Hide Articles List

5 articles on this Page

Cohsbiaethau.

News
Cite
Share

Cohsbiaethau. At Olygydd y Cymro. CYFENWAU ETO. SYR,—Mae yn hynod y ddawn sydd gan bobl i gamddeall a cham adrodd. Dyma Mr Cynwyd (enw tlws) yn y Cymro am Awst 23 yn dweyd fy mod yn cyfaddef fy mod, mewn ysbaid o ddeugain mlynedd, wedi methu cael neb i fy nghredu a dilyn fy esiampl. Os edrych efe ar fy Hythyr, fe wel, os oes ganddolygaid i weled, na chyfaddefais i ddim o'r fath beth. Y cwbl ddywedais i 03dd fod mwy 11a deugain mlynedd wedi myned heibio er pan gyehwyaxais i y aymudiad, ac na Iwyddais i gael gan neb ddilyn fy esiampl. Nid wyf wedi bod mor tfol a gwastraffu fy amser am ddeugain mlynedd i geisio perswadio pobl na xynont gael eu perswadio. Pan welais ca wnai neb vr hyn a wneuthum fy hun, gadewais lonydd i'r pwnc hyd yr adeg bres- enol. Ac ni fuaswn yn yrnyryd a'r achos yn awr onibai fod fy enw, megis o angenrheidrwydd, yn gysylltiedig a'r symudiad, a fy mod yn awyddus, hyd y mae ynof, i hyrwyddo y gwaith yn mlaen. Nid wyf wedi cyfarfod a neb yn annghredu yr hyn a gymhellwn. Cyfaddefa pawb fod eisiau mwy o gyfenwau, ac nid ydynt yn gwybJd am ddim ar y ffordd i rwystro i neb gymeryd cyfenwau newyddion. Y gwneud sydd ar ol, ac nid y credu. Os ydyw eich gohebydd wedi penderfynu cym- eryd yr enw tlws Cynwyd yn gyfenw iddo ei hun a'i deulu, os oes ganddo deulu, nid oes dim na neb all ei rwystro. Gadawed i bawb wybod ei fod o hyn allan am gael ei adnabod wrth ei gyfenw newydd, a gwnaiff pob dyn a dynes gall ac an- rhydeddus ei alw yn Mr Cynwyd a'i wraig yn Mrs Cynwyd. Mae Cymru yn dryfrith o enwau tlysion y gellid eu cymervd yn gyfenwan. Heb fyned yn bell o Gynwyd, gellir cael lluaws o enwau a wnaent gyf- enwau prydferth tros ben. Dyna Collen, Ceiriog, Bran, Penllyn, Bryn, Berwyn, Armon, Bala, &c. Yr oeddwn wedi cychwyn ysgrifenu Idris hefyd, ond y mae hwnw wedi cael ei fabwysiadu yn gyf- enw gan un yn barod. Nid oes nemor ardal yn N gbyniru nad oes ynddynt enwau a wnaent gyf- enwau dymunol a tharawiadol, ac enwau hefyd a fuont yn enwau personol i'n hynafiaid ar ryw adeg oesoedd yn ol. Wnai deddf saneddol les yn y byd. Nid ellid byth gael deddf i orfodi neb i newid ei gyfenw, a byddai deddf goddefiad yn ynfydrwydd, lie Dad oes deddf arall yn gwahardd. Pe buasai deddf yn gwahardd i neb newid ei gyfenw, buasai rhywfaint o synwyr mewn son am gael deddf arall i'vv dileu. Ond nid oes yr un ddeddf ar y ffordd na dim arall, ond diffyg ewyllys a phenderfyniad. Yr hyn a wnaeth un, gall y miloedd ei wnead, os dewisant. Os ydych am gyfenw newydd, cymer- wcii ef, a dyna ben ar y gwaith. R. J. Derfkl. CYMUNRODD I'R YSGOLION SABBOTHOL. MR GOL.Caniatewch i mi ofod bach yn eich newyddiadur i ddweyd gair ar y penawd uchod. Yn un o gyfnodolion y Methodistiaid Calfinaidd rhyw ddeng mlynedd yn ol, ymddangosodd yr hyn a ganlyn:—Fod y diweddar Mr David Jones, Ler- pwl, wedi gadael yn ei ewyllys ddiweddaf y swm o fii o bun&u at wasanieth yr Vscol Sabbothol mewn ymddiriedaeth i Mr John Price, BJongor; Mr 1 9 Eleazer Roberts, Lerpwl a'r Parch Hugh Prit- chard, Llanerchymedd, fel ymddiriedolwyr, i'w defnyddio yn ol cyfarwyddyd Üymdeithasfa Chwar- terol y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd Cymru, yn y fath fodd ag y byddont oil (cyfalaf a llogau) wedi eu trealio o fewn y deugain mlynedd nesaf, i'r dyben o brynu llyfrau am haner pris at wasanaeth Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd Cymru, ac i gefnogi gwyb- odaeth Ysgrytbyrol, neu i ryw ddybenion eraill cyffelyb mewn cysylltiad a r Ysgol Sabbothol a farner yn oreu. Dymunodd Mr Price, ar ran ei gydymddiriedolwyr, i'r Gymdeithasfa benodi rhyw nifer o frodyr i'w cynorthwyo i gyflawni y gwaith yn ffyddlawn a doeth. Yr hyn sydd yn peri i mi ysgrifenu am gymunrodd Mr Jones ydyw darllen Lanes y ddirprwyaeth sydd yn eistedd i chwilio i mewn i Jewyllysiau a chymunroddion yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yn ddrwg genyf wrth ddarllen ymchwiliadau y Dirprwywyr ddeall fod cymaint o'r cymunroddion wedi rnyned ar goll, ac nad oedd y lleill yn cael eu cyfranu yn ol y cyfarwyddiadau. Yr wyf yn cofio i athraw o'r Ysgol Sul, rhyw bum' mlynedd yn ol, anfon at Mr Price, Bangor, i holi yn nghylch cymunrodd Mr Jones, Lerpwl, ond ni bu Mr Price mor dda ag ateb yr un o'r llythyrau. Yr oeddynt yn synu at Mr Price, Rhiwlas, pan oedd yn cael ei holi o flaen y Dirprwywyr yn y Bala am wrthod ateb y cwestiynau a roddid iddo. Onid yw Mr Price, Bangor, a Mr Price, Bala, yn debyg iawn i'w gilydd, ac ofni yr ydym ein bod fel Methodistiaid yn myned yn rhy debyg i'r Eglwys wyr pan y bydd arian at stake. Yr ydym yn credu fod cyfle manteisiol iawn yn y misoedd hyn i wneud rhyw ddaioni a rhan o'r arian' y mae Mr Jones wedi eu gadael. Beth pe byddai i'r pumtheg boneddwr sydd yn ymddiriedolwyr y gymunrodd agor eu calonau a chyfranu rhyw gymaint o'r arian er mwyn i aelodau yr Ysgol Sul gael y llyfrau am haner y pris y mae y Gymanfa Gyffredinol yn eu cymheil i sylw yn y dyddiau hyn. Y mae tymhor y cyfarfodydd darllen wrth y drws, a byddai cael llyfrau ar gyfer y cyfarfodydd hyny yn help mawr i'r aelodau sydd yn mynychu y cyfryw gyfarfod- ydd. Pa faint o'r arian sydd wedi eu cyfranu i'r sir y mae Mr J. H. Lewis, A.S., mor hoff ohori, Hwyrach y gwna Mr Lewis, gan ei fod yn un o'r ymddiriedolwyr, ymostwng i rodcli tipyn o eglur- had ar y modd y mae y cymunrodd yn cael ei gyf- ranu. Hwyrach y rhydd ef trwy gyfrwng y Cymro ryw hyff'orddiant i wahanol Ysgolion Sabbothol gyda golwg a'r mater dan.sylw. AELOD O'R YSGOL SUL. CYMDEITHAS LENYDDOL LIVERPOOL A'R AMGYLCHOEDD." SYR,—Teimlaf yn ddiolchga,r i'r Parch Griffith Ellis am ei lythyr dyddorol ar y mater uchod yn y Cymro diweddaf. Y mae'r syniad o uno yr hot! gymdeithasau llen- yddol, yn eu hamcanion a'u gwaith, yn un tra rhagorol, ac i racldau helaeth, mi dybiaf, yn ymar- ferol. Nis gwn fawr am drefniadau yr enwadau eraill eithr y mae'n hysbys fod i'r Methodistiaid Calfinaidd yn y cylch eu Hundeb Ysgolion, yr hwn sydd yn trefnu un maes llafur bob blwyddyn gogyfer a'r holl ysgolion; ac effaith hyn ydyw rhoddi unoliaeth a thrwyadledd i efrydiaeth Ys- grythyrol y deiliaid. Tybed nad ellid sicrhau rhywbeth eyffelyb yn nglyn a'n cymdeithasau llen- yddal. Rhaid cydnabod fod y cymdeithasau, o dan y drefn bresenol, yn gwneud gwalh rhagorol, mewn puro c'nwaeoh a meithrin talentau ein pobl ieuainc; ond fel cyfryngau addysg, ofnaf eu bod yn llawer rhy wasgarog, ac yn gwario amser i drafod llawer o bynciau difudd ac anmherthynasol in hoes a'n hamgylchiadau. Rhy debyg i lenllian Pedr ydyw ami i raglen, wedi crynhoi ynddi ei hun, yr holl bethau sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear." Credaf, pe rhoddid y gwaith o ddethol testynau, yn ol awgrym Mr Ellis, i Bwyllgor Cyffredinol, cynwysedig o bigion llenyddol y gwahanol gym- deithasau, y ceid materion mwy ymaiferol a chyn- yrchion mwy uchelryw. Awgrym arall gwerth ei ystyried ydyw hwnw o berthynas i'r anerchiadau agoriadol, a darlithiau gan wyr cyhoeddus. Trwy gael yr anerchiad mewn lie canolog i'r holl gymdeithasau disgynai'r draul yn ysgafn ar bob un a byddai'r ddarlith yn debyeach o gyrhaedd amcan mwy cyffredinol na phan ei traddodir i gynulliad o 40 neu 50 perthynol i un capel. Mewn pvyyllgor o Cymdeithas Lengarol Park- field, a gynaliwyd nos Iau, cyfeiriwyd at awgrym- iadau Mr Ellis; eithr gan nad oedd ond nifer bychan yn bresenol, ni chaed barn swyddogol ar y pwnc. Gwn, modd bynag, fod ysbryd undeb yn cynyddu rhwng y gwahanol gymdeithasau Cymreig yn y dref, ac y byddai Jluaws o lengarwyr aiddgo,r Birkenhead yn bresenol pe cynelid cynadledd yn y Common Hall, neu rywie ar&ll, i drafod y mater. Gan obeithio y bydd i rai o gyfeillion Liverpool ddweyd eu barn yn y Cymro nesaf,—'Yr eiddoch, Birkenhead. CILGWRYN. SYR,—Llawenydd i mi oedd darllen llythyr y Parch Griffith Ellis, yn eich rhifyn diweddaf, yn cynwys awgrymiadau i ffurfio undeb o Gymdeithas- au Llenyddol ein dinas. Mae'r awgrymiad yn sicr yn teilyngu sylw, ac y mae enw y gwr parchedig sydd wrtho ar unwaith yn ddigon o reswm dros iddo gael ystyriaeth. Nid oes odid i ddyn cyhoedd- us ag y mae llwyddiant a diwylliant ieuenctyd y ddinas yn nes at ei galon na Mr Ellis ac y mae ei broliad maith yn ein plith, a'i sylwedaetli graff ar ein hanghenion, yn rhoddi grym yn ei eiriau a hyderwn na orphwysir nes gweled yr awgrym wedi ei gario i weithrediad. Mewn undeb mae nerth" gyda phob peth, a gwelir yn fuan fod hyn yn elfen nerth yn ein cym- deithasau llenyddol. Fel hen aelod yn y cyfryw, ac wedi cael ychydig o brofiad gyda chario eu gwaith yn mlaen, credaf y teimla llawer fel fy hunan mai lied anhawdd ydyw gwneud rhaglen a chynal cyfarfodydd a gadwant ddyddordeb yr ael- odau i fynu trwy y tymhor. Gwir y ceid ami i gyfarfod rhagorol ond rhaid cydnabod fod eraiil yn syrthio yn fyr. Ni fynem, er dim, golli yr elfen leoi-teimlir,dyddordeb mewn rhai cymdeithasau aTi ei bod yn dal cysylltiad a. chapel nei!lduol, ond buddiol yn ein barn fyddai gwneud y cyfryw yn fath o ganghenau i dderbyn eu nerth oddiwrth undeb iel yr awgrymir. Am gwestiwn cyntaf Mr Ellis, set A fyddai ffurfiad yr undeb yn fanteisiol ? credwn nad oes neb a wad na fyddai felly. Bydd y cyfryw uudeb yn ofFeryn i ddwyn aelodau meddyl- gar y gwahanol gymdeitihasau at eu gilydd, i feithrin eu tueddiadau ymehwilgar, ac hefyd yn gyfleusdra rhagorol iddynt amlygu eu galluoedd. Byddai yr undeb yn liuosog o ran rhifedi yr aelodau pe ymunai pob cymdeithas hyderwn y cymer pob enwad ran ynddo-gellid feliy gael rhai 0 brif ddynion ein gwlad i roddi anerchiadau nas gellid lai na theimlo yn well o'u gwrando—ac an- erchiadau hefyd ag y byddai ymdriniaeth pellach aruynt yn y canghcnau lleol yn sicr o fod yn ddy- ddorol ac adeiladol, ac a roddai fywyd newydd i'r gymdeithas ar hyd y tymhor. Diolchwn i Mr Ellis am ei awgrym amserol, a hyderwn y ceir gweled yr undeb wedi ei sefydlu yn fuan. Boed i swyddogion y gwahanol gymdeithas- au llenyddol gyfarfod eu gilydd, mewn man canolog, er tynu cynllun a ffurfio rhaglen at dymhor y gauaf dyfodol ac hwyrach nad gormod fyddai gofyn i'r Parch G. Ellis, fel tad y symudiad, i gymeryd hyn mewn Haw, a galw cyfarfod yn nghyd. Gwyddom fod teimlad cyffredinol yn ffafr y mud- iad, a diau genym y bydd yn llwyddi:tnt.- Yr eiddoch, CYMRO.

: 0 : O'r Bala.

0 Gwyddoniaeth.

Y TONAU MAN ETHERAWL AC IECIIYD.

0-Drwy y Llythyrdy.