaen), O. Ll. Davies, W. Jones, &e.. Bum am yspaid yn rhy lwfr i gymeryd rhan yn nhrafodaethau y Gym- deithas a pha beth bynag fyddai gerbron—papyr neu ddadl-cawn ollyngdod drwy adrodd englyn neu ddau ac ni fyddai y dadleuwr mwyaf manwl yn ddigon creulon i anmheu anffaeledigrwydd englyn. Ond yn raddol ymwrolais, a chymerais ran fel eraill yn yr holl weithrediadau. Bu cymdeithas yr anfarwol Cynfaen yn symbyliad i mi mewn cyf- eiriad prydyddol. Bu cyfwng pan oeddwn newydd ymadael, yn enwadol, a'r hen gyfeillion Wesleyaidd, ac heb ymgydnabyddu ag ond ychydig o gyfeillioH yn fy nghylch newydd, yn un o'r adegau mwyaf pruddaidd yn fy mywyd. Ond yn raddol daethum i gydnabyddiaeth a chyfeillion diledryw, ac yr wyf yn ddedwydd yn eu plith. Heblaw hyny melusir fy mywyd yn ngwyneb y ffaith fod yr hen gyfeill- garwch rhyngof a'r Wesleyaid yn parhau o hyd, ac mae eu cydymdeimlad yn fy nilyn byth.
IEisteddfod Cadeiriol Corwen.I
Eisteddfod Cadeiriol Corwen. GLAS oedd y ffurfafen a disglaer oedd yr haul uwchben pen tref Edeyrnion fore Llun,pan ymgyn- ullai'r Eisteddfodwyr i gynal yr wyl flvnyddol uchod. Yn blygeiniol, gwelid prysurdeb yn y dref, a'r trigolion yn ddiwyd barotoi ar gyfer yr ymwel- wyr, y rhai a dyrent yno o bob cyfeiriad. Erbyn naw o'r gloch, gwelid banerau amryliw yn chwyfio, bwau addurnedig wedi eu gosod i fynu, ac yn y pellder clywid Seindorf Llanuwchllyn yn chwareu alawon Cymreig. Wedi gorymdeithio i'r orsaf i gyfarfod y dyeithriaid, dechreuwyd gwaith y dydd trwy gynal GORSEDD ar lawnt y farchnad. Ffurfiwyd yn gylch, a chym- erwyd meddiant o'r meini gan y beirdd, gyda Rhuddfryn yn deyrn arnynt. Agorwyd yr Orsedd gan Gwilym Alltwen, yr hwn a gyhoeddodd yr Eisteddfod yn agored yn ol rhaith gorsedd, a galwyd ar y beirdd yn mlaen i ddweyd eu profiad ar y Maen Llog. Caed anerchiadau gan Rhuddfryn, Gwilym Alltwen, Llifon, Ceinydd, Caerwyn, Creigfryn, a Dewi Ffraid. Wedi i Telynor Meir- ion roddi detholiad ar y delyn, y corn gwlad alw am osteg, gweiniwyd y cledd a chyhoeddwyd heddwch. Wedi i Mr John Thomas, gwawl- arlunydd, Lerpwl, dynu darlun o'r beirdd ac eraill yn y Cylch Cyfrin, aed i'r babell, yr hon oedd mewn maes cyfagos, ac wedi ei haddurno yn brydferth gydag enwau enwogion ymadawedig a chyswyn- eiriau cenedlaethol. Llywydd cyfarfod y boreu oedd y Prifathraw Dr John Rhys, ac arweiniwyd gan Llifon. Aed trwy y gwaith fel y canlyn :— Detholiad o alawon Cymreig ar y delyn gan Telynor Meirion. Beirniadaeth Parchn H. C. Williams a J. Roberts, Garthbeibio (mab y diweddar Elis Wyn o Wyrfai) ar gyfieithu "Beauteous Wales" (Talhaimra) i'r Gymraeg. Y buddugwr allan o 13 oedd Gwladwr,' ond ni atebodd i'w enw. Cystadleuaeth canu'r pedwarawd, 'Beth sy'n hardd V Un parti yn unig ddaeth yn mlaen, sef parti Mr Edward Jones, Corwen, a barnwyd hwy'n deilwng o'r wobr. Beirniadaeth Elfed a Gwynedd ar yr englyn, Cystadleuaeth yr unawd tenor Love in her eyes sits playing,' allan o 15, barnwyd Mr J. Halton Morris, Edge Lane, Lerpwl, yn oreu, a dywedodd Mr David Jenkins, Mus. Bac. yn ei feirniadaeth arno ei fod yn ganwr rhagorol—yn bur, yn goeth, a naturiol, ac fod ei ddatganiad yn deilwng o'r Eisteddfod Genedlaethol. Beirniadaeth y ffram pictiwr. Eiddo Rhys ap Goronwy, ond ni atebodd i'w enw. Can, Cwm Llewelyn,' yn rhagorol gan Mr David Hughes. R.A.M. Cystadleuaeth y corau plant ar ddatganu Y Tylwyth Teg,' (D. Lloyd Evans, Corwen). Daeth chwe cor yn mlaen, sef Trawsfynydd, Brynbowydd (Ffestiniog), Nant (Coedpoeth), Dinbych, Bwlch- gwyn (Gwrecsam), a Corwen. Barnwyd cor Bwlch- gwyn, dan arweiniad Mr John Price, yn oreu gyda chanmoliaeth uchet iddo. Myfyrdraith, I Tragwydrloldeb.' Allan o luaws y buddugwr oedd y Parch Evan Jones, Adwy'r Clawdd. Hir a thoddaid, Taliesin Hiraethog.' Brython' yn oreu, ond ni wnaeth ei hun yn hysbys. Cyfansoddi anthem gynulleidfaol, Mr Thomas Edwards, organydd, Caer, yn oreu Yna caed anerchiad rhagorol gan y llywydd ar Enwau Lleoedd.' Gweler eisylwadau mewn colofn arall. Beirniadaeth y traethawd ar 'Amaethu.' Dyf- arnwyd eiddo Mr J. H. Roberts, Tynycoed, Bala, yn oreu gyda chymeradwyaeth uchel y beirniad, Mr Bryner Jones, F. ff. A.S., Bangor. Ail gystadleuaeth gorawl ar ddatganu "Cwsg, fy maban, cwsg" (W. M. Roberts), gwobr, lOp. Dau gor ddaeth yn mlaen, sef cor Maentwrog, dan arweiniad Mr. Evan E. Jones, a chor Prion, Dinbych, dan arweiniad Mr. Thomas Roberts. Y cyntaf farnwyd yn oreu. 'Cynllun o Gadair Eisteddfodol.' Mr. R. J. Williams, Llawrcilan, Llandrillo, yn teilyngu haner y wobr. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Llywydd y prydnawn oedd y Prifathraw T. F. Roberts, M.A., Aberystwyth. Unawd soprano, 'Cwsg, fy anwylyd.' Enillwyd gan Miss Gwladys Williams, Gwrecsam, (merch Trebor Mai), datganiad yr hon oedd yn rhagorol.
Advertising
Queen of Aerated Beverages. ZOEDONE Nerve and Brain Tonic, Non-Alcoholio NORMAN KERR, ESQ., M.D., F.L.S., says- This excellent Beverage has more than kept up its high character as a pleasant, refreshing drink, and at the same time a valuable nervine tonic The sample I have to-day tasted is improved both in quality and flavour." Proprietors and Manufacturers The AERATED BEVERAGE and BUFFET Co., LIMITED, WREXHAM, North Wales. Prices and Testimonials on application.
[No title]
I Cyfrinach.' Allan o 34, dyfarnwyd Mr Henry Davies (Abon), Cefnmawr, yn fuddugol, Cyfieithu rhan o Fuddugoliaeth y Groes (Elis WYll o Wyrfai) i'r Saesneg. Y buddugwr oedd Mr Lewis Parry, Llansantffraid G.D. Cywydd, 'Gwylder.' Eiddo Llwydiarth Mon, Llanfaircaereinion, yn oreu. Unawd contralto, Profiad plentyn y meddwyn.' Er nad oedd y gystadleuaeth hon yn cyrhaedd safon uchel, barnwyd Miss K. Jones, Gwrecsam, yn oreu. Prif iiraithawd, Cysylltiad Owen Glyndwr a-, Edeyrnion yn ol hanes a thraddodiad,' gwobr 3p. 3 Eiddo Mr. J. H. Roberts, Tynycoed, Bala, yn oreu. E-glyn Beddargraph, Robert Evans y Barbwr.' Wnog yn oreu ond ni atebodd i'w enw. Cyfansoddi unawd ar y geiriau, I Perl fy nwyfron (Talhaiarn), Mr. Thomas Edwards, organydd, Caer. Cystadleuaeth y corau merched ar ganu Clychau Aberdyfi.' Un cor ddaeth yn mlaen, sef Prion, Dinbych, dan arweiniad Mr Thomas Roberts, a chwbl deilyngai'r wobr, sef 4p 4s. Anerchiad y llywydd, yn nghwrs yr hwn y sylw. odd ar sefyllfa bresenol addysg Cymru, y dylan- wadau sydd wedi ei ddwyn oddiamgylch, ac angen- ion presenol y genedl yn y cysylltiad hwn. Cyfeir- iodd at swyddogaeth y bardd fel dysgwr cenedl, a dyfynodd linellau Mathew Arnold wrth ddesgrifio'r bardd He leaned on his gate. He gazes—tears Are in his eyes, and in his ears The murmur of a thousand years. Argymhellai y pwysigrwydd o hyfforddi y dalent a dadblygu yi athrylith awenyddol Gymreig, ae o wneud hyny y deuai mawredd y cymeriad Celtaidd i'r amlwg. Beirniadaeth Miss S, L. Parry, Bala, ar draith- awd y merched, 'Rhan merch yn nyrchafiad cym- deithas,' gwobr Ip 10s. Ymgeisiai naw, ond eiddo Mrs Hughes, priod y Parch R. Hughes, Brynawen, Corwen, oedd y goreu. > Aed yn nesaf at y gwaith o gadeirio'r bardd. Cynygid cadair dderw gerfiedig a 5p am y bryddest oreu ar Y Gorphenol.' Darllenwyd beirniadaeth Elfed a Gwynedd gan Hywel Cernyw, yr hwn a sylwodd fod 13 o ymgeiswyr, a rhai ohonynt o safon uchel. Yr oedd awdwr y bryddest oreii yn tori tir newydd, ac er fod ei syv.iadau yn ym- ddangos yn ddyeithr a phell ar y cyntaf, eto deu- ent yn well po fwyaf y darllenid hwy. Elai yr awdwr at yr egwyddorion tragwyddol oedd tucefn i'r holl orphenol, a thynodd awenyddiaeth ddyrch- afedig ohonynt. Pan alwyd enw'r buddugwr, caed mai'r Parch Rhys J. Hughes (A.), Abermaw, yd- oedd. Arweiniwyd ef i'r gadair gan Gaerwenydd a'r Alltwen, ac aed trwy y ddefod arferol o'i gad- eirio. Anerchwyd ef gan yr Alltwen, Rhuddfryn, Caerwenydd, Llifon, Ceinydd, Dewi Ffraid, Rhydafon, Grugog, D. O..en, Tom Owen, Gwaen. fab, Glyn Myfyr, Creigfryn, a Caerwyn. Canwyd can y cadeiriad gan Miss Gertrude Hughes,R.A.M., merch y Parch Hugh Hughes (W.), ac wyres i'r diweddar Archdderwydd Clwydfardd. Unawd bariton, Owain Glyndwr.' Wedi cys- tadleuaeth gampus, barnwyd Ed. Pritchard, Cefn Mawr, yn oreu. Duchangerdd I GNv6n deg a gwenwyn dani,' allan o la, Gwaenfab, Bala, oedd y buddugwr. Yn y brif gystadleuaeth gorawl, cynygid gwobr o 25p i'r cor a ginai oreu He, watchiog over Israel' (Mendelssohn), a Ceisio gloewach nen (Emlyn Evans). Ni ddaeth ond un cor yn mlaen, sef Gwrecsam, dan arweiniad Mr W. M. Roberts, a dywedai y beirniad fod eu datganiad o'r dernyn cyntaf yn unig wedi teilyngu iddynt y wobr yn llawn, oblegyd cydbwysedd ac ystwythder y lleis. iau, darlleniad cywir, ac hefyd y ffaith eu bod wedi myned i ysbryd y dernyn. Nid oedd eu datganiad o'r ail ddarn cystal, oblegyd ceid man frychau yn y darlleniad, ac ni buont mor ofalus i gydsymud ag yn y darn cyntaf. Er hyny, gwir deilyngent y wobr, ac yr oeddynt wedi clangos yn eglur yr hyn ellid wneud trwy ddysgyblaeth fanwl i ddwyn cor i raddau o berffeithrwydd. Yn yr hwyr caed cyngherdd mawreddog, a chan fod gwlaw Eisteddfodol yn dod i lawr, llanwyd y babell i'w hymylon. Gan fod y llywydd, Proff. Alfred W. Hughes, Cacrdydd, wedi ei luddias i fod yn bresenol cymerwyd ei le gan Dr. Walker. Cymerwyd rhan gan Miss Gertrude Hughes,R. A.M., Mr David Hughes, R.A.M., Mr John Ellis Evans, LJôr yr Eisteddfod dan arweiniad Mr D. Lloyd Evans, a gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Miss Jennie Roberts, R.A.M., Mr Bryan War- hurst, a Mr John Roberts, Dolgellau. Caed cyng- herdd rhagorol. Dygodd hyn weithrediadau'r dydd i derfyn, a sici yw fod yr Eisteddfod hon yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus a gaed eto. Buwyd yn ffodus neillduol i gael llyywyddion-dau o wyr dysgedicaf ein gwlad. Gosododd eu presenoldeb a'u hanerchiadau urddas ar yr wyl. Arweinydd rhagorol yw Llifon, ac yr oedd ami ergyd bert a ffraeth ganddo yn ein hadgofio am Mynyddog. Caed anerchiad doniol yn y prydnawn gan Mr Richard Griffiths, brawd y Gohebydd, ac yr oedd yn amlwg fod y dorf yn mwynhau ei sylwadau. Gwasanaeth- wyd fel ysgrifenyddion gan Mr Hugh Morris, mab yr Eisteddfodwr aiddgar Rhuddfryn, un o dadau'r wyl yn Nghorwen, ac hefyd gan Mr J. R. Jordan, ac yr oedd nifer yr ymgeiswyr, y cynulliadau lluosog, a'r trefniadau, yn dangos eu bod wedi gweithio'n galed i sicrhau llwyddiant.