Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

hewyddion Cymreig-

News
Cite
Share

hewyddion Cymreig- Trywanwyd Goodman Nuttall yn ddifrifol, nos Sadwrn, yn Fflint, gan un o'r enw Francis Rogers. Mae'r dirwestwyr wrthi yn ddiwyd yn mhob rhan o Gymru yn gwrthwynebu adnewyddiad trwyddedau y tafarnwyr. Etholwyd Mr. R. 0. Roberts yn ddiwrthwyneb- iad ar Gynghor Trefol Arfon yn lie R. Ll. Jones, benodwyd yn fesurydd y Cynghor. Torodd tan allan ganol nos Sadwrn yn adeiladau Mr Wilson Griffith, groser, Glodcleeth Street, Llan- dudno, a gwnaed cryn niwed. Mae 500p wedi eu casgla yn barod gan Gyngrair Rhyddfrydol y De at ddwyn materion Cymreig gerbron yr etholaethau Seisnig. Ddydd Mercher, agorwyd nodachfa yn Nhrefriw gan y Mil. Higson, l'las Madog, elw yr hwn aiff at dynu dyled capel yr Annibynwyr i lawr. Cafwyd hyd i gorph Frederick Bowdeii, llyfr- werthydd, Abert&we, mewn rhwyd bysgota allan yn y bau, ddydd Gwener. Er cof am y diwecldar Arglwydd Penrhyn, gosodwyd ffenestr liwiedig hardd yn Eglwys St. Mair, Bangor, ddydd Mawrth. 71 Mewn cyfarfod arbenig o Gynghor Dinesig Ban- gor, nos Wener, penderfynwyd myned yn mlaen ar unwaith gyda'r Pier newydd, a dewiswyd Mr J. J. Webster, Llundain, yn beirianydd. Ddydd Mawrth, yn y Llys Sirol, traddodwyd Jesse Taylor, Ifton Heath, Croesoswallt, i sefyll ei brawf am dwyllo Cyfrinfa Odyddol Trevor o lOp tra'n gweithredu fel ysgrifenydd y gymdeithas. Yn llys ynadon Merthyr, ddydd Llun, traddodwyd Samuel Blissett i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf ar y cyhuddiad o lofruddio ei wraig yn Now- lais. Torodd rhyw leidr beiddgar i fasnachdy Mr Joseph Roberts, Stryd y Llyn, Caernarfon, nos Sabboth diweddaf, ond ni chafodd ond chwe' chein- iog a gwlawlen am ei drafferth. Mae y ddeiseb at y Trysorlys er cael b!wydd-da' i'r heddgeidwad lien gar, Mr Charles Ashton, Dinas b Mawddwy, wedi ei harwyddo gan brif ddynion y genedl. Bu corau tair Eglwys Gymraeg Llundain yn mwynhau eu hunain y dydd o'r blaen yn neuadd y Parch. G. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield, Surrey. Yn yr hwyr, caed gwasanaeth Cymreig, dan arwemiad y rheithor galluog. Mae'r Ddirprwyaeth Dirol Gymreig, a lywyddid gan Argl. Carrington, wedi cyflwyno ei hail adrodd- iad i'r Senedd. Cynwysa'r gyfrol yn agos i 1,000 o dudalenau, a cheir ynddi dystiolaethau y 23 eis- teddiad gynaliwyd yn Llundain ac mewn amrywiol drefi yn y Dywysogaeth. Mewn cyfarfod o bwyllgor gweithiol Cynghrair Rhyddfrydol y De, yn yr hwn yr oedd yn bresenol ddirprwyaeth oddiwrth Gyngrair Rhyddfrydol y Gogledd, penderfynwyd cynal cynadledd genedl- aethol yn Aberystwyth, o leiaf lis cyn ymgynull- iau y Seaedd y tymhor nesaf, i ystyried darpar- iadau Mesur y Dadgysylltiad. Mae emvnyddiaeth y cysegr yn cael cryn sylw yn Nghvmru yn bresenol Llywydda Esgob Bangor y 1 bwyllgor uadebol o'r esgobaethau er dwyn allan lyfr newydd at w&sanaeth yr Eglwys ac ar fyrder disgwylir llyfr emvnau newydd jyr Annibynwyr i tra mt.e'r Methodistiaid Calfinaidd wedi ethol pwyllgor i ddewis emynau, a disgwylir i'w llyfr hwythau fod allan yn mhen blwyddyn. Fis Mai 'diweddaf cynaliwyd ymchwiiiad gan Fwrdd Masnach yn y Wyddgrug, i gais Bwrdd Pysgodfeydd Lancashire am gael eangu eu rhan- barth fel ag i gynwys y mor ar ffiniau Rhyl. Yn ystod yr ymchwiiiad, gwrthdystiwyd yn erbyn yr eangiad gan bysgotwyr y Rhyl. Deallir yn av/r fod cais Bwrdd Lancashire wedi ei gadarnhau gan Fwrdd Masnach. Mewn llythyr yn y Times am ddydd Sadwrn, dywed Esgob Bangor nad oes sail o gwbl i honiadau Mr. D. Lloyd George, A.S., yn y Senedd parth Cyfrifiad Cymru, n.or bell ag y mae a fyno ef a'r cyhuddiad. Ni ddanfonais erioed gylc,l-ilytliyr i glerigwyr fy esgobaeth yn dal perthynas a'r Cyfnl- iad ac ni chyfeiriais erioed unrhyw ohebiaeth i'r Cofrestrydd Cyffredinol ar hyn nac unrhyw fater arall." Dyna ei eiriau. Mewn cyfarfod 0 Warcheidwad Conwy, ddydd Gwener, tan lywyddiaeth y Parch W. V enables Williams, hysbyswyd fod Mr Allan Picton, A.S., wedi ymweled a'r ty, ac wedi ysgrifenuyn llyfr yr yrnwelwyr ei fod yn ystyried "y cartref hwn i'r tlawd a'r methedig yn gynllun o'r hyn ddylai tlottai fod." Yr oedd yn y llyir amryw nodiadau canmoliaethus eraiil, yn cynwys un gan y Parch Dr Llugwy Owen.

-:0:-. Streic mewn Clofa yn…

[No title]

! Nodion o Fon ac Arfon.I…

ER COF.

Ap FFARMWR.

Ymgeäsydd Bwrdsisdrefj Maldwyn.

-0-Sedd wag yn Birkenhead.

: o : Marchnadoedd.

Llundain, Awst 28,

Caer.-Awst 25.

ANIFEILIAID

Salford, Awst 28,

-Birmingham, Awst 28.

Clawdd Offa a'r Cyffiniau.

0--Ysgol Ramadegol Rhuthin.

---0---1 Llool.

Advertising

Family Notices

PWLPUDAU CYMREIG, Medi 2.