Hide Articles List

5 articles on this Page

Cohsbiaethau.

: 0 : O'r Bala.

0 Gwyddoniaeth.

News
Cite
Share

0 Gwyddoniaeth. MELLT A THARANAU. MAE pawb yn yr oes hon yn gwybod mai ym- ddangosiad trydanol ydyw ystorm o fellt. Yn ol banes, Thales o Miletus, oedd y cyntaf i ganfod ymddygiad rhyfedd darn o ambr wedi ei ruglo a. gwlanen neu sidan. Dywed Thales fel hyn wrth ddesgrifio y darganfyddiad-" Wedi rhuglo yr ambr daethai yn feddianol ar fywyd, ae yn alluog i atdynu pethau bychain fel tameidiau o wellt." Tua 600 C.C. y digwyddodd hyn. Tua 300 C.C. can- fyddodd Theophrastus yr un ymddangosiad drwy 6 y ruglo tourmaline. Y rhai yna oedd y sylwadau cyntaf y gwyddis am danynt a wnaecl "ar drydan, canys trydan oedd tan wraidd yr ymddangosiad, trydan oedd yn achosi yr atdyniad. Ysgrifenodd Pliny hefyd ychydig ar y torpedo, sef y pYSgodYll trydanol. Dyna yr oil a wyddai yr hynafiaid am drydan. Yn 1600 O.C. a'r blynyddau canlynol gwnaeth y Dr William Gilbert, yr hwu oedd feddyg i'r Frenhines Elizabeth, arbrofion yn yr un eyfeiriad, gan ddangos fod defnyddiau eraill heb- law ambr a tourmaline yn arddangos cyffelyb effeithiau. Nid cyn y flwyddyn 1752 y gwelwyd mai ffrwd o drydan oedd y fellten. Yn y flwydd- yn hono y gwnaeth y dyn galluog hwnw Benjamin Franklin, yn Philadelphia, yr arbrawf syml ond peryglus o hedeg barcud gwynt i gwmwl mewn ystorm o fellt. Fe brofodd Franklin ar unwaith y cysylltiad rhwng yr ystorm a thrydan. Drwy linyn y barcud fe ddygodd Franklin y fellten o fewn cyrhaedd, yr hon ddeuai allan o ben isaf y llinyn, gan wreichioni yn danllyd a chyda thwrW mawr. Franklin yn America, a Dalibard yn Ffrainc tm¡,'r un amser, oeddynt y cyntaf i aW* grymu y lightning conductor er tawelu neu gym- edroli y mellt. Ond fe fu dynion yn araf iawn yn cymeryd mantais o'r ddyfais, am y credent fod eu gosod i fynu yn waith drwg annuwiol. Ystyrid hyny yn hereticaidd gan y Pabyddion. Gan y Protestaniaid yn Germany y defnyddiwyd hwy gyntaf. Wedi amser Franklin, fe dreiglodd 140 o flyn- yddau heb y goleuni gvyanaf ar natur cynyrchydd yr ystorm fellt, er i lu 0 arbrofion a sylwadau o bob math gael eu gwreud yn ystod yr amser hwnw. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf mae y dirgelwch mewn rhan wedi ei ddarganfod gan Elster a Geitel yn Germani, a chan y Proffeswr Lodge yn Lerpwl. # Cyfeiriwyd eisoes yn y nodiadau hyn fod yr yni a fodola yn y fellten yn dod o'r haul. Yr oedd pawb yn sicr o hyn er's blynyddau, ond ni wyddal neb sut y cymerai y trawsffurfiad le. Mae yr es- boniad y fath fel na fuasai neb yn breuddwydio am dano, ac yn ddamweiniol y gwnaed y dargan- fyddiad. Trosglwyddir yr oil o'r yni heulog gyrhaedda ein daear ni yn y ffurf o donau trwy yr ether- tonau o bob maintioli. Pan syrthia rhai o'r tonau hyn ar y Ilygad, hwy greant y syniad [sensation) o oleu. Pan syrthiaat ar y croen, rhoddant fodol- aeth i'r hyn a elwir yn wres. Ond gwyddom yn dda erbyn hyn nad yw ein synwyrau yn dangos ond rhan fecixan, fechan, o'r yni mawr yr ydym yn dderbyn o'r haul. Fe dafla yr haul donau allan ag sydd yn rhy fyrion i gyffroi gïau y llygad, ac eraill yn rhy hirion i aflonyddu y giau sydd ar wasgar ar y croen. Methwn trwy y synwyrau ganfod y tonau manaf ar un llaw, a'r tonau hwyaf ar y Haw arall. Mae range, of action y synwyrau dynol yn gydmarol gaeth. Edrycher ar yr enfys. Mae ei goleuni amryliw i gyd yn dod o'r haul. Fe welir y coch ar un ymyl a r violet ar yr ymyl arall. Ond ar y cyfan ym- ddengys yr oil fel yn gynwysedig o sa.ith. Mae goleuni gwyn yr haul yu syrthio ar y gronynau man o ddwfr yn yr awyr, ac yno yn cael ei ddad- ansoddi, y gwahanol liwiau o ba rai y gwneir i fynu y goleuni gwyn yn cael eu gwahann, ac yn y Isbacl wasgarol hono yn syrthio ar y llygad. Mae pob un o'r lliwiau hyn yn cyfateb i douaix etherawl o hyd neillduol, y tonau hwyaf yn perthyn i'r coch a'r tonau byraf i'r violet. Yr hyn ydym am osod ar gof yw hyn, sef fod y llygad dynol yn analluog i weled yr oil o'r goleuni a syrthia arno o'r enfys yna. Pe gwelid y cwbl fe fyddai yna liwiau aneirif y tu yma i'r coch, a graddiad helaeth iawn y tu draw i'r violet. O'r goleuni a gawn o'r haul ychydig iawn ohono y gallwn ei weled. Gellir profi hyn drwy arbrawf, ac fe ellir erbyn hyn, drwy gynor- thwy egwyddorion gwyddonol, gynyrchu a mesur tonau etherawl o bob maint, o rai miloedd o fill- diroedd o hyd i lawr i rai nid hwy na y filfed ran o fodfedd. Y tonau bychain tu draw i'r violet, y rhai gyda'u gilydd a elwir yn ultraviolet light, sydd yn effeith- iol i greu yr ystorom fellt, a hwn yw darganfydd- iad Elster, Geitel a Lodge. Yr hyn a ddigwyJd sydd fel y canlyn :—Fel y gwyddis, mae y trydan mewn un ysfcyr i'w gael yn mhob ma.n ac yn mhob p ith, ac mae v ddaear yn llawn ohono. Pan mae y tywydd yn sych a'r awyr yn.glir mae goleuni yr haul pan yn tno ar diroedd uchel, ac yn arbenig ar greigleoedd uchel, yn rhyddhau trydan y ddaear yn y manau hyny etC yn ei odwng i !ifo i fynu i'r awyr uwctxben i'w bentyru yno. Pan fydd y pentyriad wedi cyrhaedd terfyn priodol (yr hwn sydd wedi ei fesur ac yn wybydd- us) fe ddychwela y trydan i'r ddaear yn ami mewn modd rhwygol a rlxuthro). Yrhuthriad tr/danol hwn yw y fellten, a thwrf y rhuthriad yw y daran. Fe ddigwydda y rhuthriad fel rheol yn mhresenoldeb cymylau ac yn rhanol drwy eu cymhorth. Yn ami fe ddyehwel y trydan i'r ddaear mewn modd tawel ac araf, fel yn yr auroia a'r summer lights, ac mewn cawodydd gwlaw, ac hefyd yn yr ymddangosiadau hyny ar frigau coed, yr hwn a elwir yn dan St. Elmo pan ddigwydda ar frigyn hwylbren Hong. Er nad yw y process 0 greu yr ystorm o gwbl yn ddealladwy eto, ond sicr yw erbyn hyn mae prif achosydd yr ystormydd mellt nerthol yw y tonau man a gawn o'r haul.

Y TONAU MAN ETHERAWL AC IECIIYD.

0-Drwy y Llythyrdy.