Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Cohsbiaethau.

: 0 : O'r Bala.

News
Cite
Share

0 O'r Bala. [Gan G.] RIIAIB i mi roddi y bai ar yr holidays na fuaswn wedi anfon tipyn i'r Cymro yr wythnosau diwedd- af. Mae fod dyn neu ddynes ar ei holidays yn ddigon o reswm dros iddo neu iddi adael i bob peth gymeryd ei siawns—h.y., yn yr oes oleuedig hon, 'doedd hi ddim felly erstalwm. Rhyfedd fel y mae meddyliau mawr yn cym- deithasu a'u gilydd yn ddiarwybod i'w perchenog- ion. Mae yma gymdeithas wsdi ei sefydlu yn Nghapel Tegid—'Cymdeithas lenyddol ddirwestol' -ac yn ei chyfarfodydd mae cwestiynau i gael eu gofyn a'u hateb ar ddull a deiliaid bedydd, am y teimlid nad yw ieuenctyd yr oes yn talu nemawr os dim sylw i bynciau fel hyn, y rhai oeddynt yr oes o'r blaen yn destynau dadleuon liuosog a dy- ddorol. Yn rhyfedd iawn, dyna y Proffeswr Hugh Williams yn codi yr un pwnc i sylw yn Sasiwn Pwilheli ddydd lau diweddaf, a hyny mewn dull a barodd gryn syndod a chyffro. Wyddai aelodau pwyllgor y gymdeithas uchod ddim byd fod y pwnc yn cael cymaint o le yn meddwl ein Proffeswr dysgedig, ac ni wyddai yntau ddim ychwaith fod ei gymydogion wedi cydio yn y mater beth yw peth fel hyn ond cymdeitha iad meddyliau ?—ac, wrth gwrs, meddyliau mawr. Rhwng y Proffeswr a'r Gymdeithas, fe fydd bedydd plant a thaenelliad mewn perygl, ac onid doeth fyddai gwneud trochle yn y festri newydd sydd ar ei chanol ? Cynaliodd pwyllgor y National School yma eu cyngherdd blynyddol at y sefydliad hwnw yn y Victoria Hall, nos Wener ddiweddaf. Cymerid rhan gan Col. E. Evans-Lloyd a'i barti o Foely- garnedd a Bryn Tegid, y rhai a chwareuent offer- ynau llinynog; Misses Halliday, o'r Rhiwlas, y rhai hefyd a ffidlent; Mrs Freme Clement, Mrs Winnie Wood, Miss Griffith, y Parch J. R. Ro- berts, Mr T. J. Roberts, a'r cantor gwych Mr John Thomas, Talsarnau. Cyfeilid gan Miss Lottie Hughes, o'r R.C.M. Gwnaeth pawb ei ran yn dda. Wyddoch chi beth ? fydd dim eisiau i rieni ymdrafferthu i ddysgu eu plant i wneud yr un swydd toe—mae yr ysgolion yn myned i ddysgu pobpeth iddynt. Pe telid ymweliad ag Ysgol y Bwrdd yn y dref hon ar ryw brydnawngwaith o 2 i 4 o'r gloch, fe geid gweled nifer o enethod, rhai yn glanhau cyllyll, eraill yn sgwrio ac yn golchi s speni, eraill yn cyneu tan, eraiil yn pobi, eraiil yn gwneud dumplings a gwahanol fathau o bwdins, &c., tan arolygiaeth a chyfarwyddyd cogyddes broffeayddol. Mae golwg ddoniol ryfeddol ar y little maidens yn eu harffedogau gwynion, wedi torchi eu liewys, ac wedi codi eu gwalltiau, ac wrthi cya brysured a gwenyn mewn eweh. Diau fod hyn yn gam pwysig yn mlaen, ac y bydd gwyr yr oes sydd yn codi yn ddiolchgar iawn i Dr Hughes, a Mr J. R. Jones, a'r Bwrdd Ysgol, am ddarparu iddynt wragedd allant nid yn unig wneud eu crysau, gwau a thrwsio eu hosanau, ond hefyd a allant wneud tamed o fwyd a bias arno heb rhyw lawer o gost. Oddeutu haner milldir yn is i lawr na Phont- mwnwgl-y-llyn, mae yr afon Tryweryn yn ymuno a'r Ddyfrdwy ac un diwrnod yr wythnos ddi- weddaf yr oeddwn yn sefyll ar ucheldir yn agos i'r Wenallt, ac yn cael golwg dymunol ar y dyffryn islaw, a Llyn Tegid yn ei ogoniant o dan belydrau cynes yr haul, pryd yn ddisymwth y gwelwn ddwfr llwydgoch y Tryweryn yn rhuthro i lawr, ac nid yn unig yn tagu y Ddyfrdwy, ond yn ei gwthio yn ei hoi, gan ei dilyn i'r Ityu Parhaodd yr olygfa am rai oriau, nes oedd rhan isaf y llyn yn llwyd budr tra y rhan arall yn loew lan. Ond toe fe gododd yr hen lyn, ac yn bur hamddenol a diseremoni fe ddangosodd i'r Tryweryn ei ffordd ei hun. Clyw- ais bregethwr neillduol yn gwneud defnydd o'r olygfa hon fwy nag unwaith, end erioed ni theim- iais force y gydmariaeth nes gweled yr olygfa fy hun. Mae rhuthr y drwg yn fynych yn gorchfygu y da am ychydig, ond gan fod nerth wrth gefn, y da a orfydd yn y diwedd. Y storm 0 wlaw taranau yn nghyfeiriad y ddwy Arenig a mynyddoedd y Brotos a'r Migneint oedd wedi achosi y llif yn y Tryweryn, tra i;ad oedd wedi effeithio ar yr afonydd sy'n rhedeg i'r llyn ac yn wir, mae hi yn wlaw trwm yma bron bob yn eildydd, nes y mae y ffermwyr bron wedi rhoddi i fynu y gobaith o gael cynyrchion y meusydd i mewn o gwbl eleni. Mae y Llythyrdy newydd yma wedi ei agor yn awr, ac y mae o'n ddigon a themtio dyn i ysgrifenu llythyrau yn ddiachos, yn uaig er mwyn cael cu postio nhw mewn lie mor grand. Y dydd o'r blaen bum yn mynwent Cefnddwy- sarn, yn nghladdedigaeth perthynas. Mae hi wedi llenwi yn fawr yn ystod y deunaw mlynedd diweddaf. Tynwyd fy sylw gan ddwy gofgolofn nad oeddwn wedi eu gweled o'r blaen, sef yr un a roddodd plant Penllyn ar feddrod eu hen athraw anvvyl, y Parch Evan Peters—cofgolofn gadarn, a fydd am ugeiniau o flynyddoedd yn help, pe bai angen help, i drosglwyddo coffadwriaeth y gwr da hwnw i'r oesoedd dyfodol. Y Hall ydoedd cofgol- ofn Kate Ellis, Cynlas ac o bob un a welais erioed, dyma y brydferthaf. Mae hi yn wen glaer, yn syml a dilol, yn union fel yr oedd cymeriad tlws y foneddiges ieuanc riuweddol ag y mae hi er coffadwriaeth am dani. Y r oeddwn yn teimlo ei fod yn resyn na fuasai y fynwent yn deilyngach o gofgolofnau mor lieirdd. Diau fod llawer i'w ddweyd dros fynwentydd bychain fel hya yn ymyl y capel lie bo un wedi cael ei ddwyn i fynu ynddo, ond gyrnaint ya fwy cydweddol a chofgolofn ardderchog Miss Ellis, onide ? a fuasai cemetery hardd ac eang, yr hon a arolygid yn ofalns, ac a gedwid mewn trefn dda ? Mae rnynweut Llanycil bron wedi ei llenwi, nid yw mynwent yr eglwys newydd ond bechan, ac y mae y man fynwentydd sydd wrth y capelau o gwmpas yma gan mwyaf yn diroedd cleiog a gwlyb, nes yw yn ddolur i deimlad y byw yn fyn- ych i weled rhoddi y marw ynddynt; gan hyny, bobl y Bala a'r amgylchoedd, ai nid doethineb fyddai dechreu ymysgwyd o ddifrif tuag at gael claddfa gyhoeddus deilwng o'r dref a'r ardal. Gobeithio y try ein cymanfa ganu allan yn well nag yr wyf fi yn ofni y gwna. Ardaloedd amaeth- yddol yn unig yw yr ardaloedd hyn, ac y mae yr haf eloni wedi rhyw ddyrysu trwyddo; mae dros haner y gwair yn braenu hyd y meusydd, a'r yd yn annhebyg iawn i addfedu cyn y gauaf, nes yw trigolion yr ardaloedd fel wedi tori eu calonau, heb ynddynt ysbryd i ddim. Os bydd hi yn braf hyd y gymanfa, bydd raid aros gartref i geisio cae! peth o'r gwair i mewn; os mai gwlaw fydd hi bydd pawb yn rhy ddigalon i ganu. Gobeithio y goreu er hyny. Ai ni ddylid cael rehearsals cyffredinol gyda'r anthem a'r Haleliwia Chorus?" Mae cryn amser bellach er pan basiodd eglwys y Methodistiald benderfyniad, trwy fwyafrif o un, o blaid yr egwyddor o gael organ i'r capel, a bod fund i gael ei hagor rhag blown tuag at hyny ond nid oes dim wedi ei wneud! Beth yw'r achos, tybed? Wel, a siarad yn blaen, dyma ydyw, cyn y rhed rhyw ffrwd fel hyn yn fywiog a phell rhaid iddi darddu o ffynonell uchel mynyddoedd yr aur a'r arian, ac nid fel y gwnaeth hon 0 ddyffryndir isel y boced wag.

0 Gwyddoniaeth.

Y TONAU MAN ETHERAWL AC IECIIYD.

0-Drwy y Llythyrdy.