Hide Articles List

4 articles on this Page

Cymru Fydd. I ---I

News
Cite
Share

Cymru Fydd. CYNADLEDD YJST LLANDRINDOD. ^fALiwYD cynad!edd yn Assembly Hall, Llan- rindod, ddydd Mawrth, yn mha ua yr oedd cyn- rychiolwyr o bob etholaeth yn Nghymru, yn ag amryw drefi Seisnig, yn eu plith Llun- ^11) Llynlleifiaid a Manceinion. Etholwyd Mr Alfred Thomas, A.S., i'r gadair ac yn rohlith ar y llwyfan yr oedd Mri R. A. Griffith, ^aernarfon (ysgrifenydd Gogledd Cymru) W. Wewelyn Williams (ysgrifenydd Deheudir Cymru); p. Owen James (ysgrifenydd Manceinion), J. *ri»istone, Manceinion Parch Brifathraw Ed- ards, Coleg Bedyddwyr, Caerdydd Mri Wyn- Phillipps, diweddar A.S. dros swydd Lanark jf-°«iJoha, Llwynpia David Morgan, Aberdar ■p^ac ^vans, Castellnedd Howell Gee, Dinbyoh arch J. Towyn Jones, Aberamman; Mr Edwin proves (cadeirydd Cynghor Sir Fynwy) Mr Ro- ert Jones (trengholydd Mynwy). Mr R. A. Griffith a ddywedai mai yr unig waith y rhaglen am y dydd ydoedd ffurflad y cyfan- ,0|idiad a chan wybod nas gallent fyned yn mlaen «eb ryw ddefnydd i'r ymdrafodaeth, yr oedd ychydig gyfeillion yn Nghaernarfon wedi cymeryd eu hnnain i ffurfio rhag-gynllun, pa un y pllai y gynadiedd ei fabwysiadu, ei vvella, neu ei ^rthod. Mr Frimstone, Manceinion, a ddywedai mai y yu'llun a fu gerbron y wlad ydoedd yr hwn a Urfiwyd gan gymdeithas Manceinion, a dyna'r n'g gynllun y gallai'r gynadiedd yn gymhwys ei ystyried, 1r Foulkes Jones, Llundain, hefyd a sylwodd y cynllun a ddanfonid gan gymdeithasau Man- ,eiliion a Lerpwl oedd wedi ei dderbyn ganddynt jjWy yn Llundain; a gofynai iddynt gymeryd fel sylfaen yr ymdrafodaeth am y dydd. n Mr Wynford Phillipps a ddywedai fod ganddynt ^erffaith hawl fel cynrychiolwyr i ffurfio cynllun yigrair Cyrnru Fydd^ ac awgrymai iddynt fyned ^laen i ffurfio rhag-gynllun hollol annibynol ar '"do Manceinion a Ohaernarfon, neu unrhyw un a fFurfiwyd yn flaenorol. a. kvdsyniai y Cadeirydd a'r awgrymiad, yr hyn, r ol cryn ddadleu, a bendes fynwyd. Hal Davicl Da vies, Merthyr, a apeliai am i'r rhai d oeddynt gynrychiolwyr gael cymeryd rhan yn |rr ymdrafodaeth, a'r hyn y cydsyniwyd ond y I'aiut bleidleisio i'w chyfyngu i'r cynrychiolwyr lig. Y Cynygicdd Mr R, A. Griffith, Caernarfon, "Fod '() gyftlairef, bon i'w llywodraathu gan un cyngor ^edlaethol," yr hyn a eiliwyd. Jur Foulkes Jones a gyfarwyddwyd gan Gym- ^has Llundain i wasgu ar y gynadiedd y pwys- jSTwydd o ffurfio un cyngrair i'r oil o Gymru yn -~ytrach na rhanu y wlad i Ogledd a Deheudir ymru. Yn ganlynol, penderfynwyd eu bod yn sefydlu 11 Cyitgrair i Gymru ac i'r Cenedlaetholwyr Cym- l'elg oil. Datganai y Cadeirydd ei obaith y byddai iddo Orphori brwdfrydedd Cenedlaetholwyr Cymreig y byd. Amcanion y Cynghrair, Mr Tom John a gynygiodd eu bod, er mwyn y gwaith, yn ystyried rhag-gynllun Caer- iori.-> a mabwysiadv/yd y cynygiad. Yna cynyg- Mr Rees, Birkenhead, mai amcanion y Cyng- fyddai I gadw cenedlaetholdeb gwahanfodol Cymru; a«ol ^yrwyddo buddianau gwleidyddol, cymdeith- la ,a? addysgol pobl Cymru; (c), I sicrhau deadfwr- ■8vl v Gymru yn unol a'i dymuniadau, ac a'i ham- .dau a'i hanghenion neillduol; (d), Ihyrwyddo j Sudiad yn ffafr cynllun cenedlaetliol o ymreolaeth do K mru (e)> we^a drwy ddeddfwriaeth sefyllfa cj^arthiadau gweithiol Cymru; (/), I hyrwyddo dy- i'r Senedd aelodau wedi ymrwymo i gefnogi o ofYddorion y Cynghrair (g), I argymhell egwydd- }j0 y Cynghrair yn etholiad a gweinyddiad cyng- ejj au sirol, rhanbarthol, plwyfol a bwrdeisiol, a r cyhoeddus eraill yn Nghymru (A), I gynor- P'r'rV,°'r 0 gofrestru a materion eraill yn dal amcanion y Cynghrair (i), I gadw yr ^ymraeg, a meithrin lien, celf, ac addysg yn stlymru. Wedi i'r cynygiad gael ei eilio, hef J ■?ou'kes Jones a gynygiodd fod yr amcanion tsei gynwys y pethau canlynol o gynllun Man- I gynorthwyo symudiadau at (a) ddad- (M yUtu a dadwaddoli yr Eglwys yn Nghymru ,wygiad tirol yn rnuddianau neillduol y ten- g,j f'aid a llafurwyr Cymru (c) llywodraeth y bobl l,^va,aeh y gwirodydd yu Nghymru {d) hy- It add3'sg 3m Nghymru; (e) gwelliant •ftetK a chwarelvvyr Cymreig cadwr- (jyi yr iaith Gymraeg, ac apwyntiad swyddogion 11 cy^^dus yn gallu siarad v cyfryw iaith (g) u 0 ymreolaeth cenealaethol i Gymru. LI. Williams a ddywedai fed yr holl im- iol on hyn yn gynwysedig yn y cynygiad gwreidd- t1i.): Parch Brifathraw Edwards a gynygiodd fod y kycKamCan canlyn0^ 0 gynllun Manceinion i'w Wdnegu at amcanion y C3^nghrair — thy J' "no pob Cymdeithas Cymru Fydd a Vr\v^0r-au cyffelyb sydd 3m awr yn, bodoli, er I amcanion cenedlaethol Cymreig; (2), canet'enau yn mhob tref a phentref drwy gyi^ u a Lloegr lie mae poblogaeth Gymreig; (3), I Mty ryd cwrs effeithiol i ddwyn hawliau Cymru i y blejrji -^wyr Seisnig ac aelodau Seneddol, i drefnu ae j aiais Gymraeg mewn manau Saesneg canolog .Symeryd, mewn.achosion lle'r ystyrir yn an- ehgf^^diol, a rhyfelgyrch gyhoeddus er amlygu a cwestiynau Cymreig mewn etholaethau Mr^U^ ^an Wynford Phillipps. cynliu Thomas, Caerlleon, a gymeradwyai y §ellid a 7n ei wedfl gyffrediDol; ond credai y cyfnewid rhai O'I pwyntiau, ac fel y Prif- Edwards awgrymai yntau fod pwyllgor yn §y»i\Vv ^'r pwrpas hwiiw, Credai y gallent 16R y v yn eu hamcanion hefyd, sefydlu, mor fuan er hVr ° ^dd, newyddiadur dyddiol cenedlaethol Ar oTy y °Vngbrair. M ymdrafodaeth faith, penderfynwyd mai y ^hod} °yntaf 0 gynllun Manceinion (a roddir • ^thol°e yn amcani°n y Cynghrair. l0tl nipy pwyllgor canlynol i roddi yr amcan- varfon 71 Priodol:—Mri R. A. Griffith, Caer- ?°Hes Ti ^^rtSjBrynhyfryd Abertawe; Foulkes Tom a^n > Parch J. A. Jenkins, Caerdydd ^fda A,0 llwynpia; Parch Brifathraw Ed- • k prKAIfred Thomas, at an r^s" J ones awgrymodd, fel ychwaneg- tetledlaef?a^on y Cynghrair, fFutfiad amgueddfa „ ^afol i. 0 Cymreig, cadwraeth cofgolofnau «i°i a,,nddi<^r^y,dd^ad myfyrio hanesiaeth Cymreig, op hawliau'r bobl i fforestydd, traeth- c &1ddo cyhoeddus. Y Cadeirydd a ddywedai fod y materion hyn yn j ngofal yr aelodau Seneddol. i Cynghor Cenedlaethol. Mr R. A. Griffith, Caernarfon, a gynyg'odd :— Fod cynghor cenedlaethol y Cynghrair i'w ffurfio o naw o gynrychiolwyr, tri o ba rai i'w penodi i bob cynghor rhanbarthol, yn nghyda'r llywydd, is-lywydd a'r trysorydd, y rhai fyddant yn aelodau ex-officio. Byddai i drefniad felly, meddai'r siaradydd, wneud i tfwrdd a chyfundrefnau dosbarthiadol, yr hyn oedd wedi bod yn ddioystr i wleidyddiaeth Gym- raig. Byddai i'r Cynghor. pan ffurfid ef, siarad gy iag un llais yn enw yr oil o Gymru. Mrs D. A. Thomas a ymofynai ai ni cha'i ethol- aeth Merthyr, gyda dau aelod, ddim mwy na thri chynrychiolydd. Y Cadeirydd a atebodd y cai rhanbarth ddwbl gynrychiolaeth ddwbl. Mr R. A. Griffith a eglurodd y cynwysai'r cyn- llun ddarpariaeth neillduol, trwy ba un y g&llai Cymry yn byw yn Lloegr gael eu cynrychioli ar y Cynghor. Awgrymid i Fanceinion a'r cylchoedd ¡ wneud un rhanbarth, Lerpwl a'r cylchoedd un arall, a Llundain a'r cy!choedd yn gyffelyb ao y byddai gan bob un o'r tri rhanbarth hyn hawl i ethol tri chynrychiolydd ar y Cynghor. Wedi amryw awgrymiadau gan Mr J. Frimston, Manceinion Prifathraw Edwards, a Mr Wynford Phillipps, cytunwyd a'r penderfyniad canlynol :— Fod y cynghor cenedlaethol i'w gyfansodcli o dri cynrychiolydd o bob cynghor rhanbarthol, yn nghyda thri chynrychiolydd o Lundain, Lerpwl, a Mancein- ion. Pasiwyd penderfyniadau eraill yn dal perthynas a gallu y Cynghor, a chytunwyd fod pob cwestiwn cysylltiol a gweinyddiad cyffredinol y Cynghor, ei gyfansoddiad, a'i gronfa arianol i'w penderfynu yn unig gan y Cynghor Cenedlaethol. Cynghorau Rhanbarthol a Changhenau. Mr M. Roberts-Jones a gynygiodd :— Fod yn mhob rhanbarth etholiadol yn Nghymru, a rhanbarthau '.eraill y cynghrair, gynghor rhanbarthol wedi ei gyfansoddi o gynrychiolwyr a etholir yn flyn- yddol gan y canghenau. Eiliwyd hyn gan Mr Beriah Gwynfe Evans. Mr David Morgan, yr hwn oedd yn absenol 0 gyfarfod y bore, yn nghwrs araith faith yn Nghym- raeg, a awgrymodd mai prif amcan y Cynghrair ddylai fod sicrhau Ymreolaeth i Gymru, oblegyd, yn ngeiriau yr Ysgrythyr, os ceisient yn gyntaf y y aeyrnas pobpeth arall a roddid iddynt yn ychwaneg. Mr Isaac Evans a gytunai ag ef. Teimlai y gellid yn hawdd iawn gyrbaedd amcanion eraill y Cynghrair os gallent gael cyfundrefn genediaethol o Ymreolaeth i Gymru. Y Cadeirydd a gredai y dylai yr awgrymiad gael ystyriaeth ddifrifol. Rhoddwyd y penderfyniad i'r cyfarfod, a char- iwyd ef. Penderfynwyd hefyd fod pob canghen i gael un cynrychiolydd am bob 50 o aelodau, neu ran o 50; ac fod y cynrychiolwyr i'w dewis yn flynyddol drwy y tugel, ar ddyddiad heb fod yn hwyrach na Tachwedd 3ydd. Fod Lloegr i'r pwrpas hwn i gael ei chyfuno yn dair rhanbarth, sef Lerpwl, Manceinion a Llundain, terfynau pob rhanbarth i'w penderfynu eto gan y pwyllgor apwyntiedig i'r amcan hwn. Mr Wynford Phillipps a sylwai nad oedd yn y rhag-gynllun ddarpariaeth o gwbl at uno a chys- sylltu unrhyw gymdeithas a'r Cynghrair. Darparai y rhag-gynllun y gellid sefydlu canghenau mewn unrhyw dief, cwrnwd, pentref neu ardal wledig. Byddai iddo felly gynyg fod unrhyw gymdeithas wleidyddol neu lafurawl sy'n bodoli yn awr, drwy gymeradwyaeth y cynghor cenedlaethol, yn cael eu derbyn i'r Cynghrair ar delerau ag y penderfyna y Cynghor arnynt. Eiliwyd gan Mr D. Davies. Mr Morgan, yr hwn a gynrychiolai 7,000 o fwn- wyr, a gefnogai'n galouog gynygiad Mr Phillipps. Wedi peth siarad, mabwysiadwyd y penderfyn- iad. Plaid Annibynol i Gyrnru. Cynrychiolydd Rhyl a gynygiodd Nad ydym ni, fel Cymry Fydd, yn cefnogi ymgeis- wyr am gynrychiolaeth Seneddol os na ymrwymant i ffurfio eu hunain yn Blaid Genedlaethol Gymreig. Wedi'r cyfan, dywedai mai dyma wreiddyn y mater. Heb blaid annibynol o Gymry yn y Ty, ni byddai i amcan y Cynghrair byth gael ei sylweddoli. Eiliwyd gan y Cynghorwr Moses Walters, yr hwn a ddywedai fod yn rhaid iddynt sefyll ar lwyfan anaibyniaeth cyn y gellid cyrhaedd yr am- canion mewn golwg. Methai un neu ddau gydweled a buddioldeb y penderfyniad, a chredent y dylent sefydlu y Cyng- hrair i ddechreu, ac wedi casglu merth, symud yn mlaen gydag ysbryd y penderfyniad. Dadganodd y Cadeirydd fod y pwynt yn bwysig, ond anmheuai ddoethineb dod ag ef yn mlaen ar hyn o bryd. Nis gallai neb gau ei lygaid ar y {faith, pa gredo bynag fabwysiedid gan y Cyng- hrair, y byddai raid i giedo yr ymgeiswyr Sen- eddol gydfyned ag ef, os disgwylient e"gynorthwy y Cynghrair ac am hyny, gofynai i'w gyfaill o Rhyl oni fyddai yn barod i dderbyn cynygion y Cyng- hrair fel darpariaeth yn arwain i'r hyn a ddymunai. Amlygodd cynrychiolydd Rhyl ei barodrwydd i dynu ei Mr D. Davies a ddywedai os tymd y cynygiad yn ol, y byddai iddo ef ei ail gyfiwyno. Am ddwy flynedd yr oeddynt fel cenedl wedi bod yn disgwyl am Ddadgysylltiad a phethau eraill, ac ni ddylent betruso os oeddynt yn meddwl am waith. Teimlai yn falch fod y pedwar boneddwr a elwid yn der- fysgwyr yn y blaid Gymraelg- (terfysg). Mr Wynford Phillipps, wrth godi pwynt o dref n, gymhellai na ddylid mewn cyfarfod felly ymdrafod cwestiynau o ymraniad yn y blaid Gymreig. Mr Davies ddywedai mai efe fyddai yr olaf i ddwyn unrhyw ymraniad i'r blaid Gymreig, ond eredai y dylent fod yn onest. Yr adeg bresenol vr oedd teimlad Cymru gyda'r ymranwyr. y Yn» terfynodd y gynadiedd. Cyfarfod yr Hwyr. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr, ar ba un v llywyddai Mr D. A. Thomas, A.S. Cymer- wyd rhan ynddo gan Mr E. Groves, Miss Jenkins, Liangadog Parch T. Towyn Jones Mr A.Griffith, Porthdinorwig, Mr W. Llewelyn Williams, a Mr R. A Griffith, Caernarfon.

[No title]

Gwreiohion.

Advertising