Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

--0-Ffestiniog.I

News
Cite
Share

--0- Ffestiniog. DYWEDIR fod hanesiaeth yn ail adrodd ei hun,' a bod arferion a defodau yr oesau a basiodd yn rhwym o ddod i fri mewn oesau a chyfnodau di- lynol. Nis gwn a ydyw hwn yn wirionedd cyff- redinol y gellir ei iyncu yn ei grynswth megys ag y gwnaed a'r rhaglen (fythgofiadwy gan bawb ond y sawl a'i llyncodd), ai ynte gwirionedd i'w gymeryd yn ddognau gyda halen yn helaeth ydyw ond hyn a wn, fy mod wedi darllen ryw dro pan yn fachgen am y Chwil-lys Pabaidd, Star Chamber y Stuart- iaid, yn nghyda rhyw swydd bwysig a flodeuai yn mysg y Rwsiiid a'r Tyrciaid, yr hon a adnabyddid wrth yr enw censorship of the Press.' Tybiwn fod cnul angau y naill a'r llall wedi ei roddi flyu- yddau lawer yn ol, mor bell ag yr oedd a wnelai y wlad hon á hwy, a bod rhyw Fryfdir o farwnadwr mewn gwawdiaith lem wedi eu hyrddio i dir an- nghof ond ymddengys, er fod 'John Brown's body lies mouldering in the grave,' fod ei ysbryd .1 yn tramwy trwy'r wlad unwaifch eW, cblegyd cawn fod cyfuniad o'r tri bwgan uchod-y Chwil-lys, y Star Chamber, a'r 'censorship of the Press,' wedi ei godi i boeni gwyr goreu Ffestiniog (ni raid dweyd wrth ddarllenwyr goleuedig Y Cymro mai gwyr y Wasg ydyw y rhai hyny yn mhob oes) ac i'w gdstwng yn ngwydd eu cyd-drefwyr. Yn ystod fy mhrofiad maith i, ni chlywais am unrhyw enwad o grefyddwyr, plaid boliticaidd, nag awdurdod lywodraethol, isliw Ty y Cyffredin, yn meiddio gwysio gohebydd newyddiadur, neu ei olygydd, o'i flaen, i roddi cyfrif o'i oruchwyl- iaeth." Y mae Rhaith Dinesig Ffestiniog, pa fodd bynag (am y rheswm y mae'n debyg, fod ganddynt mor ychydig i'w wneud) am ychwanegu y ddyled- swydd hon eto at eu Iluaws ymrwymiadau i'w etholwyr. Dywedir mai Rhyddfrydwyr goleuedig (?) y Cynghor a fynent roddi "bach yn ei drwyn ef," yr hyn a brawf wirionedd y dywediad nad oes ond megys cam rhwng penrhyddid a Thoriaeth rhonc." Yn sicr, a siarad yn sobr, nid ydyw y Weithred ddiweddaf hon o eiddo y Cynghor yn adlewyrchu yn ffafriol ar synwyr cyffredin ein men of light and leading." Yn nghyfarfod misol y Rhaith Dinesig a gynal- iwyd nos Wener diweddaf, dewiswyd Gwilym Alltwen a Mr. Owen Evans, y Llythyrdy, y naill fel clerc a mesurydd, a'r llall fel cyfrifydd i'r Cynghor. Hyderaf y caiff Yr Alltwen gdrtref cysurus a pharhaol yn ein mysg. Credaf f d y cynghor wedi bod yn ddoeth yn ei ddewisiad o gy- frifydd; y mae Mr. Owen Evans yn llanc dymunol a chymwynasgar, yn ol pob hanes, ac y mae y ddisgyblaeth a gafodd tra yn y llythyrdy yn sicr o fod o fantais iddo yn ei gysylltiadau newydd. Eiddunaf i'r ddau bob llwyddiant yn eu cylchoedd newydd. Fel arfer, ar ol gwyliau cenedlaethol y mae cryn lawer o gnoi a thraflyncu yn myned yn mlaen yn ein beirdd lleol. Rywfodd y mae tranoeth Eisteddfod Rhuthin yn cael ei ail adrodd flwyddyn ar ol blwyddyn, ac y mae colledigion lu yn cwyno yn enbyd eu bod wedi cael cam oddiar law y beirn- laid. Dechreuodd rhai gwyno ddyddiau lawer cyn yr Eisteddfod, yr hyn a bar i un dvbio eu bod J*edi cael gweledigaeth eglur rywsut nad oedd eu hwy yn debyg o fod y babi mwyaf yn y show. Wrth gwrs, ffafraeth, ac nid teilyngdod, a lywodr- aethai farn y beirniaid yn ol eu tyb hwy ond y mae'r gan yna wedi myned yn rhy hen bellach, a da fyddai i'r cyfeillion hyn a'u cyffelyb chwilio am destyn newydd. BAKLWYD.

-(0)-Damweiniau Angeuol yn…

[No title]

IOr Do.

[No title]

Llenyddol. I

Advertising

'Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr