Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Dirprwyaeth y Tir.

News
Cite
Share

gwyllt yn nhref-ddegwmEsclusham am|208p lis 10c, yr hyn oedd yn 14eg ran o'u hamcan-werth, tra yr awliai y Goron 14eg ran yn yr eiddo. Am hawl- iau helwriaethol, talodd Syr Watcyn 2,000p. Yr oedd tir ddesgrifid fel cyttir" yn y trethiad degymol gymeiwyd tua 60 mlynedd yn ol. Cafodd hefyd wedi ei gofnodi fod yr hawl i bysgota yr oil o'r Ddyfrdwy yn meddiant Maenor Abenbury, am yr hwn hawl y talni Gerard Eyton, Yswain, 20s yn flynyddol i'r Tywysog. Clywodd bysgotwyr Bangor-is y-Coed yn cwyno eu bod wedi eu ham- ddifadu o'u hawl i bysgota ond trwy drwydded. Yr oedd eu teuluoedd am genedlaethau wedi cael eu bywoliaeth wrth bysgota. Argl. Kenyon a ddywedai fod hwn yn gwestiwn gwerth edrych i mewn iddo, ond credai fod y llywodraeth yn llaw Bwrdd y PysgodfeyddJäc nid yn Haw Arglwydd y Faenor. Mr Owen Slaney Wynne a dystiolaethodd yn groes i Mr Palmer gyda chau i mewn gyttiroedd Minera ac Esciusham. Yr oedd annghydwelediad rhwng teulu Wynnstay a'r Goron ar berchenogaeth amryw gyttiroedd yn siroedd Meirion a Dinbych. Wrth gymeryd natur y tir i ystyriaeth, nid oedd y pris a roes Syr Watcyn am dano yn afresymol, er iddo ymddangos felly. Rhoililoild "mrvw o denantiaid Syr Watcyn dyst- iolaeth yn ffafr ei ymddygiad atynt, ac yn an- Qghymeradwyo llys tirol. DYDD IAU. Eisteddai'r Ddirprwyaeth heddyw yn Hanmer, yr oil yn bresenol ond Mr Brynmor Jones. Darllen- odd y llywvdd (Argl. Carrington) y llythyr can- lynol oddiwrth y Parch J. S. Jones, ficer, LJctn- tysiiio Yn adroddiad y Ddirprwyaeth Dir yn Llangollen ddoe, mynegir fod "person o'r enw Shaw ychydig %m-'ddoedd yn ol wedi derbyn rhybudd i ymadael o'i ffarm yn Llandynan, ger Llangollen, oherwydd i Ficer Llantysilio ddadgan ei ddymuniad i g-ael y ffarm, ac fod y jclerigwr hwnw yn awr yn fdenant iddi." Hwyrach y caniata eich arglwyddiaeth i mi hysbysu nil. fu Shaw erioed yn denant Llandynan, ond iddo gael ei roddi mewn meddiant yn erbyn cydsyniad y tirfeddianydd gan ei frawd-yn nghyfraith, o'r enw John Jones, yr hwn gymerodd ffarm arall yn yplwyf. Ni ddaliodd y ffarm yma ond am ychydig flynyddau, a phan adawodd yr ardal rhoddodd y tirfeddianydd rybudd i Jones roddi Llandynan i fynu. Gallaf ychwanegu fod y tirfeddianydd, cyn i Jones gymeryd Y ffarm, wedi ei haddaw i mi, ond trwy gamddeallt- laeth gosodwyd hi i Jones gan y goruchwyliwr. Y tyst cyn £ af oedd y Parch Syr T. H. Gresley PulestJu, rheithor Worthenbary. Dywedai ei fod yn dirfeddianydd yn yr ardal, ac yn perchen 3,000 o aceri Siaradai yr oil o'i denantiaid Saesneg, ac Ul ddylanwadai iaith, gwleidyddiaeth na chrefydd ar ei ddewisiad. Nid oedd cais am brydlesoedd; ac ni ddygid adran cosb y cytundebau i weithred- iad. Gostyngwyd rhenti yn gyffredinol yn ystod y 50 miynedd diweddaf. Ffermydd o faint cymedrol ofelid am danynt oreu. Nid oedd y dirwasgiad wedi ei deimlo yn fawr yn yr ardal. Ymddangosai ffermwyr yn abl i stocio ffermydd i'w meibion, ac i roddi cytran briodasol i'w merched. Er y flwyddyn 1868 gwa-iodd ar welliantau yn unig 23,499p. Uyfanswm rhenti yr ystad ydoedd rhwng 3,000p a 4. ftnOn an fwllv cwanodd 30 v cant ar welliantau. .a.V"t" j o 01 Credai yn gryf mewn addysg, ond ni thybiai fod addysg amaethyddol yn angenrheidiol ond er gwella y dull o wneud caws. Gwellhaodd pethau yn fawr yn ystod y 50 mlynedd diweddaf, Adeil- adodd 22 o fan dyddynodd yn I-pheil cyn clywed son am egwyddor y tair acr a bmvch, ac yr oedd yn gryf o blaid yr egwyddor. Meddai pobbythyn- Wr ddarn neillduol o dir, ond drwg ganddo nad oeddynt oil yn ei amaethu. Colled i dirfeddianydd oedd rhanu ei dir yn fan dyddynod, ond lies i'r bobi yn gyffredin. (wnai y llafurwyr yn dda pe Ica,dwent fuwch ac aros adref rhag mynychu tafarn- au. Ymholai y Proff. Rhys am foesoideb yr ardal, a dywedai'r tyst fod sefyllfa foesol yr ardal wedi gwella llawer, er na fu enoed yn ddrwg iawn. Rhoddai brydlea bob amser y gofynid am un gan ei denantiaid. Yr Anrhyd. Mrs Bulkeley Owen, Tedsimore Hall, Oroesoswallt, mam Argl. Kenyon, a..ddar- ac a ddywedodd fod sefyl iii, trigolion y rhan hono o'r Wlad wedi gwella llawer. Ni ddymunai weled Lloegr a Chymru wedi eu gwahanu. Ystyriai yr 011 o Loegr yn eiddo Cymru, a dylid dweyd Cymru a. Lloegr ac nid Lloegr a Chymra. Mr Trevor Griffith Boscawen, goruchwyliwr Ar- glwydd Kenyon, a holwyd nesaf. Gofalai bob am- ser fod y tenantiaid yn deall amodau'r cytuudeb. Ni wyddai erioed am yr "adran cosbi." Ar 17 o ffermydd, gwnaed gostyngiad blynyddol o 400p, a dychwelwyd 10 y cant droion. Ceid 5-7 o fAn dy- ddynod ar ystad Argl. Kenyon, gyda thir glas yn gysylltiol wrthynt o 2 i 16 acr, a 34 o fythynod, gyda thir dan ddwy acr. Dangosai'r ffeithiau fod galwad mawr am flermydd, ychydig gyfnewidiadau ttiewn tenantiaeth, a thalu rhenti prydlon, fod y berthynas rhwng tirfeddianydd a thenantiaid Nu gyfeillgar. Rhwng 1887 a 1893, gwariodd Argl. Kenyon 8,420p ar ei ySlad, Y rhent yn ystod yr amser hwnw ydoedd 66,7OOp. Credai mai pnf achos y dirwasgiad oedd cyllenwad enfawr o farchnadoedd tramor. Mantais fyddai codi toll ^chan ar gyflenwad tramor. ».Mr John Beckett, Brook Farm, a annghymerad- 'Wyai sefydlu llys tirol. Mr John Hughes, Ty'nypistyll, roes deyrnged i yr Watcyn fel tirfeddianydd. Gwnaeth ostyng- Jad o 10p a 12p mewn dwy fferm. Ni chredai mewn %s tirol. Mr Joseph Thomas Cook, Pandy Ffarm, a dyst- lodd na ddymunai well Argl Kenyon fel tir-feistr, ar ol bod yn denant iddo am 12 mlynedd. Ni tlleimlai angen am brydles—gwnai cytundeb y tro. Nid oedd nior hawdd casglu rhent yn awr ag mewn tttnser a fu. Caws oedd prif gynyrch ei ffarm ef, a gWerthui yn rhwydd yn marchnad Caer. Mr J. H. Warburton Lee. goruchwyliwr ystad hanmer o 9,000 o aceri, a ddywedodd fod cyfan- SWm y rhent yn dod i 9,650. Gwariwyd 32 y cant Welliantau y chwe blynedd a haner diweddaf. ^'d oedd gwleidyddiaeth yn ytnyryd o gwbl a'i ^yledswyddau fel goruchwyliwr, nac yn dylan- adu ar gj ddewisiad o denantiaid. Gohiriwyd yr eisteddiad hyd dranoeth. DDYDD GWENER. Eisteddwyd heddyw yn y Wyddgrug. Y tyst alwyd eedd -Mr Joha juloyd, Antelope Farm. Daliai 220 acr c e!jVri tair ffarm. Credai fod ystadau mawr yn 0 ^ywodraethu yn well na rhai bach. Nid Wacl la gwleidyddiaeth na chrefydd yn dylan- Qed ,u ar ddewisiad tenantiaid. Nid oedd prydles- fiani gyffredin, ond ni wyddai am neb ddymunai Un wedi ei wrthod. Ni osodid ffermydd i'r uchaf ei bris. Derbyniodd 10 y cant o ostyngiad gan Mr Davies-Cook a Mr E. 0. V. Lloyd. Ychydig ffermydd oedd wedi eu cysylltu. Ni cheid llawer o golled drwy helwriaeth. Credai na fenthycid arian gan denantiaid i brynu ffermydd. Oherwydd cynydd cystadleuaeth dramor, methai weled pa fodd i wella sefyllfa amaethyddiaeth. O'i ran ei hun, ni thybiai yr atebai Llys Tirol y pwrpas. Os na ellid cytuno a'r tirfeistri, gwell fyddai ymfudo. Mr P. P. Pennant, perchen 1,400 acr, ddywedodd nad oedd galwad am brydlesoedd, on 1 yr oedd wedi caniatau pedair ar ei dir ei hun. Ni ddygid yr "adran cosb i weithrediad yn ami, oherwydd nid oedd angen am hyny. Rhoddai gopi o'r cytundeb i bob tenant. Ni osodai byth ffermydd i'r uchaf ei gynyg-cai perthynasau y tenant diweddaf y cynyg cyntaf, a thenantiaid yr ystad wed'yn. Oherwydd gwelliantau ar amserau da, cododd y rhenti yn ystod rhan gyntaf y deugain mlynedd bu'n Z, berchenog. Yn 1856, rhent ei ystad ydoedd l,683p. Yn 1876, 1,834p. Yna dechreuodd y dirwasgiad, a gostyngodd y rhent i 1,555p yn awr. Dychwel- odd 10 y cant yn ystod y blynyddau diweddaf. Cyfeiriodd y tyst at Ysgol Laeth Dinbych a Fflint. gan ddweyd ei bod yn gryn fendith i'r wlad. 0 l' .1 .L _11- _11£_' berth ynas x r teaayginiaetn at wena seiyuiar èHll- aethwyr, yr oedd yr ystyriaethau a ganlyn yn bwysig :—Gwario ychwaneg o gyfalaf ar dir. Gwell fyddai i denantiaid beidio gwario arian ar well- iantau yn ol adran 1 a 2 o Ddeddf Daliadau Am- aethyddol ond o dan gytundeb arbenig gyda'r tir- feddianydd. Hoffai weled persoaau yn eistedd fel barnwvr ar faterion amaethyddol—personau enill- ent ymddiriedaeth y tirfeistr a'r teuant-fel lie bynag y byddai annghydwelediad y gellid tros- glwyddo y mater i'r cyfryw bersonau i gael ei ben- derfynu. Credai mai doeth fyddai hyrwyddiant ysgolion llaeth ac addysg amaethyddol. Peth arall awgrymai ydoedd gweinyddiad Deddf Nodau Masnachol ar bob nwydd masnachol werthid gan y nermwr. Da fuasai ganddo weled cyfundrefn law-weithiol mewn arferiad gyda chynyrch am- aethyddol, fel ag sydd yn Denmarc a Switzerland. Awgrymai mai da fyddai i'r Llywodraeth roddi rhodd er cael meirch a theirw o'r rhywogaeth goreu at wasanaeth amaethyddol yn Nghymru Mantais fawr fyddai cael reilffordd ysgafn mewn llawer ardal. Ond y feddyginiaeth oreu a'r fwyaf barhaol fyddai gostwng y costau cynyrehu a'r costau angenrheidiol i roddi cynyrch y fferm yn y farchnad. Byddai hyn yn feddyginiaeth wirion- ioneddol at y dirwasgiad presenol, oblegid yn awr rheolid y prisiau nid yn gymaint gan gostau cyn- yrchu yn y wlad hon, ond gan gyflenwad tramor. Nid oedd yn wir mai Ceidwadwyr ac Eglwyswyr oedd y tenantiaid ddewisodd, ac ni wrthododd roddi tir yn Nhremeirchion i'r Methodistiaid ad- eiladu addoldy arno. Mil. Howard, Wigfair, perchen ystad yn cynwys 839 acr yn sir Ddinbych a 691 acr yn sir Fflint. Araf oedd y Cvmry i symud yn mlaen gyda'r dull- iau newydd o drin llaeth a gwneud ymenyn. Yr oeddynt yn Doriaidd yn mhobpeth ond gwleidydd- iaeth Cyffenwad tramor oedd achos mawr y dir- wasgiad, a dylai "stocks and shares" gymeryd rhan o'r trethiant lleol. Cefnogai fenthyciad arian gan y Llywodraeth i denantiaid, gwneud reilffyrdd ysgafn, ac ysgolion llaeth. Mr D. Jones, Plas Newydd, a gredai tod rhenti yn rhy uchel yn Nghymru, ond nid oedd yn ffafriol i lys tirol. Mewn atebiad i Mr Llewelyn Jones, dywedodd iddo dderbyn llythyr oddiwrth berson Clocaenog yn ei gymhell i adael yr Ymneillduwyr a myned i'r Eglwys, am y byddai hyny yn fantais iddo pe dymunai gael fferm ar ystad arall. Nid oedd y llythyr ganddo, ond ei sylwedd ydoedd— Pe caech ond cymeradwyaeth genyf fi, gallech gael y fferm oreu yn Nyffryn Clwyd neu yn un- rhvw fan aralt yn Lloegr neu Gymru." Par.-h Joseph Davies (A.), Bwcle, a dystiodd yn nghylch cyttir yn y lie hwnw, ga,n ddweyd fel yr oedd tai a adeiladwyd ar y cyttir wedi eu traws feddianu gan Mr P. B. D. Cooke,.Gwydaney Hall. Yr Uchgapten Birch, Maes Elwy, fel goruch- wyliwr y Mr Cooke uchod, a geisiodd gyfiawnhau ei ymddygiad. Arferiad ar yr ystad oedd cania- tau i bersonau adeiladu tai, pa rai feddi nid am 1. TT J lawer o flynyddau ar enw o reno yi umg. nyu yn nod yn awr, rhentid y lleoedd hyny lawer o dan eu gwir werth n< u eu gwerth trethol. Mor bell ag oedd bosibl, cedwid y lleoedd hyn yn yr un teuluoedd, "nd ni chaniateid eu hail osod. Mr R. V. Kyrke, Penywern, Wyddgrug, roes ei brofiad fel tirfeddianydd a goruchwyliwr yn yr ardal am 50 mlynedd. Yn mhlith diffygion am- aethu yn y cvlchoedd hyny ceid gorlenwad, peidio aradru yn ddigon dwfn, a diffyg magwraeth briodol ar yr anifeiliaid. Yn absenoldeb diffyndolllad, aid oedd fawr obaith am i'r prisiau godi. Ni phleidiai ^.l^P.' A. Lloyd, Pentrerobin, a feddianai 2,500 o aceri, ae am 18 mlynedd fu'n oruchwyliwr i'r di- weddar Argl. Penrhyn. Cyfeiriodd at dystiolaeth MrT. E. Ellis, A.S., parth amgau Caerlein a'r terfysg a dcliIynodd hyny, Credai fod Mr Ellis wedi tynu yn ol y mynegiad fod y diweddar Ar- glwydd Penrhyn wedi llethu y terfysg fel cadeir- ydd y chwarter sesiwn, gan ddweyd yn awr fod ei arglwyddiaeth v/edi arfer ei ddylanwad fel ar- glwydd-raglaw y sir. Yn sicr, dylai Mr Ellis, fel un o'n deddfwyr, wybod nad oedd gan un arglwydd- raglaw y gallu i weithredu fel yr awgrymwyd. Aeth y tyst yn mlaen i ddweyd fod yr amgauadau wedi eu gwneud mewn trefn i roi terfyn ar y niwed wneid gan breswylwyr y cyttiroedd a threspaswyr, gwnaed hyn ar ol galw cyfarfodydd yn nghyd, lie ni wnaed unrhyw wrthwynebiad. Dygwyd y ter- fysa >n mlaen beth amser ar ol hyny gan ymddyg- iad^anmheus ychydig denantiaid, a. hawlient fod y cau i mewn vn annghyfreithlon. Nid oedd hyny yn ffaith, oblegid cariwyd yr holl weithredia i III allaa yn berffaith gyfreithlon. Cyfeiriodd y tyst at sylw y Parch B. W. Griffiths,, na rodd- ai y tenantiaid dystiolaeth rhag ofn y tirfeddian- wyr, ac felly fod y tenantiiiid yn meddu yspryd dibynol. Os cymharai Mr Griffith fywyd y fferm- wr Cymreig gyda bywyd y masnachwr cyffredin, credai y cytunai ag ef fod yr olaf yn fwy dibynol ar ei gwsmeriaid na'r tenant ar ei feistr tir Am dirfeddianwyr bycham Cymru, dywedai mai gydag anhawsder y cadwent eu penau uwchlaw'r dw'r. Mewn atebiad i Mr Vincent, dywedai'r tyst ei fod yn hollol sicr ei farn fod Iluaws o'r tystion fu o flaen y Ddirprwyaeth wedi cael dylanwadu arnynt gan ragfarn gwleidyddol a sectol. DYDD SADWRN. Yn Assembly Hall, Treffynon, y cynaliwyd yn eisteddiad heddyw. Y tyst cyntaf oedd Mr W. C. Pickering, gor- uchwyliwr ystad Mostyn o 6,350 acr, 3,091 o'r cyfryw o fewn Maenor Mostyn. Ni chynaliwyd llys yn y Faenor. Gwariwyd 3,285p mewn gwell- iantau, a 7,735p mewn at-daliadau yn ystod yr un mlynedd ar ddeg a haner diweddaf. Nid oedd iaith, crefydd, na gwleidyddiaeth yn dylanwadu dim ar ddewisiad tenantiaid. Penderfynid y rhenti drwy gytundeb cyfrinachol. Ni roddid ffermydd i'r uchaf ei gynyg, ond ceisiai ddewis y ffermwr mwyaf parchus. Amrywiai y rhent yn ystod y 50 mlynedd diweddaf. Er 1885, gostyngodd Argl. Mostyn renti ei denantiaid. Gwnaed gostyngiad parhaol mewn 36 o'r prif ffermydd-swm y gost- yngiad yn 478p yn flynyddol. Er Mawrth, 1885, gwnaed gostyngiad o 4,210p; a'r gostyngiad par- haol yn ystod yr un amser yn cyrhaedd 3,070p. Amrywia y ffermydd mewn maint o ddwy i 50 acr ond yr oedd wyth o ffermydd dros 150 acr. Mewn achos o welliantau gan y t-nant, rhoddid ad-daliad iddo wrth ymadael, ac iawn os achosai'r helwriaeth niwed i'r cnydau. Bodolai teimlad da rhwng y tenantiaid a'r meistr tir. Ystyriai y ffermwyr yn weithwyr caled a diwyd. Dygwyd tystiolaeth gyffelyb gan Mr Isaac Tay- lor, Y.H., Coleshill, goruchwyliwr amryw ystadau. Credai fod y tenantiaid fel dosbarth yn dyoddef oddiwrth yr amserau celyd presenol. Dychwelodd Iarll Dinbych 20 y cant i'w denantiaid flwyddyn yn ol. Mr Thomas Roberts, ly nvcaeau, ddywedai iddo fod ar y fferm hono am 27 mlynedd; ac hyd o fewn 17 mlynedd yn ol taL11 40p o rent. Prynwyd hi yr adeg hono gan Mr Pochin, yr hwn ar unwaith a gododd ei rent i 60p. Ceisiodd am flynyddau gael gwelliantau addawyd iddo, ond ni chafodd hwy nes iran o'r ty syrthio i mewn. Gwnaeth gais am ostyngiad rhent lawer gwaith, ond yr ateb gafodd oedd y gallai adael y ffarm os na ddymunai dalu'r rhent. Mr Thomas Morgan, Tanlan, a gwynai oherwydd helwriaeth a'r niwed wnaent ar ei ffarm. Mr LL J. Henry, goruchwyliwr y Dug o West- minster, a dystiai nfid oedd prydlesoedd ar yr ystad—dim ond cytundebau blynyddol. Ni chyf- newidiwyd y rhenti yn ystod y 45 neu 50 mlynedd diweddaf, ond mewn achos o ychwanegiad neu dynu oddiwrth faint y ffermydd. Trigai yr un teuluoedd ar y ffermydd am flynyddau lawer- mewn un achos dros 400 mlynedd, ac mewn amryw eraill o 10 j i lawr i 5 i neu 60 mlynedd. Ymddygai y Due yn rhyddfrydig at ei denantiaid bob arnser. Yn flaenorol i 1885, caniatai am lawer blwyddyn 20 y cant; o 1885 i 1890, 25 y cant, ac o'r adeg hono hyd yn awr 15 y cant. Ni atafaelwyd am rent eiioed ar yr ystad ac os a'i ffarmwr i brofed- igaeth ac yn analluog i gario yn mlaen, gan adael y ffarm, cai ei ddyled ei dileu. Os byddai gan denant gwyn, yr oedd y tyst bob amser yn barod i wrando arno. Cyfranai y Due yn hael at achos- ion crefyddol ac elusenol yr ardal. Rhoddodd dir i adeiladu tri capel Ymneillduol ar yr ystad a chydag eithriaid o un neu ddau, Ymneillduwyr oedd yr holl denantiaid. Rhenid y cwningod rhwng y tenantiaid. Ar y cyttiroedd perthynol i'r ystad, cai tenantiaid y ffermydd cylchynol ollwng eu hanifeiliaid i bori. Gwariodd y tirfeddianydd fwy nag a dderbyniodd ar yr ystad. John Davies, Carnuchain, Gwaenysgor, a gredai mewn buddioldeb Llys Tirol fel y gellid penderfynu pob annghydwelediad rhwng meistr a thenant. Mr R. Everett Jones, Siamber Wen, a ddywedodd iddo gymeryd ffarm o 26 acr am rent o 54p gan y diweddar Mr Bell. Pan welodd nad oedd yn talu, anfonodd at Mr Bell i ofyn am ostyngiad, a'r ateb a gafodd oedd am iddo roddi y ffarm i fynu y gallai gael rhywun arall i'w chymeryd. Credai fod lliwer yn yr un sefyllfa ag yntau. Nid oedd cyfanswm ei dderbyniadau, yn cynwys taliadau wnaed gan lettywyr, wedi cyrhaedd ond 44p 5s mewn blwyddyn. Synai un o'r Dirprwywyr ei fod wedi gaUu cadw yn mlaen cy'd. Y tyst olaf oedd Mr William Edwards, Rhyl, yr hwn gondemniai yn gryf y ddeddf oedd yn gwneud tirfeistr yn echwynwr blaenaf, fel yn andwyol i goel y ffarmwr. Dygodd ddau achos ddaeth dan ei sylw yn mha rai y gyrwyd dau denant ar ystad y Mil. West i gyfyngder oherwydd y ddeddf uchod, Credai mewn ymfudiad, pe gellid cael gan y fferm- wyr Cymreig wneud hyny, ond ei brofiad ef ohon- ynt oedd eu bod yn dal at benau y mynyddau fell hen ddefaid, ac nas gellid eu symud. DYDD LLUN. Daeth cynulliad da yn nghyd i Ruthin heddyw. Y tyst cyntaf oedd Mr Wm. Davies, Llys Fasi, ffermwr yn da1200 acr o dir a 300 acr o borfa defaid, ar rent o 300p. Dy- wedai iddo fod 32 ;o flynyddau ar ystad Castell Rhuthyn. Meddent hawl i borfa defaid yn yr ardal heb gyfyngiad. Yr oedd tenantiaid yn well alkn tan dirfeddianydd mawr na than un bychan. Rhwng y tenant a'r tirfeistr bodolai teimlad da. Ni ddygid adranau cosb y cytundeb i weithrediad ond mewn achos o denantiaid gwael. Yn bersonol, meddai berffaith ryddid wrth amaethu. Cania- teid i bob ffermwr arferai deisenau a ^'wrtaith celf- yddydol i werthu gwair a gwellt os d-wisent, ac i aradru hen borfeydd. Cafodd ostyngiad parhaol o 16 y cant rai blynyddau yn ol. Cododd y trethi Ileol, ac yr oeddynt yn rhy uchel. Nis gallai ddweyd fod ffermwyr yr ardal yn dda allan, ond pan elai fferm yn rhydd, ceid lluaws yn ymgais am dani. Y tirfeistri yu ymirferol wnaent yr holl ad- gyweirio a'r gwelliantau. Roedd y ffermwyr yn well allan fel tenantiaid ar ystadau da nag felperchenogion os prynasant eu ffermydd 2u mlynedd yn ol a hyny am eu bod wedi talu yn rhy ddrud am dan- ynt. Am lys tirol, ni byddai yn dderbyniol yn yr ardal, oblegid gwnai i ffwrdd a'r teimlad da cyd- rhwng tenantiaid a'u tirfeistri. Rhaid fyddai i denantiaid dalu bob ffyrling, degymau. a phobpeth o'r fath. Ni theimlai'r tirfeddianwyr ddyddordeb yn ei ffermydd na'u tenantiaid. Credai mewn rhoddi toll fechan ar gyflenwad tramor. Mor bell ag y gwyddai, yr oedd rhenti y tir yn deg. An- hawdd cadw'r rhenti yn isel tra cymaint yn ym- geisio am ffermydd. Wrth ei groesholi, dywedai fod yr amserau yn ddrwg, ond llwyddai i wneud i'r ddau ben gyfartod. Ni osododd dir fel porfa bar- haus. Ni flinid ef gan helwriaeth. Da fy dai i'r tirfeistri brynu defaid tenant fyddai'n ymadael, os na fyddai tenant newydd yn cymeryd meddiant uniongyrchol. Er na chododd toliau'r reilffyrdd, yr oeddynt yn rhy uchel. Ni osodid tir i'r uchaf ei bris, ae ni chysylltid ef ychwaith. Mr John Roberts, Plas Towerbridge, Rhuthin, a ddywedai iddo fod yn denant ar ystad Llanbedr. Talai yno 65p 10s yr haner blwyddyn. Gwnaeth gais am welliantau droion, ond ni wnaed hwy, ac mewn canlyniad gadawodd y ffarm wyth mlynedd yn ol. Gosodwyd y fferm hono y flwyddyn ddi- lynol am 54p yr haner blwyddyn, ac adeiladwyd ty newydd i'r tenant. Ystyrid rhenti ystad Llan- bedr yn uchel iawn. Gwyddai am un Hugh Hughes, yr hwn a ddaliai fferm y Llwynedd am 122p, a wnaeth gais am ostyngiad, pa un wrfehod- wyd, a gorfu iddo werthu allan a myned i'r America gyda'i ddeg plentyn. Dyoddefai tenantiaid lawer oddiwrth helwriaeth. Cysylltwyd man dyddynod at ffermydd mawr. Yr oedd cyttir eang ar Moel Fammau, a meddai plwyfolion Llanbedr hawl arnynt, am yr hyn ni thalent rent uniongyrchol. Mr Godfrey Roberts, Ty'nllan, Llanferres Bu yn denant ar ystad Rug, yr Anrhyd. C. H. Wynne yn dirfeistr arno. Yr oedd y ty a'r adeiladau mewn cyflwr drwg, a'r niwed oddiwrth helwriaeth yn ddifrifol. Byddai'r phesants fel ieir yn dilyn yr aradr. Adgyweiriwyd yr adeiladau, efe yn cario'r defnyddiau heb dderbyn ceiniog, er i'r gwaith gael ei brisio yn werth 35p. Cafodd beth iawn am niwed yr helwriaeth, ond nid chwarter yr hyn ddylasai gael. Codwyd y rhent 15p ar ei welliant- aa ei hun. Nis gallai ei dalu, ac ymadawodd i Nantfawr, Corwen, ar yr un ystad. Yma drachefn blinid ef gan yr helwriaeth ac yn ystod y tymhor saethu, byddai 30 neu 40 o ddynion yn croesi ei feusydd, gan dori y cloddiau a dyfetha ei gnydau. Yn 1887, rhoddes Mr T. R. Wynne rybudd iddo roddi haner ei dir i fynu mewn pythefnos, gan fod angen am dano fel cwning gaer. Ymresymodd gyda Mr Wynne, gan ddweyd fod ganddo ddeg o blant eisiau eu magu ond atebodd Mr Wynne nad r,,L1 "n;];] ;].1; m_M"l n'- _L" n; uouu gauuuu vAuiui i w vvucuu a l piau u men eisiau'r tir oedd ganddo ef. Cyn diwedd y pythef- nos, cafodd rybudd i ymadael. Ymadawodd ar flwyddyn ddrwg ac amcangyfrifodd iddo dderbyn 240p yn llai am yr hyn a werthodd na phe caniateid iddo aros hyd y flwyddyn ddilynol. Ni dderbyn- iodd geiniog am y calch a'r guano, gwerth 14p, a roes yn y tir y flwyddyn hono. Mr Henry Williams, Plasyward Tenant yd- oedd dan Syr Watcyn a Mr Wickham, Caer. Der- byniodd ostyngiad droion, end nis gallai ddweyd lwyddai i fyned yn mlaen i dalu yr hen rent os na chodai'r prisiau yn fawr. Ni chredai y gallai ffermwyr wneud elw. Cododd trethi lleol, ac nid oedd yn tybio fod dynion proffeswrol yn talu eu rhan o'r cyfryw drethi. Gwnai tenantiaid yr ardal eu goreu, ond nid oedd y tir i gyd wedi gwella. Yn gyffredinol, nid oedd y tir cystal yn awr ag oedd ddeng mlynedd yn ol. Derbyniai rhai fferm- wyr, ag y gosodai eu tirfeistr y saethu i helwyr dyeithr, golled drom. Darllenodd y tyst dabl yn dangos fod gostyngiad o 50 y cant wedi cymeryd lie yn mhns y cynyrch yn ystod yr 20 mlynedd di- weddaf. Bodolai teimlad da rhwng Syr Watcyn a'i denantiaid, a phe ceid dynion cyffelyb i'r Mil. Hughes yn oruchwylwyr ni byddai cri am Lys Tirol. Mr Cornwallis West a dystiai mai efe oedd per chen ystad Castell Rhuthyn, yn cynwys 10,500 acr yn sir Ddinbych. Meddianai hi er 1868, a phob amser cymerodd ran flaenllaw a dyddordeb dwfn yn ei ilywodraethiad. Ar ol crybwyll y dylai'r Llywodraeth gynorthwyo'r tirfeddianwyr i wella eu meddianau a thalu hen ddyledion, trwy ganiatau benthyciadau iddynt 0 goffrau'r Senedd, cyfair- iodd at gyttiroedd. Dywedai'r tyst fod v Dir- prwywyr wedi caniatau cau llawer o dir yn Nyffryn Clwyd yn 1852, Cychwynwyd hyn gan y prydleswyr, a chefnogwyd y peth gan ei dad fel arglwydd y faenor ar y pryd. Credai nas gallai cau i mewn dir gwyllt beidio bod o fudd i'r cy- hoedd, os oedd hawliau'r bobl yn cael eu gwylio. Gan y dywedid yn ami fod tirfeddianwyr Cymru yn estroniaid, cyfeiriodd y tyst at adroddiad a wnaed yn 1873 o'r personau feddianent dir yn sir Ddinbych, a chafodd luaws mawr o enwau yn dangos tarddiad Cymreig, megys Jones, 367 Ro- berts, 162; Williams, 148 a Hughes, 106. Oddi- wrth yr adroddiad hwnw, gwelid fod 115,502 acr I yn cael eu perchenogi gan 5,606 o bersonau, yn gwneud cyfartaledd o 21 acr i bob un. Dangosai hyn fod nifer y rhydd-ddeiliaid yn lluosog, a I thebygol eu bod wedi cynyddu er 1873, a rhaid fod ganddynt lais cryf mewn penderfynu unrhyw ddeddfwriaeth dirol yn Nghymru. Pe gwneid DeddE i Gymru debyg i Ddeddf Dirol yr Iwerddon, canfyddai y rhydd-ddeiliaid bychain eu bod dan orfod i drin eu tir eu hunain, neu redeg yr antur, y foment y gos den ef i denant, o golli haner ei werth gwerthadwy, mewn cinlyniid i'r hawliau cyfreithiol a roddid yn llaw y tyddynwr. Am y rheswm hwn, dylai tirddeiliaid bychain feddwl dd wvw.aith cvn traddodi eu hunain i law unrhvw ddeddfwriaeth fydd yivdebyg o newid sefyllfa tir- feddianwyr a gwerth eu meddianau. Ni chredai fod y gwahaniaeth wneid gyda thenantiaid oher- wydd iaith, gwleidyddiaeth a chrefydd, yn bodoli yn awr. Ystyriai y mynegiad wnaed gan Mr T. E. Eliis, A.S., fod tenantiaid yn cael eu troi allan, ac na feiddient ymddangos ar lwyfanau po'.iticaidd, ac fod ffermwyr Ymneillduol wedi cael gwneud i ffwrdd a hwy oherwydd eu bod felly, yn hollol arnddifad o ffeithiau i brofi dilysrwydd y mynegiad ae mor bell ag yr oedd sir Ddinbych i mewn, credai fod yn anmhosibi profi un achos gwirioneddol o orthrwm fel a nodid, yn wleidyddol na chymdeithasol, mewn amserau diweddar. Os oedd gwir yn y cyhuddiad, dangosid y ffermwr Cymreig yr hyn na fu erioed, sef yn llwfr a chaethiwus. Nid oedd y cwestiwn o iaith o fawr bwys iddynt hwy yn Nyffryn Ciwyd, oblegyd yr oedd bron yr oil o'r boblogaeth yn siarad Saesneg. Credai nrid oedd yn Ngogledd Cymru yn bresenol fachgen 14 oed nad oedd yn gydnabyadus a'r iaith Seisnig, er mai Cymraeg oedd yr iaith gaitref. Dy- wedid yn 1) fod rhenti yn cael eu sgriwio i fynu gan gydymgais. Nid oedd mynegiad felly yn wirioneddol. Y ffaith. fwyaf amlwgynnglyn ag ystadau -mawr oedd fod y tenantiaid yn cael eu dethol oherwydd cymeriad a gallu i amaethu yn dda, yn hytrach nag ystyriaethau arianol am renti. Dangosai y gostyngi.a.d wnaed yn y rhenti nad oedd y mynegiadau parhaus hyn yn wirionedd. Mewn lluaws o achosion ar ei ystad ef, nid oedd y swm delid fel rhent ond prili yn cyrhaedd pedwar y cant ar werth y ty a'r adeiladau cysylltiol a'r fferm, y tir mewn rhai amgylchiadau yn gwbl rydd oddiwrth rent. Wrth gyfeirio at dystiolaeth Mr Hugh Hughes roddwyd yn Llangollen parth rhenti uchel yn ardal Ltauarmou, dywedodd fod brawd y tyst hwnw, Mr Henry Hughes, yn dai fferm Peny- brya am y prisiau a ganlyn 101 acr o borfa defaid, yn ol Is yr acr; 84 acr o dir porfa, yn ol 12s 5J acr o weirglodd, yn ol 5s 4c a 34 acr o dir i'w aradru, yn ol 6s. Wrth gymeryd ystad Llan- arrnon yn gyfan, gyda 5,979 o aceri, cai mai eyfar- taledd y rhent oedd 4s 5e os cynwysid y borfa defaid, a 103 8c os na chynwysai y cyfryw. Nid oedd cwestiwn na ddylai y gyfundrefn dan ba un y penderfynid ad-daliad dan Ddeddf Daliadau Am- aethyddol, fod yn fwy syml, yn rhatach, ac yn fwy ebrwydd ei gweithrediad. Dymunai y sicrwydd i'r tenant am welliantau parhaol, fod yn wirion- eddol, os gwnaeth rai wedi derbyn caniatad ond yr oedd caniatau i denant gario allan unrhyw well- iant mewn enw i ateb ei gyfleuslerau ei hun, heb gydsyniad y perchenog, a dal y perchenog yn gyl- rifol am yr hyn nad oedd arm angen, yn anhegwch mawr, ac arwe:niai i ymgecru dibaid. Yr oedd