Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

0: Marchnadoedd.

Advertising

PWLPUDAU CYMREIG, Medi 9.…

Advertising

Family Notices

Dirprwyaeth y Tir.

News
Cite
Share

( Par had o iudal 7). yn falch o weled tenantiaid yn prynu eu ffermydd pkil aHent wneud hyny; a chredai y galiai'r Llywodraeth eu cynorthwyo i wneud hyny. Cymerodd persoaau fancais ar y dir- wasgiad amaethyddol i godi cynen rhwny y tenant- i iid a'u tirfeistri. Cafodd ei ddifrio, ei gam-gy- huddo, a'i gondemnio yn y newyddiaduron Gym- reig fel gorthrymwr calon galed, Nid oedd oditl un tirfeddianwr yn sir Ddinbych nad oedd wedi dyoddef oddiwrth y dirwasgiad yn gystal a'r tenantiaid. Yn ol ei farn ef, achosion mawr y dirwasgiad oeddynt-cytlenwad enfawr o farch- nadoedd tramor am brisiau isel, tymhorau drwg, a'r eodiad yn mhris aur a chymeradwyai er cyf- arfod hyn-moddion gwell i gludo cynyrch am- aethyddol a garddwrol am brisiau is, yr hyn ellid wnsud trwy reilffyrdd y gafn mewn llawer parth o Gymru, dan nawdd a chynorthwy'r Llywodraeth adolygu y trethi ar dir ac er nad oedd yn aw- durdod ar y mater, gofynai i'r Dirprwywyr ystyr- ied onid oedd cyfnewidiad yn mhris arian yn dylanwadu ar sefyll.a bresenol amaethyddiaeth. Ni chodai Diffyndoll y prisiau tra aur mor brin. Mr Samuel Moss Ieadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, a ddywedai i Mr Wm. Parker, goruchwyliwr ystad Oastell y Waun, fynegi yn Llangollen nad oedd gan iaith, crefydd na gwleidyddiaeth ddy- lanwad o gwbl wrth ddewis tenantiaid, ac nad oedd achos o galedi wedi codi o newid tenantiaeth. Dywedai Mr Moss nad oedd y mynegiad yna yn gyson iawn a'r ffelthiau catilynol-lir oedd y di- weddar Mr John Thomas, Waun, fu farw yr haf diweddaf, yn danant siop yn y Waun berthynol i Mr Biddulph, Vn ystod 14 mlynedd llwyddodd i sefydlu masna.ch bwysig fel masnachwr yd, groser, &c gan ddal y lIe ar rent blynyddol. Ymneilldu- wr oedd Mr Thomas, a Rbyddfrydwr gweithgar. Yr oedd y busnes i gael ei drosglwyddo i'w nith, Mrs Jerman, ychydig cyn ei farwolaeth. Rhyddfrydwyr ac Ymneillduwyr oedd Mr a Mrs German befyd. Dymunai'r weddw a'r cvman weinyddwyr werthu y goodwill, a rhagosod y meddianau i Mr a Mrs Jerman, ond gwrthodwyd rhoddi caniatad i hyn gan in,lr Bid- dulph a'i oruchwyliwr. Gwerthwyd y stoc drwy arwerthiant cyhoeddus, ac ni chafodd y weddw na'r ymddiriedolwyr ddim am y good-will. Credai mai Eglwyswr oedd y tenant presenol. Gwyddai r tyst am amryw ffermwyr a llafurwyr yr ymyrwyd â hwy adeg etholiad. Mr John Wi liams, Caer Ddinen, ar ran 25 o denantiiid Canon Haygarth, a dystiodd eu bod yn hollol roddlawn gyda'u tirfeddianydd a'i oruchwyl- iwr, ac na ddymunent Lys Tirol.—Mewn atebiad i Arg]. Carrington, dywedai'r tyst ei fod yn siarad ar ran 25 o amaethwyr ac ar hyny, wele nifer o ffermwyr yn codi i. r unwaith a u gilydd mewn cwr o'r ystafell.-Mr Brynmor Jones: l'wy yw y bon- eddwr hwn roes arwydd a'i law i'r boneddwyr acw sefyil i fynu -y tvst a atebodd na. wyddau— Mr Brynmor Jones a gyfeiriodd at Mr George Owen, cvnrvchiolydd Cymdeithas Amddiffyn Eiddo Go^l<jdd Cvmru, ond dywedai'r tyst nad oedd yn adwaen v Weddwr. Ar ol ymgynghonad gyda i gyd-d iirprwvwyr, dywedodd Argl. Carrington fod y cwestiwn diweddaf yn cae! ei dynu'n ol gan Mr Brynmor Jones.—Mr Williams 'Rwyf yn credu mai Mr George Owen yw.—Mr Brynmor Jones A ddarfu i chwi sylwi arno yn arwyddo ar y llu an- ewyllysgar i godi? (chwerthin)—Mr Williams: Credaf i mi sylwi arno yn gwneud arwydd (chwerthin). Y Parch L. J. Davies, Llanawchilyn, a hysbys- odd y Ilys fod y Mil. Hughes, goruchwyliwr Syr Watcyn, wedi talu 60p i Jane Hughes, Hafod yr Haidd, LLnuwchllvn, am gostau wrth adeiladu ty ar gyttir, fel yr hysbyswyd yn y Bala, a dymunai ddiolch i Syr Watcyn, a'r Mil. Hughes. DYDD MA WRTH. Aed yn mlaen gyda'r eisteddiad heddyw eto yn Rhuthin. Y tyst cyntaf oedd Mr Gomer Roberts, Cefngriolen, Llanelidan, yr hwn ddywedodd ei fod yn denant i Mrs Naylor Leyland, Nantclwyd Hall, yn dal 130 acr o dir, am rent, yn ol cytundeb, o 70p. Fodd bynag, ni thalai oad 60p, a chafodd ostyngiad o 10 y cmt. ^IMi lwyddai ond i fyw a thalu'r rhent—nid oedd mm gweddill iddo ei hun. Yr oedd rhenti yn gylTrert- inol yn rhy uchel. Credai mewn Ilys tirol i ben- elerfynu cwestiyr au rh wng tirfeistri a thenantiai-l. Nid oedd ffeimwyr yn meddu llawer o wyboaaeth wyddonol—gwybodaeth ymarferol oedd ganddynt. I Dylesid nodi cynyrch tramor. I Darlienwyd llythyr gan Argl. Carrington oddi- I wrth Mr Pennant Lloyd, Pentrerobyn, yr hwn I oedd fel y carlyn Wrth roddi fy nhystiolaeth I gerbron y Dirprwywyr ddydd G wener diweddaf, ac ■ wrth ddweyd mai ychydig iawn o denantiaid oedd ■ yn gwelia eu ffermydd, meddyliwn, wrth gwrs, I welliantm parhaol ac nis gallaf ddeall sut y gall ■ neb ddarlleno y frawddeg yo yr hon y cyfeiriat at ■ eynllun Mr Ellis o « ewyllys da (goodwill), neu a m ■ clywodd yn ei siarad, roddi unrhyw esbomad arall ■ arni. Gan y deallaf y ceisir rhoddi ystyr arall i m ■ geiriau, bydd yn dda genyf pe gwnewch fy syniad I Mr Enoch Jones, Hendre Isa, a ddywedai fod^ei ■ berthynas a'i feistres tir yn gyfeillgar, 9C na ddy- ■ munai lys tirol. Yn wir, yr oedd yn "ffond" H iawn ohoni—yr oedd wedi gweithredu mor glyiar ■ tuag ato. Gallodd wneud i ddau ben ei amgylch- ■ iadau gyfarfod. Nid oedd difrod helwriaeth yn ■ fawr yn yr ardal. H Mil. George Mousley, goruchwyliwr ystad Want clwyd Hall, a ddywedai ei fod yn oruchwyliwr ymarferol, ac yn hollol hysbys o amaethyddiaeth. Ni wnai Ilys tirol ond peri drwg deimlad rhwng tirfeistri a thenantiaid. Cyfeiriodd at elusengar- wch Mrs Naylor Leyland. Ar ol talu trethi, ■ deevmau, tollau, &c., nid oedd ond 700p yn H weddill o ardreth yr ystad. Dosbarth gweithgar a ■ diwyd oedd y ffermwyr ac yr oedd lluaws ohon- ■ ynt wedi gwella eu ffermydd. Nid oedd modd i ■ amaethvddiaeth dalu tra odul tollau mor uchel ■ am gario y cynyrch i'r marchcadoedd Gellid dyfed ■ a chaws o New York i Lundam yn rhatach nag y gellid myned ag ef o Gaer i Lundam. ■ Mr John Jones, Plas Newydd, Llanarmon, a ■ gyflwynodd y llythyr canlynol i'r Ddirprwyaeth, H yr hwn ddarlienwyd :— Rhaggatt Corwen, Awst 29, 1894. SYB— Gofidus iawn genyf oedd gweled oddiwrth eich tystiolaeth yn Llangollen eich bod wedi eieh troi 0 fferm Tanyfoel, ar ystad Rhaggatt, ac fod eich o-wrai o- ac nn o'ch meibion wedi marw mewn canlyniad 1 boenl am hvny. Hwyrach y byddwch mor garedig a rhoddi yr holl fanyhon 1 mi; ac os oes genyf fferm wag, gadewch im' wybod, a chwi a i oewch hi rha^b'uaen (os oes arnoch angen un).. Rhaid^i chwi H wvbod nad oes genyf unrhyw gydymdeimlad ag ym- ■ °iad o'r fath, ac nas gallaf fod yn gyfrifol am yr hyn gymerodd le syn i mi ddod i oed, 16 mlynedd yn ol. A fyddwch chwi cystal a gwneud eyfiawnder a mi trwy fyned ag egluro hyn yn Rhuthin pan gyfer- fydd y Ddirprwyaeth ? Os na wnewch hyny, gallwch wneud niwed i mi.—Yr eiddoch, E. O. V. LLOYD. Byddwch cystal a chymeryd y llythyr hwn a'i ddangos i'r Dirprwywyr yn Rhuthin yr wvthnos y nesaf.—E. 0. V. LI. Mr E. 0. V. Lloyd, ysgrifenydd y llythyr, a ddywedodd ei fod wedi ysgrifenu at Mr J. Jones mor fuan ag y gwelodd ei dystiolaeth i ofyn am fanylion. Ymddengys fod cweryl wedi cymeryd lie rhwng y goruchwyliwr a'r tenant. Credai fod yr I holl dirfeddianwyr yn cytuno mor llwyr a thyst- iolaeth y Mil. West fel na fwriadent roddi tystiol- aeth eu hunain. Mr Evan Goodwin, Bwlch Isa, Llanarmon, a holwyd parth llythyr a anfonodd at y Dirprwywyr yn eu hysbysu y bwriadai roddi tystiolaeth am gytundeb afresymol wrth ba un yr oedd wedi ei gaethiwo. Ymddengys iddo anfon llythyr arall i'r Dirprwywyr, yn yr hwn yr hysbysai fod yr hyn y cwynai o'i blegyd wedi ei wella. Mr John Parry, Llanarmon, a ddywedai ei fod gyda'i frawd yn bercheu fferm rydd ddaliadol yn Llanarmon. Daeth ei dad yn denant y Plas, ar ystad Gelligynan, yn 1866, a daliodd hi hyd ei farwolaeth yn 1870. Wed'yn, ei frawd ac yntau oedd y tenantiaid. Aeth pobpeth yn mlaen yn llyfn, nes cododd cwestiwn y Bwrdd Ysgol yn y plwyf. Cymerodd ran flaen- llaw o blaid tfurfiad y Bwrdd ond gwrthwynebid hyn yn gryf gan y ficer, y rheithor a'i feistr tir (Mr J. Carstairs Jones). Mr Carstairs Jones oedd cadeirydd y festri blwyfol lie penderfynwyd yn ffafr Bwrdd Ysgol. Ar ol hyn, derbyniodd ei frawd ac yntau rybudd i ymadael. Nis gallai ddwevd fod y rhybudd a gafodd wedi ei roddi oherwydd y rhan a gymerodd gyda ffurfiad y Bwrdd ond canfu fod agwedd ei dirfeistr wedi cyfnewid tuag ato ar ol cyfarfod y festri. Yn 1879, bu farw goruchwyliwr lleol yr ystad, ac mewn ychydig wythnosau, cymerodd ef ei le a pharhaodd yn yr ymddiriedaeth nes i helynt y degwm ddechrea. Rhoddai yr heiynt hwn gryn boen i Mr Carstairs Jones, oblegyd dywedodd wrth y tyst un diwrnod tra'n siarad yn nghylch yr helynt, Nis gallaf gael heddwch. Yr wyf yn cael fy mhrocio bob ochr—o bob tu." "Cwestiwn politicaidd ydyw," meddai'r tyst, ac nid ydych i ymyru;" oblegyd yr oedd dealltwriaeth rhyng- ddynt nad oedd Mr Carstairs Jones i ymyru a'r tyst mewn uirhyw gwestiynau politicaidd neu grefyddol. Ar ol hyn, sefydlwyd Cynghrair Tir a Llafur, ac etholwyd y tyst yn Ilywydd iddo. Mewn c mlvniad i hyn derbyniodd lythyrau oddi- wrth Mr Edmund Swetenham a Mr J. Carstairs Jones, yr hwn oedd fel y canlyn :— Hartsheath, Rhagfyr 18, 1887. John Parrv,-Darllenais yn y Times eich bod yn llanw y safle o lywydd y Cynghrair Tirol Cymreig, acnis gallaf ddadgan y gofid a'r blinder a roes hyn i mi. Dylai'rswydd o ymddiriedaeth a ddaliasochar fy medd- ianau, am amser mor faith, eich atal i gymeryd y fath gam, a rhaid i hyn eto derfynu.—Yr eiddoch, J. C. J ONFS. Heb fyned yn mhellach i'r ohebiaeth, digon yw dweyd iddo adael y fferm-y tir yn Tachwedd, 1888, a'r tý ar y laf o Fai, 1889—wedi iddo gael ei dalu 90p fel rhyddhad o'i holl hawliau am well- iantau. Dywedai'r tyst ei fod yn fwy ffafriol i rydd-ddaliadiu bychaiu nag i genedl-ietholi tir. Yr oedd rhydd-ddeiliaid felly yn amaethu y tir yn well ac yn fwy trefnus na thenantiaid. Gwnaeth ei oreu tra'n oruchwyliwr i wneud ei ddyledswyddau yn ffyddlawn, a derbyniodd lythyrau oddiwrth Mr J. C. Jones yn cydnabod hyny. Gwyddai am un achos adeg etholiad 1868, pan aeth Mr Carstairs Jones, yn nghwmni y rheithor, i geisio am bleidlais ffermwr i'r ymgeisydd Ceidwadol. Cwynai y ten ant fod arno angen adeiladau. Cytunwyd, os byddai iddo bleidieisio, y cai shed newydd. Felly fu. ac y mae'r shed yn aros hyd heddyw. Mr t. R Wynne, Rug, a wadodd i Godfrey Ro- berts gael ei droi o'i fferm ar ystad Rug oherwydd na ro idai haner ei fferm yn cwning-gaer. Y rheswm dros ei droi ymaith oedd ei fod yn methu talu ei rent; ond mewn atebiad i Mr Llewelyn Jones, dywedodd y tyst fod Mr Godfrey Roberts wedi talu ei ddyledion, ac fod y fferm wedi ei chau i wneud cwnicg-gaer ar ol ei ymadawiad. Mr Enoch Jones, Llanfynydd, Gwrecsatr. Bu yn denant ar fferm perthynol i Mr J. Harrop. Yn ystod blynyddau diweddaf ei denantiaeth yno, aeth i ddyled gyda'i rent oherwydd y dirwasgiad. Rhoddodd dystiolaeth yn yr Uchel Lys mewn perthynas i lwybr drwy fuarth y ffarm, ac yna erlynwyd ef am ei ddyledion. Collodd ei achos, ac andwywyd ef mewn canlyniad. Mr Oliver Evans, goruchwyliwr ystad Pool Park, a ddywedai fod darpariadau yr ystad yn rhoddi i'r tenantiaid y telerau goreu i amaethu. Gwadodd iddo bryna gwair gan denant oedd yn ymadael, er gwneud elw oddiwrtho. Ni Iwyddodd i gael y pris a roddodd am y gwair wrth ei werthu. Rhenti isel oedd ar yr ystad. Mewn un achos der- byniai Argl. Bagot 17s yr acr, tra y rhentid tir yr ochr arall i'r gwrych am 2p yr acr. Telid i'r ten- antiaid am bob gwelliant a wnaent.